Archif Newyddion 2014

08/12/14: Dyfarnu £500 yr un i 80 o dimau o bobl ifanc o bob cwr o Gymru a ar gyfer prosiectau rheoli arian cymunedol

Pobl ifanc yn cymryd rhan yn Her Arian am Oes - menter a redir gan Grŵp Bancio Lloyds mewn partneriaeth â CholegauCymru a Youth Cymru

Dyfarnwyd grantiau o £500 i dimau o bobl ifanc oed 16 i 24 yng Nghymru i gynnal prosiectau arloesol sy'n canolbwyntio ar wella rheoli arian. Mae'n rhan o'r Her Arian am Oes, cystadleuaeth genedlaethol, sydd bellach yn ei bedwaredd flwyddyn, sy'n helpu pobl ifanc mewn addysg bellach; sefydliadau hyfforddi a chymunedol ennill sgiliau newydd wrth helpu i ddatblygu'r gallu i reoli arian eu cymuned.

Mae 80 o dimau o Gymru ymhlith 340 ar draws y DU sy'n cymryd rhan yn y rhaglen arobryn.

Meddai Rachel Dodge, Rheolwr Prosiect Arian am Oes yng Nghymru: "Mae sgiliau rheoli arian yn hanfodol i'n bywydau bob dydd ac rydyn ni wrth ein bodd y bydd cynifer o dimau o Gymru yn cymryd rhan yn yr Her Arian am Oes eleni. Mae pob tîm wedi dyfeisio prosiect i helpu eraill yn eu cymuned leol ac edrychwn ymlaen i'w gweld yn rhoi eu syniadau ar waith. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae pob prosiect yn esblygu dros y tri mis nesaf."

Bydd y timau o bob rhan o Gymru yn treulio'r tri mis nesaf yn rhoi eu prosiectau ar waith ac yna yn eu cyflwyno nhw i'r beirniaid a fydd yn dewis y timau gorau i gyflwyno yn rownd derfynol genedlaethol yng Nghaerdydd ar 28 Ebrill 2015. Bydd enillwyr Cymru yn derbyn £1,000 i roi i elusen gofrestredig o'u dewis ac yn cael eu gwahodd i gynrychioli Cymru yn Rownd Derfynol y DU yn Llundain ar 28 Mai 2015.

Dywedodd David Rowsell, Pennaeth y Rhaglen Arian am Oes o Lloyds Banking Group: "Mae hyrwyddo rheolaeth dda o arian yn bwysicach nawr nag erioed o'r blaen, ac mae'r rhaglen Arian am Oes yn bodoli i fynd i'r afael ag angen dybryd am fwy o ymwybyddiaeth ariannol ar draws cymunedau DU. Mae'r prosiectau eleni yn dangos faint mae pobl ifanc yn poeni am y materion hyn ac rwy'n edrych ymlaen i weld sut y maent yn eu rhoi ar waith.

"Mae'r rhaglen Arian am Oes yn helpu i arfogi cymunedau ledled y DU sydd â'r sgiliau a'r galluoedd sydd eu hangen arnynt i wneud y gorau o'u harian ac yn eistedd wrth wraidd ymrwymiad ein Grŵp i Helpu Britain Prosper. Dymunaf lwc i'r holl dimau o Gymru wrth iddynt gychwyn ar eu prosiectau."

Am restr y timau llwyddiannus ac am ragor o wybodaeth am yr Her Arian am Oes, ewch at: www.moneyforlifechallenge.org.uk, Facebook: www.facebook.com/moneyforlifeuk neu Twitter: www.twitter.com / moneyforlifeuk

Diwedd

Gwella Rhifedd yng Nghymru gydag Ychydig o Gymorth gan Ganada

Mae uwch ddirprwyaeth o arbenigwyr dysgu ac addysgu o golegau Cymru newydd ddychwelyd o daith corwynt o chwe choleg yn Nghanada, lle buont yn archwilio'r mater allweddol o wella sgiliau llythrennedd a rhifedd dysgwyr.

Mae Estyn yn cydnabod bod colegau addysg bellach yng Nghymru yn dda. Ond nid yw'n colegau byth yn gorffwys ar eu rhwyfau. Maent yn ymdrechu'n barhaus i wella dysgu ac addysgu. Rhagoriaeth yw eu nod.

Tasg allweddol i golegau yw lleihau'r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol. Un arall yw i gefnogi'r nifer o bobl ifanc ac oedolion sydd yn cyrraedd coleg addysg bellach gyda sgiliau llythrennedd a rhifedd isel.

Mae gan Canada enw da am fynd i'r afael â'r materion hyn, ac felly, trwy Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu ColegauCymru, aeth sawl coleg ar daith pum niwrnod i chwe choleg yn Ontario, Canada rhwng 24 a 28 o Dachwedd.

Drwy weithio ar y cyd, cafodd wyth o'r 15 o sefydliadau addysg bellach yng Nghymru fudd uniongyrchol o'r ymweliad â Chanada. Yn ogystal, mae'r ddirprwyaeth wedi ymrwymo i rannu'r hyn wnaethont ddysgu a syniadau allweddol o'r ymweliad gyda'r holl golegau trwy Rwydwaith Dysgu ac Addysgu ColegauCymru.

O ddiddordeb allweddol i'r ddirprwyaeth oedd gweld sut y mae'r system ar gyfer gwella sgiliau llythrennedd a rhifedd yn Ontario yn gwneud cysylltiadau amlwg i anghenion cyflogwyr. Darperir cymorth yn yr ystafell ddosbarth ac ar-lein, gan ddefnyddio arbenigwyr pwnc i addysgu llythrennedd a rhifedd. Yn union fel yng Nghymru, maent yn canolbwyntio ar ganfod a llenwi bylchau penodol yn sgiliau y myfyrwyr hynny sy'n dod atynt o'r ysgol.

Dywedodd aelod o'r ddirprwyaeth, Is-Bennaeth Coleg Penybont, Robert Evans: "Cawsom groeso gwych gan bob un o'r colegau yng Nghanada. Cawsom gymryd rhan mewn dosbarthiadau a darlithoedd meistr, a chael profiad addysgu gyda rhai o'r adnoddau gorau ar gyfer addysg alwedigaethol yng Ngogledd America.

"Mae datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd penodol i gwrdd ag anghenion gwahanol feysydd galwedigaethol yn nodwedd allweddol. Wedyn, mae'r myfyrwyr yn cymhwyso'r medrau hyn mewn prosiectau byw, a gynlluniwyd yn aml gan ddiwydiant.

"Rydym yn gobeithio datblygu'r berthynas ardderchog a sefydlwyd yn ystod y daith gan rannu adnoddau, datblygu lleoliadau staff a myfyrwyr, a thrwy gynnal nifer o ddigwyddiadau lledaenu."

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, Greg Walker: "Rwy'n arbennig o falch y bu i'r colegau benderfynu gweithio gyda'i gilydd ar ddull cydweithredol. Mae'r ymweliad dwys i chwe choleg a'r Weinyddiaeth Hyfforddiant, Colegau a Phrifysgolion yng Nghanada eisoes yn dangos ei werth. Mae partneriaethau yn datblygu a syniadau yn llifo. Hoffwn dalu teyrnged i broffesiynoldeb y ddirprwyaeth o Gymru a diolch o galon i'r Cyngor Prydeinig Cymru am ei gefnogaeth wnaeth alluogi'r cyfle dysgu hwn.

Dywedodd Chris Lewis, pennaeth addysg Cyngor Prydeinig Cymru: "Rydym yn awyddus i ddatblygu'r sector sgiliau yng Nghymru ac roeddem yn falch iawn i ariannu'r daith astudiaeth hon. Mae rhannu arfer orau gyda chydweithwyr dramor yn gallu bod yn un o'r ffyrdd gorau o ddatblygu'r sector addysg ar lefel coleg a lefel proffesiynol."

"Er bod colegau yng Nghymru yn edrych ar gyllidebau heriol iawn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, maent yn edrych ar bob cyfle i gynnal a gwella ansawdd a sicrhau rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu. Drwy Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu ColegauCymru, mae colegau yn casglu arfer da o fewn Cymru a thu hwnt ac yn mynd o nerth i nerth gyda'i gilydd. "

Diwedd

Ymateb i benderfyniad undebau i fynd i bleidlais ar streic posib

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, Greg Walker: "Bydd cyrff llywodraethu colegau yn penderfynu p'un ai i ddyfarnu cynnydd cyflog i staff ar gyfer costau byw unwaith y bydd cyllid y flwyddyn nesaf oddi wrth Llywodraeth Cymru yn dod yn glir dros yr ychydig fisoedd nesaf.

"Nid ar chwarae bach y gwneir penderfyniadau ar ddyfarniadau cyflog. Mae nifer o staff y colegau eisoes wedi derbyn cynnydd cyflog eleni gan symud i fyny'r graddfeydd cyflog. Yn ogystal, ers Hydref eleni, caiff holl staff y colegau eu talu o leiaf y Cyflog Byw.

"Mae'n sefyllfa anodd lle bydd cynnydd yng nghyfraniadau cyflogwyr i yswiriant gwladol a phensiynau athrawon y flwyddyn nesaf , tra bod colegau yn disgwyl cwymp yn yr arian a ddaw o Lywodraeth Cymru dros y ddwy flynedd nesaf . Daw hyn i gyd ar ben toriadau yn nhermau real yn y gyllideb dros y tair blynedd blaenorol.

"Wrth i ni ystyried opsiynau ar gyfer y dyfodol, hyderaf y bydd buddiannau'r dysgwyr flaenaf ym meddyliau cydweithwyr y sector addysg bellach."

Chwaraeon Merched yn Arwain yng Nghystadlaethau Chwaraeon Colegau Cymru

Wedi gwirioni ar chwaraeon? O ydyn! Mae'r cofrestriadau wedi dyblu eleni ar gyfer cystadlaethau Chwaraeon Colegau Cymru, gyda dros 1,000 o gystadleuwyr - hanner ohonynt yn ferched - yn cystadlu mewn 11 o chwaraeon wrth baratoi ar gyfer y pencampwriaethau Prydeinig yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Eleni, mae digwyddiadau cymwhyso Cymru ar gyfer y pencampwriaethau Prydeinig yng Nghaerfaddon - AoC Sport National Championships - wedi gweld timau o 12 coleg addysg bellach ac 20 campws mewn 8 lleoliad ledled y Gogledd a'r De, gyda'r diweddaraf yn cymryd lle yng Nghaerdydd ar 10 Tachwedd.

Mae chwaraeon merched yn arbennig wedi gweld cynnydd enfawr, yn enwedig mewn pêl-rwyd a phêl-droed. Sefydlwyd record newydd hefyd yn nifer y cofrestriadau ar gyfer sboncen a golf (marched a bechgyn), yn ogystal â chynnydd sylweddol mewn pêl-fasged, badminton a thenis.

Dywedodd Cydlynydd ColegauCymru Chwaraeon, Rob Baynham: "Rydyn ni'n clywed bod oedolion ifanc, yn enwedig menywod, ddim yn gwneud digon o chwaraeon. Ond yng nhgolegau addysg bellach Cymru, mae'r darlun yn bendant yn gwella. Cystadlodd 500 o ferched ar 10 Tachwedd. Cystadlodd 130 o ferched yng ngŵyl bêl-droed Chwaraeon Colegau Cymru ym Merthyr a thua 80 yn y treialon Cymraeg yn Wrecsam fis diwethaf.

"Mae'r amrywiaeth o gyfleoedd chwaraeon cystadleuol yn datblygu hefyd yng ngholegau Cymru, gyda naid fawr yn nifer y cofrestriadau gan fechgyn a merched. Sboncen, golff, badminton, pêl-fasged a thennis: maen nhw i gyd yn gweld twf ar lefel cystadlu cenedlaethol. Rydyn ni hefyd yn dechrau cystadlaethau newydd mewn beicio mynydd a syrffio cyn bo hir i ymateb i'r galw gan fyfyrwyr.

"Mae chwaraeon yn dod â gymaint i unigolion: gwell iechyd, arweinyddiaeth, gwaith tîm, sgiliau trefnu, ymdeimlad o berthyn a chyfeillgarwch. Ond mae cael mwy na 1,000 o gystadleuwyr i leoliadau ledled Cymru yn cymryd llawer o amser a gwaith caled. Ymdrech tîm wirinoneddol yw llwyfannu'r cystadlaethau hyn ac ni allai ddigwydd heb ymroddiad staff y colegau a chefnogaeth cyrff llywodraethu chwaraeon, myfyrwyr sy'n rhoi o'u gwirfodd a lleoliadau sy'n cynnal y cystadlaethau.

"Mae'r gwaith yn parhau ar ôl y treialon wrth gwrs, gyda'r enillwyr nawr yn paratoi i gynrychioli Cymru ym mhencampwriaethau colegau Prydain ym mis Mawrth. Byddwn ni yno mewn grym, yn anelu am ogoniant i dîm Colegau Cymru. "

Enillwyr cystadlaethau Colegau Chwaraeon Cymru hyd yn hyn, a fydd yn cynrychioli Cymru yn yr AoC National Sport Championships, yw:

Pêl-fasged - Dynion: Coleg Caerdydd a'r Fro
Rygbi 7 – Dynion: Coleg y Cymoedd
Pêl-droed 5 bob ochr - Dynion: Coleg Meirion Dwyfor
Pêl-droed 5 bob ochr - Merched: Y Coleg Merthyr Tudful
Pêl-rwyd - Merched: Coleg Gŵyr Abertawe
Pêl-foli - Dynion: Coleg y Cymoedd
Pêl-foli - Merched: Coleg y Cymoedd
Hoci – Dynion: Coleg Gŵyr Abertawe
Hoci – Merched: Coleg Meirion Dwyfor
Tenis – Senglau Dynion: Rhys Jenkins, Coleg Sir Gâr
Tenis – Senglau Merched: Charlotte Irvine, Coleg Gŵyr Abertawe
Tenis - Dyblau Dynion: Jack Morris a Nikki Williams, Grŵp NPTC Y Drenewydd
Tenis - Dyblau Merched: Becky Davies a Charlotte McKeown, Coleg Cambria
Tenis Bwrdd – Senglau Dynion: Chris Jones, Coleg Cambria - Iâl
Tenis Bwrdd – Dyblau Dynion: Bradley Abrahams a Peter Morse, Coleg Gŵyr Abertawe
Badminton – Senglau Dynion: Justin Davies, Grŵp NPTC Y Drenewydd
Badminton – Dyblau Dynion: Luke Pierce a Ben Richards, Coleg Sir Benfro
Badminton - Senglau Merched: Olivia Williams, Coleg Gwent Cross Keys
Badminton – Dyblau Merched: Nicole Griffiths a Louise Bell, Coleg Gwent - Cross Keys
Sboncen - Dynion: Emyr Evans, Coleg Llandrillo
Sboncen – Merched: Elin Harlow, Coleg Llandrillo
Golff – Tîm Dynion: Lewis Mackenzie, Coleg Cambria - Iâl; Chester Morgans, Coleg Gŵyr Abertawe; Joe Lewis–Phillips, Coleg Gŵyr Abertawe; Darren Owen, Coleg Menai
Golff – Tîm Merched: Hannah Bowen, Chloe Saltmarsh, a Mollie Lewis, Grŵp NPTC - Castell-nedd; a Sadie Dewinton-Davies, NPTC – y Drenewydd


Diwedd

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.

Nodiadau i olygyddion:
1. Elusen addysg cenedlaethol yw ColegauCymru sy'n cynrychioli'r 15 coleg/sefydliad addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru a'r colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk

2. Cymrodd cystadlaethau Chwaraeon Colegau Cymru le ar 13 Hydref yn Wrecsam ac ar 10 Tachwedd yng Nghaerdydd yn y lleoliadau canlynol: Canolfan Pêl-droed Gôl, Caerdydd; House of Sport, Caerdydd; Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Caerdydd; Prifysgol Glyndŵr; Canolfan Tenis Wrecsam; Clwb Sboncen Brymbo; Clwb Golff Parc Henlle.

3. Yr AoC Sport National Championships (a elwid gynt ym Mhencampwriaethau Chwaraeon Colegau Prydain) yw'r digwyddiad chwaraeon blynyddol fwyaf ar gyfer myfyrwyr yn y DU, gan ddenu mwy na 2,000 o fyfyrwyr a staff bob blwyddyn. Mae wedi tyfu o 13 digwyddiad mewn 7 o chwaraeon yn 1979 i 39 o ddigwyddiadau mewn 14 o chwaraeon yn 2014.

4. Mae lluniau proffesiynol o gystadlaethau Colegau Chwaraeon Cymru o 10 Tachwedd ar gael ar gais.

Rhaglen gyflogadwyedd newydd ar gyfer myfyrwyr coleg addysg bellach

Mae colegau addysg bellach ar draws y DU yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn Prepare for Work - sef rhaglen newydd a gynlluniwyd i helpu 100,000 o fyfyrwyr wneud y mwyaf o'u cyfleoedd o sicrhau a chynnal cyflogaeth.

Mae'r rhaglen, sy'n cael ei redeg gan Barclays a'r Academi Sgiliau Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Ariannol, yn cynnig colegau sy'n cymryd rhan amrywiaeth o gymorth am ddim i'w helpu i gyflwyno gweithgareddau cyflogadwyedd a sgiliau ariannol i'w myfyrwyr yn ystod tymor y Gwanwyn 2015. Caiff Prepare for Work ei gefnogi gan Barclays fel rhan o'i ymrwymiad i Ddyfodol 5 Miliwn Ifanc.

Ochr yn ochr â mynediad at grantiau a chyfranogiad gan wirfoddolwyr Barclays, bydd colegau yn derbyn pecyn adnoddau am ddim yn llawn o weithgareddau a nwyddau amrywiol er mwyn gallu rhedeg cyfres ryngweithiol a diddorol o ymarferion sy'n canolbwyntio ar gyflogadwyedd. Mae'r rhaglen hefyd yn cyffwrdd ar agweddau ariannol o gyflogaeth ac yn codi ymwybyddiaeth o entrepreneuriaeth a hunangyflogaeth.

Dywedodd Kathleen Britain, Pennaeth Buddsoddi Cymunedol y DU yn Barclays: "Mewn marchnad swyddi gystadleuol, mae'n hanfodol bod pobl ifanc yn meddu ar yr wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen i gael gwaith. Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda'r Academi Sgiliau Genedlaethol i gynnig Prepare for Work fel rhan o'n hymrwymiad ehangach i Ddyfodol 5 Miliwn Ifanc. Gyda'n gilydd, gallwn helpu i roi llwyfan i bobl ifanc i gyflawni eu nodau, adeiladu eu busnesau eu hunain, cael swyddi a dod yn annibynnol yn ariannol."

Bydd myfyrwyr sy'n cymryd rhan yn dysgu sgiliau allweddol y mae cyflogwyr wedi eu adnabod fel rhai hanfodol yn ymgeiswyr swyddi. Bydd Prepare for Work yn gwella cyfleoedd pobl ifanc o sicrhau cyflogaeth drwy ddarparu cipolwg ar dechnegau cyfweld a pharatoi yn ogystal ag asesu cryfderau personol a sefydlu sut y gellir eu defnyddio i ragori yn ystod y broses recriwtio. Mae Prepare for Work hefyd yn addysgu myfyrwyr am entrepreneuriaeth ac yn rhoi cyfle iddynt gynnig eu syniadau busnes i gystadleuaeth menter busnes cenedlaethol Adeiladwyd ar Gyfer Busnes – Built for Business.

Mae'r rhaglen yn cychwyn wrth i ymchwil newydd, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ddangos bod 36% o bobl ifanc 16-17 oed a 18% o bobl 18-24 oed yn ddi-waith o gymharu â 4.7% o bobl 35-49 oed. Noda adroddiad arall bod un o bob pump o bobl ifanc yn y DU yn cael trafferth i ddod o hyd i waith.

Dywedodd Sylvia Perrins, Prif Weithredwr yr Academi Sgiliau Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Ariannol: "Rwyf wrth fy modd o fod yn cefnogi pobl ifanc trwy'r rhaglen hon i roi hwb i'w siawns o nid yn unig sicrhau swydd ond sicrhau llwyddiant ynddo. Mae Prepare for Work yn rhoi'r cyfle iddynt adnabod eu cryfderau a sut i sefyll allan i ddarpar gyflogwyr. "

Caiff Prepare for Work ei gyflwyno mewn partneriaeth ag Academi Sgiliau Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Ariannol, ochr yn ochr â CholegauCymru, Now yng Ngogledd Iwerddon, a'r College Development Network yn y Alban.

Dywedodd cyswllt arweiniol Prepare for Work yng Nghymru, Rachel Dodge o GolegauCymru: "Wedi cefnogi prosiect rheoli arian llwyddiannus Barclays, Money Skills Weeks yng Nghymru, sydd newydd ddod i ben, rydym yn falch iawn o gael y cyfle i gefnogi'r fenter newydd hon, sy'n canolbwyntio ar sgil hanfodol arall - cyflogadwyedd.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld y fenter newydd hon yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddyfodol myfyrwyr coleg, gan weithredu fel sbardun i gyflogaeth."

Diwedd

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.

Nodiadau i olygyddion:

1. Cysylltu â Prepare for Work
Ewch at www.barclaysmoneyskills.com
Cysylltwch â chyswllt arweiniol Prepare for Work yng Nghymru, Rachel Dodge o GolegauCymru
T: 029 2052 8386, E: rachel.dodge@colegaucymru.ac.uk neu
yr Academi Sgiliau Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Ariannol T: 0845 618 2413,
E: prepareforwork@nsafs.co.uk

2. Ynglŷn â CholegauCymru

Elusen addysg cenedlaethol yw ColegauCymru sy'n cynrychioli'r 15 coleg/sefydliad addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru a'r colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk

3. Ynglŷn â Barclays

Mae Barclays yn ddarparwr gwasanaethau ariannol rhyngwladol sy'n ymgymryd â bancio personol, cardiau credyd, bancio corfforaethol a buddsoddi a rheoli cyfoeth gyda phresenoldeb helaeth yn Ewrop, America, Affrica ac Asia. Pwrpas Barclays yw helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau - yn y ffordd gywir.
Fel rhan o strategaeth Dinasyddiaeth Barclays, mae'n canolbwyntio ar adeiladu y genhedlaeth nesaf o gyflawnwyr drwy ei nod Dyfodol 5 Miliwn Ifanc. Mae hwn yn ymrwymiad i fuddsoddi £250m mewn rhaglenni sy'n canolbwyntio ar gefnogi pum miliwn o bobl ifanc i ddatblygu'r fenter, cyflogadwyedd a sgiliau ariannol sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu nodau a dod yn annibynnol yn ariannol.
Am wybodaeth bellach am Barclays, ewch at www.barclays.com.

4. Gwybodaeth am yr Academi Sgiliau Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Ariannol

Mae'r Academi Sgiliau Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Ariannol yn sefydliad a arweinir gan gyflogwyr annibynnol unigryw elusennol ymroddedig i dyfu talent a meithrin proffesiynoldeb yn y diwydiant gwasanaethau ariannol yn y DU ac yn cefnogi'r gymuned drwy ddarparu prosiectau buddsoddi cymunedol. Ei nod yw cefnogi dyfodol, sy'n dod i'r amlwg a thalent sydd eisoes yn bodoli ac i sicrhau bod y diwydiant gwasanaethau ariannol yn gynhyrchiol ac yn effeithlon i gystadlu mewn marchnadoedd byd-eang.
Trwy ei raglen fuddsoddi gymunedol, mae'r Academi Sgiliau yn canolbwyntio'n benodol ar ddatblygu sgiliau o grwpiau dan anfantais. Mae'n gweithio gydag amrywiaeth o elusennau, llywodraeth a phartneriaid corfforaethol i ddatblygu a chyflawni prosiectau rheoli arian, cyflogadwyedd a menter arloesol. Am fwy o wybodaeth, ewch at www.nsafs.co.uk

Cysylltiadau Allweddol

Cymru:
Rachel Dodge
T: 029 2052 8386

y DU:
NSAFS
T: 0845 618 2413
Arlein: http://www.barclaysmoneyskills.com

Cyllideb anodd ar gyfer oedolion sydd eisiau ailhyfforddi

Gan ymateb i gyhoeddiad cyllideb ddrafft 2015-16 y Cynulliad ar 30 Medi, dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, Greg Walker: "Roedden ni'n disgwyl setliad anodd yn y gyllideb, ac anodd y bydd hi".

Mae'n glir y bydd pobl ifanc 16-18 oed yn cael eu diogelu i raddau. Serch hynny, mae'n ymddangos y bydd pob ystod oedran yn cael eu heffeithio i ryw raddau, ac mae'r Llywodraeth yn disgwyl y bydd maint dosbarthiadau myfyrwyr 16-18 oed yn cynyddu.

Ond dysgwyr 19 oed i fyny bydd yn ddi-os yn dioddef baich y toriadau. Mae'r Llywodraeth yn cydnabod y "gallai lleihad yn y ddarpariaeth ar gyfer
dysgwyr sy'n oedolion leihau gallu'r rhai sydd allan o waith i ailhyfforddi".

Parhaodd Prif Weithredwr ColegauCymru, Greg Walker: "Mae'r gyllideb ddrafft yn gosod y cyfeiriad cyffredinol ond nid yw'n rhoi llawer o fanylion, felly nid yw'n bosibl eto i wybod beth fydd yr union effaith ar ddysgwyr. Yr hyn a wyddom ar hyn o bryd yw y bydd y toriadau yn disgyn yn fwy helaeth ar oedolion sy'n dysgu.

"Rydym yn rhagweld y bydd yn rhaid i golegau ystyried torri ar faint o ddysgu maent yn eu darparu ar gyfer oedolion sydd am ailhyfforddi, ac oedolion sy'n dysgu at ddibenion cymdeithasol a hamdden.

"Ynghyd â thoriadau i'r gwasanaeth gyrfaoedd, bydd yn her i gynnal lefel dda o gymorth a chyfleoedd i'r oedolion hynny sydd am wella eu sgiliau neu ailhyfforddi.

"Mae colegau addysg bellach eisioes wedi gorfod rheoli tair blynedd o doriadau, gan gynnwys 4% o doriad yn nhermau arian parod eleni, a mae mwy o doriadau ar ddod. Bydd colegau yn dymuno gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y toriadau yn cael mor fach effaith ag y bo modd ar ddysgwyr, yn enwedig y dysgwyr mwyaf agored i niwed. Ond yr ydym yn gwybod yn iawn y bydd yn her anodd."

Diwedd

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.

Nodiadau i olygyddion:

1. Elusen addysg cenedlaethol yw ColegauCymru sy'n cynrychioli'r 15 coleg/sefydliad addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru a'r colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk

2. Cyhoeddwyd y gyllideb ddrafft ar 30 Medi 2014. Mae ar gael o wefan Llywodraeth Cymru: http://wales.gov.uk/funding/budget/draft-budget-2015-16/?skip=1&lang=cy

3. Mae dogfen Llywodraeth Cymru: Cyllideb Ddrafft 2015-2016: Asesiad Effaith Strategol – o le y daw y dyfyniad (para 9.11) – ar gael o: http://wales.gov.uk/docs/caecd/publications/140930-impact-assessment-cy.pdf

Arian am Oes : Grantiau Etifeddiaeth ar gyfer dau dîm o Gymru

Llongyfarchiadau i Cadwyn Moneysmart a Thîm Annibyniaeth Ariannol V21!

Heddiw, mae Grŵp Bancio Lloyds wedi dyfarnu Grant Etifeddiaeth o £1000 yr un i chwe thîm a gyrhaeddodd rownd derfynol Her Arian am Oes 2013/14 ar draws y DU. Pwrpas y grant yw galluogi'r timau i barhau i ddatblygu ymhellach y prosiect yr oeddent wedi ei ddechrau yn ystod yr Her Arian am Oes y llynedd, ac i rannu eu sgiliau rheoli arian gyda mwy o bobl.

Mae Cymru wedi gwneud yn arbennig o dda, gyda dau o'r chwe grant yn y DU yn mynd i ddau brosiect gwahanol iawn ond sydd a rhagolygon hafal, gwych i gael effaith wirioneddol ar raddfa fawr.

Mae'r Her Arian am Oes yn rhan o raglen rheoli arian personol arobryn Lloyds Banking Group. Mae'n rhedeg ar hyd a lled y DU, gyda ColegauCymru / yn cydlynu'r Her yng Nghymru mewn partneriaeth â Youth Cymru.

Cadwyn Moneysmart
Cymdeithas Tai Cadwyn, Caerdydd

Mae'r grŵp wedi penderfynu defnyddio un o gyrsiau Arian am Oes, Teach Others, yn eu prosiect i gyflwyno sesiynau rheoli arian i denantiaid a phobl ifanc. Mae eu perthynas gref ag Undeb Credyd Caerdydd yn swnio fel cyfle gwych i ennill gwybodaeth newydd a chynyddu sgiliau y tîm. Bydd y prosiect nawr yn gallu cyrraedd llawer mwy o bobl.

V21 Tîm Annibyniaeth Ariannol
Vision 21 Cyfle Cymru , Caerdydd

Mae gêm fwrdd sy'n addysgu chwaraewyr am faterion ariannol yn syniad gwych. Roedd y beirniaid wedi ei fwynhau gymaint yn y rownd derfynol, bu iddynt fuddsoddi £300 ychwanegol ynddo yn y fan a'r lle! Gobeithir y bydd y grant hwn yn gweld y gêm yn datblygu i fodd y tîm. Mae fersiwn ar-lein hefyd ar y gweill. Gallwn weld y gallai'r gêm ddod yn hynod boblogaidd. Pwy wyr faint fydd yn ei chwarae'r amser yma y flwyddyn nesaf!

Am wybodaeth am bob un o'r enillwyr Grant Etifeddiaeth yn y DU, gweler yma


Ymunwch yn yr Her
Mae'r Her Arian am Oes 2014/15 ar agor nawr. Cymrwch ran!
Cysylltwch â Rachel Dodge
T: 029 2052 2500
Gwybodaeth bellach

Am ysbrydoliaeth, ewch ymai weld clip fideo ac i ddarllen am enillwyr llynedd

Rheolwr y Prosiect yng Nghymru:
Rachel Dodge
T: 029 2052 2500

Gweithlu Dyfodol y Sector Gofal i Gael Hwb Iaith Gymraeg

Mewn ymateb i alw cyflogwyr a defnyddwyr y gwasanaethau gofal am well gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, mae ColegauCymru yn cychwyn ar brosiect i gydlynu a gwella ar yr adnoddau addysgol a ddefnyddir i hyfforddi'r gweithlu.

Ar hyn o bryd, ar hap a damwain ydyw p'un ai derbynnir gwasanaeth Cymraeg yn y sector gofal. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi galw ar y sector i adnabod y Gymraeg fel sgíl allweddol ac am gynllunio pwrpasol er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau gofal yn y Gymraeg.

Wrth fynd i'r afael â'r dasg hon, bydd angen prif ffrydio'r Gymraeg wrth gynllunio addysg a hyfforddiant gweithlu'r dyfodol.

I'r perwyl hwn, mae ColegauCymru wedi cychwyn ar brosiect i gasglu'r deunyddiau hyfforddi sydd eisioes ar gael; i adnabod y bylchau; i gomisiynu adnoddau newydd lle bod angen; ac, yn y pen draw, i gynnal llyfrgell genedlaethol o'r holl adnoddau craidd ar gyfer hyfforddi gweithlu'r dyfodol.

Dechreuwyd ar y prosiect yr wythnos hon, gyda seminar dan ofal ColegauCymru oedd yn cynnwys ysgol, darparwr hyfforddiant yn y gweithle, colegau addysg bellach, Cyngor Gofal Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Mudiad Meithrin a chanolfannau Cymraeg i Oedolion.

Yn cyflwyno yn y seminar oedd Sioned Wyn Williams, Uwch Reolwr Datblygu'r Gweithlu gyda'r Cyngor Gofal. Dywedodd Sioned: "Mae hyfforddiant o safon uchel yn helpu darpar weithwyr i ddatblygu sgiliau perthnasol. Mae deall pwysigrwydd y

Gymraeg yn y sector yn rhan o hyn, ac edrychwn ymlaen i weld ffrwyth llafur y prosiect pwysig hwn ac i fod yn rhan o'r ystod o bartneriaid fydd yn rhan ohono."

Dywedodd Claire Roberts, Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd ColegauCymru a rheolwr y prosiect: "Calonogol iawn oedd gweld y sector addysg ôl-16 yn dod at ei gilydd yn y seminar cychwynnol i drafod yr adnoddau craidd presennol mewn dau faes penodol, Gofal Plant a Gofal Sylfaenol.

"Roedd brwdfrydedd amlwg i'w weld wrth i ddarparwyr rannu arfer da a chyd-dynnu ar draws sefydliadau – boed yn ysgol, yn goleg, yn brifysgol neu ddarparwr hyfforddiant yn y gweithle – er budd gweithlu'r dyfodol.

"Gyda'r Llywodraeth newydd gyhoeddi ymgynghoriad ar gynllun 10 blynedd ar gyfer y gweithlu gofal plant a gofal sylfaenol, mae'r prosiect yn amserol, a diolchwn i'r Llywodraeth am ariannu'r prosiect. Mae tipyn go lew o waith i'w gyflawni cyn cyrraedd pen y daith, ond gyda chefnogaeth gref ac ewyllys da y sector addysg y tu cefn i'r prosiect, byddwn dwi'n siwr yn llwyddo o fewn byr o dro."

Diwedd

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.

Nodiadau i olygyddion:

1. Elusen addysg cenedlaethol yw ColegauCymru sy'n cynrychioli'r 15 coleg/sefydliad addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru a'r colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk

2. Cyhoeddwyd adroddiad Comisiynydd y Gymraeg: Fy Iaith, Fy Iechyd: ymholiad i'r Gymraeg mewn maes gofal sylfaenol ym mis Mehefin 2014.

3. Ar 22 Medi 2014 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad: Cynllun drafft 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae yng Nghymru
http://wales.gov.uk/docs/dcells/consultation/140922-10-year-plan-for-the-early-years-childcare-and-play-workforce-in-wales-plan-cy.pdf
4. Yn y llun: cyflwynwyr yn seminar ColegauCymru. Chwith i'r dde: Elaine Davies, Cwmni Iaith; Sioned Williams Cyngor Gofal Cymru; Lisa Haf, Coleg Cymraeg Cenedlaethol; Helen Prosser, Cymraeg i Oedolion; Claire Roberts, ColegauCymru; Harri Jones, Mudiad Meithrin.

Prif Weithredwr Newydd ar ColegauCymru

Yn dilyn ymddeoliad Dr John Graystone, Prif Weithredwr ColegauCymru am 13 mlynedd, mae ei ddirprwy, Dr Greg Walker, yn awr wedi camu i mewn i'w esgidiau.

Cafodd Greg ei benodi'n Ddirprwy Brif Weithredwr ColegauCymru yn 2012. Cyn hynny, roedd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Addysg Uwch Cymru, sy'n rhan o Universities UK. Ar droad y mileniwm, fe helpodd y Coleg Nyrsio Brenhinol sefydlu ei Rhaglen Arweinyddiaeth Wleidyddol llwyddiannus ar gyfer nyrsys yng Nghymru a chyn hynny bu'n gweithio o fewn Llywodraeth Cymru i asiantaeth y Swyddfa Gartref ar faterion cyfiawnder ieuenctid. Mae e ar hyn o bryd yn gwasanaethu fel aelod o Gyngor llywodraethol y Brifysgol Agored. Wedi ei godi yn Ne Cymru, cafodd Greg ei addysg yng Nghaerffili a Chaerdydd.

Ar gamu i mewn i'w rôl newydd fel Prif Weithredwr, dywedodd Greg Walker: "Mae ColegauCymru wedi adeiladu ar gryfder ei aelod-golegau i ddod yn sefydliad uchel ei barch sy'n canolbwyntio ar gyflawni. Mae cyflawniadau allweddol diweddar yn cynnwys cyflwyno contract cenedlaethol ar gyfer staff colegau, ac ymateb effeithiol y sector addysg bellach i agenda Llywodraeth Cymru i drawsnewid tirwedd addysg ôl-16.

"Mae'n fraint i gael y cyfle i gymryd yr awenau ac rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at ddod â ffocws newydd i waith hollbwysig y mae'r colegau yn ei wneud gyda chyflogwyr ar sgiliau ac arloesi."

Meddai Cadeirydd ColegauCymru, Mark Jones: "Mae Greg yn dechrau ar y rôl proffil uchel hwn o gynrychioli'r sector addysg bellach yng Nghymru i wneuthurwyr polisi ar adeg dyngedfennol. Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi gweld mentrau polisi newydd pwysig, mae'r dirwedd addysg bellach wedi cael ei drawsnewid, ac mae colegau wedi llwyddo i gyflawni nifer o heriau.

"Mae colegau wedi goroesi diolch i waith sylfaenol ColegauCymru a'r awydd cryf o'i aelod-golegau i gydweithio - gyda'i gilydd ac hefyd gyda phartneriaid allweddol - i gyflawni mwy nag a fyddai'n bosibl ar eu pennau eu hunain.

"Mae Greg eisoes wedi profi ei hun yn ei rôl flaenorol yn ColegauCymru i fod yn effeithiol. Edrychaf ymlaen at weithio gydag ef i barhau i sicrhau bod nodweddion y colegau, megis arbenigedd, angerdd a'r ymestyn parhaus at ragoriaeth, yn parhau i gael eu defnyddio'n effeithiol ar lefel genedlaethol er budd economi Cymru a'i chymunedau."

Diwedd

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.

Nodiadau i olygyddion:

1. Elusen addysg cenedlaethol yw ColegauCymru sy'n cynrychioli'r 15 coleg/sefydliad addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru a'r colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk

Galw Pobl Ifanc Cymru Sydd Eisiau Gwella Sgiliau Arian Eu Cymuned

Mae pobl ifanc sydd am ymgymryd â'r her o helpu eu cymunedau i ddysgu sut i reoli arian yn well yn cael eu hannog i wneud cais am grant i roi eu syniadau ar waith fel rhan o gystadleuaeth ar draws y DU.

Mae hyd at 80 grant "Her Arian am Oes" gwerth £500 yr un ar gael yng Nghymru ar gyfer grwpiau o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sydd mewn addysg bellach, hyfforddiant neu sefydliad cymunedol.

Mae'r grantiau hyn i helpu grwpiau o bobl ifanc adnabod mater rheoli arian yn eu cymuned leol a llunio cynllun i fynd i'r afael ag e. Ar hyd y ffordd, byddant yn gwella eu sgiliau harian eu hunain gyda chymorth cwrs ar-lein, 'Teach Me', ac yna yn mynd ymlaen i ddefnyddio eu sgiliau i helpu eu ffrindiau, eu teuluoedd a'r gymuned leol.

Mae'r Her yn rhan o raglen rheoli arian personol arobryn Lloyds Banking Group. Fe'i rhedir ar draws y DU gyfan, gyda ColegauCymru yn cydlynu'r rhaglen yng Nghymru.

Mae'r Her bellach yn ei bedwaredd flwyddyn ac wedi tyfu bob blwyddyn. Mae Cymru wir wedi mynd i'r afael â'r Her, ac wedi llwyddo i ddenu cyfran uwch o grantiau na gwledydd eraill y DU. O 40 o grantiau cychwynnol a oedd ar gael yn 2011 yng Nghymru, mae'r Her yn dyblu eleni, gyda 80 o grantiau i'w hennill.

Mae'r Her Arian am Oes yn cael effaith fawr ar bobl ifanc a'u cymunedau, gyda grantiau etifeddiaeth ar gael i'r goreuon ar draws y DU i ddatblygu ymhellach eu prosiectau er mwyn sicrhau effaith barhaol. Yn allweddol i lwyddiant yn yr Her bydd meddwl am syniadau newydd a chreadigol sydd wedi eu seilio ar brofiadau aelodau'r tîm, ac sy'n rhoi sylw i anghenion rheoli arian eu cymuned.

Yn helpu'r Her gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, bydd Youth Cymru yn partneru ColegauCymru eleni.

Dywedodd Prif Weithredwr Youth Cymru, Helen Mary Jones: "Gydag ychydig o help llaw, mae pobl ifanc yn dangos i ni dro ar ôl tro bod ganddynt y brwdfrydedd, y syniadau a'r gallu i ymgymryd â materion ar draws y gymuned ac mae'r Her yn gyfle gwych i'w helpu i brofi eu gwerth.

"Mae Youth Cymru yn gweithio gyda chlybiau ieuenctid ar draws Cymru gyfan ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda ColegauCymru i agor y Her Arian am Oes i gynulleidfaoedd newydd."

Meddai rheolwr prosiect Arian am Oes yng Nghymru, Rachel Dodge o GolegauCymru: "Dros y tair blynedd diwethaf, mae'r Her Arian am Oes wedi gweld amrywiaeth eang o syniadau a ffyrdd newydd o fynd i'r afael ag anghenion rheoli arian cymunedau. Eleni, gyda chyfranogiad Youth Cymru, rydym yn gobeithio cyrraedd cynulleidfaoedd newydd yn y sector ieuenctid tra'n parhau i weithio gyda grwpiau o gymdeithasau tai, Cymunedau yn Gyntaf, addysg bellach a lleoliadau hyfforddiant yn y gwaith.

"Gydag ychydig o arian a grym, mae pobl ifanc yn dangos y ffordd, a dwi'n gobeithio y bydd yr Her unwaith eto eleni yn helpu sicrhau newid parhaol yn sgiliau rheoli arian cymunedau ledled Cymru."

Mae'n rhaid i bob cais am grant Her Arian am Oes gael ei wneud erbyn 21 Tachwedd 2014. Bydd y timau sy'n llwyddo i ennill grant yn mynd ymlaen i ddatblygu eu syniadau ac yn eu rhoi ar waith yn eu cymunedau erbyn 6 Mawrth 2015, gyda'r prosiectau gorau yn cael eu dewis i fynychu Rownd Derfynol Cymru ar 28 Ebrill 2015. Bydd enillwyr Rownd Derfynol Cymru yn cynrychioli Cymru yn Rownd Derfynol Fawreddog y DU ar 28 Mai 2015. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar http://www.moneyforlifechallenge.org.uk

Diwedd

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.

Nodiadau i olygyddion:

1. Elusen addysg cenedlaethol yw ColegauCymru sy'n cynrychioli'r 15 coleg/sefydliad addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru a'r colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk

2. Mae Youth Cymru yn elusen sy'n gweithio gyda grwpiau ieuenctid, gweithwyr ieuenctid a phobl ifanc ledled Cymru. Mae'n gweithio gyda chlybiau ieuenctid, darparwyr gwasanaethau, elusennau, unigolion a llawer o gwmnïau yn y sector corfforaethol i helpu i ddarparu gwasanaethau ac amwynderau i bobl ifanc yng Nghymru. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn http://youthcymru.org.uk/

3. Rhaglen rheoli arian personol arobryn Grŵp Bancio Lloyds yw Arian am Oes, wedi'i dargedu at bobl ifanc ac oedolion mewn sefydliadau addysg, hyfforddiant a chymunedol. Mae Lloyds wedi buddsoddi £8 miliwn yn y rhaglen rhwng 2010-2014.
Mae Arian am Oes yn cynnig cymwysterau hyfforddiant achrededig, a ariennir yn llawn er mwyn galluogi gweithwyr sy'n cefnogi cymunedau ar draws y DU i ymgorffori sgiliau rheoli arian personol ar lefel leol.
Mae'r Her Arian am Oes yn gystadleuaeth genedlaethol sy'n darparu grant o £500 i roi grym i dimau o bobl ifanc 16-24 oed i redeg prosiectau rheoli arian yn eu hardal.
Dyfarnwyd 'Big Tick' i raglen Arian am Oes ac fe gyrhaeddodd rhestr fer Gwobr 2014 Adeiladu Cymunedau Cryfach a redir gan Busnes yn y Gymuned.

Canlyniadau Safon Uwch Rhagorol yng Ngholegau Cymru

Mae cyfradd lefel llwyddo, yn ogystal â'r gyfradd basio uwch A*-C, mewn cyfres o golegau addysg bellach yng Nghymru yn uwch na chyfartaledd Cymru ac yn cwrdd â neu'n rhagori ar gyfartaledd y DU. Mae llawer o fyfyrwyr bellach yn cael eu derbyn gan brifysgolion Rhydgrawnt, prifysgolion Grŵp Russell a sefydliadau eraill o fri.

Yn perfformio'n well na chyfartaledd y DU yn y graddau heriol A*-C mae Grŵp Llandrillo Menai, Coleg Gŵyr Abertawe a Champws Crosskeys Coleg Gwent, gyda Choleg Sir Benfro yn adrodd bod 83.3% o'u canlyniadau wedi cyrraedd A*-C, sydd gryn dipyn yn uwch na chyfartaledd y DU, sef 76.7%, a chyfartaledd Cymru, sef 75.2%.

Mae nifer o golegau addysg bellach yn rhedeg rhaglenni arbennig ar gyfer y myfyrwyr mwyaf dawnus a thalentog, ac mae eu canlyniadau yn dangos cyflawniad arbennig. Yn Academi Chweched Dosbarth Grŵp NPTC er enghraifft, cyflawnodd 100% o fyfyrwyr A*-B, gyda 98% o'r grŵp yn cyflawni'r graddau uchaf A*-A.

O ystyried y diffyg diddordeb ar draws Cymru mewn astudio ieithoedd tramor modern, mae'n wych nodi'r llwyddiannau yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, lle mae 100% o'r canlyniadau yn Ffrangeg (llawn amser) a Sbaeneg (rhan amser) wedi cyflawni A*-C.

Mae darpariaeth rhai o'r colegau addysg bellach yn fawr ac yn peri i'r canlyniadau hyn fod o bwys cenedlaethol. Er enghraifft, mae 1,600 o fyfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a 1,260 yng Ngholeg Gwent yn derbyn eu A2 a canlyniadau lefel AS heddiw, tra bod Grŵp Llandrillo Menai yn casglu canlyniadau 107 o wahanol ddosbarthiadau Safon Uwch ar draws chwe champws.

Mae newydd-ddyfodiaid i Safon Uwch hefyd yn adrodd canlyniadau iach. Mae Parth Ddysgu

Blaenau Gwent wedi cyhoeddi ei ganlyniadau cyntaf ar gyfer Safon Uwch, a dyma'r set orau o ganlyniadau erioed ar gyfer Blaenau Gwent. Mae Coleg Merthyr Tudful wedi cyhoeddi ei ganlyniadau lefel AS cyntaf heddiw, ac mae eisoes wedi cael dechrau gwych ar ddosbarthiadau A2, gyda'r cwrs Lefel A Seicoleg ar gyfer dysgwyr rhan-amser yn cyflawni cyfradd pasio o 100%.

O ran y cam nesaf, mae Rhydgrawnt yn galw ar naw myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe fydd yn astudio ystod eang o bynciau. Yn ymuno â hwy yn Rhydgrawnt fydd tri myfyriwr o Goleg Cambria, gan gynnwys Jessica Flavell a fydd yn mynd â 'i A*A*A i Gaergrawnt i astudio Seicoleg - y cyntaf yn ei theulu i fynd i unrhyw brifysgol, heb sôn am Rydgrawnt! Bydd Shannon Britton o Goleg y Cymoedd yn mynd i Brifysgol Rhydychen i astudio Llenyddiaeth a Iaith Saesneg wedi dilyn llwybr carlam flwyddyn yn unig o hyd, ar ôl newid llwybr llynedd I astudio A2 Saesneg, y Gyfraith a Hanes; ac mae Becky Jones o Goleg Sir Gâr yn edrych yn barod i gymryd ei lle ym Mhrifysgol Caergrawnt i astudio Gwyddor Filfeddygol.

Gwelwyd y graddau uchaf mewn gwyddoniaeth a mathemateg ym mhob cwr o golegau Cymru heddiw. Yn y de-ddwyrain, er enghraifft, Awyrofod fydd testun Seongju Lee - myfyriwr o Goleg Caerdydd a'r Fro. Mae ganddo gynnig diamod o Brifysgol Bryste a chynnig amodol yng Ngholeg Imperial Llundain, wedi iddo gymryd ei Safon Uwch mewn dau gam: Mathemateg ac Addysg Bellach Mathemateg (A*A*) y llynedd a Ffiseg a Chemeg eleni (AA*). Mae'n lwyddiant nodedig yn enwedig o wybod mai dysgu Saesneg fel iaith wnaeth y dyn ifanc wedi dod i Gymru o Corea.

Yn y de orllewin, bydd Liam Green o Goleg Sir Gâr yn mynd i Brifysgol Warwick i astudio Mathemateg gyda'i A*A*A a bydd Rachel Evans o Grŵp NPTC yn mynd â'i phedwar A* mewn Cemeg, Mathemateg, Seicoleg a Bioleg i Brifysgol Efrog i astudio meddygaeth.

Mae 'na garfan wyddoniaeth cryf o fyfyrwyr yn symud ymlaen i'r prifysgolion gorau o Grŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys Dylan Evans o'r 6ed y Rhyl, sydd yn mynd i fynd â'i 2A* a 2A i Brifysgol Manceinion i astudio Ffiseg Ddamcaniaethol. Mae Dylan eisoes yn adeiladu enw da ar gyfer ei hun, ar ôl ennill Arian yn y British Physics Olympiad llynedd yn erbyn o 2,000 o gystadleuwyr. Mynd i astudio meddygaeth fydd Eben Rees o Goleg Meirion Dwyfor tra bydd Elen Wynne Jones yn cymryd ei 4 lefel A o Goleg Menai i astudio am radd Geneteg ym Mhrifysgol Caerdydd a Jacob Morgan gyda 3A* yn gadael Coleg Meirion Dwyfor am St Andrew's er mwyn astudio Astroffiseg.

Maent yn siŵr o ddod o hyd i nifer o'u cydwladwyr yn eu sefydliadau Grwp Russell - gyda 150 am astudio yn y grŵp nodedig o brifysgolion hwn o Goleg Gŵyr Abertawe yn unig.

Nid yn unig myfyrwyr traddodiadol amser llawn Safon Uwch 16-18 oed y mae colegau'n eu arwain at lwyddiant personol mawr. Mae yna hefyd fyfyrwyr aeddfed, myfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr galwedigaethol sydd i gyd heddiw yn medi llwyddiant eu gwaith caled.

Er enghraifft, bu Craig Hodges o Goleg Llandrillo yn cynnal swydd lawn amser fel parafeddyg tra'n astudio cwrs Safon Uwch, gyda'r bwriad o fod yn feddyg. Heddiw yw'r diwrnod clywodd ei fod yn awr ar ei ffordd i Brifysgol Bangor a gyrfa newydd.

Mae dysgwyr galwedigaethol sy'n astudio diplomâu estynedig - sy'n cario'r un pwyntiau UCAS â Safon Uwch - hefyd yn cadarnhau eu lleoedd prifysgol heddiw.

Yng Ngholeg Cambria, o'r 650 o fyfyrwyr sydd wedi cael cynnig lleoedd yn y brifysgol, bydd 220 ohonynt yn cyrraedd yno diolch i'w cymwysterau galwedigaethol. Yng Ngholeg Penybont, mae 118 o fyfyrwyr wedi ennill o leiaf 360 o bwyntiau UCAS - sy'n cyfateb i 3 gradd A Safon Uwch - yn eu hastudiaethau diploma estynedig. Y cwrs sydd wedi perfformio orau yng Ngholeg Sir Gâr eleni yw'r Diploma Estynedig mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gyda 48% o'r myfyrwyr yn ennill rhagoriaeth serennog driphlyg - y radd uchaf bosibl, gan ddenu 420 o bwyntiau UCAS; a draw yng Ngholeg Penybont, daw'r canlyniadau gorau o'r adran Astudiaethau'r Tir a Chwaraeon, gyda 62% o fyfyrwyr galwedigaethol yr adran yn ennill 420 o bwyntiau UCAS.

Heddiw, mae myfyrwyr galwedigaethol yn cadarnhau eu lleoedd yn y brifysgol heddiw i astudio ystod o raddau gan gynnwys TG, Gwyddor Chwaraeon, Osteopathi, Ffotograffiaeth ac Addysg.

Ond nid yw pawb sy'n dewis mynd am radd lawn amser dros dair blynedd.

Mae Heather Morgan o Grŵp NPTC, er enghraifft, wedi cael llwyddiant Safon Uwch heddiw mewn Mathemateg, Ffrangeg a Sbaeneg ac mae wedi sicrhau prentisiaeth gyda'r BBC. Bydd hi'n cael y gorau o'r ddau fyd gyda dau ddiwrnod yr wythnos yn y brifysgol yn astudio Cyfrifeg a Mathemateg a thridiau o waith yn y BBC.

Dywedodd Pennaeth Materion Cyhoeddus ColegauCymru, Sylvia Davies: "Mae colegau ledled Cymru yn haeddiannol falch o'u canlyniadau. Dengys heddiw bod nifer o golegau Cymru gyda'r ysgolion a'r colegau hynny sy'n uwch-berfformio ar lefel y DU.

"Yn y colegau hynny sydd â champysau trydyddol, ceir màs critigol i wthio y myfyrwyr mwyaf galluog a thalentog yr ail filltir ac i gyflawni stribedau o raddau A serennog. Ond mae colegau addysg bellach cyffredinol hefyd yn dal eu tir gan ddangos proffil da ar lefelau UG ac U2 yn ogystal â mewn diplomâu estynedig galwedigaethol sy'n cario'r un pwyntiau UCAS â Safon Uwch.

"Llongyfarchiadau i'r myfyrwyr, yn ogystal ag eu hathrawon a staff y colegau ar draws Cymru sydd wedi eu cefnogi ar eu ffordd i lwyddiant."

Diwedd

Cysylltwch â: Sylvia Davies ar 029 2052 2500 neu 07968 771913.

Nodiadau i olygyddion:

1. Elusen addysg cenedlaethol yw ColegauCymru sy'n cynrychioli pob un o'r 15 coleg a sefydliad addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. I gael mwy o wybodaeth am ColegauCymru a'r colegau mae'n eu cynrychioli, ewch i www.colegaucymru.ac.uk neu www.collegeswales.ac.uk

2. Manylion cyswllt ar gyfer y colegau a enwir yn y datganiad hwn:
  • Coleg Gwent: Kim Spurr T: 01495 333507
  • Grŵp NPTC: Fay Harris T: 01639 648006
  • Coleg Sir Gâr: Amanda Rees T: 01554 748533
  • Coleg Gŵyr Abertawe: Eleanor Lewis T: 01792 890744
  • Coleg Caerdydd a'r Fro: Christopher Baker T: 01446 725015
  • Coleg Cambria: adran farchnata T: 01244 834531
  • Coleg Sir Benfro: Charlie Royal T: 01437 753100
  • Coleg y Cymoedd: Matthew Parr T: 07506 125 016
  • Y Coleg Merthyr Tudful: Leanne Jones E: L.Jones3@MERTHYR.AC.UK
  • Grŵp Llandrillo Menai: Jane Cater T: 01492 542 305

Partneriaeth Addysg Cymru-Tsieina yn Dechrau Cyfnod Newydd

Mae partneriaeth i ddatblygu cysylltiadau addysgol a busnes rhwng colegau addysg bellach yng Nghymru a'u cymheiriaid yn Chongqing, Tsieina yn dechrau ar gyfnod newydd.

Sefydlwyd Consortiwm Addysg Bellach Cymru-Chongqing yn 2011, gyda ColegauCymru yn buddsoddi mewn Swyddog Consortiwm sy'n siarad Mandarin ac sydd wedi ei lleoli yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Chongqing. Dan reolaeth braich ryngwladol ColegauCymru, CollegesWales (UK) International, mae'r Consortiwm wedi codi proffil colegau Cymru yn Chongqing ac wedi darparu nifer o gyfleoedd i ehangu gorwelion dysgwyr a staff yn y ddwy wlad.

Gyda chymorth y Consortiwm yn hwyluso ac yn adeiladu perthnasau ar lefel uwch hwyluso gan y Consortiwm, mae colegau Cymru at ei gilydd wedi ymweld â Tsieina 20 o weithiau. Mae'r ymweliadau wedi cynnwys ysgolion haf, partneriaethau Safon Uwch, hyfforddiant staff, dysgu myfyrwyr a chyfnewidfeydd diwylliannol.

Mae'r tair blynedd o fuddsoddiad, rheoli a chydlynu a wnaed gan CollegesWales (UK) International wedi helpu adeiladu llwyfan cryf ar gyfer colegau Cymru, ac o 1 Awst 2014, bydd chwe choleg yn cymryd y cyfrifoldeb o weithio i ddatblygu'r Consortiwm.

Dywedodd Judith Evans, Dirprwy Gadeirydd ColegauCymru a Phennaeth Coleg y Cymoedd - sy'n un o'r chwe choleg a fydd yn rheoli'r Consortiwm o 1 Awst:

"Mae Consortiwm Addysg Bellach Cymru-Chongqing wedi rhoi profiadau i fyfyrwyr coleg o Gymru a Tsieina sy'n newid bywydau, diolch yn bennaf i'r gwaith y mae wedi ei wneud yn adeiladu perthynas ac yn datblygu athrefnu cyfnewidiadau addysgol a diwylliannol. Rydw i wedi gweld nifer o unigolion yn trawsnewid o flaen fy llygaid diolch i'r profiadau a gawsant yn Tsieina. Mae eu byd bellach yn llawer mwy, eu dyheadau wedi codi, eu golwg o'r byd gymaint ehangach.

"Mae colegau hefyd yn awyddus i edrych ar sut gall y Consortiwm adeiladu ymhellach a hwyluso datblygiad staff a chyfleoedd busnes.

"Mae datblygu a chynnal perthynas ar lefel uchel gyda llywodraeth tramor a'i asiantaethau a llu o bartneriaid sy'n cynnwys colegau galwedigaethol yn gofyn, wrth gwrs, am ymrwymiad a buddsoddiad sylweddol. Ond mae'r gwobrau i'n myfyrwyr a'n staff a chorff y coleg cyfan yn fawr.

"Mae'n arwydd o aeddfedrwydd bod chwech o golegau Cymru wedi penderfynu i barhau i fuddsoddi yn y Consortiwm ac i gymryd cyfrifoldeb am ei datblygiad yn y dyfodol.

"Fel Pennaeth Coleg y Cymoedd, rydw i'n edrych ymlaen yn fawr iawn, ynghyd â'r pum coleg arall yn y Consortiwm ar ei newydd wedd, i weithio i ddod â mwy o fudd o Tsieina i Gymru dros yr ychydig flynyddoedd nesaf."

Diwedd

Cysylltwch â: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.

Nodiadau i olygyddion:

1. ColegauCymru yw'r elusen addysgol genedlaethol sy'n cynrychioli pob un o'r 15 o golegau addysg bellach (AB) a sefydliadau yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth am ColegauCymru a'r colegau mae'n eu cynrychioli, ewch i www.colegaucymru.ac.uk

2. CollegesWales (UK) International yw adran ryngwladol ColegauCymru. Gellir cael mwy o wybodaeth am ei waith ar gael yma: http://www.collegeswales.ac.uk/en-GB/international...

3. Mae'r Consortiwm Addysg Bellach Cymru-Chongqing wedi derbyn caniatâd gan ColegauCymru i barhau i ddefnyddio brand CollegesWales (UK) International brand am gyfnod diffiniedig.

4. Y chwe choleg a fydd yn rheoli'r Consortiwm o 1 Awst 2014: Coleg Penybont, Coleg Cambria, Coleg y Cymoedd, Coleg Gŵyr Abertawe, Grŵp NPTC, Coleg Catholig Dewi Sant. Bydd y Swyddog Consortiwm yn parhau i weithio o swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Chongqing, China.

Manteision Allweddol i Sector Addysg Cymru Gydweithio yn Ewrop

Mae ColegauCymru wedi croesawu cyhoeddi adroddiad Pwyllgor y Cynulliad ar gyfleoedd ariannu UE sy'n nodi'r arfer da yn y sector addysg bellach wrth ddarparu cyfleoedd dysgu dramor i fyfyrwyr Cymru, ac yn cytuno ag argymhellion yr adroddiad ar yr angen i wella gweithio ar lefel strategol ar draws y sector addysg ehangach.

Mae'r adroddiad yn nodi "canolbwynt arbenigedd" yn y sector addysg bellach - o dan arweiniad ColegauCymru - sydd wedi helpu'r sector i ennill nifer o geisiadau llwyddiannus am gyllid Ewropeaidd er mwyn gweithio gyda phartneriaid Ewropeaidd i ddarparu profiad gwaith a chyfleoedd dysgu i ddysgwyr coleg o Gymru.

Dywedodd Sian Holleran, sy'n arwain gweithgareddau rhyngwladol ColegauCymru o dan yr enw CollegesWales (UK) International: "Mae'n bleser bod Pwyllgor y Cynulliad wedi nodi lefel sylweddol y cydweithredu yn y sector addysg bellach a'r budd sydd wedi dod o sicrhau arian Ewropeaidd er mwyn trefnu cyfleoedd dysgu a phrofiadau gwaith dramor ar gyfer dysgwyr coleg".

Mae ColegauCymru wedi sicrhau € 450,000 o gyllid Ewropeaidd i sector addysg bellach Cymru ers 2011. Buddsoddwyd yr arian yn adeiladu partneriaethau gydag ysgolion galwedigaethol, sefydliadau canolog a busnesau mewn naw o wledydd Ewrop, a galluogi 140 o ddysgwyr galwedigaethol a phrentisiaid i ymgymryd â lleoliadau gwaith dramor.

Parhaodd Sian Holleran: "Rydym yn cytuno â'r Pwyllgor y byddai gweithio ar lefel fwy strategol ar draws y sector addysg yn gam ddefnyddiol ymlaen er mwyn i ni fedru gwneud y defnydd gorau posibl o'r holl feysydd arian Ewropeaidd sydd ar gael i Gymru.

Yna gallai'r pocedi o arbenigedd sydd yn cael eu hadeiladu yn y sectorau addysg bellach ac uwch ac asiantaethau cenedlaethol gael eu rhannu a gellid gynllunio gwaith yn fwy strategol i'r dyfodol er budd sector addysg Cymru yn ei chyfanrwydd.

"Edrychwn ymlaen at glywed ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn nes ymlaen yn y flwyddyn ar sut y mae'n dymuno bwrw ymlaen ag argymhelliad y Pwyllgor ar ddwyn ynghyd yr holl bartneriaid allweddol. Mae ColegauCymru yn awgrymu bod Grŵp Ymgynghorol Cymru ar Erasmus+ y mae ColegauCymru yn aelod ohono o dan arweiniad y Cyngor Prydeinig ac Ecorys yn darparu man cychwyn da y gallai Llywodraeth Cymru adeiladu arno."

Diwedd

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.

Nodiadau i olygyddion:

1. Elusen addysg cenedlaethol yw ColegauCymru sy'n cynrychioli'r 15 coleg/sefydliad addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru a'r colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk

2. Mae'r adroddiad ar Gyfleoedd Cyllid yr UE 2014-2020, a ysgrifennwyd gan Bwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ei lansio ar 16 Gorffennaf yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd.

3. Cyflwynodd ColegauCymru dystiolaeth i'r Pwyllgor fel rhan o'i ymchwiliad a rhoi tystiolaeth lafar ar 12 Mawrth 2014.

Cymry'n perfformio'n well na'r disgwyl ar gyfer WorldSkills São Paulo 2015

Mae deg o brentisiaid a dysgwyr mwyaf talentog Cymru wedi cael eu dewis i ymuno â Sgwad DU WorldSkills ac i gystadlu am le yn y tîm fydd yn cynrychioli'r DU yn WorldSkills São Paulo 2015.

WorldSkills is the largest international skills competition in the world. Held every two years, the competition sees around 1000 young people, aged 18-25, from all over the world come together to compete for medals in more than 40 different skills including Electrical Installation, Welding, Web Design, Cooking and Bricklaying.

The 10 Welsh youngsters, all aged between 19 and 21 - from Abertridwr, Blaenau Ffestiniog, Cardiff, Carmarthenshire, Newport and Pembrokeshire - have been named among 98 members of Squad UK, who were selected following three days of intense competition held at four venues throughout the UK.

They were all invited to compete in the selection competitions after excelling at the WorldSkills UK National Competitions, the finals of which take place at The Skills Show.

Llun: Owain Jones, Coleg Meirion Dwyfor, wrthi'n cystadlu © WorldSkills UK

The members of Squad UK will now spend the next 11 months training in their skill supported by their training provider, college, employer and a dedicated training manager. In May next year they will compete for a coveted placed in the team that will represent the UK at WorldSkills São Paulo 2015 which takes place from 11-16 August.

One of the successful competitors, Eleni Constantinou, 21 - a hairdresser from Abertridwr who came first in all six competitions she took part in - said she was thrilled to have been selected:

"I've loved taking part in these competitions. I'm really competitive and they push me to do my very best as I'm up against other hairdressers who all excel in their field and give you a really high standard of work to compete against. The competitions have been a real rollercoaster ride for me and I'm expecting the journey to have more ups and downs in the future, which will hopefully end in a trip to Brazil next year."

Deputy Minister for Skills and Technology Ken Skates said:

"I'm really pleased to see so many high quality Welsh apprentices represented at the WorldSkills competition. Wales can boast a wealth of exceptionally talented apprentices who have highly developed skills in a wide range of vocational areas.

"The ten Welsh competitors in Squad UK are all great ambassadors for Wales and I wish them and Squad UK all the very best for the competition. I hope this recognition inspires many more young people to consider an apprenticeship as a path to a successful career."

Ross Maloney, Chief Executive, Find a Future, which manages the WorldSkills UK Skills Competitions and the UK's entry into the WorldSkills Competition said:

"Skills competitions showcase the high levels of performance that can be achieved by individuals and organisations through high quality further education, skills training and Apprenticeships. Through skills competitions and the wider work of Find a Future we want to provide every young person with the chance to unlock their potential and get excited about the world of work."

By participating in the WorldSkills Competition, the UK is able to share best practise in Apprenticeships and vocational teaching, raising standards on a global scale.

The training programme for Squad UK includes EuroSkills Lille 2014, Europe's largest skills competition which takes place from 1 – 5 October, 2014 and The Skills Show which takes place from 13-15 November, 2014. Three Welsh competitors have been selected to represent the UK at EuroSkills 2014.

The 10 Welsh competitors selected to join Squad UK for WorldSkills São Paolo 2015 are:

  • Car Painting - Leon Ivin, 20, from Chepstow who works at Magor Motors and studies at Coleg Gwent
  • Industrial Control - Alex Scott, 21, from Newport and Luke Elsmore, 19, from Blackwood, who work at IAC Newport and are supported by University of South Wales
  • Carpentry - Owain Jones, 20, from Blaenau Ffestiniog, who works at HB Daverport and studies at Coleg Meirion Dwyfor
  • Carpentry - Simon McCall, 20, from Capel Dewi, who works at Jones and Johnson and studies at Coleg Sir Gâr
  • Construction Metal Work - Gethin Johnson, 19, from Llandysul, who works at Morris Fabrication and welding and studies at Coleg Sir Gâr
  • Plastering and Dry Wall Systems - Nathan Roblin, 20, from Ammanford, who works at DJ Plastering and studies at Coleg Sir Gâr
  • Joinery - Dominic Hicks, 19, from Tenby, who works at Keating Joinery and studies at Pembrokeshire College
  • Hairdressing - Eleni Constantinou, 21, from Abertridwr, who works at Tino Hair Salon
  • Auto Tech - Elijah Sumner, 19, from Cardiff Bay, who works at Halfords Pontypridd and is supported by Provq

© WorldSkills UK

Nathan Roblin
Coleg Sir Gâr

Dominic Hicks
Coleg Sir Benfro

Leon Irvin
Coleg Gwent

Gethin Johnson
Coleg Sir Gâr

Simon McCall
Coleg Sir Gâr

Owain Jones
Coleg Meirion Dwyfor

Fresh ideas: turning young people onto sport

Further education colleges across Wales are joining forces to turn more young people onto sport with a host of fresh ideas.

With 45,000 learners aged 16-19, further education colleges in Wales could make a real difference to the health of the nation's young people, especially young women who become distinctly less active in their late teens.

At the first ever Welsh Colleges Sport Conference held last week, over 130 college students and staff came together to try out new sporting opportunities, to get inspiration from young volunteers and to share good practice from around the country.

Organised by ColegauCymru with the support of a number of sports governing bodies, Young Ambassadors Cymru, Sport Wales and the University of South Wales - which hosted the conference at its Sports Park in Treforest - participants tried out a range of sporting and fitness activities including Rush Hockey, Atomic Touch rugby, Powerhooping and Dodgeball.

Taking a lead from Sport Wales, the conference looked at developing the benefits of sport in the widest sense, not solely impacting on improving the physical health of students, but also in bringing communities together, building confidence and providing new skills and training.

With this in mind, participants also benefited from the leadership skills of two Young Ambassadors, Molly Briskham Davies and Yasmin Davies, who led sessions on developing volunteering roles within colleges.

Among the participants in the Young Ambassadors-led session was Rebecca Baker, a student at Coleg Gwent's Crosskeys Campus, who said:

"The Young Ambassadors' session inspired my peers and me to encourage every single student in the college to try physical activity. It gave me ideas on how to adapt sessions to encourage students to come along and gave me an understanding of what is needed in terms of planning and scheduling events. I think that having Youth Ambassadors would be a great plus."

ColegauCymru's Sports Coordinator Rob Baynham said: "A strong team, we all know, is greater than the sum of its parts. And that was, really, the point of the conference – to bring all the colleges together as a team to identify and build on the good practice that already exists and to motivate each other to achieve our goals.

"The enthusiasm of college students, staff and national governing bodies from a range of sports at the conference shows that they are all keen to make a real difference. Through participation, discussion and debate, we are working together to ensure that each and every student has an opportunity to achieve their potential through sports.

"I am looking forward to seeing a number of fresh ideas put into practice over the coming year, and to deliver the key aims of the conference – more active young women, more sporting opportunities, and more volunteering."

Diwedd

Contact: Sylvia Davies on 029 2052 8384 or 07968 771913.

Notes to editors:

1. ColegauCymru / CollegesWales is a national educational charity that represents all 15 further education (FE) colleges and institutions in Wales. Its mission is to raise the profile of further education with key decision-makers to improve opportunities for learners in Wales. For further information about ColegauCymru / CollegesWales, and the colleges it represents, visit www.colegaucymru.ac.uk or www.collegeswales.ac.uk

2. The event, which took place on Friday 20 June 2014, was organised by ColegauCymru and supported by the University of South Wales with activities and workshops delivered by the Welsh Rugby Union, Hockey Wales, Powerhoop UK, Young Ambassadors Cymru, UK Dodgeball Association, and Scott Wilson Fitness. The conference was opened by Sport Wales board member Simon Pirotte and was closed by Sport Wales Corporate Director Mark Frost. Photos from the event are available on www.facebook.com/CollegesWales

3. The post of Sports Coordinator for further education colleges in Wales was created in February 2014 with the support of Sport Wales. The key aims of post are to further develop sporting opportunities and increase participation in sports and active lifestyles, particularly among 16-24 year olds, and with a special focus on young women.

4. Sport Wales' vision is available in full from here: http://www.sportwales.org.uk/about-us/about-sport-wales/our-vision.aspx

Cam Hanesyddol i'r Sector Addysg Bellach

Mae cyflogwyr ac undebau llafur mewn colegau addysg bellach yng Nghymru wedi dod i gytundeb hanesyddol a fydd yn gweld Contract Cenedlaethol yn cael ei gyflwyno i staff ar draws y sector. Dyma'r un cyntaf o'i fath yng Nghymru, ac nid oes contract cyfatebol yn Lloegr.

Tan nawr, mae pob Coleg Addysg Bellach wedi llunio a gweithredu ei gontractau cyflogaeth eu hunain, sydd wedi arwain at amrywiadau sylweddol o ran amodau a thelerau ledled y wlad.

Yn dilyn trafodaethau hirfaith, mae cyflogwyr ac undebau wedi cytuno geiriad cyfres o Gontractau Cenedlaethol ar gyfer staff cymorth, darlithwyr a rheolwyr.

Mae cyrff llywodraethol pob coleg addysg bellach cyffredinol yng Nghymru wedi derbyn y Contract Cenedlaethol ar gyfer eu staff. Byddant yn cael eu rhoi ar waith dros gyfnod o 32 mis gan ddod i ben ar 1 Medi 2016. Bydd yr holl weithwyr ar y contract newydd erbyn hynny.

Meddai Huw Lewis, Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru: "Rydw i wrth fy modd fod y trafodaethau rhwng cyrff llywodraethol y sefydliadau addysg bellach a'r undebau llafur wedi dod i gasgliad llwyddiannus a boddhaol a gallwn bellach edrych ymlaen at roi Contract Cenedlaethol ar waith.

"Roedd yr adduned hon yn ymrwymiad allweddol ym maniffesto etholiad Cynulliad 2011 Llafur Cymru ac mae'n un rwy'n falch o'i weld yn cael ei gyflawni yn sgil llofnodi'r cytundeb hwn.

"Credwn y dylai staff colegau sy'n gwneud cystal gwaith yn cefnogi'n dysgwyr gael eu gwobrwyo'n deg ac yn gyfartal gyda'u cymheiriaid ledled y sector addysg bellach yng Nghymru. Bydd y Contract Cenedlaethol yn helpu sicrhau y daw hyn yn wirionedd".

Meddai Dr John Graystone, Prif Weithredwr ColegauCymru: "Ar ôl bron i bedair blynedd o drafodaethau anodd ond teg, rydw i wrth fy modd ein bod ni wedi cyflawni'r cytundeb tirnod hwn. Mae'r cytundeb yn nodedig nid yn unig wrth ddangos y gall trafodaethau rhwng cyflogwyr ac undebau ddod i gasgliad llwyddiannus, ond hefyd dengys bod colegau addysg bellach Cymru, hyd yn oed dan y rhyddid newydd sydd wedi dod iddynt trwy ddeddfwriaeth ddiweddar, yn parhau i gydweithio i gyflawni nodau perthnasol i Gymru gyfan."

Meddai Rebecca Williams, ar ran y Cyd-undebau Llafur Addysg Bellach "Mae hwn yn gam mawr ymlaen i weithwyr y sector. Rydym yn hyderus y bydd y cytgordio i amodau a thelerau mae'r Contract yn ei roi i bob grŵp staff yn golygu trefniant tecach a mwy tryloyw i bawb.

"Edrychwn ymlaen at barhau i gydweithredu gyda CholegauCymru ar lefel Cymru gyfan er mwyn i ni allu gwneud rhagor o gynnydd a dod â chysondeb cynyddol i'r sector."

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion
Mae'r Cyd-undebau Llafur Addysg Bellach yn cynnwys: AMiE, ATL, GMB, NASUWT, UCAC, UCU, Unsain ac Unite

Elusen addysgol genedlaethol yw ColegauCymru / CollegesWales sy'n cynrychioli pob un o'r 15 coleg a sefydliad addysg bellach (AB) yng Nghymru.

Mae'r Contract Cenedlaethol yn berthnasol i golegau addysg bellach yng Nghymru. Mae'r ddau sefydliad addysg bellach sy'n gweithredu fel sefydliadau'r trydydd sector, sef WEA Cymru a Choleg Cymunedol y YMCA, y tu allan i'r cytundeb.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â

Sylvia Davies, 029 2052 8384 / 07968 771913 (ColegauCymru)
Rebecca Williams, 01970 639950 / 07787 572180 (Cyd-undebau Llafur)

Perchennog meithrinfa llawn ysbrydoliaeth, a chartref gofal yn Abertawe, yn ennill Gwobrau VQ Cymru

Dysgwraig ysgogol sy'n rhedeg ei meithrinfa ddwyieithog ei hun yn Sir Gaerfyrddin, a chartref gofal yn Abertawe, ddaeth i'r brig yng Ngwobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) Cymru heddiw (Mehefin 4).

Emma Thomas, 28, a sefydlodd Dechrau Disglair yn Sanclêr yn 2011 ac sydd bellach yn cyflogi 24 o staff ac yn gofalu am 35 o blant bob dydd o dan 7 oed, enillodd Wobr Dysgwr VQ y Flwyddyn, a barnwyd mai cartref gofal Cwrt Hengoed, sy'n berchen i Nicola a Tim Williams, yw Cyflogwr VQ y Flwyddyn.

Roedd y ddau ymhlith naw ar y rhestrau byrion a ddaeth i'r seremoni wobrwyo arbennig ar Gampws Nantgarw, Coleg y Cymoedd, ar Ddiwrnod VQ, ac roedd yn achlysur i ddathlu llwyddiannau pobl drwy addysg alwedigaethol yng Nghymru.

Roedd y gwobrau yn cyd-daro â chyhoeddi dau adroddiad newydd ar sgiliau. Datgelodd y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus na fu erioed cymaint o alw am gymwysterau galwedigaethol, gyda 3.6 miliwn o swyddi gwag medrus yn agor ledled y DU dros y 10 mlynedd nesaf.

Hefyd, mae adroddiad Arolwg Sgiliau Cyflogwyr Cymru 2013 yn cynnig tystiolaeth bod economi Cymru yn dechrau adfer ac yn tynnu sylw at y sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr ledled Cymru ac oddi mewn i sectorau a galwedigaethau.

Cyflwynwyd gwobrau VQ gan Ddirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Cymru, Ken Skates, ac estynnodd longyfarchiadau i bawb ar y rhestrau byrion am ragori ar eu taith ddysgu alwedigaethol. Galwodd hefyd ar gyflogwyr ac unigolion i gymryd camau cyfrifol ynghylch sgiliau o ystyried canfyddiadau'r ddau adroddiad.

"Y mis nesaf, byddwn yn lansio ein Cynllun Gweithredu Sgiliau, sy'n nodi'r camau y bwriadwn eu cymryd i ddatblygu sgiliau gweithlu Cymru a chynyddu'r lefelau o fuddsoddiad mewn sgiliau," meddai.

"Mae Diwrnod VQ yn fy atgoffa cymaint o gyflogwyr a dysgwyr Cymru sydd eisoes yn cymryd y cam ychwanegol hwnnw wrth ddatblygu sgiliau. Mae gwobr VQ yn fwy na dim ond gwobr; mae'n tystio i ymrwymiad tuag at eich dewis broffesiwn.

"Nid oes gennym unrhyw fwriad pregethu wrth y cadwedig, ond er mwyn i economi Cymru barhau i dyfu mae'n rhaid i ni sicrhau bod cyflogwyr, unigolion a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i fuddsoddi yn y sgiliau iawn i lwyddo."

Stori o gyrhaeddiad a chynnydd galwedigaethol yw un Emma. Gadawodd yr ysgol yn 16 oed i wireddu ei breuddwyd o redeg ei busnes gofal plant ei hun.

Yn 15 oed, dechreuodd weithio gyda phlant ag anghenion arbennig mewn clwb gwyliau, ac wedi hynny cafodd swydd fel cynorthwyydd dosbarth mewn ysgol gynradd, gan gwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gofal Plant o fewn blwyddyn.

Wedyn daeth yn arweinydd clwb ar ôl ysgol gan symud ymlaen i Brentisiaeth mewn Gofal Plant a'i chwblhau yn 2006 tra'n gweithio fel dirprwy reolwraig mewn meithrinfa.

Roedd yn benderfynol o sefydlu ei meithrinfa ei hun, ac aeth ati i brynu ac adnewyddu hen adeilad ysgol yn Sanclêr, gan weithio i amserlen dynn. Gan arwain ei thîm drwy esiampl, yn ddiweddar cwblhaodd Emma ei Prentisiaeth Uwch mewn Arweinyddiaeth Gofal Plant a Rheoli Datblygu ac mae'n annog ei holl staff i ddatblygu eu sgiliau ac ennill cymwysterau galwedigaethol.

Dwedodd Emma, a enwebwyd gan Maria Bradbourn, mentor hyfforddi a hyrwyddwyr dwyieithrwydd yng Ngwasanaeth Dysgu Gydol Oes a Hyfforddi Cyflogaeth Dinas a Sir Abertawe, fod y wobr yn "gyrhaeddiad personol gwych" a rhoddodd addewid y byddai'n parhau i ddysgu.

"Rwyf bob amser wrth fy modd yn gweithio gyda phlant ac rwy eisiau bod yn esiampl i fy nhîm," meddai. "I wneud yn siŵr fy mod yn darparu amgylchedd gofal plant o safon uchel iawn i deuluoedd, mae angen staff o ansawdd uchel arnaf sy'n gwella eu sgiliau yn gyson er mwyn cyflawni eu potensial."

Mae enillydd gwobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn, Cwrt Hengoed, sydd â gweithlu o 220, wedi datblygu enw da i'w hun ar sail ethos o hybu urddas, preifatrwydd, annibyniaeth a pharch, ac yn sail i hynny mae rhaglen gynhwysfawr o hyfforddiant a datblygu staff.

Ers iddo agor ym 1987, mae Cwrt Hengoed wedi cadw llawer o'i staff gwreiddiol, sy'n tystio i'r gefnogaeth a'r cyfleoedd y mae'r perchnogion yn cynnig. Bu Nicola a Tim Williams yn cydweithio â Choleg Gŵyr Abertawe dros y saith mlynedd diwethaf i ddarparu a chynnal amrywiaeth o gymwysterau achrededig er mwyn gwella sgiliau'r staff, eu cymell, eu grymuso a'u hysgogi.

Caiff dulliau gofal a hyfforddiant y cartref eu cydnabod gan ddarparwyr gofal eraill a'r awdurdod lleol yn Abertawe, ac maent yn ymweld â'r busnes i rannu arferion gorau.

Erbyn diwedd y flwyddyn, bydd yr holl staff arlwyo wedi eu hyfforddi i lefel y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FfCCh). Mae pob aelod uwch o staff wedi datblygu i lefel 3 FfCCh, a chyn hir bydd gan gant y cant o'r staff gofal gymhwyster FfCCh.

"Mae'r wobr hon yn gydnabyddiaeth o'r holl waith caled a'r ymdrech nad yw neb byth yn gweld," meddai Tim, gan ganmol y berthynas y mae'r busnes wedi ei datblygu â Choleg Gŵyr Abertawe

"Rydyn ni'n gweithio gyda llawer o bobl hyfryd, ac yn gofalu am lawer o bobl hyfryd, a hyfforddiant yw sylfaen ein busnes. Ein profiad ni yw bod dysgu yn sbardun i lawer o bethau a phan fydd pobl yn cyflawni, mae'n eu hysbrydoli i barhau i gyflawni.

"Caiff rhaglenni datblygu proffesiynol a phersonol eu defnyddio i alluogi'r staff i ddilyn llwybr dysgu er mwyn diwallu anghenion y cwmni, cwsmeriaid ac unigolion.

"Rydyn ni bob amser yn chwilio am hyfforddiant arloesol, fel cynnwys gwasanaeth cwsmeriaid a gofal dementia yn rhan o gymwysterau gofal cymdeithasol prif ffrwd, gan gyfuno gofynion statudol ac arferion gorau yn effeithiol."

Y rhai eraill ar restr fer Gwobr VQ y Flwyddyn oedd Matthew Edwards, prentis o gigydd gyda Chigydd Teuluol S. A. Vaughan, Pen-y-ffordd, ger Caer, a enwebwyd gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian, Ashleigh Zeta Jones a'r cogydd Rhys Sinfield, ill dau wedi eu henwebu gan Goleg Penybont, Corey Nixon a enwebwyd gan Goleg Gŵyr Abertawe ac Ebbi Ferguson a enwebwyd gan Goleg Sir Gâr, Llanelli.

Ar restr fer Cyflogwr VQ y Flwyddyn roedd darparwr gofal cartref Trusting Hands o Lyn Ebwy, a chwmni pobi llwyddiannus Village Bakery, Wrecsam.

Mae Diwrnod VQ yn cefnogi'r dyhead y dylai cymwysterau galwedigaethol ennyn yr un parch â llwybrau addysgol eraill. Daeth darparwyr o bob rhan o Gymru at ei gilydd i ddathlu Diwrnod VQ gan greu cyswllt â dysgwyr o bob oed drwy sesiynau blasu rhyngweithiol mewn amrywiaeth o sgiliau ar Gampws Nantgarw, Coleg y Cymoedd, a Champws Glannau Dyfrdwy, Coleg Cambria.

Caiff Diwrnod VQ a Gwobrau VQ eu cydlynu yng Nghymru gan GolegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a chânt eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Diwedd

Penawdau'r lluniau:
Dysgwr VQ y Flwyddyn, Emma Thomas (dde) a Chyflogwr VQ y Flwyddyn, Nicola a Tim Williams, perchnogion Cwrt Hengoed, Abertawe, gyda Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg (ail o'r dde).

Ynglŷn â Diwrnod VQ
Mae Diwrnod VQ yn cydnabod gwerth cymwysterau galwedigaethol ac yn dathlu cyraeddiadau galwedigaethol o ansawdd uchel. Mae i gymwysterau galwedigaethol o ansawdd uchel swyddogaeth allweddol yn y gymdeithas; maent yn rhoi i bobl ifanc y sgiliau, y profiad a'r llwybrau dilyniant clir sydd eu hangen arnynt i fwrw ymlaen.
Drwy ddathlu'r cyraeddiadau hyn a chyflwyno addysg ymarferol a galwedigaethol o ansawdd uchel yn gyfartal ochr yn ochr ag astudiaethau academaidd, byddwn yn sicrhau y caiff pobl ifanc gynnig y dewis o blith llawer o lwybrau at lwyddiant sy'n arwain at:

Astudiaethau pellach, e.e. prifysgol neu gymwysterau galwedigaethol pellach
Gwell rhagolygon swyddi ac opsiynau gyrfa perthnasol
Gwell sgiliau a gwybodaeth
Cyflogau uwch
Yr ysgogiad a'r ysbrydoliaeth i helpu i yrru economi'r DU yn ei flaen.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818.

Cystadlaethau newydd galwedigaethol a newyddiadurol i'r Eisteddfod

Ar 30 o Fai ar faes yr Eisteddfod, bu i gystadlaethau galwedigaethol a newyddiaduraeth newydd sbon gael eu lansio i gynnig arlwy ehangach i aelodau hŷn yr Urdd ar faes yr Eisteddfod. Bydd y cystadlaethau newydd fel trin gwallt ac adeiladu yn agored i gystadleuwyr yn Eisteddfod yr Urdd Caerffili a'r Cylch 2015, diolch i gydweithio â CholegauCymru.

Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Caerdydd sy'n cydweithio â'r Eisteddfod i gynnig y gystadleuaeth newyddiaduraeth newydd. Fel rhan o'r wobr am gyflwyno cynnwys newyddion gwreiddiol am eu hardal ar unrhyw stori y credent y dylai gael sylw yn y wasg, bydd yr enillydd yn treulio cyfnod fel newyddiadurwr ac ymchwiliwr gyda thîm Hacio a newyddiadurwyr Y Byd ar Bedwar ITV Cymru ar gyfer S4C.

Mae'r cyhoeddiadau yn rhan o strategaeth ehangach Urdd Gobaith Cymru o gydweithio ag asiantaethau newydd er mwyn cynnig manteision ac ehangu profiadau ein haelodau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gwnaed y bartneriaeth ym maes addysg bellach rhwng yr Urdd a CholegauCymru yn swyddogol wrth i ddau bennaeth y mudiadau arwyddo 'Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth' ar y maes ar 30 Mai 2014. Trwy gydweithio mae'n cadarnhau ymrwymiad y ddau gorff i gefnogi'r Gymraeg fel iaith gyfoes a pherthnasol i fywyd plant a phobl ifanc o dan 25 oed wrth barhau â'u haddysg bellach ac ymbaratoi at fyd gwaith.

Mae'r cyhoeddiadau yn ffrwyth llafur gwaith ymchwil ac argymhellion Gweithgor Eisteddfod yr Urdd a gyhoeddodd ei adroddiad nôl ym mis Rhagfyr 2013. Y nod a osodwyd i'r gweithgor oedd cynnig syniadau i ddatblygu'r ŵyl i'r dyfodol, wrth i'r Eisteddfod edrych tuag at ddathlu ei 100fed pen-blwydd.

Un o'r argymhellion rheiny oedd yr angen i ddatblygu syniadau a chystadlaethau mewn meysydd amgen gan gynnwys defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol a chystadlaethau galwedigaethol, a bod yr Urdd yn cysylltu gyda darlithwyr colegau addysg bellach er mwyn trafod posibiliadau o gydweithio i greu cystadlaethau perthnasol i'r sector hwn.

Yn siarad yn lansiad, dywedodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd: "Mae heddiw'n garreg filltir bwysig iawn i'r Eisteddfod a'r mudiad wrth i ni gyhoeddi cynlluniau cyffrous yn dilyn argymhellion Gweithgor yr Eisteddfod. Mae'n bwysig ein bod yn sicrhau ein bod yn parhau'n sefydliad blaengar, cynhyrfus sy'n cynnig yr ystod gywir o fanteision a chyfleoedd i'n haelodau trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Mae cyflwyno cystadlaethau newydd i'r Eisteddfod a chydweithio ymhellach ar gynlluniau eraill â CholegauCymru yn allweddol ym maes addysg bellach. Mae'n cryfhau ein cyswllt â phobl ifanc o bob cefndir ac yn agor y drws i gynnig arbenigedd 15 coleg a sefydliad addysg bellach i bobl ifanc yr Urdd. Gyda rhai colegau'n datblygu arbenigedd mewn meysydd fel peirianneg forol, y tir a thechnoleg bwyd, mae'r drws yn agored i bob mathau o fanteision i aelodau'r Urdd. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld y partneriaethau'n datblygu wrth i'r misoedd fynd heibio."

Yn ôl Aled Siôn, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod: "Mae'n wych o beth ein bod yn ehangu apêl yr Eisteddfod i'n pobl ifanc o dan 25 oed. Mae cydweithio â Choleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Caerdydd yn golygu y gallwn godi ymwybyddiaeth am y galw sydd am newyddiadurwyr sy'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Y gobaith yw y bydd y gystadleuaeth a'r wobr yn rhoi profiad bythgofiadwy i'r enillydd a chyfle iddynt ddatblygu eu sgiliau newyddiadurol, ieithyddol a digidol.

"Rydym yn ddiolchgar iawn i Goleg Cymraeg Cenedlaethol, Prifysgol Caerdydd a CholegauCymru am eu cefnogaeth i'r gwaith dros bobl ifanc," meddai Aled Siôn.

Yn ôl Glyn Jones, aelod o Fwrdd Colegau Cymru a Phrif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: "Trwy'r bartneriaeth newydd hon, edrychwn ymlaen at fedru cyflwyno cystadlaethau a naws a bwrlwm Cymraeg yr Urdd i fyfyrwyr coleg, a thrwy hynny, dod a'r gallu iddynt fyw eu bywydau yn y Gymraeg gam yn nes. Gyda tua dwy ran o dair o'r holl bobl ifanc dros 16 oed mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru yn mynychu coleg, mae'r drws sy'n agor yma heddiw yn ddrws llydan iawn."

Bydd manylion y cystadlaethau yn cael eu cyhoeddi yn y rhestr testunau a bydd angen i'r cynigion ddod i law erbyn 1 Mawrth 2015.

Diwedd

Cyswllt i'r wasg:
Sylvia Davies, ColegauCymru T: 029 2052 2500 S: 07968771913
Ffion Clwyd Edwards, pi-ar, 01745 550123 / ffion@pi-ar.co.uk / 07702 048184
Mali Thomas, yr Urdd S: 07976 330360 / mali@urdd.org

Nodiadau i Olygyddion

1. Ceir mwy o wybodaeth yma: Memorandwm Cyd-Ddealltwriaeth gyda'r Urdd: papur cefndir

2. Yn y llun: yn arwyddo'r Memorandwm mae Glyn Jones, aelod o Fwrdd ColegauCymru a Phrif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai, ac Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd. Yn y cefn: Dr John Graystone, Prif Weithredwr ColegauCymru; a Claire Roberts, Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd ColegauCymru.

Naw ar restr fer Gwobrau VQ Cymru

Dewiswyd naw i'r rowndiau terfynol o blith nifer o gynigion o ansawdd uchel yng Ngwobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) Cymru eleni.

Bydd tri chwmni yn cystadlu am Wobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn a bydd chwech unigolyn ar restr fer Gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo anrhydeddus a gaiff ei chynnal ar Fehefin 4, Diwrnod VQ, yng Ngholeg y Cymoedd, Nantgarw. Dathliad cenedlaethol yw Diwrnod VQ o bobl sydd wedi llwyddo ym myd addysg alwedigaethol yng Nghymru.

Yn dilyn llwyddiant Tomi Jones, Dysgwr VQ y Flwyddyn y llynedd a pherchennog Cigydd Jones's, Llangollen, mae cigydd ifanc arall o ogledd Cymru yn gobeithio y bydd ganddo'r arlwy o'r ansawdd uchaf eleni.

Cafodd Matthew Edwards, 22 oed, sy'n brentis o gigydd gyda Chigydd Teuluol S. A. Vaughan, Penyffordd, ger Caer, ei enwebu gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian, ac mae'n un o'r chwech ar y rhestr fer.

Yn ei erbyn ar y rhestr fer y mae Ashleigh Zeta Jones, 22 oed, a Rhys Sinfield, ill dau wedi eu henwebu gan Goleg Penybont, Corey Nixon a enwebwyd gan Goleg Gŵyr Abertawe, Ebbi Ferguson a enwebwyd gan Goleg Sir Gâr, Llanelli, ac Emma Thomas, perchennog meithrinfa yn Sanclêr, a enwebwyd gan Wasanaeth Dysgu Gydol Oes a Hyfforddiant Cyflogaeth Dinas a Sir Abertawe.

Diben Gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn yw rhoi cydnabyddiaeth i ddysgwyr sy'n dangos cynnydd a rhagoriaeth amlwg ym myd astudiaethau galwedigaethol ac a sicrhaodd gyraeddiadau sylweddol yn eu maes.

Yn cystadlu am Wobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn y mae cartref gofal Cwrt Hengoed, Abertawe, darparwr gofal cartref Trusting Hands, Glyn Ebwy, a Village Bakery, Wrecsam.

Mae Gwobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn yn rhoi cydnabyddiaeth i gyflogwyr sy'n hybu gwerth cymwysterau galwedigaethol yn y gweithle ac yn gwneud cyfraniad go iawn i wella sgiliau a'r gallu i gystadlu yn genedlaethol.

Menter a sefydlwyd gan elusen addysg annibynnol Sefydliad Edge yw Diwrnod VQ, a'i nod yw codi ymwybyddiaeth o'r rôl sydd i addysg dechnegol, ymarferol a galwedigaethol yn y gymdeithas ac yn economi'r Deyrnas Unedig.

Mae Diwrnod VQ yn cefnogi'r dyhead y dylai cymwysterau galwedigaethol, nad ydynt ar gyfer pobl ifanc yn unig, ennyn yr un parch â llwybrau addysgol eraill.

Dymunodd Ken Skates, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Cymru, bob llwyddiant i'r naw ar Fehefin 4. "Cymwysterau Galwedigaethol yw'r safon aur o ran rhagoriaeth broffesiynol a rhaid i ni sicrhau y cânt eu cydnabod ochr yn ochr â chymwysterau academaidd am eu gwerth i economi Cymru.

"Mae yng Nghymru gyfoeth go iawn o bobl ddawnus ac ymroddgar sydd wedi rhagori yn eu hastudiaethau galwedigaethol ac mae Diwrnod VQ yn gyfle i ni ddathlu eu cyraeddiadau. Mae gwobr VQ yn fwy na dim ond gwobr; y mae'n arwydd o ymroddiad tuag at eich dewis broffesiwn.

"Y mae hefyd yr un mor bwysig ein bod yn cydnabod rôl cyflogwyr yn y gwaith o hyrwyddo cymwysterau galwedigaethol yn y gweithle. Bydd eu cefnogaeth a'u hymrwymiad yn allweddol er mwyn i ni gyflawni ein huchelgais o greu Cymru sy'n fwy medrus."

Caiff darparwyr addysg ledled Cymru eu hannog i drefnu digwyddiadau rhanbarthol i ddathlu Diwrnod VQ a chreu cyswllt â dysgwyr o bob oed. Caiff Diwrnod VQ a Gwobrau VQ yng Nghymru eu cydlynu gan GolegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, a chânt eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Diwedd

Nodiadau i olygyddion:
Ynglŷn â Diwrnod VQ
Mae Diwrnod VQ yn cydnabod gwerth cymwysterau galwedigaethol ac yn dathlu cyraeddiadau galwedigaethol o ansawdd uchel. Mae i gymwysterau galwedigaethol o ansawdd uchel swyddogaeth allweddol yn y gymdeithas; maent yn rhoi i bobl ifanc y sgiliau, y profiad a'r llwybrau dilyniant clir sydd eu hangen arnynt i fwrw ymlaen.

Drwy ddathlu'r cyraeddiadau hyn a chyflwyno addysg ymarferol a galwedigaethol o ansawdd uchel yn gyfartal ochr yn ochr ag astudiaethau academaidd, byddwn yn sicrhau y caiff pobl ifanc gynnig y dewis o blith llawer o lwybrau at lwyddiant sy'n arwain at:

Astudiaethau pellach, e.e. Prifysgol neu gymwysterau galwedigaethol pellach
Gwell rhagolygon swyddi ac opsiynau gyrfa perthnasol
Gwell sgiliau a gwybodaeth
Cyflogau uwch
Yr ysgogiad a'r ysbrydoliaeth i helpu i yrru economi'r Deyrnas Unedig yn ei flaen.

Bydd y seithfed Diwrnod VQ ar ddydd Mercher, Mehefin 4, yn cydnabod gwerth cymwysterau galwedigaethol ac yn dathlu cyraeddiadau galwedigaethol.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818.

Gwobrwyo Colegau a Dysgwyr Arobryn

Mewn seremoni ddisglair yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ar 13 Mai, cafodd dysgwyr ac athrawon arobryn colegau Cymru eu cydnabod, ynghyd â phum coleg a wobrwywyd am ysgogi gwelliannau sydd o fudd i ddysgwyr.

Mae Gwobrau Blynyddol ColegauCymru yn cydnabod llwyddiannau eithriadol gan ddysgwyr, athrawon a cholegau ac unwaith eto bu ansawdd y ceisiadau ar gyfer y Gwobrau yn arbennig o uchel.

Dywedodd Dr John Graystone, Prif Weithredwr ColegauCymru: "Gyda'r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg Ken Skates AC yn cyflwyno araith gadarnhaol iawn i gynhadledd flynyddol ColegauCymru yn gynharach yr un diwrnod, gan ganmol ymrwymiad colegau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymunedau, yr oedd yn briodol bod y noson yn dod i ben gydag arddangosiadau o'r gorau o arferion ein colegau.

"Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr ac i'r rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer. Mae'r gwobrau hyn yn sicrhau bod arferion gorau yn cael cydnabyddiaeth haeddiannol. Mae'r gwobrau hefyd yn ganolog i ymdrechion parhaus y colegau i godi safonau drwyddi draw trwy ddysgu oddi wrth y gorau."

Yr enillwyr yw:

  • Dysgu ac Addysgu: Coleg Sir Gâr
  • Technoleg Sy'n Cynorthwyo'r Dysgu: Coleg Cambria
  • Cymraeg a Dwyieithrwydd: Coleg Ceredigion
  • Llais y Dysgwr: Coleg Gwent
  • Entrepreneuriaeth a Chyflogadwyedd: Grŵp Llandrillo Menai
Yn ogystal â'r pum categori o wobrau oedd yn agored i golegau, gwobrwywyd dau unigolyn arbennig: Dysgwr y Flwyddyn ac Athro y Flwyddyn.

Parhaodd Dr John Graystone: " Mae'n bwysig ein bod yn cofio bob amser mai diben colegau yw cefnogi dysgwyr i gyrraedd eu nodau. Mae athrawon rhagorol yn allweddol i alluogi dysgwyr gyflawni, ac mae'n iawn eu bod yn cael eu cydnabod ar y llwyfan cenedlaethol. Llongyfarchiadau i Dr Graham Hall o Goleg Meirion Dwyfor a enwyd yn Athro y Flwyddyn.

"Dysgwyr rhagorol, wrth gwrs, yw stori lwyddiant colegau. Llongyfarchiadau arbennig i Victoria Brand o Goleg Penybont a enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn yn erbyn rhestr fer gref iawn ochr yn ochr ag Alexandra Atkins o Goleg Gŵyr Abertawe a Dylan Evans o Chweched y Rhyl, Coleg Llandrillo.

Parhaodd Dr Graystone: "Mae Gwobrau ColegauCymru 2014 nid yn unig yn cydnabod y budd i ddysgwyr, ond hefyd yn cael eu cydnabod gan ystod eang o sefydliadau cenedlaethol uchel eu parch. Rydym yn falch iawn i fod wedi derbyn nawdd a chefnogaeth gref gan City & Guilds / ILM , JISC, Learndirect, NatWest Cymru, Pearson a Llywodraeth Cymru. "

Diwedd

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913
Nodiadau:
1. Mae lluniau o'r gwobrau ar gael o www.facebook.com/CollegesWales

2. Mae clipiau fideo yn amlygu prif nodweddion y rhai gyrhaeddodd rhestr fer Dysgwr y Flwyddyn ac Athro y Flwyddyn ar gael o www.youtube.com/ColegauCymru

Medalau Prydeinig i Bencampwyr Chwaraeon Cymru

Wales put on a top show at the British Colleges Sport National Championships at Bath University last weekend, with 200 competitors from ten of Wales' colleges giving it their all, and fourteen medals coming home.

The 200 students who made up the Welsh Colleges Sport team were among the 3,000 college students from across Britain who competed across 20 different sports at the outstanding sports facilities at the University of Bath sports village from 4 – 6 April. They brought back to Wales three gold, three silver and eight bronze medals, won across nine sporting disciplines.

Key highlight were the ladies rugby team retaining their 7s title for the 6th year in a row, Luke Simeone winning the highly competitive men's tennis and Danial Wood winning the Gold medal in trampolining.

ColegauCymru's Sports Coordinator, Rob Baynham, said: "This was one of the best performances by the Welsh Colleges team at the BCS National Championships in many years. Everyone gave 100%, and the support from staff and students for the whole team was outstanding, singing and cheering on their team mates throughout the championships.

"It was particularly pleasing to see that the Welsh side was a truly national side, with ten colleges represented in the Welsh team. It's also a testament to the dedication of our colleges in providing opportunities for a wide range of tastes and talents in that the Welsh team's medal haul spanned nine different sporting disciplines.

"Everyone involved should be proud of their efforts and I look forward to continued success at future championships."

Ends

Contact: Sylvia Davies on 029 2052 8384 or 07968 771913.

Notes to editors:

1. ColegauCymru / CollegesWales is a national educational charity that represents all 15 further education (FE) colleges and institutions in Wales. Its mission is to raise the profile of further education with key decision-makers to improve opportunities for learners in Wales. For further information about ColegauCymru / CollegesWales, and the colleges it represents, visit www.colegaucymru.ac.uk or www.collegeswales.ac.uk

2. The annual British Colleges Sport National Championships brings together the winners of national events in Wales and Scotland and regional events in England.

3. The Welsh Colleges Sport team won the following at the event:

Gold Medals
Ladies Rugby 7s – regional team, comprising students from Grwp Llandrillo Menai, Coleg Gwent, Coleg Sir Gâr, NPTC Group, Pembrokeshire College and Bridgend College
Men's tennis – Luke Simeone, Gower College Swansea
Men's Trampolining – Danial Wood, Coleg y Cymoedd

Silver Medals
Ladies Golf – Fauvre Birch, NPTC Group
Ladies Badminton – Aimee Moran, NPTC Group
Ladies Squash – Nia Kenward, Coleg Gwent

Bronze Medals
Ladies Table Tennis – Alexandra Evans, Coleg y Cymoedd
Ladies Tennis – Alice Scott, Coleg Cambria
Ladies Football - Cardiff and Vale College
Men's Trampolining – Conor Lees, Coleg Gwent
Men's Badminton – Adam Stewart, Coleg Cambria
Ladies Volleyball – Coleg y Cymoedd
Men's Volleyball – Coleg y Cymoedd
Men's Trampolining Team - Coleg y Cymoedd and Coleg Gwent, Crosskeys

4. In the photographs: top picture: Women's Rugby 7s; left picture: Danial Wood, right: Luke Simeone. More photographs are available from www.facebook.com/collegeswales

The Photos
Click here for the photographs of the medallists and competitors who made up the Welsh Colleges Sport team at the British Colleges Sport National Championships.

Mamau ifanc yw pencampwyr Cymru yn Her Arian am Oes, Banc Lloyds

Mae tîm o famau ifanc o Gaerdydd wedi'u coroni'n bencampwyr Cymru yn Her Arian am Oes y Lloyds Banking Group sy'n ceisio ysbrydoli cymunedau ledled y Deyrnas Unedig i feithrin gwell sgiliau trafod arian.

Y tîm Fashion on a Budget ddaeth i'r brig o blith pum tîm cryf yn rownd derfynol Cymru a gynhaliwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ddoe (dydd Mawrth). Yno, cawsant gyflwyno'u prosiect rheoli arian i banel o feirniaid o fri.

Tîm o ferched 17-19 oed o raglen wrth-dlodi Cymunedau Dwyrain Caerdydd, Llanedern a Phentwyn (ECLP) yw Fashion on a Budget ac aethant ati i greu sioe ffasiynau o'r enw 'Style yourself on a budget' gan ddefnyddio dillad wedi'u prynu o siopau elusen yn unig. Roedd y sioe'n mynd i'r afael â'r stigma sy'n aml yn gysylltiedig â phrynu dillad ail-law trwy ddangos bod pethau da i'w cael mewn siopau elusennau am brisiau fforddiadwy.

Cawsant £1,000 i'w roi i elusen o'u dewis nhw ac fe gafodd pob aelod o'r tîm dalebau siopa gwerth £50. Yn awr, byddant yn cynrychioli Cymru yn Rownd Derfynol Fawreddog Arian am Oes yng nghanolfan O2 yn Llundain ar 15 Mai. Yno, byddant yn cystadlu yn erbyn pencampwyr Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban am deitl prif enillwyr y flwyddyn.

"Rydyn ni wedi rhoi gymaint i'r prosiect hwn, roedden ni wrth ein bodd i ennill ac i gael cynrychioli Cymru yn rownd derfynol y Deyrnas Unedig," meddai Bethan Johnson, 19 oed, o Lanedern. "Mae'n hwb enfawr i'n hyder ni. Doedd gennym ni ddim syniad pa mor fawr yw'r gystadleuaeth."

Rhoddodd Bethan ac Amber Poole, 18, o Lynebwy, gyflwyniad i'r panel beirniaid. Roedd aelodau eraill y tîm, Louisha Ware, 17 oed, a Katie Renshaw, 19 oed, yn methu bod yno oherwydd salwch ac argyfwng yn y teulu.

Tîm arall a fydd yn cynrychioli Cymru yn Rownd Derfynol Fawreddog y DU fydd Broke but Beautiful o Goleg Pen-y-bont a enillodd Wobr y Bobl trwy bleidlais y gynulleidfa yn y rownd derfynol yng Nghaerdydd. Bu criw o fyfyrwyr yn gweithio ar brosiect i ddysgu pobl sy'n derbyn budd-daliadau sut i arbed arian ar ffasiwn a harddwch.

Gan feddwl pa mor bwysig yw edrych yn daclus wrth fynd i gyfweliadau am swyddi, roedd y prosiect yn ceisio hybu hyder pobl ddi-waith. Defnyddiwyd Facebook, Twitter a YouTube i hybu'r prosiect a chynhaliwyd stondin y tu allan i'r Ganolfan Waith leol i rannu awgrymiadau gyda phobl oedd yn chwilio am swyddi.

Yn ogystal, penderfynodd y beirniaid yn y fan a'r lle roi gwobr o £300 i Dîm Annibyniaeth Ariannol V21, sef grŵp o fyfyrwyr 23 a 24 oed o Vision 21, sy'n elusen yng Nghaerdydd. Fe wnaethon nhw greu gêm fwrdd i helpu oedolion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol i ddeall pethau fel adnabod darnau arian, costau byw, trefnu eu harian a chynilo.

Roedd 11 tîm yn cystadlu yn rownd derfynol Cymru. Sefydlwyd eu prosiectau ym mis Ionawr pan gawsant grant o £500 gan Arian am Oes i roi eu syniadau ar waith. Dewiswyd nhw i gyrraedd y rownd derfynol ar ôl dangos i feirniaid Her Arian am Oes bod y gallu ganddynt i wella eu sgiliau rheoli arian nhw eu hunain, a sgiliau eu ffrindiau, eu teuluoedd a hyd yn oed eu cymunedau hefyd.

Dywedodd David Rowsell, pennaeth Rhaglen Arian am Oes yn y Lloyds Banking Group: "Y peth a wnaeth yr argraff fwyaf ar y beirniaid oedd angerdd yr holl dimau dros ddweud wrth eraill beth yr oedden nhw wedi'i ddysgu. Mae mwy i'r rhaglen hon na chael pobl i ddysgu drostyn nhw'u hunain; mae'n rhoi pwyslais ar ddysgu pobl eraill, ymestyn i'r gymuned ac ysbrydoli pobl i feddwl yn wahanol am reoli arian.

"Gobeithio y bydd y rhaglen hon yn golygu bod y timau hyn yn cyflwyno'u hangerdd dros addysg ariannol i gymunedau ehangach am amser maith i ddod."

Caiff Her Arian am Oes ei chydlynu a'i chyflenwi gan ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Os hoffech ragor o wybodaeth am Her Arian am Oes, ewch i moneyforlifechallenge.org.uk, neu'r dudalen Facebook, www.facebook.com/moneyforlifeuk a Twitter, www.twitter.com/moneyforlifeuk.

Capsiynau:
Bethan Johnson (chwith) ac Amber Poole o dîm Fashion on a Budget a'r tlws a gawsant am ennill Rownd Derfynol Cymru yr Her Arian am Oes.

Y Cyflwynydd, Jason Mohammad, yn cael sesiwn goluro gyda Bethany Browning (dde) a Mary Thomas, o dîm Broke but Beautiful, Coleg Pen-y-bont a enillodd Wobr y Bobl yn Rownd Derfynol Cymru, Her Arian am Oes.

Diwedd


Addysgu Seiliedig ar Dystiolaeth yn Arwain y Ffordd yng Nghymru

Ar ôl mabwysiadu dull seiliedig ar dystiolaeth o droi at addysgu a dysgu, rhannodd holl golegau addysg bellach Cymru ganlyniadau eu hymchwil mewn cynhadledd genedlaethol yr wythnos diwethaf.

Troediodd rheolwyr, mentoriaid a darlithwyr y colegau i'r llwyfan i gyflwyno canfyddiadau eu hymchwil yn y gynhadledd yn Theatr Hafren, y Drenewydd ar 27 Mawrth 2014, dan drefniant ColegauCymru a chyda cymorth ariannol Llywodraeth Cymru.

Canolbwyntiodd yr ymchwil, a gynhaliwyd fel arbrofion yn y dosbarth gyda chymorth, ar heriau y mae'r sector addysg cyfan yn eu hwynebu. Roedd y gyfres o arbrofion a gynhaliwyd yn cynnwys:

  • Asesu gan gymheiriaid, hunanasesiad, a gwahanol ddulliau o roi adborth
  • Dulliau dysgu gweithgar a sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei ymestyn a'i herio i gyrraedd eu potensial.
  • Datblygu llythrennedd, rhifedd a sgiliau meddwl o radd uwch
  • Technolegau symudol a dysgu mewn 'ystafell ddosbarth i'r gwrthwyneb' (flipped classroom).

Mae'r colegau nawr yn rhannu'r gwersi a ddysgwyd ganddynt trwy setiau newydd o adnoddau sy'n cynnwys:

  • Pecynnau cymorth ar gyfer rhifedd ac asesu a chynllun marcio llythrennedd
  • Llyfrynnau o astudiaethau achos, fideos o arfer yn yr ystafell ddosbarth a phlatfform ar-lein ar gyfer adnoddau
  • Cynhadledd a gweithdai i ledaenu arfer dda.

Dywedodd Cydlynydd Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu ColegauCymru a threfnydd y gynhadledd, Julie Lewis: "Mae yna gywirdeb newydd i addysgu a dysgu yng ngholegau Cymru erbyn hyn. Ers y gynhadledd genedlaethol gyntaf ar addysgu a dysgu a drefnwyd gan ColegauCymru ddwy flynedd yn ôl, mae'r colegau wedi bod yn gweithio'n fwy cydlynol gyda'i gilydd gan rannu eu canfyddiadau a chan nodi arfer da. Yn ogystal, rydym wedi cyflwyno i Gymru golegau o Loegr sydd wedi cyflawni rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu yn ogystal ag awduron, meddylwyr a gwneuthurwyr adnabyddus.

"Prif gryfder y mentrau hyn yw bod systemau ac arferion yn gwella ar draws y colegau i gyd gydag uwch reolwyr, penaethiaid adrannau, mentoriaid a thiwtoriaid i gyd yn gweithio i'r un nod.

"Yn ogystal, rydym wrth ein boddau o weld y sector addysg bellach ehangach – gan gynnwys canolfannau Cymraeg i Oedolion, ysgolion a darparwyr dysgu yn y gwaith yng Nghymru a Lloegr - yn defnyddio'r cyfleoedd hyn hefyd i wella'u harferion eu hunain."

Mae'r sector wedi cael cefnogaeth gref gan Gangen Polisi Ansawdd ac Effeithiolrwydd Llywodraeth Cymru. Cronfa Gwella Ansawdd Llywodraeth Cymru alluogodd colegau i ymgymryd ag arbrofion a gefnogir, ac ariannodd hefyd y gynhadledd ledaenu'r wythnos diwethaf.

Wrth siarad yn y gynhadledd, dywedodd Joanne Miles, ymgynghorydd addysgol sydd wedi gweithio gyda holl golegau Cymru i gynllunio'u harbrofion a gefnogir yn ogystal â chyda nifer o golegau yn Lloegr: "Mae'r gwaith o archwilio dulliau seiliedig ar dystiolaeth a'r ddeialog broffesiynol yng ngholegau addysg bellach Cymru ar addysgu mewn dysgu wedi creu argraff fawr arnaf. Yn benodol, mae ethos cryf o ddidwylledd wrth rannu adnoddau'n dangos aeddfedrwydd a gweledigaeth darlun mawr nad wyf wedi'i weld yn unrhyw le arall.

"Prosiectau ar y cyd, ymchwil weithredu, cymunedau dysgu proffesiynol, datblygu arbenigedd hyfforddi a chronfa o adnoddau ymarferwyr sy'n cael eu rhannu trwy'r rhwydwaith: mae cryn dipyn wedi'i gyflawni yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd Cymru bellach yn ystyried meithrin cysylltiadau y tu hwnt i'w ffiniau er mwyn gallu tyfu'r arbenigedd proffesiynol ymhellach ac er mwyn i hyd yn oed mwy o ddysgwyr allu elwa ar y dull seiliedig ar dystiolaeth mewn addysgu a dysgu."

Diwedd

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.

Nodiadau i olygyddion:

1. Elusen addysg cenedlaethol yw ColegauCymru sy'n cynrychioli'r 15 coleg/sefydliad addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru a'r colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk.uk


Y dasg o ddod o hyd i'r Tîm Rheoli Arian Gorau yng Nghymru'n Dwysau

Mae pobl ifanc ledled Cymru wedi bod yn rhoi eu syniadau ar reoli arian ar waith yn eu cymunedau, ac mae'r 11 prosiect gorau wedi mynd trwyddo i Rownd Derfynol Genedlaethol Cymru o gystadleuaeth fawreddog.

Mae'r 11 syniad wedi dod o grwpiau amrywiol o bobl ifanc, gan gynnwys tenantiaid mewn tai cymdeithasol, dysgwyr sy'n ceisio dechrau yn y farchnad lafur, gweithwyr ifanc a grŵp Cymunedau yn Gyntaf. Yr hyn sydd ganddynt yn gyffredin yw eu bod nhw i gyd yn bobl ifanc sy'n gwella sgiliau rheoli arian eu cyfoedion a'u cymunedau – ac wrth gwrs, nhw eu hunain.

Mae pob un ohonynt yn cystadlu am yr Her Arian am Oes – cystadleuaeth ledled y DU gan Fanc Lloyds a reolir yng Nghymru gan GolegauCymru / CollegesWales ar y cyd â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.

O'r 11 tîm gorau, bydd pump ohonynt yn cystadlu i gael eu henwi'n Enillydd Cenedlaethol Cymru yn Rownd Derfynol Genedlaethol fawreddog Cymru a gynhelir yn y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama ar ddydd Mawrth 8 Ebrill 2014. Dyma nhw:

  • ARiAN [Apprentice Resources in A Nutshell] - tîm o brentisiaid 16 i 20 oed o John Lewis yng Nghaerdydd a greodd rwydwaith ar-lein i godi ymwybyddiaeth o reolaeth arian llwyddiannus i brentisiaid ifanc a dyluniwyd a lansiwyd tudalen we a blog ganddynt i gynnwys cynghorion rheoli arian
  • Cadwyn Money Smart - tîm o denantiaid 16 i 21 oed o Gymdeithas Tai Cadwyn, a greodd ffilm fer i rannu gwybodaeth am wasanaethau sy'n rhoi cyngor ar gynilo, cyllidebu a benthyciadau i bobl ifanc eraill yn eu cymunedau
  • Fashion on a Budget - tîm o bobl 16 i 19 oed o Gymunedau yn Gyntaf Dwyrain Caerdydd, Llanedern a Phentwyn, sef Rhaglen Gwrthdlodi yng Nghanolfan Gymunedol Trowbridge. Creodd y grŵp sioe ffasiynau'n dwyn y teitl 'Style yourself on a budget', a oedd yn cynnwys dillad a brynwyd dim ond o siopau elusen i fynd i'r afael â'r gwarthnod sydd yn aml ynghlwm â phrynu dillad ail law ac i arddangos ansawdd nwyddau siop elusen am brisiau y gellir eu fforddio
  • Money Monkeys - tîm o ddysgwyr o ITEC sydd wedi sefydlu prosiect ymwybyddiaeth ariannol gyda'r nod o roi i bobl ifanc y wybodaeth a'r sgiliau y mae arnynt eu hangen wrth iddynt ddatblygu'n oedolion
  • V21 Financial Independence Team – tîm o fyfyrwyr 23 i 24 oed o Vision 21, sef elusen seiliedig ar iechyd, a greodd gêm fwrdd rheoli arian gweledol i helpu oedolion gydag anghenion dysgu i ddeall materion fel adnabod darnau arian, cost byw, cyllidebu a chynilo arian

Ochr yn ochr â'r pump sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, bydd chwe thîm ychwanegol yn cystadlu am Wobr y Bobl. Dyma nhw:

  • Bejewelled Glitz (Randomz – Canolfan Cwmbrân i Bobl Ifanc)
  • Broke but Beautiful (Coleg Penybont)
  • Byte Back on a Budget (Coleg Penybont)
  • Educating Others (Coleg Cambria)
  • Engage 2 Change (E2C) (Cyngor Sir Fynwy)
  • The £ Factor (Coleg Penybont)

Bydd Enillydd Cenedlaethol Cymru a thîm buddugol Gwobr y Bobl yn cynrychioli Cymru yn Rownd Derfynol Her Arian Am Oes y DU yn Arena O2 yn Llundain ar 15 Mai. Bydd £1,000 yn cael ei wobrwyo hefyd i'r tîm buddugol ei roi i'r elusen o'u dewis a bydd pob aelod o'r tîm yn cael talebau siopa gwerth £50.

Dywedodd Rheolwr y Rhaglen Arian am Oes yng Nghymru, sef Rachel Dodge, ColegauCymru: "Rydw i wrth fy modd fod yr Her Arian am Oes yng Nghymru'n fwy ac yn well nag erioed eleni.

"Mae mwy o grwpiau wedi'u hariannu i ddatblygu prosiectau rheoli arian, ac mae'r grwpiau sydd wedi cymryd rhan yn yr Her Arian am Oes yn fwy amrywiol. Rydym wedi gweld llawer o syniadau newydd eleni, ac mae'r gystadleuaeth wir wedi camu i fyny i lefel uwch.

"Diolch i bawb a gyflwynodd eu syniadau. Da iawn i bob un o'r timau sydd wedi cyrraedd y lefel hon yn y gystadleuaeth a phob lwc i bob un tîm wrth iddynt baratoi ar gyfer Rownd Derfynol Genedlaethol Cymru ar 8 Ebrill."

Diwedd

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.

Nodiadau i olygyddion:mru ar 8 Ebrill."

1. Elusen addysg cenedlaethol yw ColegauCymru sy'n cynrychioli'r 15 coleg/sefydliad addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru a'r colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk
2. Her Arian am Oes: Cystadleuaeth genedlaethol yw Her Arian am Oes sy'n rhoi grantiau o £500 i roi grym i dimoedd sydd ag ystod oed 16-24 sydd mewn addysg bellach, dysgu yn y gweithle, dysgu yn y gymuned neu dysgu gyda menter hyfforddi, ag sy'n medru cynnal tim a chynnig am un o'r 300 grant i redeg prosiect rheoli arian yn y gymuned leol.

Crewyd yr Her Arian am Oes mewn ymgynghoriad ag addysg bellach a phartneriaid cymunedol: ColegauCymru, Ffederasiwn Genedlaethol Hyfforddiant Cymru, National Skills Academy for Financial Services, Toynbee Hall, College Development Network, Young Scot a NOW.

ColegauCymru sy'n rheoli'r Her yng Nghymru, mewn partneriaeth a Ffederasiwn Genedlaethol Hyfforddiant Cymru.

Bu i Arian am Oes dderbyn canmoliaeth uchel yng Ngwobrau Rhagoriaeth 2012 Busnes yn y Gymuned, a bu iddo dderbyn sylw arbennig yng Ngwobrau Cymheiriaid 2013 papur newydd yr Independent.

Pencampwyr Rygbi Merched Cymru'n Barod i Amddiffyn Teitl Prydain

Mae pencampwyr presennol Prydain, sef tîm Merched Colegau Cymru'n edrych ymlaen at berfformiad arbennig eto ym Mhencampwriaeth Colegau Prydain sydd ar ddod, diolch i bartneriaeth newydd gydag Undeb Rygbi Cymru a hyfforddiant o'r radd flaenaf gan chwaraewyr rhyngwladol Cymru.

Mae tîm Rygbi Merched Colegau Cymru wedi ennill Cwpan Pencampwriaeth Cenedlaethol Colegau Prydain bum mlynedd yn olynol. Mae'r sgwad newydd sydd wrthi'n hyfforddi ar gyfer Pencampwriaeth Colegau Prydain 2014 - a fydd yn dechrau ar 4 Ebrill ym Mhrifysgol Caerfaddon - yn ffodus o gael cronfa doniau mwy o faint, gwell cyfleusterau a mwy o hyfforddwyr ar lefel rhyngwladol.

Ers i Undeb Rygbi Cymru ddechrau cefnogi rygbi merched mewn colegau 18 mis yn ôl ochr yn ochr â buddsoddiad y colegau eu hunain trwy Chwaraeon Colegau Cymru, mae rygbi wedi mynd yn ddewis mwyfwy poblogaidd ymhlith merched ifanc yn y coleg.

Mae dwy o'r prif hyfforddwragedd, sef Jenny Davies o Grŵp Llandrillo Menai a Gemma Hallett o Goleg y Cymoedd, yn chwarae i dîm rhyngwladol Cymru yn ogystal â bod yn ddarlithwyr chwaraeon. Gyda 61 cap i'w henw, Jenny sydd â'r nifer fwyaf o gapiau yn y sgwad fydd yn chwarae yn y gêm Cymru v Alban yn Aberafon ddydd Sul. Bu'n brif hyfforddwraig ar dîm Colegau Cymru er 2005 ac mae hi'n gweld bod y grŵp cyfredol o chwaraewyr wedi elwa llawer o'r bartneriaeth diweddar.

Gan siarad yn sesiwn hyfforddi'r sgwad ddoe yn Academi Chwaraeon Llandarsi, dywedodd: "Mae'r tymor hwn wedi gweld cynnydd aruthrol yn y nifer o ferched sy'n dod i gael eu dewis, sy'n rhoi cyfle i ni i adeiladu ar lwyddiant y gorffennol ym Mhencampwriaethau'r BCS. Bu nifer o aelodau sgwad Merched Cenedlaethol Cymru gynt yn chwarae i Golegau Cymru neu yn gweithio mewn colegau, gan roi i'r tîm presennol modelau-rôl arobryn. Maen nhw'n cynnwys Rebecca DeFilippo, Catrina Nicholas, Fion Evans, Mored Evans, Delyth Davies, Eliie Norkett, Kerin Lake and Fion Jones."

Dywedodd Ben Rose, Rheolwr Datblygu Rhanbarthol Undeb Rygbi Cymru: "Mae rygbi merched yn faes sydd wir yn tyfu ledled y byd, yn enwedig ers cyflwyno rygbi saith bob ochr yn rhaglen y Gemau Olympaidd. Mae'r flwyddyn hon yn flwyddyn Cwpan Rygbi Merched y Byd hefyd ac mae gan nifer o ferched coleg gyfle go iawn i chwarae yn y twrnamaint yn Ffrainc.

"Mae tîm y Colegau'n sbringfwrdd gwych i'r merched gael blas o rygbi cynrychioliadol. Mae Undeb Rygbi Cymru'n gweithio ochr yn ochr gyda Chwaraeon Colegau Cymru i gynnig cyfleoedd i ferched gynrychioli'r wlad.

"Mae'r bartneriaeth hefyd yn rhoi cyfle i ferched gymryd rhan mewn digwyddiadau rhyng-golegol. Mae rhaglen y Colegau'n cynnig cyfleoedd am rygbi, saith, deg a 15 bob ochr."

Dywedodd Rob Baynham, Cydlynydd Chwaraeon ColegauCymru: "Mae partneriaeth gyflenwol cefnogaeth ragweithiol Undeb Rygbi Cymru a hyfforddwyr arbenigol colegau addysg bellach yn cael effaith fawr ar ddatblygu rygbi i ferched sy'n fyfyrwyr mewn AB.

"Gyda hyfforddiant o'r lefel uchaf, darpariaeth cyfleusterau hyfforddiant arbenigol a mentrau newydd gan gynnwys rygbi cyffwrdd cymysg, bu cynnydd dramatig yn y nifer sy'n dilyn y gamp y tymor hwn. Dengys y bartneriaeth fod merched ifanc yn cymryd rhan mewn chwaraeon o gael yr amgylchedd iawn.

"Rydym yn edrych ar gronfa bosibl o chwaraewyr rhyngwladol Cymru ac athrawon Addysg Gorfforol a hyfforddwyr rygbi i'r dyfodol fan hyn. Mae'n gam cryf ymlaen wrth ddatblygu Cymru i fod yn wlad o fenywod ifanc mewn chwaraeon."

"Dymunaf bob llwyddiant i'r sgwad wrth iddo baratoi i amddiffyn ei deitl ym Mhencampwriaeth Colegau Prydain."

Diwedd

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.

Nodiadau i olygyddion:

1. Elusen addysg cenedlaethol yw ColegauCymru sy'n cynrychioli'r 15 coleg/sefydliad addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru a'r colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk

2. Mae Welsh Colleges Sport yn dod a cholegau addysg bellach Cymru ynghyd dan ymbarel ColegauCymru i drefnu rhaglenni tymor ac i gynyddu cyfranogaeth mewn chwaraeon.

3. Bydd y BCS National Championships, y pencampwriaeth blynyddol aml-chwaraeon fwyaf o'i math, yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Bath o 4-6 Ebrill 2014. Mae'r pencampwriaethau yn cynnwys mwy na 2,000 o fyfyrwyr a staff o golegau addysg bellach Cymru, Lloegr a'r Alban gan gystadlu mewn 14 o chwaraeon gwahanol.

Cytuno ar y cydbwysedd: creu cymunedau diogel mewn colegau

Colegau addysg bellach Cymru yw'r cyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddod ynghyd gyda'r nod o sicrhau bod cymunedau'r colegau yn lleoedd ble mae dysgwyr yn rhydd i ffurfio a chofleidio eu hunaniaeth a'u credoau eu hunain, yn ogystal â bod yn lleoedd i fyw a dysgu yn ddiogel heb niwed.

Yn y gynhadledd gyntaf o'i bath, a drefnwyd gan GolegauCymru, Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau (BIS) Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac Uned Eithafiaeth a Gwrth-Derfysgaeth Cymru (WECTU), gyda chymorth Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a'r heddlu, bu'r holl bartneriaid yn cydweithio i ddatblygu dealltwriaeth a diben cyffredin wrth greu cymunedau dysgu diogel i staff a dysgwyr mewn colegau addysg bellach.

Gymaint oedd effaith y gynhadledd, diolch i'r partneriaethau cryf a'r ystod o randdeiliaid a ddaeth at ei gilydd, mae BIS nawr yn gobeithio y daw'r gynhadledd hon yn dimpled i weddill y Deyrnas Unedig.

Mae colegau yn darparu amgylchedd dysgu cynhwysfawr a chynhwysol iawn. Maent yn dangos balchder yn eu hamrywiaeth a'u cynhwysiant cymdeithasol. Maent hefyd yn rhoi pwyslais mawr ar ofal bugeiliol a diogelu dysgwyr, yn arbennig rhai sydd o dan 18 oed ac oedolion agored i niwed.

Ar adeg pan fo bygythiadau terfysgwyr yn aml yn y newyddion a phan all ffrindiau a gelynion fel ei gilydd gael eu hamau a'u dilyn, mae gwir angen asesu'r cwestiwn o gydbwysedd rhwng caniatáu rhyddid i ddysgwyr ar y naill law – rhyddid i fod yn wahanol, i fod yn arbrofol, i fod â barn gref a chael syniadau heriol; ac, ar y llaw arall, cadw dysgwyr yn ddiogel rhag camfanteisio, bwlio, meithrin perthynas amhriodol, eithafiaeth, aflonyddu, trosedd casineb a thrais.

Meddai Katy Burns, Cydlynydd Rhwydwaith Gwasanaethau Myfyrwyr ColegauCymru, a chyd-drefnydd y gynhadledd lwyddiannus: "Mae mynd i'r coleg yn brofiad o dyfu fyny i lawer o bobl ifanc. Mae'n gyfnod ffurfiannol yn eu bywyd pan maen nhw'n dechrau ystyried ffyrdd newydd o feddwl ac arbrofi â hunaniaeth sy'n datblygu. Mae'r datblygiad hwn yn rhan o'r profiad dysgu ac mae i'w groesawu.

"Tra bo gan ddysgwyr ryddid i edrych ar ffyrdd newydd i feddwl a chredu, mae gwarcheidwadaeth cyfrifol am eu cymunedau dysgu hefyd yn ddyletswydd ar golegau. Rhaid iddyn nhw hefyd ddiogelu dysgwyr rhag dod o dan ddylanwad eithafiaeth neu achosion o fwlio, aflonyddu, camddefnyddio sylweddau, camfanteisio a thrais.

"Diben y gynhadledd oedd sicrhau bod yr holl asiantaethau perthnasol yn ogystal â rheolwyr y colegau yn cydweithio i roi mewn lle y mesurau angenrheidiol i daro'r cydbwysedd priodol.

"Bu'r gynhadledd yn edrych ar arferion da sydd eisoes yn bodoli yng ngholegau Cymru a nodwyd y meysydd hynny lle y byddai cael cynllun gweithredu cenedlaethol mwy cydlynol yn helpu."

Meddai John Graystone, Prif Weithredwr ColegauCymru: "Yn dilyn y gynhadledd, bydd ColegauCymru yn awr yn ceisio llunio pecyn cymorth o arferion da ac adnoddau dysgu wedi'u teilwra, a chynorthwyo yn y gwaith o hyfforddi staff a dysgwyr. Bydd hwn yn cyflenwi'r gwaith sydd eisioes ar waith gan Lywodraeth Cymru ar adolygu ei arweiniaid i golegau addysg bellach ar rwystro eithafiaeth treisgar.

"Y nod yw sicrhau bod gan gymunedau dysgu ledled Cymru y wybodaeth a'r hyder i ddiogelu'n briodol a hynny mewn amgylchedd rhydd."

Diwedd

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.

Nodiadau i olygyddion:

1. Elusen addysg cenedlaethol yw ColegauCymru sy'n cynrychioli'r 15 coleg/sefydliad addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru a'r colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk

2. Cynhaliwyd y gynhadledd, "Cymunedau Diogel Mewn Colegau" ar ddydd Iau 13 Chwefror 2014 yng Ngwesty'r Hilton, Caerdydd.

3. Partneriaid trefnu'r gynhadledd: ColegauCymru, Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau (BIS) Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Uned Eithafiaeth a Gwrth-Derfysgaeth Cymru (WECTU). Cefnogwyd y gynhadledd gan Lywodraeth Cymru.

4. Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r arweiniaid gyflwynodd yn 2011 i golegau addysg bellach ar rwystro eithafiaeth treisgar: "Creu Cymunedau Dysgu Diogel". Fe'i cyoeddir yma: http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/publications/guidance/safelearning/?skip=1&lang=cy

Ehangu Dilyniant Addysg Cyfrwng Cymraeg

Mae prosiect ar droed i wella cyfleoedd i fyfyrwyr bontio o addysg bellach i addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg, diolch i bartneriaeth rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a CholegauCymru.

Mae pum coleg addysg bellach o bob cwr o'r wlad wedi llwyddo yn eu ceisiadau am nawdd oddi wrth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddatblygu prosiectau peilot.

Bwriada'r prosiectau peilot dargedu ystod o sectorau galwedigaethol gan ddatblygu deunyd diau penodol ar gyfer cyrsiau cyfrwng Cymraeg newydd megis troseddeg, gwyddorau cymdeithasol a gofal plant. Byddant hefyd yn paratoi gweithgareddau i roi blas i fyfyrwyr addysg bellach o'r hyn sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yn y prifysgolion.

Disgwylir y bydd deilliannau'r prosiectau yn medru buddio myfyrwyr y tu hwnt i'r pum coleg sy'n rhan o'r cynllun, sef: Y Coleg Merthyr Tudful, Coleg Sir Gâr, Coleg Cambria, Coleg Penybont a Grŵp Llandrillo Menai.

Mae'r prosiectau peilot hyn yn rhoi ar waith y Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a ColegauCymru a arwyddwyd yn yr haf. Prif amcan y Memorandwm yw i gryfhau llwybrau astudio cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr addysg bellach sy'n symud ymlaen i addysg uwch.

Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: "Mae'r memorandwm wedi bod yn bwynt cychwynnol da i ni gryfhau'r berthynas rhwng y prifysgolion a'r sector addysg bellach. Trwy'r prosiectau peilot hyn, ac yng nghyd-destun Cynllun Academaidd y Coleg a Strategaeth Addysg Gymraeg y Llywodraeth, rydyn ni yn edrych at gryfhau'r llwybrau dilyniant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i'r brifysgol ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd yn astudio mewn sefydliadau addysg bellach."

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, John Graystone: "Mae buddion amlwg mewn cydweithio gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ehangu cyfleoedd i fyfyrwyr addysg bellach sy'n medru'r Gymraeg. Mae'r colegau addysg bellach i gyd yn awyddus i wella cyfleoedd dwyieithog a chyfrwng Cymraeg i'w dysgwyr a diolchwn i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am noddi'r prosiectau peilot hyn.

"Rydw i'n awyddus i weld y prosiectau ar waith ac i weld, maes o law, myfyrwyr yn symud ymlaen i addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn hyderus dan gefnogaeth y ddau sector."

Diwedd

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.

Nodiadau i olygyddion:

1. Elusen addysg genedlaethol yw ColegauCymru sy'n cynrychioli'r 16 coleg/sefydliad addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru a'r colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk

2. Yn y llun: cynrychiolwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a CholegauCymru yn y seremoni lofnodi'r Memorandwm yn Eisteddfod Genedlaethol 2013.

Penodi Cydlynydd Chwaraeon ar gyfer Colegau Cymru


Robert Baynham
Cydlynydd Chwaraeon AB Cymru

Ffôn: 029 2052 8397
Mae penodiad i'r swydd newydd, Cydlynydd Chwaraeon ar gyfer colegau addysg bellach yng Nghymru wedi ei wneud. Nodau allweddol y swydd yw datblygu cyfleoedd chwaraeon ymhellach a chynyddu cyfranogiad mewn ffordd o fyw actif, yn enwedig ymhlith pobl ifanc 16-24 oed, a gyda ffocws arbennig ar ferched.

Robert Baynham, gynt yn Reolwr Chwaraeon Myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ac Ysgrifennydd Welsh Colleges Sport, sydd wedi ei benodi i'r swydd gan ColegauCymru. Mae'r swydd yn cael ei gefnogi yn ariannol gan Chwaraeon Cymru.

Mae colegau addysg bellach Cymru yn cynnig amrywiaeth eang o chwaraeon ac yn buddsoddi miloedd o oriau gwirfoddol i drefnu gemau cenedlaethol a rhyngwladol trwy Welsh Colleges Sport. Mae dysgwyr yn cael cyfleoedd i gystadlu mewn cynghreiriau rhyng-golegol, yn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Colegau Prydain a chynghreiriau a chwpanau eraill ar lefel Cymru, y DU gyfan, ac yn cynrychioli colegau Cymru ar lefel ryngwladol.

Prif amcanion rôl y Cydlynydd Chwaraeon AB yng Nghymru yw codi proffil Welsh Colleges Sport, cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon benywaidd a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, a datblygu cyfleoedd newydd i wirfoddoli mewn chwaraeon yn AB.

Dywedodd Uwch Swyddog Chwaraeon Cymru, Carwyn Ifanc: "Rydym yn falch o fod yn dechrau ar y berthynas newydd cyffrous gyda ColegauCymru. Bydd y rôl newydd yn chwarae rhan hanfodol wrth adeiladu ar y gwaith cydweithredol yr ydym eisioes yn ei wneud gydag addysg lefel gynradd ac uwchradd. Rydym wedi adnabod potensial sylweddol yn y sector addysg bellach i'n helpu i gyflawni ein huchelgais o gynyddu cyfleodd chwaraeon i bobl ifanc, a gan hynny, cyfleoedd i ddilyn ffordd iach, actif o fyw. Rydym yn edrych ymlaen at weld cynnydd mewn lefelau cyfranogiad, yn benodol ymhlith y grwpiau hynny megis merched, sydd yn draddodiadol wedi bod yn anoddach eu cyrraedd."

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, John Graystone: "Rwy'n falch iawn o groesawu Robert Baynham i'r swydd newydd bwysig hon. Daw Rob ag 20 mlynedd o brofiad rheoli a datblygu chwaraeon mewn colegau addysg bellach. Yr wyf yn hyderus y bydd Rob Baynham yn medru cael gafael trwydadl o'r gwaith o'r cychwyn cyntaf a gwneud gwahaniaeth ar unwaith yn nhrefniant chwaraeon yn y colegau ar lefel genedlaethol."

Dywedodd Rob Baynham: "Am flwyddyn wych i ddechrau mewn swydd newydd sbon mewn chwaraeon. Ar ben y gemau blynyddol, cynghreiriau a Phencampwriaeth Cenedlaethol Colegau Prydain, byddwn yn gweld llwyfannu Pencampwriaeth Athletau Ewrop IPC yn Abertawe a Gemau'r Gymanwlad yn dod i Glasgow.

"Mae ymwybyddiaeth hefyd yn cynyddu bod angen i ni ddatblygu mwy o gyfleoedd a fydd yn annog menywod ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol. Mae colegau Cymru yn awyddus i chwarae eu rhan wrth gefnogi menywod ifanc i ddatblygu ffordd o fyw mwy actif.

"Mae hwn yn her gyffrous ac yn gyfle i adeiladu ar ardal o chwaraeon sydd â photensial enfawr i ddatblygu. Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda chydweithwyr yn y colegau ac yn Chwaraeon Cymru i ehangu cyfleoedd mewn chwaraeon. "

Diwedd

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.

Nodiadau i olygyddion:

1. Elusen addysg cenedlaethol yw ColegauCymru sy'n cynrychioli'r 15 coleg/sefydliad addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru a'r colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk

Yr Esgid yn Gwasgu ar Golegau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dyraniadau cyllid y flwyddyn nesaf ar gyfer colegau addysg bellach ac yn ôl y disgwyl, bydd yn setliad anodd i'w rheoli, gyda thoriadau newydd wedi eu hychwanegu at doriadau a wnaed eisoes eleni.

Mae'r cyllid a ddyrennir i golegau a sefydliadau addysg bellach Cymru ar gyfer 2014/15 yn cyfateb i £305 milliwn. Mae hwn yn doriad o £5 miliwn o gymharu â'r llynedd. Gan ychwanegu at y £2.5 miliwn o doriadau a wnaed yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol, mae'r sector yn mynd i golli £7.5 miliwn dros ddwy flynedd yn nhermau arian parod.

Mae'r toriad mewn termau real yn amlwg yn fwy o ganlyniad i chwyddiant, cyfarniadau pensiwn a phwysau ariannol eraill.

Mae costau yn mynd i fyny yn barhaus. Costau staff yw'r eitem unigol mwyaf o wariant mewn colegau. Y llynedd, bu i'r colegau anrhydeddu polisi Llywodraeth Cymru o gydraddoldeb cyflog gan roi codiad cyflog o 1% yn ogystal â chynnydd blynyddol. Eleni yn unig, mae'r ddau ffactor hwn wedi cymryd tua £6.5 miliwn allan o gyllidebau colegau. Ni chytunwyd eto ar lefel y cyflog y flwyddyn nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi diogelu cyllid ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed mewn addysg lawn-amser. Clustnodwyd yn ogystal swm penodol ar gyfer gwella sgiliau oedolion sydd eisoes mewn gwaith. Felly, bydd y toriadau yn effeithio'n anghymesur ar oedolion 19 oed a throsodd nad ydynt mewn gwaith.

Yn amlwg, bydd y toriadau hyn yn cael effaith ar ddysgu. Mae natur yr effaith yn dal i fod, fodd bynnag, yn aneglur. Mae'r sector yn aros am benderfyniad gan Lywodraeth Cymru ar faint o ddysgu disgwylir i bob coleg ei gyflawni yn 2014/15.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, John Graystone: "Nawr bod dyraniad y gyllideb ar gyfer addysg bellach wedi cael ei gyhoeddi, mae colegau yn dechrau'r gwaith anodd o gynllunio eu cyllidebau ar gyfer 2014/15.

"Byddai'n afresymol disgwyl i golegau i ddarparu'r un faint o ddysgu y flwyddyn nesaf, o ystyried bu toriad ddwy flynedd yn olynol yn ogystal â chynnydd sylweddol mewn costau.

"Fel cenedl, ni allwn fforddio i leihau'r buddsoddiau mewn sgiliau. Mae'n rhaid i ni feithrin economi sy'n tyfu. Rhaid i ni hefyd gynnal ac ymdrechu i wella ansawdd ar draws y sector addysg drwyddi draw yng Nghymru, ac mae addysg bellach yn rhan allweddol o hynny.

"On bydd nifer y dysgwyr yn anorfod yn lleihau wrth i golegau graffu ar nifer y cyrsiau maent yn darparu. Bydd ystod y cwtogi yn dibynnu ar y targedau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gosod ar gyfer y sector. Byddwn yn clywed yn ystod yr wythnosau nesaf, faint o ddysgu mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i golegau i gyflawni yn gyfnewid am y buddsoddiad gostyngol yn 2014/15.

"Wrth reoli eu dyraniadau bydd colegau yn gwneud eu gorau glas i amddiffyn dysgu.

"Mae colegau'n deall, os ydynt yn troi dysgwr dros 19 oed i ffwrdd, does yr unlle arall iddynt fynd. Mae llawer o bobl yn wir awyddus i ddysgu, i wella eu sgiliau ac i fwrw ymlaen. Er mwyn cael swydd yn yr economi fyd-eang newidiol, rhaid gwella sgiliau yn barhau o fewn cyd-destun marchnad swyddi gystadleuol iawn. Ac mae'r rhai hynny na gyrhaeddodd eu potential yn yr ysgol hefyd eisiau cael meistrolaeth are u bywydau a dychwelyd i ddysgu.

"Byddwn yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i barhau i wneud ein gorau i Gymru a'i ddysgwyr. Ond maellawer yn y fantol. Mae'r toriadau yn heriol."

Diwedd

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.

Nodiadau i olygyddion:

1. Elusen addysg cenedlaethol yw ColegauCymru sy'n cynrychioli'r 15 coleg/sefydliad addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru a'r colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk

Datganiad sgiliau yn cael ei chroesawu gan GolegauCymru

Mae ColegauCymru yn croesawu cyhoeddiad datganiad polisi Llywodraeth Cymru ar sgiliau, sy'n gosod y gwahanol fentrau a chynlluniau mewn un ddogfen.

Gan ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd y Prif Weithredwr ColegauCymru John Graystone: "Mae datganiad polisi Llywodraeth Cymru ar sgiliau yn ddogfen bositif a defnyddiol sy'n nodi'r hyn y mae'r Llywodraeth yn gwneud ar hyn o bryd yn ogystal â'i bwriadau hir dymor mewn perthynas â sgiliau."

Mae tri chwarter o'r addysg alwedigaethol a thechnegol a gyllidir yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan golegau - ar gampws ac yn y gweithle. Mae colegau yn gweithio'n agos gyda chyflogwyr a chynghorau sgiliau sector i sicrhau bod yr hyfforddiant y maent yn ei ddarparu yn berthnasol i'r gwaith ac yn diwallu anghenion sgiliau lleol.

Aeth John Graystone yn ei flaen: "Rwy'n falch o weld bod y datganiad polisi yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio rhwng addysg uwch ac addysg bellach, yn pwysleisio datblygiad sgiliau lefel uwch mewn ymateb i'r newidiadau mewn cyflogaeth, gan gynnwys mwy o ffocws ar brentisiaethau uwch a graddau sylfaen, a'r angen am well dealltwriaeth o anghenion sgiliau iaith Gymraeg yn y gweithle.

"Rwyf hefyd yn falch o weld y pwyslais ar helpu oedolion i wella eu sgiliau. Mae'r datganiad polisi hwn yn nodi ymrwymiad y Llywodraeth i gefnogi cymwysterau galwedigaethol i oedolion ar bob lefel, gan gynnwys codi gwerth addysg a hyfforddiant galwedigaethol fel llwybr i addysg uwch. Ar ben arall y sbectrwm addysg, mae'n dweud bod y Llywodraeth hefyd wedi ymrwymo i gefnogi oedolion sydd â lefelau isel o lythrennedd a rhifedd i ennill y sgiliau hanfodol hyn.

"Mae Cymru yn wynebu her sgiliau mawr. Mae buddsoddiad cyhoeddus a phreifat parhaus mewn sgiliau yn hanfodol er mwyn galluogi Cymru i ailadeiladu ei diwydiannau a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol. Bydd colegau'n gweithio'n agos gyda llywodraeth, cyflogwyr ac i sicrhau bod yr her hon yn cael ei fodloni. "

Diwedd

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.

Nodiadau i olygyddion:

1. Elusen addysg cenedlaethol yw ColegauCymru sy'n cynrychioli'r 15 coleg/sefydliad addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru a'r colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk

2. Ceir mwy o wybodaeth ar y polisi sgiliau ar wefan y Llywodraeth: http://wales.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2014/8417459/?skip=1&lang=cy

Ymweliad o Tseina'n Dyfnhau'r Berthynas gyda Cholegau Cymru

Mewn arwydd o ddyfnhau'r berthynas rhwng Tsieina a Chymru, mae dirprwyaeth arall o golegau galwedigaethol yn Tsieina wedi bod yn teithio colegau addysg bellach yng Nghymru, yn dysgu am ein tebygrwydd a'n gwahaniaethau, gyda'r bwriad o ddatblygu cyfleoedd i fyfyrwyr Tseiniaidd i astudio yng Nghymru a hefyd i ystyried datblygiadau posibl ar gyfer colegau Cymru yn Tsieina.

Roedd yr ymweliad bythefnos o hyd gan naw o ddysgwyr a saith aelod o staff o chwe choleg galwedigaethol yn Chongqing, China, wedi ei drefnu gan CollegesWales (UK) International ar ran y Consortiwm AB Cymru-Chongqing. Gweithiodd pum coleg yng Nghymru mewn partneriaeth i gyflwyno rhaglen o brofiadau diwylliannol ac addysgol ar gyfer y ddirprwyaeth, gan ddangos ystod o arbenigedd galwedigaethol.

Rhoddodd y pum coleg, Coleg Cambria, Grŵp NPTC, Coleg y Cymoedd, Coleg Caerdydd a'r Fro a Grŵp Llandrillo Menai, fewnwelediad i'r ddirprwyaeth Tseiniaidd o addysg alwedigaethol ym meysydd awyrofod, busnes ac entrepreneuriaeth, arlwyo, gofal plant, y celfyddydau creadigol, trin gwallt a harddwch, astudiaethau tir, cerddoriaeth ac amlgyfrwng, roboteg, a theithio a thwristiaeth.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru John Graystone: "Dyma'r ail dirprwyaeth o staff o golegau galwedigaethol Tsieina i Gymru ac roedd yn amlwg eu bod wedi cael argraff dda gan yr hyn a welsant ac a brofiasant. Yr wyf yn falch bod cynifer o golegau wedi cyd-weithio mor agos i hwyluso rhaglen gydlynol o addysg alwedigaethol yn ogystal â phrofiadau diwylliannol ar gyfer y ddirprwyaeth, gan gynnyws gogledd, canolbarth a de Cymru. Mae'r ysbryd o bartneriaeth yn argoeli'n dda ar gyfer datblygu cyfleoedd hyfforddi ar y cyd yn y dyfodol.

"Roedd yn bleser arbennig i groesawu myfyrwyr galwedigaethol fel rhan o'r ddirprwyaeth hon - y gyntaf yn ein perthynas tair blynedd gyda cholegau galwedigaethol Chongqing. Roedd lefel eu Saesneg yn arbennig o drawiadol: hyd yn oed yn fwy felly o gydnabod eu bod yn fyfyrwyr galwedigaethol, nid israddedigion iaith, ac er gwaethaf cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau mawr o 50 neu fwy o fyfyrwyr.

"Er cymaint yr argraff cafodd y myfyrwyr Tsieineaidd gan ein natur hynod ymarferol o addysg alwedigaethol yng Nghymru, sy'n cyfuno ymarfer sy'n berthnasol i'r gweithle fel mater o drefn gydag astudiaethau dosbarth (yn wir, roeddent braidd yn eiddigeddus ohono), mae hefyd yn glir bod gan Gymru rhywbeth neu ddau i ddysgu gan y Tseiniaidd.

"Mae colegau Cymru eisoes wedi elwa ar dri ymweliad diwylliannol ac addysgol i Tsieina, a drefnwyd hefyd gan CollegesWales (UK) International. Ac mae cholegau wrthi nawr yn paratoi ar gyfer ymweliad arall â Chongqing i ddathlu Wythnos Cymru ym mis Mawrth 2014. Mae'n amlwg bod yr holl golegau yn y bartneriaeth hon yn dyfnhau eu dealltwriaeth o'i gilydd ac yn gweld meysydd ffrwythlon ar gyfer datblygu cyfleoedd hyfforddi adeiladol ar gyfer staff a myfyrwyr. "

Yn y seremoni ffarwel, yng nghwmni y colegau a gymrodd ran, CollegesWales (UK) International a Llywodraeth Cymru, dywedodd Mr Meh Wu, arweinydd y grŵp o Chonqging City Management College: "Mae hwn wedi bod yn brofiad dysgu gwych ac wedi tanio llawer o gyfleoedd potensial i gryfhau'r bartneriaeth rhyngom ymhellach. Rydym yn rhannu'r un cenhadaeth a nodau ac os gallwn fynd law yn llaw mewn partneriaeth byddwn yn cyrraedd ein targedau. "

Diwedd

Cysylltwch â: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.

Nodiadau i olygyddion

1. CollegesWales (UK) International yw cangen ryngwladol ColegauCymru - y corff sy'n cynrychioli sefydliadau addysg bellach yng Nghymru.
Mae gan CollegesWales (UK) International dri maes allweddol:
cydlynu Consortiwm AB Cymru-Chongqing
cydlynu rhaglen o brofiad gwaith yn Ewrop ar gyfer prentisiaid o Gymru
cartrefi dirprwyaethau swyddogol o wledydd eraill sydd eisiau dysgu am y system addysg bellach a hyfforddiant galwedigaethol yng Nghymru ac archwilio partneriaethau posibl i'r dyfodol.

2. Cafodd Consortiwm AB Cymru-Chongqing ei lansio'n swyddogol gan Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn swyddfa Llywodraeth Cymru yn Chongqing ym mis Mawrth 2011. Ceir fwy o wybodaeth oddi wrth: http://www.collegeswales.ac.uk/en-GB/china-270.aspx

3. Bu i'r ymweliad Tsieineaidd gymryd lle rhwng 12-27 Ionawr 2014. Roedd y ddirprwyaith yn cynnwys 16 o staff a myfyrwyr o: Chongqing City Management College, Chongqing Lixin Vocational Education College, Chongqing Telecommunications Polytechnic College, Chongqing Youth Vocational and Technical College, Sichuan Water Conservancy Vocational College, a Chongqing Urban Vocational College.

Colegau'n Ymateb yn Gadarnhaol i Heriau Estyn

Mae ColegauCymru'n falch iawn bod Addroddiad Blynyddol Estyn, a gyhoeddwyd heddiw, yn adnabod y partneriaethau dysgu rhagorol y mae colegau addysg bellach (AB) wedi eu meithrin, eu safonau lles uchel, eu hymdrechion sylweddol i leihau effaith amddifadedd, safon y cyfarwyddyd a'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr, ac arbenigedd galwedigaethol darlithwyr coleg.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae'r sector AB wedi ymateb i bolisi Llywodraeth Cymru i drawsnewid y dirwedd ôl-16 addysg gyda chyfres o uniadau rhwng colegau, rhwng colegau a phrifysgolion a rhwng colegau a darparwyr hyfforddiant. Drwy'r cyfnod, mae colegau wedi cynnal arweinyddiaeth a rheoli cryf, yn cynnwys, fel mae Adroddiad Blynyddol Estyn yn nodi, rheolaeth dda o adnoddau.

Yr heriau y mae Estyn wedi gosod ar gyfer y sector AB yw: i ymgorffori llythrennedd a rhifedd ar draws rhaglenni dysgu, i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg dysgwyr, ac i ledaenu addysgu ac asesu rhagorol yn fwy cyson ar draws sefydliadau. Mae colegau yn ymateb yn gyflym i farn broffesiynol Estyn ac maent eisoes yn gweithio i gwrdd â'r heriau hyn.

Trwy ColegauCymru, ac mewn llawer o achosion gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae colegau wedi bod yn cymryd rhan mewn cyfres o gyfleoedd a gydlynir yn genedlaethol i wella dysgu ac addysgu. Mae bob coleg wrthi yn gwella addysgeg drwy ymchwil ar lawr gwlad, a bydd y canfyddiadau yn dod i gasgliad mewn cynhadledd genedlaethol ym Mawrth 2014, pryd y cyhoeddir yn ogystal adnoddau newydd a grëwyd gan y colegau.

Mae cyfleoedd dysgu cyfrwng Cymraeg yn cynyddu, ac mae colegau yn edrych i roi ar waith y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd gan ColegauCymru a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd.

Dywedodd y Prif Weithredwr ColegauCymru John Graystone: "Rwy'n falch bod Estyn yn cydnabod nifer o gryfderau colegau Cymru. Caiff colegau eu cydnabod am eu hymdrechion i leihau effaith amddifadedd ar ganlyniadau dysgu, i ddatblygu amgylchedd dysgu diogel, ac am yr arbenigedd galwedigaethol cryf y mae eu staff addysgu yn cynnal.

"Mae colegau yn derbyn yr heriau y mae Estyn wedi gosod ar gyfer y sector ac eisoes wedi sefydlu cyfres o gamau gweithredu i ymateb iddynt. Mae ColegauCymru yn cydlynu nifer o gyfleoedd datblygu ar lefel genedlaethol mewn addysgu a dysgu, ac yn hyrwyddo arfer gorau o Gymru yn ogystal â thu hwnt. Rydym hefyd yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru o ran gwella dulliau addysgu ac asesu trwy ymchwil gweithredu.

"Nid yw ein colegau byth yn aros yn llonydd. Maent yn datblygu yn barhaus ac yn gyflym ac yn ymateb - i agenda trawsnewid Llywodraeth Cymru, i'r dirwasgiad economaidd, ac i Adroddiad Blynyddol Estyn yn ogystal ag i'w cymunedau lleol ac i'w dysgwyr. Mae Estyn yn cadarnhau bod arweinyddiaeth a rheolaeth gref yn ein colegau yng Nghymru ac mae'r arwyddion yn dda ar gyfer gwelliant parhaus."

Diwedd

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.

Nodiadau i olygyddion:

1. Elusen addysg cenedlaethol yw ColegauCymru sy'n cynrychioli'r 15 coleg/sefydliad addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru a'r colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk

2. Mae adroddiad blynyddol Estyn ar gael o: http://www.estyn.gov.uk/cymraeg/adroddiad-blynyddo...

Sêl Bendith Brenhinol am Ddeddf Gymreig yn Dangos Hyder yn y Colegau Addysg Bellach


Mae ColegauCymru wrth ei fodd bod Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014 wedi derbyn cydsyniad brenhinol gan y Frenhines.

Prif ddiben y Ddeddf yw sicrhau bod colegau addysg bellach Cymru yn cadw eu statws annibynnol yn hytrach na chael eu cynnwys o fewn llywodraeth ganolog.

Mae'r Ddeddf yn gwella annibyniaeth a gallu'r colegau AB i wneud penderfyniadau perthnasol. Mae hefyd yn moderneiddio ac yn symleiddio biwrocratiaeth.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru John Graystone: "Mae hon yn foment arwyddocaol iawn yn hanes addysg bellach yng Nghymru. Wrth basio'r Ddeddf hon, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dangos ei hyder yng ngholegau addysg bellach Cymru ac wedi sicrhau bod y sector yn cael yr hyblygrwydd sydd ei angen i ymateb i anghenion eu dysgwyr, eu cymunedau lleol ac economi Cymru.

"Bydd colegau, wrth gwrs, yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn cwrdd â'i agenda uchelgeisiol i godi lefelau sgiliau a chodi dyheadau. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn darparu tua 80% o gyllid y coleg - gan gynnwys addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a chyllid cyfalaf.

"Ond mae angen taro cydbwysedd priodol rhwng sicrhau bod colegau'n cyflwyno agenda Llywodraeth Cymru, gwerth am arian i drethdalwr, a mwy o ryddid i'r colegau i reoli eu materion eu hunain ac ymateb i anghenion eu cymunedau lleol.

"Mae colegau, trwy ColegauCymru, yn bwriadu llunio perthynas waith newydd gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod yr hyder y mae'r Cynulliad wedi dangos mewn colegau trwy pasio'r Ddeddf hon yn cael ei gynnal a'i wella yn briodol."

Diwedd

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.

Nodiadau i olygyddion:

1. Elusen addysg cenedlaethol yw ColegauCymru sy'n cynrychioli'r 15 coleg/sefydliad addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru a'r colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk

2. Mae Mesur yn derbyn Cydsyniad Brenhinol pan mae Breinlythyrau o dan y Sêl Gymreig, wedi eu llofnodi gan law Ei Mawrhydi ei hun i ddynodi Ei Chydsyniad yn cael eu hysbysu i Glerc y Cynulliad. Bu i'r Prif Weinidog, fel Ceidwad y Sêl Gymreig, gymhwyso'r Sêl i'r Breinlythy mewn seremoni yng Nghaerdydd ar 27 Ionawr 2014. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Lywodraeth Cymru: http://wales.gov.uk/newsroom/firstminister/2014/14...

Argymell Contract Cyffredin i Golegau

Ar 7 Ionawr 2014, cytunodd Bwrdd ColegauCymru argymell y contract cyffredin a gytunwyd rhwng tîm cyd-drafod ColegauCymru a'r cyd-undebau llafur i golegau addysg bellach.

Ar hyn o bryd, mae pob coleg Addysg Bellach (AB) yn cyflogi eu staff dan wahanol gontractau. Mae'r staff yn cael gwyliau gwahanol. Gallai darlithydd mewn un coleg addysgu llai neu fwy o oriau na darlithydd mewn coleg arall. Mae ColegauCymru a'r cyd-undebau llafur wedi gweithio i gytgordio'r amodau gwasanaeth yn gontract cenedlaethol i staff mewn AB, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Gosodwyd ffiniau i'r trafodaethau sef y dylai unrhyw gontract cenedlaethol ar gyfer AB fod yn gost niwtral ar raddfa genedlaethol. Hynny yw, eglurodd Llywodraeth Cymru na fyddai unrhyw gyllid ychwanegol ar gael i'r sector petai ColegauCymru a'r Cyd-undebau Llafur yn cytuno contract a fyddai'n gostus i'w roi ar waith.

Wrth osod contract cenedlaethol ar gyfer corfforaethau AB am y tro cyntaf, pob un gyda set wahanol o gontractau, mae'n anochel na fydd pob aelod o staff, na phob coleg, yn elwa'n gydradd o'r contract dilynol. O gofio'r ffiniau hyn, a'r gwahanol ofynion a gyflwynwyd gan wahanol bartneriaid yn y drafodaeth, roedd y broses o ddod i gasgliad boddhaol yn un hir, gan gymryd cyfanswm o bron i bedair blynedd.

Dywedodd John Graystone, Prif Weithredwr ColegauCymru / CollegesWales: "Rwy'n falch bod y trafodaethau ar y contract cyffredin wedi dod i gasgliad boddhaol. Maen nhw wedi bod yn anodd. Mae'r ddwy ochr wedi ildio rhywfaint. Mae Bwrdd ColegauCymru bellach wedi argymell y contract cyffredin i bob corff llywodraethol mewn coleg.

"Nawr bod ColegauCymru wedi argymell y contract cenedlaethol i golegau, bydd pob corff llywodraethol mewn coleg yn penderfynu sut i'w symud yn ei flaen.

"Rydym yn gobeithio y bydd sawl coleg yn mabwysiadu'r contract cenedlaethol yn gyflym ac yn trosglwyddo'u holl staff i'r contract newydd erbyn 1 Awst 2014. Gan dybio y bydd y corff llywodraethol yn ei dderbyn, bydd staff pob coleg yn trosglwyddo i'r contract newydd erbyn 1 Medi 2016.

Gan gloi, dywedodd Dr Graystone: "Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r tîm cyd-drafod, dan arweiniad Mark Dacey, pennaeth Grŵp NPTC, am eu gwaith caled a'u hymroddiad dros y pedair blynedd o gyd-drafod. Rwy'n falch iawn fod y tîm cyd-drafod a Bwrdd ColegauCymru wedi cyflawni'r hyn yr oeddent wedi bwriadu ei wneud."

Diwedd

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.

Nodiadau i olygyddion:

1. Elusen addysg cenedlaethol yw ColegauCymru sy'n cynrychioli'r 16 coleg/sefydliad addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru a'r colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk