Am y colegau

Sefydliadau nid-er-elw sy'n gwasnaethu eu cymunedau lleol yw colegau addysg bellach Cymru. Maent yn gyrff corfforedig, heb fod yn eiddo'r Llywodraeth, er eu bod yn derbyn mwy na hanner eu cyllid gan y Llywodraeth. Gan hynny, maent yn rhan o wasanaeth cyhoeddus Cymru.

Gellir disgrifio'r mwyafrif o golegau addysg bellach Cymru yn golegau rhan-drydyddol. Hynny yw, lle mae un neu ragor o gampysau yn darparu addysg a hyfforddiant galwedigaethol yn ychwanegol at gyflwyno addysg cyffredinol ar gyfer carfan 6ed dosbarth yr ardal leol. Ond yn y teulu o golegau, ceir cryn dipyn o wahaniaeth hefyd. Mae un coleg yn goleg chweched dosbarth Catholig; mae un yn sefydliad AB yn y gymuned sy'n darparu rhaglenni dysgu mewn lleoliadau cymunedol yn hytrach nag mewn campysau coleg. Yn ogystal, mae tri wedi uno â phrifysgolion: un gyda Phrifysgol De Cymru (USW) a dau gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).

Wedi nifer o flynyddoedd o gyfuno tirlun addysg ôl-16 a hyfforddiant, bu gostyngiad sylweddol yn nifer y colegau, ond tyfu y gwnaethant o ran maint a chryfder.

Er bod pob coleg wedi gweld rhywfaint o newid strwythurol, bu i rai wedi llawer mwy o newid nag eraill.

Ond nid arweiniodd y cyfnod o newid at unffurfiaeth. Mae eu amrywioldeb yn parhau.

Nid oes unrhyw ddau goleg yn fel ei gilydd, ac nid yw trosiant na chyllid craidd unrhyw goleg yn mesur yn unol â'r cyfartaledd.

Bydd y flwyddyn academaidd nesaf, 2016/17, yn gweld y cyllided colegau addysg bellach yn sefydlogi.

Fodd bynnag, mae colegau addysg bellach wedi wynebu cyllidebau heriol dros y blynyddoedd diwethaf.

Caiff cyllid ar gyfer addysgu pobl ifanc 16-19 oed ei warchod fel arfer.

Serch hynny, yn 2015/16, bu toriad cyffredinol o 6% i gyllid y golegau. Cymaint oedd maint y toriadau yn y flwyddyn academaidd 2015/16, ni lwyddwyd i warchod unrhyw ystod oedran yn gyfan gwbl. Gyda thoriad cyffredinol o 6% i gyllid y colegau, a chyda'r ystod oed 16-19 yn cael ei warchod i raddau helaeth, y rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf oedd oedolion dros 19 oed, gyda 50% o doriad i'r gyllideb honno.

Gan ychwanegu at doriadau y ddwy flynedd flaenorol, y canlyniad yw bod can mil llai o oedolion nawr yn dysgu mewn coleg o'i gymharu a degawd yn ôl.

Mae oddeutu 150,000 o ddysgwyr yn astudio mewn coleg addysg bellach yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae tua dwy ran o dair o bobl 16-18 oed yng Nghymru yn dewis astudio mewn coleg.

Mae mwy na 50% o boblogaeth y myfyrwyr yng ngholegau Cymru yn dysgu ar sail ran amser, gyda llawer ohonynt mewn cyflogaeth.

Mae'r rhan fwyaf yn oedolion (19+ oed).

Ystadegau: Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol (Maw2016) (dolen allanol)

Colegau sy'n darparu'r rhan fwyaf o gymwysterau addysg bellach ôl-16. Mae'r ystod yn cynnwys cymwysterau academaidd fel Safon Uwch, yn ogystal â chyrsiau technegol, galwedigaethol a phroffesiynol ar gyfer unigolion a busnesau ar bob lefel o Lefel 1 i Lefel 6.

Mae nifer fawr o fyfyrwyr AB ledled Cymru yn cael llwyddiant nodedig ar lwyfan genedlaethol ac hefyd rhyngwladol boed yn nisgyblaethau academaidd neu alwedigaethol. Mae gan sawl coleg enw da o ran dilyniant myfyrwyr i Rydgrawnt, prifysgolion y Russell Group a phrifysgolion â gogwydd broffesiynol megis ysgolion busnes o fri. Yn wir, enwyd un coleg yn Ganolfan Rydgrawnt gan Lywodraeth Cymru.

Mae colegau Cymru yn profi eu hunain yn berfformwyr da wrth ddatblygu dysgwyr galwedigaethol i safon rhyngwladol. Mae colegau yn cymryd rhan brwd iawn yng Nghystadlaethau Sgiliau Cymru, WorldSkills UK, ac ystod o gystadlaethau lefel y DU sy'n grefft-benodol.

Yn ogystal, mae colegau yn gweithio'n agos iawn gyda busnesau, gan ddatblygu cyrsiau wedi'u teilwra er mwyn uwchsgilio'r gweithlu. Mae pob un ond un yn cyflwyno prentisiaethau a dysgu yn y gwaith yn fwy cyffredinol, gan weithio'n agos gyda chyflogwyr bach a mawr. Mae'r rhan fwyaf hefyd yn darparu cyrsiau ar lefelau addysg uwch (Lefel 4+, HNDs e.e., Graddau Sylfaen), ac mae nifer llai yn cynnig Graddau Baglor llawn.

Dolenni allweddol:

WorldSkills

Diwrnod VQ