Archif Newyddion 2015

Sêl Bendith Estyn i’r Colegau am Gefnogi Dysgwyr

Mae’r gefnogaeth y mae colegau yn rhoi i ddysgwyr wedi derbyn sêl bendith mewn adroddiad newydd gan Estyn. Bydd colegau nawr yn edrych ymlaen at weithio â phartneriaid i wella'r system yn ei chyfanrwydd ac i agor cyfleoedd i bob dysgwr 16 oed.

Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd gan Estyn ar 10 Rhagfyr yn canmol yr ystod eang o ddewisiadau dysgu hyblyg y mae colegau yn cynnig i bobl ifanc 16-19 oed, yn ogystal â'r cymorth a chyngor gyrfaoedd da y maent yn eu darparu. Mae'n cadarnhau asesiadau'r colegau bod eu cefnogaeth fugeiliol yn gryf ac yn gwella cyfleoedd bywyd eu dysgwyr.

Mae'r adroddiad yn mynd ymlaen i argymell y dylai awdurdodau lleol weithio'n agosach gyda cholegau addysg bellach i gefnogi dysgwyr sy'n mynd ymlaen i goleg ac i sicrhau bod pob dysgwr yn ymwybodol o'r ystod lawn o opsiynau ôl-16 sydd ar gael iddynt. Mae'r adroddiad hefyd yn argymell bod colegau yn datblygu dull cyffredin i fesur cyflawniadau eu dysgwyr.

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Cadeirydd ColegauCymru, Judith Evans: "Mae colegau yn gweithio'n galed i ddarparu ystod eang o ddewisiadau dysgu sydd hefyd yn hyblyg ac sy'n ymateb i anghenion dysgwyr yn eu holl amrywiaeth. Maent yn gweithio'n barhaus i wella ac i asesu cynnydd, gan adnabod a rhannu arfer da rhyngddynt. Rydw i wrth fy modd bod yr adroddiad gan Estyn yn dilysu’r gwaith da sy'n digwydd o ddydd i ddydd mewn colegau hyd a lled Cymru o gefnogi dysgwyr trwy eu hastudiaethau a thu hwnt.

"Mae adroddiad cadarnhaol Estyn yn cadarnhau ansawdd systemau cymorth bugeiliol colegau. Yr her yn awr yw gweithio gydag eraill i wella'r system ledled y wlad. Mae ar Gymru angen system sy'n cefnogi pob dysgwr. Ni ddylai unrhyw dysgwr gael ei siomi gan y system. Dylai pob dysgwr ddeall yr opsiynau sydd ar gael iddynt yn 16 oed a dylai'r system sicrhau bod y gwaith o drosglwyddo dysgwyr i'r coleg yn gallu cael ei gynllunio'n effeithiol.

"Bydd colegau yn edrych ymlaen at weithio â phartneriaid i fwrw ymlaen â'r argymhellion."

Diwedd

Cyllideb y Cynulliad yn Cynnig Rhyddhad i Golegau

Bydd cyllideb ddrafft y Cynulliad y flwyddyn nesaf yn cynnig rhywfaint o ryddhad i golegau addysg bellach, meddai ColegauCymru, gyda’r gyllideb ar gyfer addysg bellach wedi ei diogelu.

Heddiw, 8 Rhagfyr 2015, cyhoeddodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, gyllideb ddrafft y Cynulliad ar gyfer 2016/17. Yn ei datganiad i'r Cynulliad, dywedodd: "Mae'r gyllideb ar gyfer addysg bellach yn cael ei ddiogelu rhag toriadau, gyda £5 miliwn ychwanegol ar gyfer creu 2,500 yn fwy o brentisiaethau".

Mae’r gyllideb ddrafft yn cydnabod bod tair blynedd o ostyngiadau wedi cael effaith sylweddol ar y sector ôl-16 ac ei bod "bellach yn glir y byddai rhagor o doriadau yn y dyfodol yn cyfyngu'n sylweddol ar y gallu i gyflenwi'r ddarpariaeth sy'n angenrheidiol i greu gweithlu'r dyfodol.”

Wrth ymateb i'r datganiad ar y gyllideb ddrafft, dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, Iestyn Davies: "Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn eithriadol o heriol i’r sector addysg bellach, gyda thair blynedd o doriadau yn cynnwys gostyngiad o £17 miliwn yn y dyraniadau ddaeth i’r colegau eleni. Mae'r toriad penodol o 50% i ddysgu rhan-amser i oedolion wedi cyfyngu ar gyfleoedd pobl i ennill tra’n dysgu.

"Rhyddhad yw clywed felly bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr angen i warchod cyllideb addysg bellach y flwyddyn nesaf."

Nododd yr elusen, fodd bynnag, y bydd pwysau costau cynyddol ar y colegau yn parhau o ganlyniad i gyllideb di-gynnydd. Bydd angen amsugno cynnydd i bensiynau athrawon a’r Yswiriant Gwladol o fewn cyllideb fflat.

Wrth gloi, dywedodd Iestyn Davies: "Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod cyfraniad pwysig addysg bellach i ragolygon economi Cymru a’i bod wedi atal y gostyngiad flwyddyn ar ôl blwyddyn i’r gyllideb addysg bellach.

"Byddwn yn parhau i gyflwyno'r achos, gan weithio gyda’r llywodraeth bresennol a’r un a ddaw, am yr angen am sylfaen gadarn i addysg bellach. Mae unigolion a chymunedau Cymru yn haeddu'r cyfle i gyrraedd eu potensial ac i helpu Cymru i ddod yn genedl fwy llewyrchus.

Diwedd

Galw am Fuddsoddiad yn Addysg Bellach yng Nghyllideb y Cynulliad

Wrth ddisgwyl cyhoeddiad cyllideb ddrafft y Cynulliad ddydd Mawrth, galwodd y corff sy'n cynrychioli colegau Cymru ar y Llywodraeth i sicrhau system gyllido decach ar gyfer addysg bellach.

Er mwyn ymateb i'r her o gyflawni system sgiliau o'r radd flaenaf, mae ColegauCymru wedi tynnu sylw at y gwir angen am fwy o fuddsoddi yn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, gan gydnabod yn arbennig y dirywiad fu mewn addysg ran-amser ar gyfer oedolion dros y blynyddoedd diwethaf.

Torrwyd y gyllideb ar gyfer addysg ran-amser ar gyfer oedolion mewn colegau am dair blynedd yn olynol, gan gynnwys torriad o 50% yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Yn ôl yr elusen, mae'r sefyllfa yn cyrraedd pwynt argyfyngus, a noda bod undebau llafur eisoes wedi cynnal protestiadau giât mewn nifer o golegau.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, Iestyn Davies: "Mae colegau addysg bellach yn cyflwyno ystod eang o gymwysterau academaidd, galwedigaethol a phroffesiynol; maent yn rhan hanfodol o wead economi a chymunedau Cymru.

"Mae angen diogelu cyllid ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed, fel bod eu bod yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, rhaid hefyd cydnabod bod dybryd angen buddsoddiad newydd mewn addysg ran-amser i oedolion. Mae'r gyllideb ar gyfer addysg ran-amser ar gyfer oedolion wedi cael ei thorri dair blynedd yn olynol, gan gynnwys toriad dramatig o 50% yn y flwyddyn academaidd hon.

"Mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau i fynd i'r afael ag anghenion cyffredinol addysg ôl-16. Heb i ddysgu rhan amser gael ei ariennu, bydd gormod o bobl yng Nghymru yn cael eu hamddifadu o gyfle i ennill cyflog wrth iddynt ddysgu.

"Rydym yn gobeithio y bydd cyllideb ddrafft y Cynulliad, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar ddydd Mawrth, yn edrych yn fwy ffafriol a chyfannol ar anghenion cyflawn dysgwyr. Mae angen i wleidyddion i ddangos eu bod yn bwriadu rhoi pob cyfle posibl i economi Cymru, ei chymunedau ac unigolion i gyrraedd eu potensial.

Diwedd

Ymateb i ymchwiliad i West London Vocational Training College yng Nghaerdydd

Ymateb gan GolegauCymru i ymchwiliad gan raglen BBC Wales, Week in Week Out, a ddarlledwyd ar 1 Rhagfyr 2015, i arferion West London Vocational Training College yng Nghaerdydd.

Coleg preifat wedi ei sefydlu yn Lloegr yw West London Vocational Training College.

Mae colegau addysg bellach Cymru, ar y llaw arall, yn gorfforaethau nid-er-elw. Mae ganddynt fecanweithiau mewnol cadarn sy'n tracio cyllid yn ogystal â chynnydd dysgwyr. Maent yn cael eu rhedeg gan dîmau o weithwyr proffesiynol, sy'n cynnwys rheolwyr penodol sy’n sicrhau safonau ansawdd uchel, yn ogystal â rheolwyr adnoddau dynol a datblygu staff a chyfrifwyr proffesiynol-gymwys.

Yn ogystal, maent yn ddarostyngedig i system sicrhau ansawdd allanol sy'n cynnwys archwilwyr ariannol allanol, cyrff arholi, Arolygiaeth Ei Mawrhydi - Estyn, yn ogystal â Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, Iestyn Davies: "Hoffwn sicrhau'r cyhoedd yng Nghymru nad yw colegau addysg bellach yng Nghymru yn gysylltiedig â'r ymchwiliadau cyfredol i West London Vocational Training College.

"Nid oes unrhyw system 100% yn sâff. Gall unigolion i'w gweld ym mhob math o sefydliadau o bryd i'w gilydd sy'n anwybyddu rheolau a hyd yn oed gofynion cyfreithiol. Ond mae gan colegau addysg bellach Cymru fecanweithiau mewnol cadarn i sicrhau eu bod yn cael eu rhedeg yn briodol a'u bod yn defnyddio'r arian cyhoeddus a fuddsoddir ynddynt yn ddoeth.

"Maent yn atebol i'w cymunedau drwy eu cyrff llywodraethu, ac i Gymru gyfan drwy'r system o reoleiddio ac arolygu allanol.

"Yn ogystal, mae colegau addysg bellach Cymru yn rhagweithiol o ran edrych am welliannau parhaus wrth ymestyn eu dysgwyr i gyrraedd eu potensial, ac wrth helpu eu dysgwyr i ddangos eu sgiliau i gyflogwyr, darpar gyflogwyr a'u cymunedau.

"Bob blwyddyn, mae dysgwyr colegau Cymru yn rhoi eu sgiliau ar waith yn gyhoeddus. Maent yn ymgymryd ag ystod eang o waith elusennol a gwirfoddol yn eu cymunedau, yn ogystal â chymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Yn wir, mae tri o golegau Gymru yn ymddangos yn Tabl Cynghrair Darparwyr WorldSkills UK o Fedalau 2015.

"Mae colegau Cymru - eu hathrawon, rheolwyr a'u dysgwyr - o dan graffu cyson a chyhoeddus. Bach iawn o le sydd i guddio arferion diegwyddor. A dyna sut y dylai fod. Mae colegau addysg bellach Cymru yn perthyn i'w cymunedau ac i Gymru. Maent wedi ymrwymo i lwyddiant a byddant yn parhau i ddilyn y llwybr i ragoriaeth. "

Diwedd

Egin entrepreneuriaid ifanc yn paratoi ar gyfer her manwerthu ynghanol y brifddinas

Mae tri deg chwech o fyfyrwyr De Cymru ar fin ymgymryd â her eu bywyd wrth iddynt baratoi i gystadlu am werthiant yn ystod un o gyfnodau prysuraf manwerthu Caerdydd.

Mae’r entrepreneuriaid ifanc brwd wedi cyrraedd rownd derfynol Trading Places, sialens wedi’i chynllunio i annog entrepreneuriaeth ymysg myfyrwyr colegau De Ddwyrain Cymru, gan gynnig gwir flas ar fyd busnes.

Dros dridiau yn arwain at y Nadolig, bydd myfyrwyr o Goleg y Cymoedd, Coleg Penybont, Coleg Gwent, Coleg Merthyr Tudful, Coleg Catholig Dewi Sant a Choleg Caerdydd a’r Fro yn cael gwir flas ar fusnes dros dridiau. Bydd y profiad yn arwain at redeg siop dros-dro yng nghanolfan siopa y Morgan Quarter ynghanol dinas Caerdydd.

Bu'r chwech myfyriwr terfynol o bob coleg yn cystadlu yn erbyn 120 o fyfyrwyr eraill ym mis Tachwedd, a chael eu hasesu gan entrepreneuriaid ac arbenigwyr busnes o ymgyrch ‘Syniadau Mawr Cymru’ Llywodraeth Cymru ym mhencadlys Cymru EE yn Merthyr Tudful.

Mae’r rowndiau terfynol yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd rhwng y 15-17 Rhagfyr.

Meddai Chris Webb, Cydlynydd Addysg Bellach Campws Cyntaf, sy'n cydlynu'r digwyddiad: “Rydyn ni yn ein pedwaredd blynedd nawr ac mae Trading Places wedi datblygu'n enghraifft genedlaethol o sut i ymgysylltu â phobl ifanc sydd â'r potensial i ddod yn entrepreneuriaid y dyfodol”.

“Mae cystadleuwyr y rownd derfynol yn barod wedi dangos eu sgil entrepreneuraidd o flaen panel o entrepreneuriaid ac arbenigwyr Syniadau Mawr Cymru a nawr mae'n nhw'n mynd ymlaen i roi'r cyfan ar waith mewn awyrgylch busnes go iawn.”

Dros y tridiau bydd y myfyrwyr yn treulio amser ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru yn dysgu am wasanaeth cwsmer, sut i roi cynllun busnes at ei gilydd, cyrchu cynnyrch ac yna'u gwerthu i'r cyhoedd mewn siop fydd wedi'i roi gan y Morgan Quarter ynghanol dinas Caerdydd yn ystod y cyfnod prysur manwerthu sy’n arwain at y Nadolig.

Ychwanegodd Chris: “Bydd yn brofiad dwys iawn iddyn nhw i gyd, ond byddant yn dysgu llawer gan y mentoriaid a'r entrepreneuriaid yn ogystal â dysgu am eu menter entrepreneuraidd eu hunain wrth gystadlu am y wobr derfynol”.

Prosiect cydweithredol yw Trading Places rhwng Canolfan Fenter Addysg Bellach a First Campus mewn partneriaeth â'r Morgan Quarter yng Nghaerdydd, NatWest, EE a Chanolfan Fenter AU a Syniadau Mawr Cymru, ymgyrch Llywodraeth Cymru i annog mwy o bobl ifanc i ddod yn entrepreneuriaid yng Nghymru.

Ei nod yw datblygu sgiliau ac agweddau entrepreneuraidd trwy brofiadau ymarferol. Fe’i cynlluniwyd gan YES Hub De Ddwyrain Cymru a First Campus er mwyn gwella cysylltiadau rhwng addysg a diwydiant yn unol â chynllun gweithredu Strategaeth Menter Ieuenctid Llywodraeth Cymru (YES) ar gyfer 2010-15.

Ym mis Medi, enillodd Trading Places wobr genedlaethol y DU am ei waith, gan gymryd y Wobr Addysgwyr Menter Genedlaethol 2015 (Categori Hyrwyddwyr Menter AB).

Llwyddiant i Gymru yn rownd derfynol WorldSkills y DU

Mae deg person ifanc – gan gynnwys brawd a chwaer o Lanelli – wedi cael eu henwi gyda goreuon y DU yn rownd derfynol o gystadleuaeth sgiliau Prydain gyfan.

Enillodd Bruno Forkuoh, 23, ac Elizabeth Forkuoh, 19, o Lanelli fedalau aur yn eu categorïau priodol yn ffeinal WorldSkills y DU, a gynhaliwyd yn y Sioe Sgiliau o fri ym Mirmingham rhwng 19 a 21 Tachwedd.
Bu Elizabeth, a enillodd y fedal aur yng Ngwasanaeth Bwytai, a Bruno, a enillodd fedal aur yng nghategori Her Grŵp Gweithgynhyrchu, ymysg y 45 o gystadleuwyr Cymraeg a enillodd cyfanswm o 10 Aur, 7 Arian, 12 Efydd ac 16 o Fedalau Rhagoriaeth, cyflawniad record ar gyfer Cymru.

Cynhaliwyd proses dewis a dethol ar gyfer Carfan y DU hefyd yn ystod y Sioe Sgiliau eleni, a chafodd 20 o gystadleuwyr o Gymru – gan gynnwys Bruno ac Elizabeth - eu henwi’n aelodau o garfan o 153 y gall cynrychioli’r DU yn achlysur WorldSkills Abu Dhabi 2017.

Mae cystadlaethau WorldSkills y DU yn ysbrydoli pobl ifanc i fod yn uchelgeisiol wrth ddefnyddio’u sgiliau ar y lefel uchaf, a dyma uchafbwynt y Sioe Sgiliau. Yn ystod y ffeinal yng nghanolfan yr NEC, fe wnaeth dros 650 o brentisiaid, gweithwyr cyflogedig a dysgwyr mwyaf dawnus y DU gymryd rhan mewn 40 a mwy o gystadlaethau yn eu sgiliau dewisol, o waith plymio a choginio i osod blodau a chynllunio’r we.

Cafodd y bobl ifanc gyfle i ddangos eu gallu a’u doniau mewn cyfres o arddangosiadau dwys a barodd dros 20 awr.

Er mwyn ennill eu lle yn rownd derfynol WorldSkills y DU, roedd pob dysgwr yn gorfod cystadlu yn erbyn cyfoedion o sefydliadau ledled y DU trwy gyfres o ornestau rhanbarthol yn gyntaf.

Eleni, gwelwyd y criw mwyaf erioed o Gymru yn y Sioe Sgiliau, gyda chyfanswm o 82 o bobl ifanc wedi’u dewis i gynrychioli’u gwlad – y garfan ranbarthol uchaf o blith 650 o gystadleuwyr i gyd.

Aeth Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg i’r Sioe Sgiliau eleni, ac meddai wrth gyfeirio at lwyddiant y Cymry: “Roeddwn i’n falch iawn o’r cyfle i fynychu’r Sioe Sgiliau a gweld llwyddiant y Cymry yng nghystadleuaeth WorldSkills y DU â’m llygaid fy hun.

“Mae mwy nag erioed o ddysgwyr, prentisiaid a gweithwyr cyflogedig wedi’u dewis i gynrychioli Cymru yn y rownd derfynol eleni, sy’n dipyn o gamp ynddo’i hun, ond mae’r ffaith fod y tîm wedi dod â chymaint o fedalau nôl adref a chymaint o unigolion wedi’u dewis i ymuno â charfan y DU yn gydnabyddiaeth o’u gwaith caled, eu doniau a’u dyfalbarhad.”

Cymerodd chwech o’r enillwyr Cymraeg rhan yn y gystadleuaeth Sgiliau Cynhwysol a sefydlwyd gan Natspec (Y Gymdeithas ar gyfer Colegau Arbenigol Cenedlaethol) sy’n galluogi i bobl anabl ifanc, neu gydag anhawster dysgu gymryd rhan mewn digwyddiadau fel y Sioe Sgiliau.

Mwynhaodd colegau unigol ar draws Cymru lwyddiant hefyd gyda myfyrwyr Coleg Sir Gâr yn ennill pum fedal aur a dysgwyr o Goleg Cambria yn ennill dwy fedal aur. Bu Coleg Sir Gâr hefyd yn lwyddiannus wrth i chwech o’i fyfyrwyr gael eu dewis ar gyfer Carfan y DU, y mwyaf o unrhyw goleg Cymraeg.

Llongyfarchodd Barry Liles, Hyrwyddwyr Sgiliau Cymru, y cystadleuwyr o Gymru am eu llwyddiant:
“Mae’r ffaith fod ein pobl ifanc yn gallu cystadlu yn erbyn goreuon y DU, a’u curo nhw - heb sôn am oreuon y byd - yn brawf o’r lefel anhygoel o sgiliau sydd gennym yma yng Nghymru. Y llynedd, llwyddodd pedwar o Gymry ifanc i fynd trwy rengoedd WorldSkills a theithio i Sao Paolo, Brasil, ar gyfer rownd derfynol y byd.

“Rwy’n gobeithio y bydd llwyddiant y criw ifanc hyn yn eu sbarduno i ddatblygu fel gweithwyr cyflogedig hyfedr yn ogystal â darbwyllo pobl ifanc eraill o bwysigrwydd meithrin eu sgiliau eu hunain.”

Cynhelir WorldSkills International mewn dinasoedd ledled y byd, a hon yw’r gystadleuaeth sgiliau ryngwladol fwyaf o’i bath. Abu Dhabi fydd lleoliad cystadleuaeth WorldSkills nesaf yn 2017. Mae WorldSkills wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop er mwyn hyrwyddo pwysigrwydd gweithlu tra medrus, gyda’r nod o hybu sgiliau lefel uchaf yma yng Nghymru.

DIWEDD

27/11/15: Cymru: bellach heb fod yn wlad sy’n dysgu

Wrth ymateb i gyhoeddiad ystadegau swyddogol sy'n dangos gostyngiad sylweddol yn nifer yr oedolion sy’n dysgu, dywedodd y corff sy’n cynrychioli colegau bod y dirywiad mor fawr y gallai Cymru ddim hawlio mai 'gwlad sy'n dysgu' ydyw bellach.

Mae ffigurau newydd eu rhyddhau gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod nifer y bobl sy'n astudio rhan-amser mewn colegau wedi gostwng yn is na 100,000 am y tro cyntaf. Y llynedd yn unig, bu gostyngiad o 15,000 yn nifer yr unigolion sy’n astudio rhan-amser. Mae’n ychwaegu at ostyngiad parhaus a hir-dymor, gyda nifer y dysgwyr sy'n astudio rhan-amser wedi gostwng gan fwy na hanner dros y deng mlynedd ddiwethaf. A dirywiad pellach sydd i’w ddisgwyl.

Dengys yr ystadegau swyddogol ar gyfer Cymru bod 57% o holl ddysgwyr y colegau yn astudio yn rhan amser yn 2014/15. Y flwyddyn flaenorol, roedd yn 60%. Bum mlynedd yn ôl roedd yn 77%.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, Iestyn Davies: "Ychydig flynyddoedd yn ôl, mantra Llywodraeth Cymru oedd 'Cymru: y wlad sy'n dysgu'. Ni all Cymru honni mantra o'r fath y dyddiau yma. Dyma’r diweddaraf mewn cyfres hir o gyhoeddiadau sy'n dangos gostyngiad sylweddol mewn dysgu oedolion.

"Mae dysgu rhan-amser yn rhaff achub eithriadol o bwysig i oedolion sy'n dymuno ail-ymuno â'r gweithlu neu ailhyfforddi yn ystod eu bywydau gwaith.

"Mae swyddi newydd â gofynion sgiliau newydd yn cael eu dyfeisio drwy'r amser. Mewn economi sy'n newid yn gyflym, mae angen i oedolion gael cyfle i ddysgu sgiliau newydd ar yr adeg iawn. Mae ailhyfforddi parhaus yn hanfodol.

"Mae gormod o bobl heb unrhyw gymwysterau o gwbl, ac mae llawer mond â chymwysterau lefel isel. Dim ond 30% o'r cofrestriadau mewn sefydliadau addysg bellach, dysgu cymunedol gan awdurdodau lleol a dysgu seiliedig ar waith sydd ar Lefel 3 (lefel swyddogol Safon Uwch) neu uwch. Rhaid wrth newid hyn.

"Mae dirfawr angen buddsoddiad yn addysg rhan-amser i oedolion. Torrwyd eto ar y gyllideb y flwyddyn academaidd hon, 2015/16, y tro hwn yn ei hanner. Mae'n anochel y bydd y set nesaf o ffigurau yn dangos gostyngiad arall yn nifer yr oedolion sy’n dysgu.

“Mae economi Cymru a'i chymunedau angen mwy o bobl mewn dysgu yn y lle cyntaf, a mwy o bobl sy’n cael eu cefnogi i ddysgu ar lefelau uwch. O gymharu â gweddill y DU, mae Cymru yn perfformio’n wan ar addysg, iechyd a’r economi. Mae dysgu yn helpu i ddarparu llwybr allan o dlodi a thuag at ffyniant. Mae arnom angen i’r llywodraeth gymryd camau i fynd i'r afael â dirywiad Cymru. Yn absenoldeb ariannu dysgu rhan amser, bydd gormod o bobl yng Nghymru yn cael eu hamddifadu o gyfle i ennill cyflog tra’n dysgu.

"Rydym yn gobeithio y bydd cyllideb nesaf y Cynulliad, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar ffurf drafft ar ddechrau mis Rhagfyr, yn edrych yn fwy ffafriol ar anghenion hyfforddi oedolion Cymru. Mae angen i wleidyddion i ddangos eu bod yn bwriadu rhoi pob cyfle posibl i unigolion, cymunedau a’r economi gyrraedd eu potensial."

Diwedd

25/11/15: Canlyniadau Cystadlaethau Aml-chwaraeon Cenedlaethol ColegauCymru

Bu cystadlaethau aml-chwaraeon cenedlaethol Cymru i fyfyrwyr colegau ar 10-11 Tachwedd yn wledd o sgiliau chwaraeon, gydag enillwyr o 10 coleg yn dangos bod dawn a photensial am chwaraeon i’w canfod ym mhob cwr o Gymru.

Cynhaliwyd cystadlaethau cenedlaethol Chwaraeon Colegau Cymru ar 10 ac 11 Tachwedd 2015 yng Nghaerdydd gydag 800 o fyfyrwyr colegau 16-19 oed ar draws Cymru’n cystadlu mewn 11 camp gwahanol.

Cyflwynodd 20 campws colegau gystadleuwyr mewn badminton, pêl-fasged, pêl-droed, golff, hoci, pêl-rwyd, rygbi 7 bob ochr, sboncen, tennis bwrdd, tennis a phêl-foli.

Bydd yr enillwyr yn cynrychioli Colegau Cymru ym Mhencampwriaeth Chwaraeon Cenedlaethol yr AoC ledled y Deyrnas Unedig yn Newcastle yn 2016. Pencampwriaeth Chwaraeon Cenedlaethol AoC yw’r digwyddiad chwaraeon blynyddol mwyaf i fyfyrwyr yn y Deyrnas Unedig, gan ddenu dros 2,000 o fyfyrwyr a staff y flwyddyn.

Dywedodd Judith Evans, Cadeirydd ColegauCymru / CollegesWales: “Roedd pencampwriaethau Colegau Cymru’n llwyfan gwych i ddangos yr hyn y gall pobl ifanc sydd wedi dotio ar chwaraeon ei gyflawni, gan gynnwys tasglu gwirfoddoli rhyfeddol sy’n deillio o gorff cynyddol o fyfyrwyr sy’n arweinwyr.

“Llongyfarchiadau i’r enillwyr, sydd eisoes nôl wrthi’n hyfforddi, wrth iddynt baratoi i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth Chwaraeon Cenedlaethol yr AoC 2016 yn

Newcastle y gwanwyn nesaf.”

Bu’r gefnogaeth gan y gymuned chwaraeon ehangach yn gryfder arbennig, gan agor cyfleusterau ansawdd uchel newydd a chefnogaeth sefydliadol a hyfforddiant gan Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol a chlybiau chwaraeon.

Ymhlith y Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol a gefnogodd y digwyddiad mae Pêl-fasged Cymru, Hoci Cymru, Datblygu Golff Cymru, Pêl-rwyd Cymru, Sboncen a Phêl-raced Cymru a Thennis Cymru.

Darparodd staff a myfyrwyr prifysgolion a cholegau weithlu o wirfoddolwyr ar y diwrnod, gan gynnwys myfyrwyr o Brifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Active Valleys, Coleg Sir Gâr, Coleg y Cymoedd a’r Coleg Merthyr Tudful.

Dywedodd Gavin Williams, Cyfarwyddwr Ysgolion Pêl-fasged Cymru: “Roeddem wrth ein boddau o fod yn gysylltiedig â chystadlaethau cenedlaethol Chwaraeon Colegau Cymru eleni. Canolbwyntia Pêl-fasged Cymru ar gael mwy o chwaraewyr i chwarae pêl-fasged clwb ar lefel uwch, felly mae cael cyfle i weithio gyda’r grŵp oedran 16-19 yn cynnig cyfle perffaith i bontio. Bodolai awyrgylch gwych ar hyd y gystadleuaeth, gyda llawer o dimau’n cael eu cyflwyno a chystadleuaeth gref. Llongyfarchiadau i bawb!”

Dywedodd Gareth Morgan, Rheolwr Clwb Golff Caerdydd: “Mae’r clwb yn angerddol ynghylch datblygu golff iau ac roedd yn falch o weld golffwyr dawnus yn cael profiad o’r cyfleusterau trwy gystadlaethau cenedlaethol Chwaraeon Colegau Cymru. Roedd hi’n wych gweld doniau o bob cwr o Gymru’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth, a phob lwc i’r dynion a’r menywod ifanc fydd yn cynrychioli Colegau Cymru yn Newcastle.

Clôdd Judith Evans, Cadeirydd Colegau Cymru trwy ddweud: “Mae cynllunio a hwyluso 800 o gystadleuwyr ar draws pum lleoliad gwahanol yn dasg a hanner. Gwnaed y dasg yn bosibl diolch i help a chefnogaeth staff y colegau oedd ynghlwm â threfnu, gweinyddu, hyfforddi, gyrru a goruchwylio a chefnogi myfyrwyr. Mae’n wych gweld yr ystod enfawr o bartneriaid o’r gymuned chwaraeon ehangach yn cryfhau ac yn tyfu eu cefnogaeth ar gyfer chwaraeon colegau.

“Pob lwc i’r cystadleuwyr a fydd yn cynrychioli Cymru’r gwanwyn nesaf, a diolch twymgalon i’r holl gefnogwyr yn y gymuned chwaraeon ehangach wrth helpu tyfu colegau sy’n dotio ar chwaraeon.”

Diwedd

Enillwyr:

Digwyddiad Enillydd
Rygbi 7 bob ochr y Dynion Coleg y Cymoedd - Nantgarw
Pêl-fasged Dynion Coleg Pabyddol Dewi Sant
Pêl-rwyd Coleg Gŵyr Abertawe
Pêl-foli Dynion Coleg Gwent - Parth Dysgu Blaenau Gwent
Pêl-foli’r Menywod Coleg y Cymoedd - Nantgarw
Tennis Bwrdd – Dynion Sengl Tyler Wasley, Coleg Penybont
Tennis Bwrdd – Dynion Dwbl Matthew Simmonds ac Ashley Jones, Coleg Penybont
Hoci Menywod Coleg Gŵyr Abertawe
Pêl-droed 5 bob ochr dynion Coleg Gŵyr Abertawe
Pêl-droed 5 bob ochr menywod Coleg y Cymoedd – Ystrad Mynach
Badminton – Dynion Sengl Dhruv Bansal, Coleg Cambria - Iâl
Badminton – Menywod Sengl Danielle Stevenson, Coleg Sir Gâr
Badminton- Dynion Dwbl Ben Richards a Luke Pierce, Coleg Sir Benfro
Sboncen Dynion Elliott Morris–Devred, Coleg Pabyddol Dewi Sant
Sboncen Menywod Elin Harlow, Coleg Llandrillo, Grŵp Llandrillo Menai
Tennis - Dynion Sengl Matthew Lloyd, Coleg Gŵyr Abertawe
Tennis – Menywod Sengl Joanne Rees, Coleg Penybont
Tennis – Dynion Dwbl William Bateman a Lewis Phillips, Coleg Sir Benfro
Golff Dynion Matthew Harris, Coleg Pabyddol Dewi Sant
Jordan Pearson, Coleg Cambria - Iâl
Harri Pachu, Coleg Gŵyr Abertawe
Ben Hicks, Coleg Gwent - Cross Keys
Golff Menywod Elin Jones, Coleg Meirion Dwyfor, Grŵp Llandrillo Menai
Sophie Michael, Grŵp Castell-nedd Port Talbot – Castell-nedd

24/11/15: Penderfyniadau Dewr eu Hangen i Gyflawni Sgiliau ar gyfer Cenedl Lewyrchus: maniffesto colegau ar gyfer etholiadau’r Cynulliad

Mae angen i Lywodraeth nesaf Cymru i wneud penderfyniadau dewr er mwyn darparu addysg a sgiliau o'r radd flaenaf ar gyfer Cymru lewyrchus. Felly dyweud y corff sy'n cynrychioli colegau addysg bellach yng Nghymru, ColegauCymru, mewn maniffesto a gyhoeddwyd heddiw ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn 2016.

Er gwaethaf cyd-destun gyllido heriol, mae colegau wedi croesawu newid. Maent wedi arwain cyfres o uniadau, wedi sefydlu colegau yn ganolfannau sgiliau rhanbarthol, ac maent yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i ddatblygu dinasyddion hyderus sy'n barod i sefydlu eu hunain yn yr economi fyd-eang.

Ond mae gan Gymru ffordd bell i fynd i fod yn llewyrchus. Mae'r maniffesto, Sgiliau ar gyfer Cenedl Lewyrchus, yn galw am i'r llywodraeth nesaf i:

  • Yrru cynhyrchiant drwy gynyddu cyflenwad o sgiliau wedi’i arwain gan gyflogwyr
  • Gwella cyfleoedd dysgwyr 16-19 oed drwy ddarparu ystod lawn o opsiynau, academaidd a galwedigaethol, ar draws Cymru
  • Diogelu addysg alwedigaethol lefel uwch sy'n diwallu anghenion economaidd Cymru
  • Diwallu anghenion dysgwyr yn eu holl amrywiaeth.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, Iestyn Davies: "O edrych ar y DU, gwan yw addysg ac economi Cymru. Mae arnom angen ad-drefnu addysg a hyfforddiant ar frys er mwyn sicrhau bod pob dysgwr 16-19 oed yn cael cynnig ystod lawn o opsiynau academaidd a galwedigaethol o ansawdd uchel. Mae angen ar ddysgwyr cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg fel ei gilydd gael mynediad at addysg a hyfforddiant sy'n eu paratoi ar gyfer gweithle cystadleuol a phrifysgolion o fri.

"Mae angen buddsoddi mewn addysg rhan-amser i oedolion. Mae ailhyfforddi parhaus yn hanfodol yn economi byd-eang a newidiol heddiw, ac mae gormod yng Nghymru heb unrhyw gymwysterau o gwbl a llawer mwy â chymwysterau lefel isel. Mae'n rhaid i hyn newid.

"Mae hefyd angen buddsoddi mewn sgiliau er mwyn symud Cymru i economi uchel ei sgiliau a chyda chyflogau uchel. Rydym yn galw ar y llywodraeth nesaf i fuddsoddi mewn prentisiaethau lefel uwch ac i symleiddio ariannu graddau sylfaen. "

Meddai Cadeirydd ColegauCymru, Judith Evans: "Bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn wynebu cyfres o heriau sylweddol. Dim ond drwy weithio mewn partneriaeth â’r colegau a darparwyr hyfforddiant yng Nghymru y bydd modd wynebu’r heriau ym maes addysg bellach a sgiliau.

"Mae ein maniffesto yn dangos sut y gall y llywodraeth nesaf a'r sector addysg a hyfforddiant ôl-16 gyflawni'r uchelgais o addysg a sgiliau ôl-16 o safon fyd-eang i Gymru. Mae'n ymwneud gymaint â sut mae colegau eisiau newid eu hunain ag ydyw’n ymwneud â sut mae’n rhaid i bolisïau’r llywodraeth newid.

"Dangosodd pobl ifanc Cymru yr wythnos diwethaf sut, gyda chefnogaeth colegau a darparwyr hyfforddiant seiliedig ar waith, eu bod yn gallu cystadlu gyda'r gorau yn y DU.

"Yn Rowndiau Terfynol WorldSkills UK a gynhaliwyd yn y Skills Show yn Birmingham yr wythnos diwethaf, enillodd Cymru 44 o gwobrau. Mae ugain o Gymry ifanc eisioes wedi cael eu derbyn i Sgwad WorldSkills UK, gyda’r gobaith o gael eu dewis i gystadlu yn y WorldSkills nesaf yn Abu Dhabi yn 2017.

"Mae ein sector addysg a hyfforddiant ôl-16 yn uchelgeisiol. Mae arnom angen i'r llywodraeth nesaf ddangos ei fod yn rhannu'r un uchelgais ac y bydd yn gweithio gyda'r sector i ddatblygu sgiliau Cymru fel y gallwn adeiladu cenedl fwy llewyrchus."

Diwedd

18/11/15: Astudiaeth Arloesol yn Rhoi Gwybodaeth am Lefelau Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Ymhlith Pobl Ifanc

Mewn gwaith ymchwil cyntaf o’i fath, mae Chwaraeon Cymru wedi rhoi llais i fyfyrwyr colegau yng Nghymru, i dynnu sylw at arferion chwaraeon a gweithgarwch corfforol pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc.

Bydd yr arolwg arloesol yn darparu gwybodaeth bwysig am sut orau i gefnogi mwy o bobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion i fod yn fwy egnïol yn gorfforol ac yn iachach.

Mae bron i hanner myfyrwyr colegau Cymru (49%) wedi gwirioni ar chwaraeon yn ôl arolwg swyddogol cyntaf* Chwaraeon Cymru ar sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru.

Daw’r ffigurau a lansiwyd heddiw ychydig wythnosau ar ôl i Chwaraeon Cymru ryddhau canlyniadau ei drydydd arolwg swyddogol ar chwaraeon ysgol. Dangosodd y canlyniadau hynny ffigur ‘wedi gwirioni’ tebyg o 48% ar gyfer plant ysgol, sy’n golygu bod bron i un o bob dau o blant ysgol yng Nghymru’n cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.

Mynegodd mwy na 4,500 o fyfyrwyr 16 oed a hŷn eu barn am beth sy’n gwneud iddynt fod yn egnïol. Fel gyda’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol eleni, mae ffactorau fel mwynhad, hyder, teimlo’n rhan o bethau a’u barn yn cael sylw i gyd yn gymhelliant cryf ac amlwg i fod wedi gwirioni ar chwaraeon. Fodd bynnag, er bod tueddiadau tebyg i’w gweld yn yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol a’r Arolwg AB, mae’r bwlch ystyfnig yn y cymryd rhan rhwng merched a bechgyn yn cynyddu ymhlith myfyrwyr coleg, ac felly hefyd y bwlch rhwng y rhai sydd ag anabledd a’r rhai sydd heb anabledd.

Datgelodd yr arolwg y canlynol:

  • Mae 49% o fyfyrwyr wedi gwirioni ar chwaraeon – sef pwynt canran yn uwch na nifer y plant ysgol sydd wedi gwirioni (48%)
  • Adroddir bod ymhell dros hanner y bechgyn (59%) wedi gwirioni ar chwaraeon, o gymharu â 52% ar lefel ysgol
  • Mae nifer y merched sydd wedi gwirioni’n gostwng i 40% wrth gymharu â merched ar lefel ysgol (44%)
  • Hoffai 83% o’r myfyrwyr wneud mwy o chwaraeon
  • Mae bron i draean (32%) y myfyrwyr coleg sydd ag anabledd neu nam wedi gwirioni ar chwaraeon o gymharu â 51% heb anabledd neu nam - mae hynny’n is na’r ffigur ‘wedi gwirioni’ ar gyfer plant ysgol sydd ag anabledd (40%)
  • Mwy nag un o bob pump myfyriwr (23%) yn gwirfoddoli mewn chwaraeon.

Er bod yr arolwg yn dangos bod 60% yn debygol o fod wedi gwirioni ar chwaraeon os yw eu syniadau’n cael sylw bob amser, dim ond 10% o’r rhai a arolygwyd oedd yn credu bod eu syniadau’n cael eu hystyried wrth gynllunio chwaraeon.

Canfu’r arolwg hefyd bod 43% yn mwynhau chwaraeon yn fawr mewn canolfan hamdden neu glwb. Fodd bynnag, byddai 32% o’r rhai sydd eto i fod wedi gwirioni ar chwaraeon yn hoffi gwneud mwy o weithgarwch awyr agored. Rhestrwyd cymryd rhan gyda ffrindiau fel ffactor sy’n cymell bod yn fwy egnïol, a dod yn heini hefyd.

Wrth gyflwyno sylwadau ar y ffigurau, dywedodd Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: “Mae’n galonogol gweld bod nifer y rhai sydd wedi gwirioni ar chwaraeon mewn addysg bellach yn uchel ochr yn ochr â’r niferoedd cynyddol sydd wedi gwirioni ar lefel ysgol. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod llawer o waith i’w wneud eto er mwyn gwneud yn siŵr nad oes oedi gyda’r momentwm cadarnhaol sydd wedi’i sicrhau ar lefel ysgol. Rydyn ni wedi bod yn ymwybodol ers peth amser o’r gostyngiad mewn cymryd rhan ymhlith merched ar ôl eu cyfnod yn yr ysgol ac mae’r canlyniadau yma’n cyflwyno tystiolaeth bellach o’r gwaith y bydd rhaid i ni ei wneud ar y cyd.

“Mae’n rhaid i ni edrych ar sut gallwn ni greu profiad o chwaraeon a gweithgarwch corfforol sy’n bleserus, yn magu hyder ac yn cynnwys y myfyrwyr yn y gwaith o ddarparu’r gweithgareddau. Gydag 83% o fyfyrwyr yn dweud yr hoffent wneud mwy o chwaraeon, mae’n rhaid i ni edrych o’r newydd ar sut rydym yn mynd ati’n effeithiol i greu darpariaeth greadigol ar gyfer y myfyrwyr i gyd, nid dim ond y rhai sydd eisoes yn cymryd rhan drwy astudiaethau cysylltiedig â chwaraeon. Mae hyn yn tynnu sylw at ba mor bwysig y bydd i golegau weithio gyda darparwyr chwaraeon cymunedol er mwyn creu darpariaeth sy’n cynnwys y rhai sydd heb ddewis astudio chwaraeon.

“Gyda’r arolwg yma, mae gennym ni wybodaeth i lenwi’r bwlch rhwng ein harolwg ar ysgolion a’n harolwg a’r oedolion ac mae posib i ni gadw golwg fanylach ar y llwybr o’r ysgol i AB ac i’r gymuned. Mae hefyd yn cynnig llawer iawn o ddata er mwyn i ni allu cynllunio a darparu’r chwaraeon mae pobl ifanc eu heisiau.”

Hefyd, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae pob coleg yng Nghymru wedi bod yn datblygu timau rheoli myfyrwyr sy’n cynnwys ac yn rhoi llais i’r boblogaeth ehangach o fyfyrwyr o ran dewisiadau chwaraeon. Dau o dimau rheoli myfyrwyr profiadol sy’n arwain y ffordd yw Coleg Sir Gâr a Champws Cross Keys Coleg Gwent, sy’n helpu i gael grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli o fyfyrwyr i fod yn fwy egnïol.

Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru, Judith Evans: “Mae canlyniadau’r arolwg yma’n rhoi gwybodaeth eithriadol werthfawr i golegau am y math o weithgareddau mae eu myfyrwyr eisiau eu gweld yn cael eu darparu yn y coleg.

“Mae colegau’n gwrando ac yn awyddus i ymateb i ddewisiadau chwaraeon eu myfyrwyr. Bydd y timau rheoli myfyrwyr sy’n cael eu sefydlu mewn colegau’n helpu i wneud yn siŵr, ochr yn ochr â’r arolwg yma, eu bod yn gwybod pa fath o weithgareddau chwaraeon mae’r myfyrwyr yn ymddiddori ynddyn nhw.

“Mae’r arolwg wedi dangos bod myfyrwyr coleg yn hwyluswyr gwych ar chwaraeon yn eu cymunedau lleol. Y dasg nawr yw edrych i mewn - ar gymunedau’r colegau o fyfyrwyr. Mae’n rhaid i ni gyflwyno gweithgareddau newydd sy’n galluogi myfyrwyr i fod yn fwy egnïol yn gorfforol yn eu coleg.

“Gan weithio mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru, mae’r prosiectau sydd yn eu lle yn awr gan golegau yn cynllunio i ddenu 2,000 yn rhagor o ferched i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn colegau yn ystod y flwyddyn academaidd yma. Rydw i’n hyderus y bydd buddsoddiad cyson mewn cyfleoedd chwaraeon mewn colegau yn golygu bod posib i ni ymateb i anghenion merched a’r grwpiau eraill a dangynrychiolir sydd wedi’u canfod gan yr arolwg.”

Am gopi o’r adroddiad yn llawn, ewch i www.chwaraeon.cymru

Diwedd

16/11/15: Ymateb i Brotestiadau Giât

Mewn ymateb i'r protestiadau giât sy’n cael eu cynnal yr wythnos hon mewn colegau addysg bellach gan UCU, dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, Iestyn Davies:

"Mae colegau wedi cael gwybod am fwriad UCU i gynnal protestiadau amser cinio wrth gatiau’r colegau. Nid yw'r undeb mewn anghydfod gyda'r colegau ac mae wedi rhoi sicrwydd y bydd dim tarfu ar ddysgu.

"Mae colegau cydymdeimlo â diben y protestiadau, sef codi ymwybyddiaeth o effaith y toriadau difrifol i gyllid addysg bellach gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cyllid ar gyfer dysgu y tu hwnt i addysg orfodol, yn enwedig ar gyfer oedolion sy'n dymuno - neu sydd mond yn medru - dysgu rhan-amser, wedi cael ei dorri dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’n agosáu at bwynt argyfwng.

"Bu toriad cyffredinol o 6% i gyllid colegau yn 2015/16. Yn fwy dramatig fyth yw bod y gyllideb ar gyfer addysg oedolion rhan-amser mewn colegau wedi cael ei dorri gan 50% yn ystod y flwyddyn academaidd, ac hynny ar ben y toriadau a wnaed yn ystod y ddwy flynedd flaenorol.

"Mae dysgu rhan amser yn rhaff achub eithriadol o bwysig i oedolion sy'n dymuno ail-ymuno â'r gweithlu neu ailhyfforddi yn ystod eu bywydau gwaith. Y llynedd, roedd 60% o'r holl ddysgwyr y coleg yn astudio rhan-amser. Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd y ffigur hwnnw yn 75%.

"Mae swyddi newydd â gofynion sgiliau newydd yn cael eu dyfeisio drwy'r amser. Mewn economi sy'n newid yn gyflym, mae angen i oedolion gael cyfle i ddysgu sgiliau newydd ar yr adeg iawn.


"Rydym yn gobeithio y bydd cyllideb nesaf y Cynulliad, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar ffurf drafft ar ddechrau mis Rhagfyr, yn edrych yn fwy ffafriol ar anghenion hyfforddi oedolion Cymru. Mae angen i wleidyddion i ddangos eu bod yn bwriadu rhoi pob cyfle posibl i gymunedau ac unigolion gyrraedd eu potensial, gan dderbyn yr hinsawdd ariannol anodd."

Diwedd

20/10/15: Cyfle £1 miliwn i brentisiaid a myfyrwyr colegau Cymru i weithio yn Ewrop

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad ar 21 Hydref, bydd ColegauCymru yn galw ar y Cynulliad i ddathlu y cyfle newydd gwerth £1 miliwn ar gyfer prentisiaid a myfyrwyr colegau Cymru i gael lleoliadau gwaith ledled Ewrop.

Bydd y corf, sy'n cynrychioli pob un o golegau a sefydliadau addysg bellach Cymru, yn dangos potensial yr 1.25 miliwn Euros a dderbyniwyd gan y colegau i lansio gyrfaoedd a newid bywydau. Mae'n gynnydd o 55% mewn gwerth prosiect o gymharu â'r llynedd, a, gydag 11 coleg yn cymryd rhan, bydd prentisiaid a myfyrwyr galwedigaethol o bob rhan o Gymru yn gallu elwa o'r cyfle.

Meddai Cadeirydd ColegauCymru, Judith Evans: "Mae colegau yn gweithio'n galed i godi dyheadau ac ehangu gorwelion. Rydym yn awyddus i feithrin ethos yn ein myfyrwyr o ffiniau ddiderfyn. Mae cyfleoedd i gael lleoliadau gwaith mewn cwmnïau mewn gwledydd ar draws Ewrop yn dod â manteision enfawr nid yn unig i'r rhai sy'n ddigon ffodus i fuddio'n uniongyrchol o'r profiad ond hefyd i gymunedau cyfan o fyfyrwyr a'r sector coleg yn gyffredinol."

Mae'r 92 o ddysgwyr o bob cwr o Gymru y bydd ColegauCymru yn trefnu lleoliadau gwaith ar eu cyfer yn gwneud cyflwyniadau i'w cyfoedion yn ogystal â staff ac arweinwyr eu coleg ar ôl dychwelyd, er mwyn lledaenu manteision y profiad yn fwy eang. Mae 270 o ddysgwyr o'r Coleg Merthyr Tudful yn cael eu paratoi i gychwyn i wlad newydd y flwyddyn nesaf - y trydydd prosiect mwyaf o'i fath yn y DU.

Byddant yn adeiladu ar leoliadau gwaith myfyrwyr a phrentisiaid blaenorol sydd eisioes wedi cymryd lle mewn amryw alwedigaeth gan gynnwys: amaethyddiaeth, busnes, arlwyo, gofal plant, adeiladu, gwasanaeth cwsmeriaid, peirianneg, dylunio graffeg, iechyd a gofal cymdeithasol, technoleg gwybodaeth, y gyfraith, a mentora ieuenctid.

Mae un dysgwr o'r Coleg Merthyr Tudful, Stephanie Caviel, newydd ddychwelyd o'i hail gyfnod yn yr Almaen. Gwnaeth argraff cystal yn ystod ei lleoliad gwaith pythefnos o hyd mewn salon trin gwallt yn y gwanwyn, fel i'r cwmni benderfynu ei chyflogi dros yr haf diwethaf, ac yna cynnig swydd barhaol iddi. Meddai Stephanie am ei phrofiad: "Roedd gweithio mewn cwmni yn yr Almaen yn gyfle heb ei ail. Mae'n eich taflu yn y pen dwfn ac mae'n rhaid i chi wir weithio'n galed i lwyddo, ond mae'n rhoi llawer iawn o hyder i chi."

Roedd Stephanie Hallett yng Ngholeg y Cymoedd pan aeth mewn awyren am y tro cyntaf. Cafodd leoliad gwaith mewn ysgol yn yr Eidal fel rhan o'i chymhwyster gofal plant. Ar ôl dychwelyd i Gymru, cafodd ei chyflogi llawn amser fel arweinydd tîm mewn lleoliad gofal plant. Mae hi hefyd yn astudio Gradd Sylfaen yn ei hamser hamdden. Dywedodd am ei phrofiad: "Rwy'n berson gwahanol nawr. Mae gen i werthoedd a nodau gwahanol yr wyf am eu cyflawni. "

Gorffennodd Judith Evans: "Ni ddylai amddifadedd, diffyg cysylltiadau teuluol â busnes mawr, neu ofn yr anhysbys ddal yn ôl taith ddysgu dysgwyr neu rwystro eu huchelgeisiau. Mae colegau Cymru yn awyddus i ddangos i bobl ifanc o bob cefndir a diddordebau gwaith y gall eu lle yn y byd fod yn eu hardal leol neu yn y cwm nesaf neu yn y ddinas agosaf, ond gall yr un mor hawdd fod yn Almaen, yr Eidal, Ffrainc neu'r Ffindir."

Diwedd

19/10/15: Merched yn Tyfu Pêl-droed yng Ngholegau Cymru

Yn y treialon ar gyfer Carfan Ferched Pêl-droed Colegau Cymru ddydd Gwener diwethaf, 16 Hydref, bu 180 o chwaraewyr uchelgeisiol yn gobeithio dilyn talentau gorau y llynedd sydd wedi mynd ymlaen i gael eu dewis ar gyfer Sgwad Hŷn Pêl-droed Cymru.

Mae pêl-droed merched yng ngholegau Cymru yn tyfu ar garlam, yn enwedig yn dilyn cyflwyno fformat 7 bob ochr chwim. Tyfodd treialon Colegau Cymru eleni i gynnwys 14 o dimau o golegau ledled Cymru. Ffurfiodd ran o ail Ŵyl Bêl-droed Colegau Cymru, a gynhaliwyd gan Glwb Pêl-droed Merthyr ym Mharc Pen Y Darren.

Roedd yr Ŵyl yn arddangos sgiliau arwain a sgilau tîm myfyrwyr ar ac oddi ar y cae. Yn dilyn trefniant gan Chwaraeon Colegau Cymru a chefnogaeth y Coleg Merthyr Tudful, myfyrwyr chwaraeon y Coleg Merthyr Tudful fu'n rheoli'r Ŵyl ar y diwrnod, yn goruchwylio cofrestriadau, yn dyfarnu ac yn cyflawni'r holl rolau gwirfoddoli.

Dywedodd Cydlynydd Colegau Chwaraeon Cymru, Rob Baynham: "Mae'n wirioneddol gyffrous gweld twf mewn chwaraeon ymhlith merched ifanc ac i fod â nifer mor fawr o dimau coleg yn cymryd rhan yn yr Ŵyl. Roedd yn llwyfan, hefyd, i ddangos gallu pobl ifanc i drefnu digwyddiadau chwaraeon a darparu cyfleoedd chwaraeon ar gyfer eu cyfoedion. Chwarae, trefnu, arwain, cymryd rhan a chefnogi - daeth y cyfan at ei gilydd yn yr Ŵyl."

Cafodd y chwaraewyr gorau eu dewis ar gyfer tîm cenedlaethol merched Chwaraeon Colegau Cymru, gyda gwersylloedd hyfforddiant a gemau pellach i ddilyn drwy'r flwyddyn. Y llynedd, gwelwyd sawl chwaraewr yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru dan 17 oed, ac ers hynny, mae dwy o'r chwaraewyr, Chloe Lloyd a Ffion Price, wedi ei gwneud hi bob cam i sgwad cenedlaethol hŷn Cymru.

Diwedd

08/10/15: Disgwyliadau uchel gan golegau ar gyfer y corff rheoleiddio annibynnol newydd

Wrth groesawu'r rheoleiddiwr annibynnol newydd ar gymwysterau Cymru ar ei lansiad heddiw, 8 Hydref, dywedodd y corff cenedlaethol sy'n cynrychioli pob coleg yng Nghymru bod ganddo ddisgwyliadau uchel, a'i fod yn edrych ymlaen at weld y rheoleiddiwr yn codi statws cymwysterau galwedigaethol.

Sefydlwyd y rheoleiddiwr newydd, Cymwysterau Cymru, o ganlyniad i un o argymhellion adroddiad pwysig ar gymwysterau Cymru yn 2012 a alwodd am i reoleiddio cymwysterau Cymru fod yn gyfrifoldeb corff annibynnol.

Argymhellodd yr adroddiad yn ogystal y dylai sustem Cymru o gydnabod cymwysterau galwedigaethol gyd-fynd â sustemau gwledydd Ewropeaidd, a bod cymwysterau galwedigaethol yn cael eu cydnabod yn gyfartal â chymwysterau cyffredinol cyfwerth.

Mae ganddo lawer o dir i dalu, gyda newidiadau yn cymryd lle ar unwaith i gymwysterau TGAU, Safon Uwch, Bagloriaeth Cymru a Sgiliau Hanfodol Cymru. Ar yr un pryd, mae cyflogwyr yn chwilio am bobl ifanc sydd â sgiliau meddal a chyda sylfaen gref mewn sgiliau galwedigaethol.

Dywedodd Judith Evans, Cadeirydd ColegauCymru – y corff sy'n cynrychioli'r colegau - "Mae gan golegau ddisgwyliadau uchel ar gyfer Cymwysterau Cymru. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld y corff newydd yn dwyn ynghyd sustem gryfach a chliriach ar gyfer cymwysterau yng Nghymru."

Mae colegau yn cyflwyno ystod arbennig o eang o gymwysterau, o sgiliau sylfaenol mewn llythrennedd a sgiliau byw'n annibynnol hyd at gymwysterau proffesiynol technegol.

Aeth Judith Evans yn ei blaen: "Mae ar golegau angen cymwysterau sy'n cael eu cydnabod a'u parchu gan brifysgolion a chyflogwyr ar draws y DU, Ewrop a gweddill y byd.

"Ar yr un pryd, mae angen sustem sy'n ddigon hyblyg i ymateb i anghenion ystod amrywiol o ddysgwyr. Mae rhai dysgwyr yn dod o hyd i'w traed yn gyflym ac yn hawdd yn y dosbarth; mae'n well gan eraill i ddysgu drwy wneud – ac mae arnynt angen mwy o gyfleoedd yn y gweithle; tra bod rhai angen cymorth ychwanegol i gyrraedd eu nodau astudio.

"Mae angen i gymwysterau galwedigaethol i addasu yn barhaus er mwyn ymateb i arloesedd a ffyrdd newydd o weithio. Mae arnom angen mwy o opsiynau dwyieithog a mwy o ddysgu i fod ar gael ar-lein ochr yn ochr â'r ystafell ddosbarth a lleoliadau ymarferol.

"Mae colegau yn edrych ymlaen at chwarae eu rhan ochr yn ochr â Cymwysterau Gymru o ran hyrwyddo hyder y cyhoedd mewn cymwysterau. Dymunwn yn dda iddo ar ddechrau ei daith. "

Diwedd

08/10/15: Angen cydweithio strategol ar addysg alwedigaethol ddwyieithog: y neges o Wlad y Basg

Mae Sgiliaith a CholegauCymru, dau gorff cenedlaethol sy'n cynrychioli'r sector addysg bellach yng Nghymru, yn galw am gydweithio strategol ar addysg alwedigaethol ddwyieithog, gan gynnwys cyrff addysg a hyfforddiant ôl-16, cyflogwyr, a'r llywodraeth.

Daw'r alwad wrth iddynt ddychwelyd o ymweliad pwrpasol â Gwlad y Basg fel rhan o ddirprwyaeth sector addysg bellach Cymru.

Bu cynnydd yn y cyfleoedd dwyieithog yng ngholegau addysg bellach Cymru dros y blynyddoedd diwethaf. Er mwyn adnabod mwy o welliannau posib, mae'r sector yn awyddus i edrych ar arferion da o bedwar ban byd.

Diolch i arweiniad Sgiliaith, cefnogaeth ColegauCymru, a nawdd Ewropeaidd, bu dirprwyaeth o ddeg yn cynrychioli'r sector addysg bellach a Llywodraeth Cymru yng Ngwlad y Basg yr wythnos ddiwethaf (28 Medi – 02 Hydref) yn rhannu arfer da ar ddwyieithrwydd yn addysg a hyfforddiant ôl 16. Cawsant drafodaethau a chyflwyniadau gan lywodraeth Gwlad y Basg yn ogystal â sefydliadau addysg a chyrff cymunedol.

Mewn gwlad lle nad oes trefn archwilio lefel genedlaethol yn bodoli, rhoir y byrdwn o sicrhau ansawdd addysg ôl-16 yng Ngwlad y Basg ar gyd-weithio agos iawn rhwng y colegau a chyflogwyr lleol. Gydag arweiniad cryf oddi wrth cyflogwyr lleol a'r llywodraeth fel ei gilydd am sgiliau dwyieithog ac aml-ieithog, mae cryn dipyn mwy o ddysgu ac addysgu dwyieithog yn digwydd yng Ngwlad y Basg nag oes yng Nghymru.

Dywedodd Cyfarwyddwr Sgiliaith, Angharad Roberts, trefnydd yr ymweliad: "Yr hyn oedd yn drawiadol i mi oedd lefel yr ymfalchïo mewn dwyieithrwydd ac aml-ieithrwydd a'r ffaith bod cael iaith a diwylliant unigryw yn golygu gwerth ychwanegol. Mae'r defnydd o'r Fasgeg yn cael ei weld fel iaith gyfredol, iaith diwydiant a diwylliant ac yn cynyddu dealltwriaeth a mynediad unigolion i blatfform gwasanaethu a
chynhyrchu byd-eang.. Gwych oedd clywed, hefyd, y defnydd o'r term 'Siaradwyr Newydd y Fasgeg' nid 'siaradwyr ail iaith' fel yr ydym yn ei wneud yng Nghymru. Mae pob un sy'n siarad Basgeg yn ddwyieithog ar rhyw lefel a does neb yn 'ddysgwr'. Rydym wedi dysgu lot fawr yn ystod yr ymweliad a'r bwriad yw cynnal gweithgareddau amrywiol, i rannu'r hyn a ddysgwyd, dros y misoedd nesaf."

Dywedodd Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd ColegauCymru, Claire Roberts, fu'n rhan o'r ddirprwyaeth: "Y neges bwysicaf oll i ni o Wlad y Basg oedd lefel uchel y cydweithio rhwng y colegau, cyflogwyr a'r llywodraeth wrth normaleiddio dwyieithrwydd. Mae lle i Gymru gydweithio'n well er mwyn gwella ar fuddsoddi, cynllunio, darparu a sicrhau ansawdd dysgu ac addysgu alwedigaethol ddwyieithog ôl-16 mewn modd effeithlon."

Bydd cyfle i drafod y materion hyn ymhellach – ynghyd â negeseuon o wledydd eraill ar ddysgu ac addysgu - mewn cynadleddau cenedlaethol ar gyfer y sector addysg a hyfforddiant ôl-16 dan drefniant ColegauCymru a Sgiliaith yn y gwanwyn.

Bydd y cynadleddau yn edrych ar newidiadau posib i drefniadau a strwythurau addysg a hyfforddiant ddwyieithog ôl-16.

Diwedd

07/10/15: Colegau yn annog ail-ymrwymiad i sgiliau oedolion a dysgu gydol oes

Yng nghyfarfod Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad heddiw, 7 Hydref, bydd ColegauCymru yn galw ar y Cynulliad i ailafael yn sgiliau oedolion a dysgu gydol oes.

Bydd y corff, sy'n cynrychioli pob un o golegau a sefydliadau addysg bellach Cymru, yn cydnabod ymateb realistig y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor ar gyfleoedd cyflogaeth ar gyfer pobl dros 50 oed, ond yn annog y Cynulliad i sicrhau bod addysg ddim yn cael ei gyfyngu i bobl ifanc yn unig.

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod mwy na 25,000 o ddysgwyr dros oed 50 yn astudio mewn coleg addysg bellach.

Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru, mae tua 90,000 yn llai o unigolion mewn dysgu ar draws y sector sgiliau ôl-16 yng Nghymru na deng mlynedd yn ôl. Mae'r cwymp mwyaf dramatig i'w gweld mewn dysgu rhan amser, gyda gostyngiad o 7.2% dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig mewn colegau addysg bellach.

Meddai Cadeirydd ColegauCymru, Judith Evans: "Mae ColegauCymru yn deall mai adnoddau cyfyngedig sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. O fewn y cyd-destun yma, mae'r Llywodraeth wedi blaenoriaethu gwariant ar addysg cyn-16 yn ystod tymor y Cynulliad presennol.

"Mae adroddiad y Pwyllgor i'w groesawu wrth iddo nodi anghenion pobl dros 50 oed. Ry'n ni'n cydnabod bod y Llywodraeth bresennol wedi cymryd rhai camau cadarnhaol i fynd i'r afael â'r anghenion hynny.

"Fodd bynnag, mae perygl y gall addysg ddod yn gyfle unwaith mewn oes i bobl ifanc yn absenoldeb seilwaith ariannu priodol ar gyfer dysgu oedolion.

"Bydd ColegauCymru yn parhau i bwyso am gydnabod anghenion pob dysgwr er budd economi Cymru a'r gymdeithas ehangach."

Diwedd

19/08/15: Tri Chymro wedi eu anrhydeddu yn WorldSkills Brasil

Dychwelodd tri Chymro talentog o'r gystadleuaeth WorldSkills ym Mrasil gydag anrhydedd ar ôl cynrychioli tîm y DU.

Dyfarnwyd Medaliwn Rhagoriaeth i Elias Sumner, technegydd Automobile o Fae Caerdydd, Owain Jones, saer o Flaenau Ffestiniog ac Eleni Constantinou, triniwr gwallt o Gaerffili, ar ôl pedwar diwrnod o gystadlu brwd yn São Paulo yn erbyn bron i 1,000 o bobl ifanc gorau'r byd yn eu sgiliau.

Cafodd y tri eu cydnabod am ei sgiliau o'r radd flaenaf, pob un yn sgorio mwy na 500 o bwyntiau i ragori ar y safon ryngwladol.

Mae WorldSkills, cystadleuaeth sgiliau fwyaf y byd, yn cael ei gynnal bob yn ail flwyddyn o amgylch y byd i ddathlu sgiliau ac i rannu arfer gorau rhwng diwydiannau a gwledydd. Mae'r ystod o gystadlaethau yn cwmpasu sgiliau megis dylunio gwe, cynnal a chadw awyrennau, marsiandïaeth gweledol, a thrin gwallt.

Bu Elias, 20, sy'n gweithio i Halfords, yn cystadlu yn erbyn 39 o dechnegwyr Automobile. "Rwy'n teimlo bod cael fy newis ar gyfer tîm y DU yn gamp anhygoel ynddo'i hun, ond yr wyf yn falch iawn o fod wedi dod adref gyda Medaliwn Rhagoriaeth ac i gael fy nghydnabod am fy sgiliau yn y modd hwn," meddai. "Ni all llawer o bobl roi rhywbeth fel hyn ar eu CV!"

Saer coed hunangyflogedig yw Owain, 21, sydd wedi ei addysgu gan Goleg Meirion Dwyfor, rhan o Grwp Llandrillo Menai. Bu'n cystadlu yn erbyn 19 o seiri coed. "Rydw i mor falch o fy mherfformiad. Roedd profiad y gystadleuaeth yn rhywbeth wna i byth anghofio," dywedodd.

Bu Eleni, 21, sy'n gweithio i'w salon teuluol Tino Constantinou Hairdressers, ac sy'n cael ei chefnogi gan Goleg Sir Gâr, yn cystadlu yn erbyn 31 o steilwyr gwallt. Rydym i gyd wedi dysgu cymaint yn ystod y broses - gwybodaeth a sgiliau newydd y gallwn eu cymryd gyda ni wrth i ni symud ymlaen yn ein gyrfaoedd," meddai.

Enillodd tîm y DU dair medal aur, pedair arian a dwy efydd yn ogystal â 23 o medaliynau rhagoriaeth, gan sicrhau y seithfed safle i'r DU ar restr fedalau'r WorldSkills, sy'n welliant o'r 10fed safle yn y WorldSkills diwethaf, a gynhaliwyd yn Leipzig yn 2013.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Cymru ar gyfer Sgiliau a Thechnoleg, Julie James: "Mae hwn yn gyflawniad gwych! Rydym mor falch o'r cystadleuwyr o Gymru. Mae'n amlwg bod llawer o waith caled a phenderfyniad wedi mynd i berffeithio eu sgiliau a'r ffaith eu bod yn gallu arddangos eu gallu mewn amgylchedd cystadleuaeth o'r fath bwysau yn cadarnhau eu talentau rhagorol.

"Mae llawer o'r cystadleuwyr yn dechrau dysgu eu crefft mewn colegau ledled Cymru ac i gael eu cydnabod yn fyd-eang fel y gorau yn eich maes yn dangos safon y dysgwyr medrus, prentisiaid a darparwyr hyfforddiant sydd gennym yma ein gwlad."

Diwedd

19/08/15: Canlyniadau Safon Uwch Trawiadol gan Golegau Cymru

Mae cyfradd lwyddo Safon Uwch ystod eang o golegau addysg bellach Cymru yn uwch na chyfartaledd y DU. Mae'r gyfradd lwyddo ar y graddau uchaf hefyd wedi gweld cynnydd nodedig mewn nifer o golegau. Mae llawer o fyfyrwyr coleg nawr ar fin cychwyn eu ffordd i brifysgolion mawreddog megis y Grŵp Russell a Rhydgrawnt.

Yn dangos cyfradd lwyddo uwch na chyfartaledd y DU (98.1%) mae Grŵp Llandrillo Menai, Coleg Gŵyr Abertawe, Grŵp NPTC, y Coleg Merthyr Tudful, Porth Ddysgu Blaenau Gwent Coleg Gwent, Coleg Sir Gâr a Choleg Sir Benfro. Yn ogystal, mae colegau eraill wedi cwrdd â chyfradd lwyddo Cymru (97%).

Rhed nifer o golegau addysg bellach raglenni arbennig ar gyfer myfyrwyr dawnus a thalentog: gwelsant ganlyniadau rhagorol. Mae 100 y cant o fyfyrwyr rhaglen dawnus a thalentog Academi Chweched Dosbarth Castell-nedd Port Talbot wedi ennill graddau A*-B, gyda 90 y cant ohonynt wedi cyflawni A*-A.

Mae colegau yn darparu rhan sylweddol o'r addysg academaidd yng Nghymru. Er enghraifft, safodd 1,000 o fyfyrwyr Coleg Gwent arholiadau Safon Uwch eleni, a 650 yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig tua 50 o opsiynau Safon Uwch, gyda 86 o fyfyrwyr yn cyflawni graddau A*-A eleni. Cyflawnodd 26 o fyfyrwyr Coleg Cambria gyfres o raddau A*-A, tra bod 31% o ganlyniadau Coleg Catholig Dewi Sant wedi eu graddio A*-A – ymhell uwchben cyfartaledd y DU o 25.9%.

Bu canlyniadau trawiadol hefyd o newydd-ddyfodiaid i'r Safon Uwch. Wrth adrodd ei set gyntaf o ganlyniadau A2, dengys Y Coleg Merthyr Tudful ei fod wedi cyrraedd y tu hwnt i'r gyfradd lwyddo genedlaethol. Cyhoeddodd Parth Ddysgu Blaenau Gwent ei ail set o ganlyniadau Safon Uwch llawn eleni, gyda dros 76% o'i fyfyrwyr yn cyflawni graddau A*-C.

Y tu hwnt i'r ystadegau, mae hanesion o lwyddiant unigol anhygoel. Yn y de-orllewin, bydd Shannon Gilbert, fu byw gynt yn Awstralia ac sy'n fyfyriwr yng Ngholeg Sir Gâr, yn mynd i astudio Astudiaethau Asiaidd a Dwyrain Canol yng Ngholeg Churchill, Caergrawnt ar ôl cyrraedd A*A*A*A.

Derbyniodd Ashley Davies-Lyons, a fu'n astudio yn NPTC Group, A*A*AB mewn Ystadegau Mathemateg, Cyfrifiadureg, Ffiseg a Hanes, ac mae bellach yn mynd i Goleg Imperial Llundain i astudio Cyfrifiadureg.

Mae myfyriwr Coleg y Cymoedd Andrew Williams ar ei ffordd i Brifysgol Rhydychen i astudio Ffiseg ar ôl ennill tair A* ac A mewn Mathemateg, Mathemateg pellach, Ffiseg a Chemeg.

Mae myfyrwyr aeddfed hefyd yn dangos eu doniau yn y canlyniadau Safon Uwch. Bydd Andrew Gwynne, a astudiodd yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, yn mynd i Brifysgol Caergrawnt ar ôl derbyn set gwych o ganlyniadau.

Roedd dysgwyr galwedigaethol sydd wedi astudio diplomâu estynedig - sy'n cario'r un pwyntiau UCAS fel Safon Uwch - hefyd yn cadarnhau eu lle mewn prifysgol heddiw.

Dywedodd Prif Weithredwr Dros Dro ColegauCymru, Greg Walker: "Mae colegau ledled Cymru yn iawn i fod yn falch o'r canlyniadau hyn.

"Mae colegau yn darparu rhan sylweddol o'r addysg academaidd ar gyfer yr ystod oedran 16-18 yng Nghymru, ac mae eu cyflawniadau yn drawiadol, gyda hanesion da iawn o ddilyniant myfyrwyr i addysg uwch, gan gynnwys i'r prifysgolion mwyaf mawreddog.

"Llongyfarchiadau i'r myfyrwyr, ac i'r athrawon a'r holl staff yn y colegau addysg bellach sydd wedi eu cefnogi ar eu ffordd i lwyddiant."

Diwedd

20/07/15: Prif Weithredwr Newydd i Gorff Cynrychioliadol y Colegau

Cyhoeddodd ColegauCymru / CollegesWales mai Iestyn Davies fydd yn dod yn Brif Weithredwr newydd arno'n nes ymlaen eleni. Fe fydd â'r dasg o gynrychioli a hyrwyddo addysg bellach i wneuthurwyr penderfyniadau a dylanwadwyr allweddol yng Nghymru.

Mae gan Iestyn, sydd ar hyn o bryd yn Uwch Bennaeth Materion Allanol ledled Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn y Ffederasiwn Busnesau Bach, gyfrifoldeb uwch reoli am y gwaith a wneir gan dîm y Ffederasiwn ar draws y gwledydd datganoledig.

Yn ogystal, mae'n aelod o ystod o bwyllgorau dylanwadol gan gynnwys: Cyngor Adnewyddu'r Economi Llywodraeth Cymru, Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru, Pwyllgor Monitro Rhaglen Cronfeydd yr UE a Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Drechu Tlodi.

Bydd yn gweithio'n agos gyda Chadeirydd a Bwrdd Cyfarwyddwyr ColegauCymru i sicrhau bod llais addysg bellach yn cael ei gynrychioli'n gryf ar bob lefel gwneud penderfyniadau.

O roi sylwadau ar benodiad Iestyn, dywedodd Cadeirydd ColegauCymru, Judith Evans: Mae'n bleser gan ColegauCymru gyhoeddi bod Iestyn Davies wedi'i benodi'n Brif Weithredwr. Mae gan Iestyn brofiad cyfoethog o weithio gyda chyflogwyr ar hyd a lled gwledydd Prydain ac mae'n deall yr effaith gadarnhaol y mae addysg bellach yn ei chael ar economi Cymru. Rwy'n ffyddiog y bydd Iestyn yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at y sector addysg bellach."

Gan drafod ei benodiad, dywedodd Iestyn Davies: "Mae colegau AB mewn lleoliadau unigryw ar draws cymunedau amrywiol Cymru. Cefnogant fyfyrwyr o bob oed i gyflawni eu nodau unigol bob dydd trwy'r dydd a chyfrannant at gynhyrchiant busnesau o bob maint. Mae colegau AB yn darparu gofal ansawdd uchel i bobl ifanc yn ogystal ag i'n dinasyddion hŷn gan gyfoethogi bywyd diwylliannol ein gwlad yn ein diwydiannau creadigol.

"Bu symud ymlaen o'r Ffederasiwn Busnesau Bach yn benderfyniad anodd ei wneud ond credaf yn gryf na fu erioed cyfnod lle'r oedd colegau Cymru cyn bwysiced ag y maen nhw ar hyn o bryd."

Yn ogystal â'r pwyllgorau strategol y mae Iestyn Davies yn cyfrannu atynt sy'n berthnasol i'r agenda sgiliau, mae wedi profi ei ymrwymiad personol i wella ansawdd addysg fel llywodraethwr ysgol gynradd a phrifysgol, fel aelod Bwrdd Cynghori Cymwysterau Cymru, ac fel cyn arolygydd lleyg i'r arolygiaeth addysg, Estyn. Mae ganddo Radd Meistr mewn Cyfathrebu Gwleidyddol.

Bydd yn dechrau ar ei benodiad yn yr hydref.

Diwedd

Colegau Cymru yn dathlu Cyfres y Lludw yn dod i Gaerdydd gyda phartneriaeth criced newydd

Gyda'r prawf Cyfres y Lludw yng Nghaerdydd a phob llygad ar griced, lansiwyd partneriaeth newydd i dyfu'r gêm ymhlith chwaraewyr ifanc yn y colegau.

Mae Chwaraeon Colegau Cymru a Criced Cymru wedi arwyddo partneriaeth newydd er mwyn datblygu criced mewn colegau addysg bellach Cymru, ac i ddathlu, bydd Colegau Cymru Xl yn chwarae yn erbyn tîm teithiol 2015 Ysgolion Uwchradd Cyfunol New South Wales fel rhan o'u taith yn y DU.

Bydd y bartneriaeth newydd yn cynyddu cyfleoedd criced i chwaraewyr ifanc yn y coleg, gan gynnwys gwell cysylltiadau â chlybiau lleol, cystadlaethau dan do newydd, a chefnogaeth Criced Cymru ar gyfer addysgu hyfforddwyr. Bydd cricedwyr colegau hefyd yn dod yn hyfforddwyr cymwysedig er mwyn helpu gyda phrosiectau cymunedol a chynyddu'r gweithlu.

Drwy ddarparu lefel arall o gystadleuaeth a chymorth ar gyfer chwaraewyr tra yn y coleg, mae'r bartneriaeth yn gobeithio mynd i'r afael â'r gostyngiad yn nifer y chwaraewyr ifanc sydd yn symud ymlaen o glwb criced iau i glwb criced uwch yng Nghymru.

Dywedodd Prif Weithredwr Criced Cymru, Peter Hybart: "Fel ystod o chwaraeon, mae criced yng Nghymru yn gweld gostyngiad yn y niferoedd sy'n parhau i chwarae ar ôl 15 oed.

"Mae Criced Cymru yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chwaraeon Colegau Cymru i gryfhau rhaglenni criced y colegau, i gynnig mwy o gyfleoedd cystadleuol, i ddatblygu cysylltiadau rhwng colegau a chlybiau, a helpu i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o hyfforddwyr a gwirfoddolwyr. Rydym yn gweld y bartneriaeth newydd yn cynnig manteision mawr i golegau a chlybiau fel ei gilydd."

Bydd y bartneriaeth newydd hefyd yn cefnogi criced cynrychioliadol ar gyfer chwaraewyr coleg dan 19. Wrth arwain at y gêm yn erbyn New South Wales, mae gemau criced Colegau Cymru eleni wedi cynnwys Cymru dan 17 a'r MCC. Cyniga lefel arall o gystadleuaeth ar gyfer chwaraewyr coleg ar lefel elît, gyda chapten Morgannwg a Lloegr dan 19, Aneurin Donald, ymhlith y rhai i chwarae i dîm Colegau Cymru eleni.

Dywedodd Cydlynydd Chwaraeon ColegauCymru, Rob Baynham: "Bydd y bartneriaeth newydd gyda Criced Cymru yn rhoi cyfleoedd newydd i fyfyrwyr coleg chwarae ar lefel mwy elît yn ogystal ag ar lefel hamdden. Bydd y gynghrair dan do newydd, addysgu hyfforddwyr, cysylltiadau clwb a'r gystadleuaeth T20 i gyd yn rhoi hwb gwirioneddol i griced yn y colegau.

"Eleni gwelwyd nifer o ddatblygiadau cyffrous i griced yn y colegau, ac mae'r gêm yn erbyn tîm cryf o New South Wales, sy'n cyd-daro â'r Prawf y Lludw yng Nghaerdydd, yw'r eisin ar y gacen.

"Mae Chwaraeon Colegau Cymru yn ddiolchgar am gefnogaeth Criced Cymru a Chlwb Criced Gorseinon i alluogi'r y gêm hon i gael ei chwarae."

Manylion yr ornest
Colegau Cymru v New South Wales (50 Overs)
Yn: Clwb Criced Gorseinon
Ar: Dydd Sul 12 Gorffennaf am 11:00

Diwedd

Pedwar Cymro i Gystadlu yn WorldSkills Brasil 2015

Mae pedwar o brentisiaid a dysgwyr mwyaf dawnus Cymru wedi llwyddo i ennill lle mewn tîm a fydd yn cynrychioli'r Deyrnas Unedig yng ngornest WorldSkills São Paulo 2015 yn ystod yr haf.

WorldSkills yw'r gystadleuaeth sgiliau ryngwladol fwyaf yn y byd. Bob dwy flynedd, mae tua tua mil o bobl ifanc, 18-25 oed, o bob rhan o'r byd, yn dod ynghyd i gystadlu am fedalau mewn dros 40 o wahanol sgiliau yn cynnwys Gosod Gwaith Trydan, Weldio, Dylunio Gwefannau, Coginio a Gosod Brics.

Mae pedwar o Gymru - Eleni Constantinou, 21, o Gaerffili sy'n trin gwallt; Elijah Sumner, 20, o Fae Caerdydd sy'n dechnegydd moduron; Luke Elsmore, 20, o'r Coed Duon sy'n astudio rheolaeth ddiwydiannol; ac Owain Jones, 21, o Flaenau Ffestiniog sy'n astudio gwaith coed – wedi'u henwi ymhlith dim ond 41 aelod o dîm y Deyrnas Unedig a fydd yn teithio i Frasil ar gyfer rownd derfynol WorldSkills yn yr haf.

Cafodd y pedwar eu dewis yn dilyn wythnos o gystadlu brwd, ar ôl cyrraedd rhestr fer Sgwad y Deyrnas Unedig. Roedd hyn yn dilyn 11 mis o hyfforddiant yn eu sgil arbennig nhw gyda chefnogaeth eu darparwr hyfforddiant, eu coleg, eu cyflogwr a'u rheolwr hyfforddiant.

Dywedodd Eleni Constantinou, sy'n cystadlu ym maes Trin Gwallt: "Dw i wedi gwirioni fy mod yn mynd i WorldSkills São Paulo ym Mrasil. Does dim ots pa mor dda y gwnaf i yn y gystadleuaeth hon, dwi'n meddwl y bydd cyrraedd Brasil yn brofiad gwych ynddo'i hunan. Wedi dweud hynny, rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn achos dyma pryd mae'r gystadleuaeth yn dechrau go iawn yn fy meddwl i. Er fy mod i eisiau gwneud yn dda i fi fy hunan, fe hoffwn i ennill er mwyn fy nheulu. Rwy'n dod o deulu o drinwyr gwallt ac maen nhw wedi bod o help mawr i mi gyrraedd lle ydw i heddiw."

Dywedodd Elijah Sumner, sy'n dechnegydd moduron, ei fod wrth ei fodd ei fod wedi'i ddewis: "Mae'n dal yn teimlo'n eitha swreal. Mae'n anodd credu y bydda i'n teithio i Frasil i gynrychioli'r Deyrnas Unedig. Gobeithio'n fawr y bydd hyn yn ysbrydoli pobl ifanc eraill i gymryd rhan mewn rhywbeth fel hyn. Mae'n gyfle gwych ac mae wedi bod yn brofiad gwych hyd yma."

Dywedodd Luke Elsmore, sy'n cystadlu yn yr adran Rheolaeth Ddiwydiannol: "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y gystadleuaeth. Mae'n grêt cael cyfle i fy mhrofi fy hunan ar lefel fyd-eang. Mae'n anrhydedd cael cynrychioli Cymru a'r Deyrnas Unedig ac rwy'n falch bod pobl yn teimlo mod i'n gallu cystadlu ar lefel mor uchel."

Un arall a fydd yn teithio i Frasil ym mis Awst yw Owain Jones, cystadleuydd yn yr adran Gwaith Saer. Dywedodd: "Mae hyn yn gyffrous iawn. Dwi'n edrych ymlaen at fynd i São Paulo, er y bydd rhaid i mi weithio'n galed iawn. Bydd rhaid i mi fod ar fy ngorau. Dwi wedi bod yn cystadlu i gyrraedd y lefel hon ers i mi ddechrau yn y coleg a rŵan mi fydda i'n cystadlu ar lefel fyd-eang ac felly mae popeth wedi arwain at hyn."

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Llongyfarchiadau enfawr i'r pedwar cystadleuydd. Rwy wrth fy modd mai cystadleuwyr o Gymru fydd deg y cant o Sgwad y Deyrnas Unedig ac y bydd Eleni, Elijah, Luke ac Owain yn mynd i Frasil yn ystod yr haf i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth fyd-eang.

"Maen nhw wedi cyflawni camp fawr. Mae'r pedwar wedi dangos eu bod yn eithriadol o ddawnus a'u bod wedi meithrin sgiliau ardderchog ac fe allan nhw ymfalchïo yn hynny."

Llongyfarchwyd y pedwar gan Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg hefyd:
"Trwy annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn cystadlaethau fel WorldSkills a chystadlu yn erbyn y goreuon, nid yn unig ym Mhrydain ond ledled byd, gallwn rannu arferion gorau mewn Prentisiaethau ac addysg alwedigaethol, a helpu i annog pobl ifanc eraill yng Nghymru i anelu at y safonau uchel hyn.

"Rwy'n dymuno'r gorau i'r pedwar ar eu taith i Frasil a gobeithio'n fawr y byddan nhw'n dod â medalau adref i Gymru."

Dywedodd Barry Liles, Hyrwyddwr WorldSkills yng Nghymru ac Aelod o Fwrdd Find a Future, sy'n rheoli ymgais y Deyrnas Unedig yn y Gystadleuaeth WorldSkills: "Gyda balchder a phleser mawr, rwy'n llongyfarch y pedwar person ifanc hyn sydd wedi ennill eu lle yn Nhîm y Deyrnas Unedig.

"Mae cystadlaethau sgiliau'n dangos cymaint y gall unigolion a sefydliadau ei gyflawni trwy addysg bellach, hyfforddiant sgiliau a Phrentisiaethau o safon uchel.

Wrth barhau i annog pobl i gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau galwedigaethol, byddwn yn cyrraedd ein nod o godi safonau a lefelau sgiliau, a bydd hynny, yn y pen draw, yn rhoi hwb i economi Cymru."

Trwy gymryd rhan yn y Gystadleuaeth WorldSkills, mae'r Deyrnas Unedig yn gallu rhannu arferion gorau ym maes Prentisiaethau ac addysg alwedigaethol gan hybu rhagoriaeth mewn sgiliau yn y gweithle. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod cymryd rhan yn gallu gwneud rhyfeddodau i yrfa person ifanc. Mae rhai sydd wedi cystadlu o'r blaen yn dweud bod y profiad wedi golygu eu bod o leiaf bum mlynedd ar y blaen o ran sgiliau, gwybodaeth ac aeddfedrwydd.

Diwedd

Enillwyr ifanc cystadleuaeth y DU o Gasnewydd yn rhoi £3500 i elusen

Mae enillwyr Rownd Derfynol Fawreddog Her Arian am Oes y Lloyds Banking Group, DOSH o Gymru, wedi rhoi gwobr o £3,500 i elusen y Brightside Trust.

Bu i'r tîm o wyth person ifanc oed 17-23 o Gasnewydd, gyrraedd y brig yn y gystadleuaeth fawreddog yr Her Arian am oes, a drefnir gan y Lloyds Banking Group.

Nod Arian am Oes yw ysbrydoli pobl mewn cymunedau ledled y Deyrnas Unedig i feithrin gwell sgiliau rheoli arian. Cafodd yr enillwyr, tîm o'r enw DOSH (Defining Our Spending Habits), wobr o £3,500 gan y Lloyds Banking Group i'w roi i elusen o'u dewis nhw.

Cyflwynwyd y siec o £3,500 gan aelodau DOSH, sy'n gweithio ar raglenni dysgu gydag Acorn Learning Solutions, i The Brightside Trust, sy'n elusen fentora ar-lein i bobl ifanc, ar 18 Mehefin yn Somerton House, Casnewydd.

Dywedodd Susanne Maskrey, Dirprwy Brif Weithredwr The Brightside Trust: "Rydym yn eithriadol o ddiolchgar i DOSH am eu rhodd i The Brightside Trust. Mae'n wych gweld pobl ifanc yn helpu pobl o'r un oed â nhw i feithrin sgiliau rheoli arian. Rydyn ni yn The Brightside Trust yn ceisio sicrhau bod rhagor o bobl ifanc yn cael cyfle i gael addysg a gyrfa a bydd y rhodd hon yn ein helpu i gefnogi rhagor o bobl ifanc yn y gymuned.

Dywedodd Amy Louise Follett o DOSH, "Rhoddodd y prosiect yr hyder i ni gyfarfod â phobl newydd a datblygu sgiliau newydd, gan ddysgu rheoli ein harian a chael effaith gadarnhaol ar ein cymuned. Rydyn ni wrth ein bodd y gallwn ddefnyddio'r wobr i gyfrannu at achos mor dda."

Cynhaliodd DOSH brosiect rheoli arian yn y gymuned yn gynharach eleni i ddangos i bobl oedd yn bwriadu mynd i'r brifysgol sut i reoli eu harian. Cynhaliwyd prosiect DOSH dros gyfnod o dri mis gyda chefnogaeth partneriaid Arian am Oes, sef ColegauCymru a Youth Cymru. Cymerodd dros 340 o dimau o bob rhan o'r Deyrnas Unedig ran yn y gystadleuaeth eleni.

Dywedodd David Rowsell, Pennaeth Rhaglen Arian am Oes yn y Lloyds Banking Group: "Mae Her Arian am Oes yn galluogi pobl ifanc ledled y Deyrnas Unedig i ddysgu a rhannu sgiliau rheoli arian ymarferol trwy gynnal prosiect o'u dewis nhw er budd cymuned o'u dewis. Roeddwn yn cael fy nharo'n barhaus gan angerdd, dyfeisgarwch ac ymroddiad y timau eleni ac rwyf wedi fy ysbrydoli gan gefnogaeth a brwdfrydedd eu cymunedau."

Dywedodd Rachel Dodge o GolegauCymru, rheolwr y prosiect yng Nghymru, "Rwy'n falch iawn o dîm DOSH. Maen nhw wedi dysgu llawer trwy'r Her Arian am Oes ac rydyn ni'n falch eu bod nhw'n gallu cefnogi The Brightside Trust sy'n helpu pobl ifanc i gael cyfle am well dyfodol."

Yn awr, mae DOSH a 50 o dimau eraill sydd wedi cyrraedd rownd derfynol yr Her trwy'r Deyrnas Unedig i gyd, yn cael cyfle i ymgeisio am un o ddeg grant o £1,000 a fydd yn eu galluogi i barhau â'r gwaith gwych y maen nhw wedi'i ddechrau yn eu cymunedau.

Trefnir yr Her Arian am Oes gan y Lloyds Banking Group mewn partneriaeth â'r Academi Sgiliau Genedlaethol Gwasanaethau Ariannol, UK Youth, Colegau Cymru, Youth Cymru, Young Scot a'r NOW Group. Mae rhaglen Arian am Oes yn rhan o gynllun Helping Britain Prosper y Grŵp ac mae wedi ymrwymo i achredu 4,000 o weithwyr cymorth cymunedol erbyn 2017 i gyflwyno addysg ariannol yn y rheng flaen.

Os hoffech wybod rhagor am Her Arian am Oes, ewch i www.moneyforlifechallenge.org.uk, neu ymunwch â ni ar Facebook yn www.facebook.com/moneyforlifeuk ac ar Twitter ar www.twitter.com/moneyforlifeuk

Diwedd

Codi o'r Soffa:
colegau Cymru ar genhadaeth i ddod o hyd i weithgareddau corfforol addas i bawb

Nid yw pawb yn naturiol hoff o chwaraeon. Ond gallai y rhan fwyaf ohonom wneud tro â bod yn fwy egnïol yn gorfforol. Mae dod o hyd i weithgareddau corfforol sy'n addas ar gyfer pob myfyriwr coleg yn genhadaeth i Chwaraeon Colegau Cymru, ac mae bron 300 o staff a myfyrwyr newydd fod yn rhoi tro ar yr ystod sydd ar gael.

Yn ei ail gynhadledd flynyddol, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd ar 12 Mehefin, gwelwyd 25 o sesiynau ymarferol mewn ffitrwydd, chwaraeon, a datblygu gallu arweinwyr myfyrwyr i wneud gwahaniaeth.

Wrth agor y digwyddiad, adlewyrchodd Jonathan Williams, Llysgennad Ifanc Platinwm o Ferthyr Tudful, adlewyrchu ar ei brofiadau fel person ifanc anabl. Ei arwyddair ef, "Alla i ddim gwneud popeth ond gallaf wneud chwaraeon" ddaeth yn ysbrydoliaeth y diwrnod, yn cael ei ddyfynu, ei drydar a'i ail-drydar drwy gydol y dydd a thu hwnt.

Bu dros 200 o fyfyrwyr addysg bellach, tua 50 o staff ac ystod eang o gynrychiolwyr o gyrff llywodraethu cenedlaethol chwaraeon a sefydliadau partner y dasg o ganfod ffyrdd newydd o ymgysylltu â'i gilydd a chyda sefydliadau newydd i ddatblygu a darparu gweithgareddau corfforol addas ar gyfer cynulleidfa newydd.

Hwyl a chwerthin oedd hanes gweithgareddau pêl-droed "bubble" a rygbi mewn cawell arwain. Y gweithgareddau hynod actif oedd yn dra chyflym i sefydlu oedd ping pong sydyn, Funky Pump, Parkour, Zumba, Ultimate Frisbee, rygbi cyffwrdd cymysg, Spin, a Pilates. Daeth Parth Cynhwysol Pêl-fasged a phêl foli eistedd â defnyddwyr cadeiriau olwyn a di-gadair at ei gilydd mewn ffyrdd newydd o ymgysylltu, gan gynnwys ystod ehangach o fyfyrwyr.

Meddai Rob Baynham, Cydlynydd Chwaraeon ColegauCymru: "Mae Colegau Chwaraeon Cymru yn anelu at sicrhau bod pob myfyriwr yn cael cyfle i fod yn actif yn y coleg yn y ffordd y maen nhw yn ei fwynhau.

"Rydym yn gofyn i golegau i ddatblygu cyfleoedd newydd sy'n hawdd a chwim i'w sefydlu ac yn gost-effeithiol fel y gallwn gael llawer mwy o fyfyrwyr yn elwa o weithgaredd corfforol. Dylai'r cynnig o weithgareddau corfforol yn ein colegau fod ar gael i bob myfyriwr addysg bellach waeth beth fo'u rhyw, cefndir cymdeithasol neu eu gallu corfforol. Rydyn ni'n anelu at ddod o hyd i rywbeth i bawb.

"Rydym yn ffodus o gael amrywiaeth eang o bartneriaid a fu'n help i sicrhau llwyddiant y digwyddiad, gan gynnwys nifer of gyrff rheoli chwaraeon cenedlaethol, Chwaraeon Anabledd Cymru, Streegames Cymru, yr Urdd, a Llysgenhadon Ifanc Cymru. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd am gynnal y digwyddiad ac am y gefnogaeth gref gan y brifysgol a Chwaraeon Cymru."

Diwedd

Saer dawnus a pherchennog meithrinfeydd ysbrydoledig yn ennill Gwobrau VQ

Roedd saer o Sgwad Deyrnas Unedig Worldskills a pherchennog ysbrydoledig tair meithrinfa i blant yn dathlu neithiwr (9 Mehefin) ar ôl iddynt ennill y prif Wobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) yng Nghymru.

Enwyd cyn fyfyriwr Coleg Sir Gâr, Simon McCall yn Ddysgwr VQ y Flwyddyn. Mae Simon yn 21 oed ac o Gapel Dewi ger Caerfyrddin, yn enillydd medal arian Ewropeaidd ac fe gafodd le yn Sgwad y DU Worldskills yn gynharach eleni.

Enwyd Jenine Gill, sy'n cyflogi 55 aelod o staff ym meithrinfeydd plant Little Inspirations yn Llantrisant, Rhydyfelin a'r Barri, yn Gyflogwr VQ y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.

Cynhaliwyd y Gwobrau VQ, sy'n dathlu cyflawniadau dysgwyr a chyflogwyr ledled Cymru, ar noswyl Diwrnod VQ ledled y DU.

Mae'r gwobrau, a drefnir gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a CholegauCymru, yn helpu rhoi llwyfan i unigolion a sefydliadau sydd wedi codi safon y gwasanaethau a gynigiant o ganlyniad i gymwysterau galwedigaethol.

Llongyfarchodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James, yr enillwyr ysbrydoledig a'r saith a ddaeth yn agos at y brig.

"Mae gennym draddodiad hir yng Nghymru o ddatblygu sgiliau trwy lwybrau galwedigaethol," meddai. "Rydym yn parhau'n ymroddedig i helpu pobl ifanc a chyflogwyr i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i gyfrannu at economi Cymru sy'n tyfu.

"Mae Diwrnod VQ yn ein hatgoffa ni faint o gyflogwyr a dysgwyr Cymru sydd eisoes yn mynd y filltir ychwanegol pan ddaw hi i ddatblygu eu sgiliau. Dangosodd pob un o'r rhai a enwyd ar gyfer y gwobrau eleni'r hyn y gellir ei gyflawni trwy waith caled ac ymroddiad.

"Cymwysterau galwedigaethol yw'r safon aur mewn rhagoriaeth broffesiynol a rhaid i ni sicrhau eu bod yn cael eu cydnabod ochr yn ochr â chymwysterau academaidd. Mae cystadleuaeth Ryngwladol WorldSkills, a gynhelir ym Mrasil ym mis Awst, yn rhoi lle amlwg i addysg alwedigaethol a bydd y pedwar cystadleuydd o Gymru sydd yn y sgwad yn tynnu sylw at bwysigrwydd Cymru i gymwysterau galwedigaethol ar lwyfan y byd."

Cwblhaodd Simon McCall brentisiaeth gwaith coed CITB gyda Jones and Johnson, Caerfyrddin, gan astudio yng Ngholeg Sir Gâr. Fe'i hanogwyd i berffeithio'i sgiliau ymhellach trwy gystadlu mewn cysta dlaethau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol gan ennill medal aur yn rownd ranbarthol WorldSkills UK/Rownd Derfynol Cymru'r llynedd ac arian yn Euroskills yn Lille, Ffrainc.

Ar ôl sicrhau lle yn Sgwad y Deyrnas Unedig Worldskills, aeth yn hunangyflogedig fis Hydref diwethaf a'i nod yw cyflogi prentis ym mis Medi er mwyn trosglwyddo'i sgiliau a'i brofiad.

Bythefnos yn ôl yn rownd derfynol dewis Tîm Deyrnas Unedig Worldskills, y cyd-Gymro Owain Jones oedd yr unig un i sicrhau lle yn y gystadleuaeth gwaith coed ar gyfer Worldskills Brasil 2015.Mae Simon wedi addo gwneud popeth o fewn ei allu i gefnogi ei gydwladwr wrth baratoi ar gyfer y gystadleuaeth ryngwladol, sy'n dyst i haelioni ei gymeriad.

"Mae'n cymryd cryn dipyn o ymroddiad ond nid llawer o bobl all ddweud eu bod ym meddiant medal Ewropeaidd a'u bod yn Sgwad y DU ar gyfer cystadleuaeth ryngwladol Worldskills," meddai.

Hanner stori fyddai dweud bod Jenine Gill yn arwain trwy esiampl. Mae'r fam i ddau o blant wedi cwblhau Uwch Brentisiaeth mewn Gofal Plant ac NVQ lefel 3 mewn Rheolaeth y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

Sefydlodd Little Inspirations yn 2003, ac mae wedi bod yn gweithio gyda'r darparwr hyfforddiant Educ8 Ltd dros yr wyth mlynedd diwethaf – sef darparwr sy'n cyflwyno cyrsiau mewn gofal cwsmeriaid, gofal plant, sgiliau hanfodol, gwaith chwarae a hyfforddiant rheoli.
Mae dros 50 o aelodau staff wedi'u hyfforddi, sydd wedi arwain at lefel uchel o barhad a throsiant staff isel iawn. Ariennir y rhaglenni prentisiaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
"Anogir y staff yn Little Inspirations i ddysgu ar hyd eu gyrfaoedd er mwyn sicrhau bod ein plant yn cael y gofal gorau a'n bod ni'n perfformio ar y lefel uchaf," meddai. "Mesurir ein holl hyfforddiant ac wrth i'r staff gwblhau eu rhaglenni, edrychwn iddynt ddod â thri syniad yn ôl i'r feithrinfa.

"Helpa ein hymrwymiad i hyfforddiant i ni gadw a gwerthfawrogi staff a fydd, o ganlyniad, yn uchel eu cymhelliant i ddysgu a datblygu yn y busnes."

Y rhai nesaf at y brig ar gyfer Cyflogwr VQ y Flwyddyn oedd y cynhyrchwyr bwyd Dailycer UK yng Nglannau Dyfrdwy, y mae eu twf yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi cyd-daro â chydweithrediad hyfforddi staff llwyddiannus gyda Choleg Cambria a'r salon gwallt proffesiynol Spirit Hair Team o Ystrad Mynach, sy'n dweud bod cymwysterau galwedigaethol a datblygiad proffesiynol parhaus yn hanfodol i'r busnes ffyniannus.

Ymhlith y rhai nesaf at y brig yng ngwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn oeddCasey Coleman, 28 oed, cyfarwyddwyr artistig salon Ocean Hairdressing, Caerdydd a gafodd eu hyfforddi yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, James Pepper, 39 oed, cyfarwyddwr gwasanaethau technegol Vista Retail Support Ltd, Pentwyn, Caerdydd a Paul Wiggins, 35 oed, o Gaerdydd, brocer yswiriant siartredig yn BPW Insurance Services, Casnewydd a gafodd ei hyfforddi gan Acorn Learning Solutions a'r cynfyfyrwyr o Goleg Penybont Michael Whippey, 23 oed, y prif hyfforddwr yng Nghanolfan Geffylau Shardeloes Farm, Amersham aSerena Torrance, 23 oed, o Faesteg sy'n dilyn gradd Troseddeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Er mwyn dathlu Diwrnod VQ yng Nghymru, bydd y Dirprwy Weinidog yn ymweld â'r cwmni technoleg mawr Sony's UK Technology Centre (UKTEC) ym Mhencoed, Pen-y-bont ar Ogwr ar fore Mercher. Bydd hi'n teithio'r ffatri ac yn clywed sut mae cefnogaeth y cwmni i hyfforddi a datblygu ei weithlu medrus wedi creu enw gwych am ragoriaeth cynhyrchu.

Yn y lluniau:
Simon McCall, Dysgwr VQ y Flwyddyn.
Jenine Gill o Little Inspirations, Cyflogwr VQ y Flwyddyn

Lluniau Gwobrau VQ
Lluniau proffesiynol o Seremoni Wobrwyo VQ

Diwedd

Cam Ymlaen Wrth Brif Lifo'r Gymraeg yn y Colegau Addysg Bellach

Mae prif-ffrydio'r Gymraeg yn y colegau addysg bellach yn nod strategol i GolegauCymru, a bu'n lansio dwy adnodd ar faes Eisteddfod yr Urdd gyda'r Prif Weinidog Carwyn Jones AC ddydd Mawrth i'r perwyl hwn, gyda'r gobaith o fwy i ddod.

Dros y chwe mis diwethaf, dan nawdd Llywodraeth Cymru, aeth ColegauCymru ati gyda'i aelod-golegau i atgyfnerthu'r Gymraeg yn y colegau gyda profiadau preswyl ac allgyrsiol a hefyd i ddylunio a chyflwyno taflen hyrwyddo'r Gymraeg i fyfyrwyr.

Mae'r daflen, a chafodd ei lansio yn yr Eisteddfod, yn ysgogi'r rheiny sydd eisioes yn medru'r Gymraeg i barhau i'w defnyddio ac i feithrin eu sgiliau cyfathrebu drwy eu hamser yn y coleg a thu hwnt. Mae'n nodi'r cyfleoedd sydd ar gael yn y colegau a thrwy partneriaid megis yr Urdd, Mentrau Iaith a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn ogystal â'r buddiannau yn y byd gwaith.

Yn ogystal, er mwyn helpu staff o gefndiroedd gwahanol i ddod yn fwy cyfarwydd â chyd-destun y Gymraeg, addaswyd pecyn o fideos Ein Hiaith ar gyfer y sector addysg ôl 16, ac aed ati'n benodol i gynyddu argaeledd adnoddau addysgol yn y maes gofal.

Ffrwyth llafur blaenoriaethu'r maes gofal oedd sylw ail hanner y lansiad yn yr Eisteddfod, sef cyfeirlyfr arlein o adnoddau addysg cyfrwng Cymraeg. Bydd y cyfeirlyfr yn gymorth i athrawon, darlithwyr a dysgwyr gofal plant a gofal cymdeithasol yn y colegau addysg bellach ac hefyd i'r sector addysg ehangach a darparwyr gofal.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones AC: "Rwy'n falch ein bod wedi ariannu'r pedwar prosiect trwy Colegau Cymru i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Mae sicrhau cyfleoedd i bobl ifanc i barhau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn holl bwysig i'n gweledigaeth ni. Rydym am sicrhau bod pobl yn cael cyfleodd i ddefnyddio'u hiaith ym mhob agwedd o'u bywydau bob dydd. Byddwn yn parhau i gydweithio â Cholegau Cymru a'r colegau eu hunain er mwyn annog twf pellach yn y ddarpariaeth gyfrwng Cymraeg i bobl ifanc Cymru."

Dywedodd Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd ColegauCymru, Claire Roberts: "Anrhydedd o'r mwyaf oedd cael y Prif Weinidog gyda ni i lansio adnoddau addysgol Cymraeg i fyfyrwyr a staff addysg ôl 16, gyda'r bwriad o normaleiddio'r Gymraeg yn ein colegau ac y byd galwedigaethol.

"Rho'r lansiad gyfle i ni i ddathlu'r cynnydd diweddar fu yn argaeledd adnoddau dwyieithog ym meysydd galwedigaethol ac yn y gwaith o brif lifo'r Gymraeg ar draws y colegau addysg bellach.

"Diolchwn i Lywodraeth Cymru am ei gefnogaeth wrth i ni ddatblygu adnoddau pwrpasol sy'n mynd i'r afael â meysydd blaenoriaeth, megis y maes gofal plant a gofal cymdeithasol, ac sy'n meithrin hyder a balchder myfyrwyr a staff o fod yn ddwyieithog.

"Gwelwn bod buddsoddiad bach yn y sector addysg bellach yn talu ar ei ganfed. Gwelsom eisioes y cynnydd cyson yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y colegau addysg bellach dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac yn enwedig ar ôl i bob coleg fedru penodi hyrwyddwr dwyieithrwydd.

"Gobeithiwn y bydd y Llywodraeth yn parhau i'n cefnogi i gynyddu argaeledd adnoddau Cymraeg ar draws ystod o feysydd cwricwlwm, ac ymestyn y cyfleoedd sydd ar gael i bawb yn ein colegau i ddefnyddio eu Cymraeg er budd y gymdeithas ehangach a gweithle ddwyieithog Cymru."

Diwedd

Gwobrwyo Colegau, Athrawon a Dysgwyr Arobryn

Mewn seremoni ddisglair yn Venue Cymru, Llandudno ar 21 Mai, cafodd dysgwyr ac athrawon arobryn colegau Cymru eu cydnabod, ynghyd â chwe choleg a wobrwywyd am ysgogi gwelliannau sydd o fudd i ddysgwyr.

ColegauCymru's Annual Awards demonstrate sector-leading practice within further education by learners, teachers and colleges and the quality of submissions for the ColegauCymru Awards 2015 was again notably high.

Dr Greg Walker, ColegauCymru Chief Executive, said: "With the Deputy Minister for Skills and Technology Julie James AM delivering a speech to the ColegauCymru annual conference earlier the same day, praising colleges' 'proven willingness to respond to change' in very difficult economic times, it was fitting that the evening ended with showcases of the very best of college practices.

"Congratulations to all the winners and to those who were shortlisted. These awards ensure that best practice is properly recognised. The awards are also central to colleges' continual efforts to raise standards across the board by learning from the best."

The winners are:

  • Teaching and Learning: Coleg Cambria
  • Use of Technology: Coleg Sir Gâr
  • Innovation in Further Education: Bridgend College and Coleg Cambria
  • Building International Partnerships: Coleg Gwent
  • Promoting Equality and Social Inclusion: Pembrokeshire College
  • Outstainding Sport Development: The College Merthyr Tydfil
  • Promoting Welsh and Bilingual Learning: Coleg Sir Gâr

In addition to the five categories of awards open to colleges, the Awards also recognised two individuals: a Learner of the Year and a Teacher of the Year.

Dr Greg Walker continued: "It is important that we remember at all times that the purpose of colleges is to support learners in reaching their goals. Excellent teachers are key to enabling learners achieve, and it is right that they are recognised on the national stage. Congratulations to Mary Richards of Coleg Sir Gâr who was awarded the Teacher of the Year Award, alongisde finalists Lesley Anne Bennett of Bridgend College and William Bateman of Pembrokeshire College.

"Outstanding learners are of course the success story of colleges. Congratulations particularly to Caroline Read from Cardiff and Vale College in winning the Learner of the Year Award against the very strong shortlist made up of Luke Prideaux-Byrd of Gower College Swansea and Emma Beacham of Coleg y Cymoedd.

Dr Walker continued: "The ColegauCymru Awards 2015 not only recognise the benefit to learners but also are recognised by a wide range of highly-respected national organisations. We are delighted to have received sponsorship and strong support from British Council, City & Guilds, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Learndirect, Lloyds Banking Group, Pearson, Sport Walkes and the Welsh Government."

Ends

Colegau yn Chwilio am Atebion Creadigol Mewn Amser Caled

Mae'n amser caled ac mae colegau yn chwilio am atebion creadigol er mwyn parhau i helpu cwmnïau ac unigolion i symud ymlaen gyda sgiliau a syniadau newydd tra bod llai o arian o gwmpas. Dyna ffocws allweddol cynhadledd flynyddol ColegauCymru, sy'n agor ar 21 Mai yn Llandudno.

Mae colegau yn chwarae rôl allweddol mewn economi sy'n ffynnu, rhwng datblygu gweithlu sy'n addas i ymgymryd â phrosiectau seilwaith mawr, arwain ymchwil a datblygu, a lansio busnesau a syniadau entrepreneuraidd. Ond mae buddsoddiad cyhoeddus yn dynn, ac yn tynhau eto fyth pan ddaw at hyfforddi ac ailhyfforddi oedolion. Bydd y gynhadledd yn dod a cholegau ynghyd â chyrff sy'n cynrychioli cyflogwyr a datblygwr ynni mawr er mwyn dod o hyd i atebion creadigol gyda'i gilydd.

Bydd y gynhadledd hefyd yn edrych ar yr arferion gorau o ran datblygu sgiliau arwain, sgiliau galwedigaethol a sgiliau academaidd dysgwyr; cwricwlwm sy'n darparu'n effeithlon ac sy'n gwneud defnydd creadigol o dechnoleg; a datblygiad cymwysterau newydd sy'n benodol i Gymru.

Wrth chwilio am atebion creadigol, mae colegau Cymru yn tynnu ysbrydoliaeth o arweinwyr ar draws y byd. Bydd y gynhadledd yn dyfnhau ymhellach cysylltiadau rhwng colegau Cymru a Chanada, gydag anerchiad gan gyfarwyddwr o goleg cymunedol Canada, diolch i gefnogaeth y Cyngor Prydeinig.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, Greg Walker: "Mewn cymdeithas sy'n rhoi gwerth ar ffyniant economaidd a chyfiawnder cymdeithasol, mae addysg bellach yn allweddol. Mae'r genhadaeth yr un mor ddilys yn awr ag yr oedd pan ffurfiwyd colegau. Beth sydd wedi newid yw sut y gall colegau fodloni anghenion ein heconomi a'n cymdeithas.

"Wrth i'r economi adfer yr ydym yn wynebu'r her o sut i fynd i'r afael â phrinder cynyddol sgiliau mewn sectorau allweddol. Ar yr un pryd, mae nifer o ddatblygiadau nodedig a fydd yn gofyn am newid sylweddol yn argaeledd gweithlu mwy medrus. Rwyf wrth fy modd y bydd y gynhadledd yn dod a cholegau ynghyd â Ffederasiwn y Busnesau Bach, yr UKCES a'r diwydiant mawr newydd, Tidal Lagoon Power.

"Mae colegau yng Nghymru bob amser yn chwilio am atebion creadigol i bob math o heriau. Eleni, am y tro cyntaf, rydym wedi mynd ymhellach nag erioed i gafael ar syniadau newydd - i Ganada. Hoffwn ddiolch i'r Cyngor Prydeinig am gefnogi dirprwyaeth cydweithredol sylweddol gan golegau Cymru i Ganada ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf ac am gefnogi'r gynhadledd hon trwy ein galluogi i ddod a chyfarwyddwr Coleg Fanshawe i Gymru i annerch arweinwyr coleg."

Yn olaf, bydd y noson tynnu sylw ar yr arferion ansawdd uchaf sydd eisoes yn dod o hyd i 'Atebion Creadigol'. Bydd y Seremoni Wobrwyo Flynyddol yn dyfarnu'r gorau o'r gorau, gan gynnwys gwobr ar gyfer Athro'r Flwyddyn a Dysgwr y Flwyddyn.

"Mae'r gynhadledd a'r seremoni wobrwyo wedi sicrhau nawdd gan nifer o gyrff dylanwadol, gan ddangos ei barch mawr o fewn y sector addysg a hyfforddiant. Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru, Tribal, Pearson, Blake Morgan, Learndirect, JISC, WPM, City and Guilds, Capital Law, Chwaraeon Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Grŵp Bancio Lloyds, y Cyngor Prydeinig, a'r SQA.

"Yn bendant, bydd y gynhadledd yn procio'r meddwl, yn heriol, ac yn un flaengar."

Diwedd

Naw ar restr fer rownd derfynol y Gwobrau VQ yng Nghymru eleni

Mae naw ar restr fer y rownd derfynol ar gyfer gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol (Gwobrau VQ) eleni, sy'n dathlu cyflawniadau dysgwyr a chyflogwyr ledled Cymru.

Dewisodd panel o feirniaid chwech i fod yn rownd derfynol Dysgwr VQ y Flwyddyn a thri ar gyfer Cyflogwr VQ y flwyddyn, ar ôl ystyried nifer fawr o geisiadau a dderbyniwyd o bob cwr o Gymru. Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu mewn seremoni wobrwyo i'w chynnal yng Ngwesty a Sba St David's, Caerdydd ar 9 Mehefin, sef noswyl Diwrnod VQ.

Trefnir y Gwobrau VQ gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a CholegauCymru a'u nod yw helpu rhoi llwyfan i unigolion a sefydliadau sydd wedi codi safon y gwasanaethau a gynigiant o ganlyniad i gymwysterau galwedigaethol.

Mae'r gwobrau, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, bellach yn eu hwythfed flwyddyn ac yn cyd-daro â'r Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol, sef dathliad ledled y DU o gymwysterau galwedigaethol i fyfyrwyr, athrawon, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr, a gynhelir ar 10 Mehefin.

Dyma'r rhai yn rownd derfynol gwobr Cyflogwr VQ y flwyddyn: y cynhyrchwr bwyd Dailycer UK o Lannau Dyfrdwy, y feithrinfa blant Little Inspirations o Lantrisant, a'r salon trin gwallt a gwaith barbwr Spirit Hair Team o Ystrad Mynach.

Yn cystadlu am wobr Dysgwr VQ y Flwyddyn mae: Casey Coleman, 28 oed, cyfarwyddwr artistig salon Ocean Hairdressing, Caerdydd; James Pepper, 39 oed, cyfarwyddwr gwasanaethau technegol Vista Retail Support Ltd, Pentwyn, Caerdydd; cyn ddysgwr Coleg Penybont Michael Whippey, 23 oed, y prif hyfforddwr yn Shardeloes Farm Equestrian Centre, Amersham; Paul Wiggins, 35 oed, o Gaerdydd, brocer yswiriant siartredig BPW Insurance Services, Casnewydd; cyn ddysgwraig Coleg Penybont Serena Torrance, 23 oed, o Faesteg sy'n dilyn gradd mewn Troseddeg ym Mhrifysgol Caerdydd a chyn ddysgwr Coleg Sir Gâr Simon McCall, 21 oed, o Gapel Dewi, saer hunangyflogedig ac aelod o Sgwad WorldSkills UK.

Llongyfarchodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James y naw ysbrydoledig yn y rownd derfynol a chanmolodd hefyd y cyflogwyr a'r dysgwyr a roddodd gynnig ar y Gwobrau VQ eleni.

"Mae Gwobr VQ yn fwy na dim ond gwobr; mae'n symbol o ymroddiad tuag at eich gyrfa ddethol," meddai. Defnyddir rhaglenni datblygu proffesiynol a phersonol ar gyfer staff i'w galluogi i ddilyn llwybr dysgu i fodloni anghenion y cwmni, y cwsmer, ac anghenion unigolion.

"Mae'r Gwobrau VQ yn ein helpu ni i ddathlu'r cyflogwyr a'r dysgwyr hynny yng Nghymru sydd eisoes yn teithio'r filltir ychwanegol o ran datblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.

"Er mwyn i economi Cymru barhau i dyfu, rhaid i ni sicrhau bod cyflogwyr, unigolion a Llywodraeth Cymru'n cydweithio i fuddsoddi yn y sgiliau iawn ar gyfer llwyddiant er mwyn darparu gweithlu o safon fyd-eang i Gymru."

Mae Gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn yn cydnabod dysgwyr sy'n arddangos yn glir ddilyniant a rhagoriaeth mewn astudiaethau galwedigaethol ac wedi gwneud cyflawniadau sylweddol yn eu maes.
Mae Gwobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn yn cydnabod cyflogwyr sy'n hyrwyddo gwerth cymwysterau galwedigaethol yn y gweithle ac yn gwneud gwir gyfraniad, sy'n berthynol i'w maint, i wella sgiliau a chystadleugarwch cenedlaethol.

Diwedd

Toriadau serth i sgiliau oedolion i effeithio ar economi Cymru

Mae colegau ledled Cymru yn pryderu y bydd y gostyngiad difrifol yn niferoedd yr oedolion mewn dysgu yn effeithio ar iechyd ac economi Cymru yn y blynyddoedd i ddod.

Mae tua 90,000 yn llai o oedolion mewn dysgu rhan-amser nag yr oedd ddeng mlynedd yn ôl yng ngholegau Nghymru, a bydd y nifer yn lleihau ymhellach yn dilyn gostyngiad dramatig i gyllid y flwyddyn nesaf.

Mae cyllideb 2015/16 ar gyfer addysg oedolion rhan-amser mewn colegau wedi ei dorri gan 50%. O ystyried bod nifer yr oedolion sy'n dysgu rhan-amser eisioes wedi gostwng o 46% rhwng 2004/05 a 2013/14, mae'n anochel y bydd toriadau fwywyth yn cael effaith tymor hir ar iechyd unigolion ac economi'r genedl.

Oedolion dros 25 oed, a menywod yn arbennig, sydd wedi dioddef fwyaf o effaith y cyfyngiadau parhaus yn y cyllid addysg. Mae menywod yn cyfrif am 63% o boblogaeth y dysgwyr rhan-amser dros 25 oed mewn colegau Cymru.

Bydd dysgwyr iau hefyd yn cael eu heffeithio gan doriadau cyllido, er i raddau llai. Mae'r cyllid ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed yn cael ei ddiogelu i raddau helaeth, ond mae'r toriad cyffredinol o 6% i gyllid y colegau yn 2015/16 yn golygu nad oes unrhyw garfan oedran yn hollol ddiogel rhag y toriadau.

Tynn fu hanes cyllid y colegau dros rhai blynyddoedd bellach. Mae colegau wedi amsugno costau cynyddol i raddau helaeth, gan gynnwys codiadau cyflog, cynnydd mewn costau pensiwn ac yswiriant gwladol a chostau gweinyddu Lwfansau Cynhaliaeth Addysg a Grantiau Dysgu'r Cynulliad.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, Greg Walker: "Mae colegau addysg bellach wedi rheoli'n llwyddiannus gyda chyllidebau llai dros y blynyddoedd diwethaf. Ond mae'r sefyllfa'n gwaethygu gyda'r rownd ddiweddaraf o doriadau ar gyfer y flwyddyn 2015/16. Gyda 50% llai o arian ar gyfer dysgu rhan-amser i oedolion, bydd yn rhaid i Gymru baratoi ar gyfer gweithlu sydd â sgiliau is. Mae sgiliau lower yn medi cyflogau is ac yn effeithio ar iechyd a lles. Bydd yr holl ffactorau at ei gilydd yn effeithio'n negyddol ar economi'r wlad.

"Mae'r toriadau eisoes yn gwasgu. Bydd yn rhaid i gannoedd o ddarlithwyr coleg hynod fedrus adael eu swyddi. Y rhain yw'r union bobl y mae angen i helpu i adeiladu sgiliau y genedl.

"Rydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gweld gostyngiad sylweddol i'w gyllideb gyffredinol dros y blynyddoedd diwethaf.

"Mae colegau yn cydweithio i liniaru effeithiau'r toriadau, ac maent wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru, hefyd. Ond heb os, mae'r toriadau hyn yn doriadau dwfn. Bydd Cymru yn teimlo eu heffeithiau am amser hir i ddod. "

Diwedd

Cyhoeddi enillwyr yn Rownd Derfynol Genedlaethol Cymru Her Arian am Oes

Mae 2 dîm o Gymru bellach yn cymhwyso am Rownd Derfynol y DU o Her Arian am Oes, sef cystadleuaeth rheoli arian a gynhelir gan Lloyds Banking Group gyda CholegauCymru a Youth Cymru

Mae dau dîm o bobl ifanc yn dathlu heddiw ar ôl cael eu henwi'n enillwyr yn Rownd Derfynol Genedlaethol Cymru o Her Arian am Oes Lloyds Banking Group, sef cystadleuaeth ledled y DU i ysbrydoli gwell sgiliau rheoli arian mewn cymunedau ledled y DU.

Cymerodd 11 tîm o bobl ifanc o Fôn i Fynwy ran yn rownd derfynol, a gynhaliwyd yng nghanolfan y Dr Who Experience yng Nghaerdydd ar ddydd Mawrth 28 Ebrill 2015, lle cyflwynasant eu prosiectau i banel o feirniaid a gwesteion uchel eu parch.

Bydd DOSH, Enillwyr Cenedlaethol Cymru o Acorn Learning Solutions yng Nghasnewydd, nawr yn cyflwyno'u prosiect rheoli arian i banel o feirniaid uchel eu proffil yn Rownd Derfynol y DU, tra bydd Enillwyr Gwobr y Bobl, Gym Value for Money o gampws Crosskeys Coleg Gwent, yn arddangos eu prosiect yn y digwyddiad fydd yn cael ei gynnal yn Amgueddfa Ffilm Llundain ar 28 Mai. Bydd y ddau grŵp yn cystadlu yn erbyn prosiectau o Loegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn Rownd Derfynol y DU.

Cyflawnodd y timau eu prosiectau dros gyfnod o dri mis ar ôl i grant o £500 gael ei ddyfarnu gan Arian am Oes i roi eu syniadau ar waith.

DOSH (Defining Our Spending Habits), Acorn Learning Solutions
Enillydd Rownd Derfynol Cenedlaethol Cymru

Anelodd DOSH eu prosiect tuag at fyfyrwyr 16-18 oed sy'n ystyried addysg uwch. Rhoddodd y grŵp sgwrs ar reoli arian mewn chweched dosbarth lleol ac wedyn cynhaliwyd digwyddiad gyda siaradwyr gwadd o wahanol sefydliadau a ranodd eu dealltwriaeth ar bwysigrwydd rheoli arian. Darparon nhw hefyd 'becyn dechreuwyr' i fyfyrwyr a oedd yn cynnwys cynghorion cyllidebu a chyngor sydd ar gael ar wefan y tîm.

Gym Value for Money, Campws Crosskeys Coleg Gwent
Enillydd Gwobr y Bobl Cymru

Mae Gym Value for Money yn dîm sy'n cynnwys hyfforddwyr campfa dan hyfforddiant a sylwodd y gallen nhw helpu eu cyfoedion i arbed arian wrth gadw'n iach ar yr un pryd. Gweithion nhw'n benodol gyda myfyrwyr Sgiliau Byw yn Annibynnol a chanddynt anawsterau corfforol neu ddysgu i ddangos iddynt y gallen nhw arbed cannoedd o bunnoedd trwy ddefnyddio campfa'r coleg yn lle dewis preifat lleol.

Gwobr y Beirniaid

Dyfarnwyd gwobr y beirniaid i Brosiect Teuluoedd Radiate o Charter Housing yng Nghasnewydd hefyd am weithio gyda thenantiaid lleol i sicrhau eu bod yn arbed arian trwy fod yn ynni effeithlon. Trwy wneud hynny, hyfforddon nhw eu haelodau hefyd i osod paneli adlewyrchiadol yng nghartrefi pobl a arweiniodd mewn aelod o'u tîm yn mynd i gyflogaeth amser llawn o ganlyniad i'r prosiect.

Dywedodd Claire Howells, noddwr prosiect DOSH o Acorn Learning Solutions: "Rydyn ni mor gyffrous o fod wedi ennill Rownd Derfynol Genedlaethol Cymru o Her Arian am Oes heddiw. Rwy'n credu ei fod yn destament i'r holl waith caled ac i angerdd ein tîm anghredadwy sydd wedi dysgu cymaint o'r Her hon. Allwn ni ddim aros i gynrychioli Cymru yn y Rownd Derfynol.
Dywedodd Josh Corbett, aelod o dîm Gym Value for Money: " Rydym yn wirioneddol falch o fod yma heddiw ac mae'r tîm yn hynod falch o fod wedi ennill Gwobr y Bobl Her Arian am Oes. Mae'r Her Arian am Oes wedi rhoi cyfle i ni wneud yr hyn rydym yn ei garu wrth helpu'n cyfoedion a dysgu am reoli arian." Pleidleisiwyd am Wobr y Bobl gan fynychwyr Rownd Derfynol Genedlaethol Cymru.

Dywedodd Kerry Duke, noddwr Prosiect Teuluoedd Radiate o Charter Housing: "Mae dim ond bod yma yn Her Arian am Oes yn gyffrous tu hwnt i'r tîm ond mae ennill Gwobr y Beirniaid yn hynod bleserus. Mae'n anodd rhoi mewn geiriau faint mae'r grŵp hwn, yn ogystal â'r gymuned y gweithiwn ynddi, wedi'i ennill o'r profiad hwn yn ei gyfanwaith."

Dywedodd David Rowsell, Pennaeth y Rhaglen Arian am Oes yn Lloyds Banking Group: "Mae'r Her Arian am Oes sydd bellach yn ei phedwaredd flwyddyn yn parhau i helpu pobl ifanc i greu prosiect rheoli arian a fydd o fantais i'w cymuned leol ac yn eu galluogi i ddatblygu'r sgiliau y mae arnynt eu hangen i reoli eu harian eu hunain hefyd."

"Mae'r Her eleni wedi gweld timau'n dangos safon uchel o arloesedd ac ymrwymiad a chreodd y sawl yn ein rownd derfynol genedlaethol argraff enfawr ar ein beirniaid. Rydym wrth ein boddau o weld bod cynifer ohonynt eisoes wedi cael effaith gadarnhaol a mesuradwy yn eu cymunedau."

Mae Arian am Oes yn un o'r rhaglenni craidd wrth wraidd nod Lloyds Banking Group i helpu Prydain i ffynnu. Cynhelir Her Arian am Oes Cymru mewn partneriaeth â CholegauCymru a Youth Cymru.

Dywedodd Rachel Dodge o GolegauCymru: "Mae pawb yn y rownd derfynol genedlaethol eleni wedi cyflawni prosiectau o Fôn i Fynwy sy'n mynd i'r afael â materion ariannol go iawn yn eu cymunedau lleol. Codon nhw ymwybyddiaeth ariannol ymhlith cynulleidfaoedd allweddol wrth ddysgu sgiliau rheoli arian eu hunain ar yr un pryd. Dylen nhw ymfalchïo'n fawr yn eu hymdrechion a'r effaith maen nhw wedi'i chael."

I gael rhagor o wybodaeth am yr Her Arian am Oes, ewch i www.moneyforlifechallenge.org.uk, neu ar Facebook yn https://www.facebook.com/moneyforlifeuk ac ar Twitter yn www.twitter.com/moneyforlifeuk.

Diwedd

Un ar ddeg tim o bobl ifanc o Gymru trwyddo i Rownd Derfynol Genedlaethol cystadleuaeth rheoli arian ledled y DU

Timau'n cyrraedd Rownd Derfynol Genedlaethol yr Her Arian am Oes, cystadleuaeth rheoli arian a redir gan Grŵp Bancio Lloyds, gyda ColegauCymru a Youth Cymru.

Mae un ar ddeg tîm o bobl ifanc o Gymru yn dathlu heddiw ar ôl cyrraedd Rownd Derfynol Genedlaethol Cymru y gystadleuaeth Her Arian am Oes, sy'n cael ei redeg gan Grŵp Bancio Lloyds, er mwyn ysbrydoli gwell sgiliau rheoli arian mewn cymunedau lleol ar draws y DU, gyda chefnogaeth ColegauCymru a Youth Cymru.

Mae'r timau wedi cael eu dewis o blith 80 o geisiadau o bob rhan o Gymru i gyrraedd rownd derfynol yr Her Arian am Oes yn y Doctor Who Experience ym Mhorth Teigr, Caerdydd ar 28 Ebrill 2015.
Bydd pump o'r timau yn cyflwyno eu prosiectau rheoli arian i banel o feirniaid uchel eu proffil, gan obeithio cael eu coroni'n Enillydd Her Arian am Oes Cymru 2015.

Y pump yw:

D.O.S.H – (Defining Our Spending Habits)
Acorn Learning Solutions

Aeth y tîm i'r afael â materion penodol a brofir gan fyfyrwyr sy'n mynd ymlaen i brifysgol. Rhoesant wybodaeth i fyfyrwyr newydd sy'n symud o addysg bellach i addysg uwch er mwyn adeiladu sylfaen iddynt i fedru gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch eu harferion gwario.

Be In Th' Know With Ya Dough
Coleg Gwent, Parth Dysgu Blaenau Gwent

Aeth y prosiect i'r afael a'r angen i bobl ifanc ym Mlaenau Gwent i arbed arian. Tynnodd y tîm sylw at bwysigrwydd arbennig arbed arian mewn ardall lle mae'n rhaid i bobl ifanc i fyw ar incwm isel iawn. Bu iddynt addysgu eu cyfoedion gydag awgrymiadau arbed arian ac hefyd bu iddynt berswadio nifer o fusnesau lleol i gynnig gostyngiadau, cynigion arbennig neu nwyddau am ddim i bobl ifanc lleol.

Radiate – Families Project
Charter Housing, Casnewydd

Gweithiodd y tîm i ddylunio ac adeiladu app ffonau ar thema effeithlonrwydd ynni er mwyn helpu teuluoedd ifanc weld sut y gallant arbed arian drwy fabwysiadu arferion mwy effeithlon o ddefnyddio ynni. Cynhaliodd y tîm bedwar sesiwn wyneb yn wyneb gyda datblygwr app i ddod â'u syniadau yn fyw a buont yn gweithio gyda theuluoedd lleol i fesur ei effaith.

C-Banc
Coleg Penybont

Edrychodd C-Banc ar sut i helpu pobl ifanc ym Mhenybont arbed arian drwy eu hannog i siopa mewn siopau elusen lleol. Gweithiodd y tîm gyda'r elusen gofal canser Tenovus ym Mhenybont i gynnal ymgyrch rhodd i ysbrydoli mwy o bobl ifanc i roi i siopau elusen, a bu iddynt gynnal ymgyrchoedd hyrwyddo yn yr ardal leol i annog mwy o bobl yn eu harddegau ac oedolion ifanc i siopa ynddynt.

Gym Value for Money
Coleg Gwent, Crosskeys

Edrychodd y prosiect i mewn i'r gost o ddefnyddio campfeydd. Cymharwyd pris campfeydd coleg gyda dewisiadau eraill gan awdurdodau lleol a'r sector breifat. Cynhyrchwyd taflenni a phosteri, a gafodd eu dosbarthu ar gampws y coleg a defnyddiwyd e-byst a'r mewnrwyd i hybu gwybodaeth am y gwahaniaethau o ran cost. Anelodd y tîm i hyrwyddo ffyrdd o arbed arian yn ogystal â'r pwysigrwydd i gadw'n heini.

Ochr yn ochr â'r pum tîm a fydd yn cyflwyno eu prosiectau ar y llwyfan, bydd chwe thîm pellach yn cystadlu am Wobr y Bobl, sy'n cael ei ddyfarnu yn unol â phleidlais mynychwyr y Rownd Derfynol Genedlaethol. Y rhain yw:

  • Beauty Therapy Community o Goleg Gwent
  • Upcycling Splott o Global Love Trust
  • Sassy Savings o Youth Cymru
  • Saving before Leaving o Grŵp NPTC
  • Young Carers o YMCA
  • Young Pension Payers o ISA Training

Cafodd y prosiectau eu cynnal dros gyfnod o dri mis ar ôl i'r grwpiau dderbyn grant o £ 500 gan Arian am Oes i roi eu syniadau ar waith.

Bydd enillydd Rownd Derfynol Cenedlaethol Cymru yn ennill £1,000 i roi i'r elusen o'u dewis.

Meddai Rachel Dodge, Rheolwr Prosiect Arian am Oes yng Nghymru: "Mae sgiliau rheoli arian yn hanfodol i'n bywydau bob dydd ac ry'n ni'n falch iawn fod cynifer o dimau o Gymru wedi cymryd rhan yn yr Her Arian am Oes eleni. Ry'n ni'n falch o gyhoeddi yr 11 tim fydd yn Rownd Derfynol Genedlaethol Cymru eleni. Mae pob tîm wedi dyfeisio prosiect gwirioneddol arloesol i helpu eu cymuned. Rwy'n dymuno pob hwyl iddynt i gyd. "

Dywedodd David Rowsell, Pennaeth Rhaglen Arian am Oes yn Grŵp Bancio Lloyds: "Mae'r Her Arian am Oes yn helpu pobl ifanc greu prosiect rheoli arian er budd i'w cymuned leol ac hefyd yn eu galluogi i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i reoli eu harian eu hunain yn fwy effeithiol. Mae Arian am Oes yn un o'r rhaglenni craidd wrth wraidd nod Grŵp Bancio Lloyds i helpu Prydain ffynnu.

"Rwyf wedi cael fy nharo'n fawr gan arloesedd a brwdfrydedd pob un o'r timau sydd wedi cymryd rhan yn yr Her eleni. Profodd yn benderfyniad anodd i'n barnwyr benderfynu pa grwpiau ddylai gael gwahoddiad i'r rowndiau terfynol cenedlaethol. Dymunaf pob lwc i'r timoedd i gyd."

Bydd enillydd Rownd Terfynol Cymru yn mynd i Ffeinal Fawreddog y DU a gynhelir yn Amgueddfa Ffilm Llundain yn Covent Garden yn Llundain ar 28 Mai, lle byddant yn cystadlu yn erbyn timau o Loegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban i hawlio'r teitl Enillwyr Her Arian am Oes y DU 2015. Caiff y timau y cyfle i ennill £3,000 i roi i elusen o'u dewis.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Her Arian am Oes, ewch i www.moneyforlifechallenge.org.uk, neu Facebook ar www.facebook.com/moneyforlifeuk ac ar Twitter www.twitter.com/moneyforlifeuk.

Diwedd

Lansio Canllaw dylunio Dwyieithog

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi Canllaw Dylunio Dwyieithog. Nod y canllaw yw rhannu'r arferion gorau wrth ddylunio'n ddwyieithog.

Cafodd y canllaw ei lansio heddiw yn y Coleg Merthyr Tudful, gan Gomisiynydd y Gymraeg a chynrychiolwyr o Golegau Cymru a Choleg Merthyr Tudful.

Wrth lansio'r canllaw, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws:

"Mae yna enghreifftiau da a gwael o ddylunio dwyieithog o'n hamgylch ym mhobman, o arwyddion ffyrdd ac arwyddion archfarchnadoedd i hysbysebion ar ochrau bysiau, o becynnau nwyddau i daflenni gwybodaeth.

"Wrth fynd ati i hybu a hwyluso'r Gymraeg ymhob agwedd ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru, un pwnc yr wyf yn ei glywed dro ar ôl tro yw'r angen am gyngor ar sut i fynd ati i ddylunio'n ddwyieithog mewn modd creadigol, cyson, cywir ac ar gost resymol.

"Bwriad y canllaw yw rhannu'r arferion gorau posibl wrth fynd ati i ddylunio'n ddwyieithog. Mae wedi ei anelu at unrhyw sefydliad, hyd yn oed os nad oes gofyn statudol arnynt i weithredu yn Gymraeg a'r Saesneg.

"Wrth lansio'r canllaw mewn coleg addysg bellach, rwy'n gobeithio sicrhau bod gan ddylunwyr y dyfodol y ddealltwriaeth a'r sgiliau priodol ar gyfer ymgymryd â gwaith dylunio mewn gwlad ddwyieithog."

Dywedodd Claire Roberts, Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd Colegau Cymru:

"Mae cyhoeddi'r canllaw hwn yn cydblethu'n dda gyda gwaith sydd gennym ar droed gyda'r colegau addysg bellach a chyrff eraill.

"Gyda'r cyfleoedd dwyieithog yn tyfu bob blwyddyn yn y colegau, hyderaf y bydd myfyrwyr sy'n astudio amryfal bynciau megis busnes, gofal cwsmer, marchnata a dylunio yn cael gwerth o'r canllaw hwn yn ystod eu hamser yn y coleg a'r tu hwnt, wrth iddynt symud ymlaen i'r byd gwaith.

"Yn ogystal, ar gyd-ddigwyddiad hapus, mae Eisteddfod yr Urdd wedi cyflwyno cystadleuaeth newydd sbon eleni ar ddylunio dwyieithog, mewn cyd-weithrediad â Cholegau Cymru. Dwi'n siŵr bod pob un o'r cystadleuwyr yn awchu i gael gafael ar y canllaw ac y bydd safon yn y gystadleuaeth yn elwa ohono!"

Dywedodd John O'Shea, Pennaeth y Coleg Merthyr Tudful:

"Mae'n bleser croesawu'r Comisiynydd i'r coleg ac i fod gyda'r cyntaf i weld y canllaw newydd hwn.

"Mae dylunio dwyieithog da yn bwysig i ni i gyd, boed y Gymraeg neu'r Saesneg yw ein hiaith ddewisol. Er mwyn cyflwyno neges glir, rhaid cael dylunio pwrpasol sy'n cyflwyno'r naill iaith a'r llall yn effeithiol.

"Bydd y canllaw dylunio dwyieithog hwn yn cefnogi'r coleg yn y gwaith o baratoi myfyrwyr i weithio mewn gwlad ddwyieithog, boed yng Nghymru neu'r tu hwnt.

"Bydd hefyd o ddefnydd i ni fel corff sy'n darparu deunyddiau dwyieithog i'n cynulleidfaoedd, gan gynnwys ein myfyrwyr, ein cymunedau a'n busnesau lleol."

Diwedd

Hyfforddiant Galwedigaethol ar Frig Agenda Llywodraeth Cymru gyda'r Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol ar Agor am Enewbiadau

Heddiw (dydd Mercher 28 Ionawr) mae'r Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol, sydd wedi'u cynllunio i ddathlu llwyddiannau unigolion a sefydliadau ym mhob cwr o Gymru, yn cael eu lansio'n swyddogol.

Mae'r Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol yn cael eu trefnu ar y cyd gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a ColegauCymru. Nod y Gwobrau yw helpu i enwi unigolion a sefydliadau sydd wedi codi safon y gwasanaethau y maent yn eu cynnig diolch i gymwysterau galwedigaethol, a'u gwneud yn esiampl i eraill.

Dywedodd Emma Thomas, enillydd Gwobr Dysgwr Cymwysterau Galwedigaethol y Flwyddyn y llynedd, sy'n 28 oed ac yn rhedeg ei meithrinfa ddwyieithog ei hun yn Sir Gaerfyrddin: "Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i'n rhedeg fy meithrinfa fy hun heddiw heb fod wedi gweithio mor galed i wella fy sgiliau galwedigaethol yn barhaus ac ennill cymwysterau rheolaidd. Nawr, dw i am fod yn esiampl dda i fy staff.

"Dw i'n hynod frwdfrydig am ddarparu'r safon uchaf o ofal plant i'r teuluoedd, a thyfu a datblygu fy musnes ar yr un pryd", meddai.

"I wneud hyn, dw i'n ymroddedig i feithrin fy staff a'u hannog nhw i gael hyfforddiant galwedigaethol parhaus i wella eu sgiliau a chyflawni eu potensial eu hunain.

"Roedd ennill Dysgwr Cymwysterau Galwedigaethol y Flwyddyn y llynedd yn anrhydedd mawr ac mae'n brawf o'r holl waith caled rydw i wedi'i wneud i ddatblygu myfi fy hun ac i ddatblygu fy musnes dros y blynyddoedd."

Mae'r gwobrau, sy'n cael eu cynnal am yr wythfed flwyddyn o'r fron erbyn hyn, yn cyd-fynd â'r Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol. Mae hwn yn ddathliad o gymwysterau galwedigaethol i fyfyrwyr, athrawon a chyflogwyr ar draws y DU, a fydd yn cael ei gynnal ar 10 Mehefin eleni.

Dywedodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: "Mae gwobr Cymwysterau Galwedigaethol yn fwy na gwobr yn unig; mae'n symbol o ymroddiad at eich dewis gyrfa.

"Mae rhaglenni datblygu proffesiynol a phersonol yn cael eu defnyddio ar gyfer staff i'w galluogi i ddilyn llwybr dysgu i fodloni anghenion cwmnïau, cwsmeriaid ac unigolion. Bydd y Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol yn ein helpu i ddathlu'r cyflogwyr a'r dysgwyr yng Nghymru sydd eisoes yn gwneud llawer iawn i ddatblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.

"Er mwyn i economi Cymru barhau i dyfu, rhaid inni sicrhau bod cyflogwyr, unigolion a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i fuddsoddi yn y sgiliau cywir ar gyfer llwyddiant er mwyn sicrhau bod gan Gymru weithlu o'r radd flaenaf."

Mae dau gategori i'r gwobrau: Dysgwr Cymwysterau Galwedigaethol y Flwyddyn a Cyflogwr Cymwysterau Galwedigaethol y Flwyddyn. Bydd yr enwebiadau ar gyfer y gwobrau yn agor ddydd Mercher 28 Ionawr ac yn cau ddydd Gwener 1 Mai. Bydd rhestr fer o'r rheini a fydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cael ei chyhoeddi ddechrau mis Mai. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo fawreddog yn y nos ar 9 Mehefin, sef y diwrnod cyn y Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol ddydd Mercher 10 Mehefin.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau ac i wneud cais, ewch i http://www.vqday.org.uk/vq-awards a lawrlwytho ffurflen gais.

Diwedd

Pêl-droed Colegau Cymru yn cofnodi dwbl hanesyddol dros Ysgolion Awstralia

Pryd gurodd Cymru Awstralia ddiwethaf mewn dwy gem chwaraeon ar yr un diwrnod?

Dydd Gwener 23 Ionawr, 2015: y diwrnod trechodd timoedd dynion a merched Colegau Cymru y Soceroos iau ym mhel droed.

Yn cynrychioli Colegau Cymru dan 19, gwnaeth y ddau dîm yn well na'r disgwyl, gan guro timau cryf Ysgolion Awstralia ar eu taith tair wythnos dros Brydain ac Iwerddon.

Yng nghlwb pel droed Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, bu i ddynion Cymru ymladd yn ôl o gychwyn trychinebus, ar ôl ildio dwy gôl yn gynnar yn yr hanner cyntaf, i redeg allan yn y pen draw yr enillwyr o 4-2 yn erbyn y carfan o Awstralia oedd cyn hynny wedi trechu Ysgolion Cymru a thimoedd grwp oed Dinas Caerdydd yn gynharach ar eu taith.

Dywedodd rheolwr tîm dynion Colegau Cymru, Marc Lloyd Williams: "Am gêm ac am berfformiad gan hogiau Cymru. Wnathant ddangos gwir ddyfalbarhad. Roeddent yn benderfynol o ail-gydio yn y gêm, a gwnaethant gymryd ar fwrdd y newidiadau
tactegol a wnaethom ar hanner amser. Ni wnaethant roi'r gorau iddi, gan ddangos eu
cryfder a'u cymeriad.

"Rhown glod hefyd i Awstralia. Roeddent yn dîm cryf, athletaidd a chorfforol a gwnaethant chwarae eu rhan mewn gêm aruthrol o bêl-droed. Roedd yn rhaid i ni weithio am bopeth; gwnaeth gol y naill ochr i'r hanner amser newid cymhlethdod y gêm ac wedyn cawsom gredu y byddem yn mynd ymlaen ac ennill y gêm."

Cystal ymdrech gwelsom oddi wrth ochr y merched hefyd, gan frwydro'n galed i orchfygu eu cymheiriaid o Awstralia ym Mharc Chwaraeon Prifysgol De Cymru.

Dywedodd rheolwr tîm merched Colegau Cymru, Andrew Stokes: "Mewn gem dynn, gwelsom berfformiad tîm wych, gyda'r merched yn cyflawni canlyniad arbennig yn erbyn tîm cryf Awstralia. Beth benderfynodd y gêm agos iawn oedd y gol 20 munud cyn y terfyn. Dyma'r fuddugoliaeth gyntaf erioed i dîm merched Colegau Cymru yn erbyn ysgolion Awstralia. Mae'n adlewyrchu'r cynnydd a'r datblygiad sydd wedi bod ym mhêl-droed merched yn y colegau. Fel tîm hyfforddi, rydym wrth ein boddau gyda pherfformiad y tîm a'r canlyniad penigamp."

Diwedd

Partneriaeth Prifysgol a Cholegau yn Cryfhau Pêl-droed Elît yng Nghymru

Bydd y bartneriaeth newydd rhwng Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Chwaraeon Colegau Cymru i gryfhau pêl-droed coleg ar y lefel uchaf i'w gweld ddydd Gwener, pan fydd y tîm pêl-droed cenedlaethol yn chwarae ysgolion Awstralia.

Mae'r brifysgol yn darparu ei gyfleusterau ac ystod eang o gefnogaeth dechnegol ar gyfer tîm pêl-droed cenedlaethol Colegau Cymru, sy'n rhoi profiad mwy proffesiynol i'r chwaraewyr.

Ddydd Gwener, 23 Ionawr 2015, bydd Pêl-droed Colegau Cymru yn chwarae yn erbyn tîm deithiol ysgolion Awstralia ar safle rhagorol Prifysgol Fetropolitan Caerdydd fel rhan o'r bartneriaeth hon. Bydd y cic gyntaf am 2yp.

Dywedodd Marc Lloyd Williams, Cyfarwyddwr Pêl-droed Chwaraeon Colegau Cymru: "Mae'r bartneriaeth newydd gyda Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn rhoi i'r chwaraewyr a'u hyfforddwyr amgylchedd hyfforddi sy'n well na'r hyn sydd gan lawer i glwb pêl-droed proffesiynol. Mae'r chwaraewyr yn derbyn cefnogaeth gwyddor chwaraeon a hyfforddiant arbenigol gan y staff ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, gan gynnwys y diweddaraf mewn dadansoddi perfformiad a thechnegau cryfder a chyflyru. Bydd yr amgylchedd hyfforddiant a ddarperir gan y brifysgol yn sicr o fudd i'r chwaraewyr ac i bêl-droed Chwaraeon Colegau Cymru, gan ddatblygu chwaraewyr sy'n fwy heini ac sy'n fwy medrus yn dechnegol."

Dywedodd Dave Cobner, Cyfarwyddwr Chwaraeon ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd: "Fel prifysgol rydym yn falch iawn i gefnogi pêl-droed yn y sector trydyddol. Mae'r chwaraewyr yn cael mewnwelediad gwerthfawr i fywyd ar y campws ac yn cael blas o hyfforddi a chwarae o fewn amgylchedd perfformiad uchel. Dymunwn bob llwyddiant i'r tîm o chwaraewyr a hyfforddwyr yn eu hymgyrch 2015."

Dywedodd Rob Baynham, Cydlynydd Chwaraeon Colegau Cymru: "Mae cefnogaeth Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ar gyfer tîm pêl-droed y dynion wedi bod yn agoriad llygad. Wrth baratoi ar gyfer y gêm yn erbyn ysgolion Awstralia, mae'r chwaraewyr a'r staff wedi gallu profi lefel newydd o broffesiynoldeb drwy'r sesiynau hyfforddi a ddarparwyd gan y brifysgol. Bydd y profiad hwn, ynghyd â'r cyfleusterau chwarae rhagorol a ddarperir gan y brifysgol, yn rhoi hyder mawr i'r chwaraewyr wrth wynebu'r gêm yn erbyn Awstralia.

Diwedd

Cynulleidfa newydd i gystadlu yn yr Eisteddfod

Mae Eisteddfod yr Urdd wedi cyhoeddi rhestr newydd o gystadlaethau galwedigaethol cyfoes fydd yn denu cynulleidfa newydd i gystadlu, yn dilyn cydweithio â CholegauCymru.

Fel rhan o ymdrechion i sicrhau bod y Gymraeg yn iaith gyfoes a pherthnasol i fywyd pobl ifanc o bob cefndir a llwybr gyrfa, mae'r Eisteddfod yn cynnig cyfle i gystadlu ac arddangos ystod ehangach o ddoniau a sgiliau.

Cyflwynir chwe chystadleuaeth newydd yn Eisteddfod yr Urdd Caerffili a'r Cylch 2015 sy'n agored i unigolion dan 25 oed, sef:

  • Adeiladwaith
  • Dylunio
  • Ffasiwn
  • Gofal Plant
  • Cogurdd
  • Trin Gwallt a Harddwch

Dywedodd Claire Roberts, Cyfarwyddwr Dwyieithog ColegauCymru: "Mae addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog wedi gweld cynnydd cyson yn y colegau addysg bellach dros y blynyddoedd diwethaf. Ond er mwyn codi hyder a meithrin teimlad o berchnogaeth a pherthnasedd mae'n holl bwysig atgyfnerthu'r dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth neu'r gweithle. Dwi'n hynod o falch gan hynny bod yr Urdd wedi bod yn barod iawn i gydweithio â CholegauCymru i gynnig cyfle newydd i bobl ifanc sydd â sgiliau galwedigaethol ar draws ystod o feysydd i fedru cystadlu yn yr Eisteddfod ac agor y drws iddynt i fywyd a bwrlwm yr Eisteddfod.

Dywedodd Aled Sion, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, "Mae'r cystadlaethau hyn wedi eu hychwanegu at yr ystod arferol yn dilyn ymgynghoriad gan weithgor annibynnol o'r Eisteddfod. Roeddem yn awyddus i ehangu y math o gystadlaethau oedd yn cael eu cynnig, a thrwy gydweithio gyda CholegauCymru, ein gobaith yw cryfhau ein cyswllt â phobl ifanc o bob cefndir gan gynnig arbenigedd 15 coleg a sefydliad addysg bellach i aelodau'r Urdd. Rydym yn ffyddiog y bydd cryn ddiddordeb yn y cystadlaethau hyn."

Diwedd