Archif Newyddion 2016

Cael Pobl Ifanc yn Actif: Myfyrwyr Colegau’n creu cyfleoedd newydd

Denodd Chwaraeon Colegau Cymru 300 o gyfranogwyr i’w gynhadledd actif ar 10 Mehefin 2016 gyda’r nod pennaf o adeiladu sgiliau’r myfyrwyr coleg i ymgysylltu, ysbrydoli a mentora eu cymheiriaid llai actif i fod yn heini.

Fe’i cynhaliwyd ar Gampws Cyncoed Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, lle rhoddodd myfyrwyr o golegau addysg bellach o bedair cornel Cymru gynnig ar bob math o weithgareddau corfforol, megis mini sboncen, rhedeg rhydd (freerunning) a dawnsio’n ffit. Roedd y pwyslais ar ddysgu sut i hyfforddi, arwain ac ysbrydoli cyfranogiad mewn gweithgareddau corfforol llawn hwyl y gellir eu rhoi at ei gilydd yn gyflym, yn hawdd ac yn rhad.

Dywedodd Rob Baynham, Cydlynydd Chwaraeon ColegauCymru: “Mwy na thebyg nad chwaraeon trefnus, cystadleuol yw’r ateb er mwyn cynyddu lefelau gweithgarwch pob myfyriwr. Ond gweithgarwch corfforol? Heb os, bydd yna rywbeth y bydd pob unigolyn yn cymryd diddordeb ynddo a fydd yn eu codi nhw o’u cadeiriau a bod yn weithgar.

“Nod Chwaraeon Colegau Cymru yw sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn cael cyfle i fod yn weithgar yn y coleg mewn ffordd maen nhw’n ei mwynhau ac sy’n gwella’u hiechyd a’u lles. Rydym yn anelu at ddod o hyd i rywbeth i bawb ni waeth beth yw eu rhywedd, cefndir cymdeithasol neu allu corfforol”.

Wrth agor y gynhadledd gydag anerchiad angerddol i fyfyrwyr chwaraeon colegau, dywedodd Dr Paul Thomas, Cadeirydd Chwaraeon Cymru: “Syniad chwaraeon yw galluogi pobl i fagu hyder. Rydym am i Gymru fod yn wlad weithgar. Nid 75% neu 80% yn weithgar. Pawb yn weithgar, ni waeth beth yw eu gallu. A dyna lle rydych chi,

ddysgwyr y colegau, yn dod yn rhan o bethau. Mwynhewch bob munud o’ch amser, magwch yr angerdd, ac fe ewch chi ymlaen i ysgogi chwaraeon yn y gymuned, rhedeg eich clybiau eich hunain, arwain eich gweithgareddau chwaraeon eich hunain. Rhoi 100% i bopeth a wnewch.

“Nid oes rhaid bod y gorau. Mewn gwirionedd, mae’n anodd iawn bod y gorau. Ond gallwch roi o’ch gorau. Dyna hanfod chwaraeon.”

Yn cymryd yr awenau yn y digwyddiad oedd Keira Davies, Llysgennad Ifanc a myfyrwraig chwaraeon yng Ngrŵp Colegau NPTC. Dywedodd: “Teimla’r gynhadledd fel chwa o awyr iach. Dyluniwyd pob sesiwn i’n gwthio ni allan o’n man cysurus a rhoi cynnig ar rywbeth na fyddem o reidrwydd yn meddwl am ei wneud yn ein hardal leol neu goleg. Yn sicr, mae yna nifer o weithgareddau yr hoffwn fynd nôl â nhw gyda fi a’u defnyddio yn fy ngholeg.”

Mae Chwaraeon Colegau Cymru yn bartneriaeth sy’n cynnwys ColegauCymru / CollegesWales a Chwaraeon Cymru ac mae hynny’n dwyn ynghyd holl golegau addysg bellach Cymru, Cyrff Llywodraethol Cenedlaethol chwaraeon a rhanddeiliaid allweddol eraill yn y gymuned ehangach. Cefnogwyd y gynhadledd gan ddysgwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn ogystal â nifer o Gyrff Llywodraethol Cenedlaethol fel Chwaraeon Anabledd Cymru a Streetgames Wales a redodd 40 o wahanol sesiynau i ddysgwyr rhyngddynt.

Yn eu plith roedd:

  • Datblygu gweithgareddau ffitrwydd arloesol - sesiynau dwyster isel i uchel gan gynnwys Dawnsio’n Ffit, Pink Belt Kickboxing, Rumble Roller, Fluidity Freerunning a Watt Bike, Go Tri.
  • Creu dewisiadau chwaraeon adloniadol newydd – sesiynau chwaraeon diwygiedig ac addysg i hyfforddwyr gan gynnwys Tennis Cardio, Chwaraeon Stepen Drws, Sboncen Wib, Golff Gwib, Rygbi ar Gadeiriau Olwyn, Rhedeg Cymdeithasol
  • Datblygu partneriaethau newydd a hyrwyddo cyflogadwyedd y myfyrwyr –gweithdai i ddatblygu microfusnesau dan arweiniad myfyrwyr, gwib-fachu gyda Chyrff Llywodraethol Cenedlaethol chwaraeon, defnydd effeithiol o’r cyfryngau cymdeithasol a rhaglenni’r Llysgenhadon ar gyfer amrywiaeth o chwaraeon.

Casglodd Rob Baynham: “Dangosodd canlyniadau’r Arolwg Chwaraeon Addysg Bellach cyntaf erioed, a gynhaliwyd yn gynharach eleni gan Chwaraeon

Cymru ar y cyd â CholegauCymru fod gan fyfyrwyr colegau archwaeth wych i fod yn fwy corfforol weithgar. Y cyfan sydd arnynt eu hangen yw’r cyfleoedd.

“Gwyddwn beth yw’r nod. Mae’r gynhadledd, trwy ymdrechion enfawr a chydweithrediad ystod eang o bartneriaid ac ymrwymiad myfyrwyr colegau, yn ein helpu ni i gyrraedd yno. Rwy’n llawn ddisgwyl gweld mwy o ddysgwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau mwy corfforol dros y flwyddyn nesaf.”

Achievements of learners and employers celebrated at VQ Awards

A young woman from Llanelli who is blazing a trail in the hospitality industry, a woman who has been promoted from administrator to docks and marina supervisor at the Port of Milford Haven and a successful North Wales recycling company were the main winners at this year’s Vocational Qualification (VQ) Awards last night (Tuesday).

Ten finalists and their learning providers gathered at St David’s Hotel and Spa, Cardiff, on the eve of VQ Day, to discover who had won the awards, which were presented by Minister for Skills and Science Julie James.

The annual awards, organised by the Welsh Government, the National Training Federation for Wales (NTfW) and ColegauCymru / CollegesWales, celebrate the achievements of both learners and employers across Wales.

The VQ Intermediate Learner of the Year Award went to Elizabeth Forkuoh, Stradey Park Hotel, Llanelli, who was nominated by Coleg Sir Gâr, Llanelli. Multilingual Elizabeth, 20, who speaks Italian, English, Twi, French and some Welsh, won gold awards at the Skills Competitions Wales and WorldSkills UK. She now has secured a coveted place on the WorldSkills Squad UK and hopes to compete in WorldSkills Abu Dhabi in 2017.

Having moved to Llanelli when she was 15, Elizabeth is now studying a level three NVQ Diploma in Hospitality Supervision and Leadership at Coleg Sir Gâr in Carmarthen, while working part-time at the Stradey Park Hotel. Although ambitious, Elizabeth has decided to defer her degree in hotel management until 2018 to focus on competition opportunities.

The VQ Higher Learner of the Year Award was won by Melanie Durney from Milford Haven Port Authority, who was nominated by Pembrokeshire College. Melanie has been promoted from administrator to managing a team that will be instrumental in the success of a multi-million pound regeneration project set to bring jobs, boost tourism and create a brighter economic future for her home town.

Originally joining the Port of Milford Haven as docks administrator, she completed a Level 4 NVQ in Business and Administration before her promotion to docks co-ordinator and went on to achieve a Level 5 NVQ in Management to become docks and marina supervisor.

Winner of the VQ Employer of the Year Award was recycling company Thorncliffe from Mold, who were nominated by Cambrian Training Company. Vocational qualifications are supporting the company’s ambition to send zero waste to landfill in the future.

A double winner at last year’s Apprenticeship Awards Cymru, the company has successful recycling sites in Mold and Abergele which are each saving 30,000 tonnes of waste a year from landfill. To achieve its business goals, the company launched an Apprenticeship programme four years ago and it now has 12 apprentices.

Minister of Skills and Science Julie James congratulated the 10 finalists and praised everyone who had been nominated for the VQ Awards this year. “Vocational skills have a huge impact on the Welsh economy and we value the gold standard of vocational learning being delivered to people right across Wales,” she said.

“Both Vocational Qualifications Day and the Vocational Qualifications Awards provide the perfect opportunity for us to celebrate not only the high standard of technical, practical and vocational learning being delivered in Wales, but also the many personal successes and achievements of our learners.

“High quality VQs are essential to provide individuals and businesses with the skills, experience, motivation and inspiration they need to get ahead. Ultimately it is only with appropriately skilled and trained people that can we drive forward the Welsh economy.

“Many of our VQ Award finalists this year have demonstrated that they are marked out as future leaders or ambitious entrepreneurs and have an eye on making sound business decisions and increasing productivity.”

The other finalists were: VQ Intermediate Learner of the Year: Nick Rudge, Fat Duck, Bray, nominated by Grŵp Llandrillo Menai’s Coleg Llandrillo; Darryn Pitman, Captiva Spa, Caerphilly, nominated by ISA Training, Bridgend; Stefano Amoruso, Trojan Electronics, Swansea, nominated by Gower College Swansea.

VQ Higher Learner of the Year finalists: Dorota Orzeszek, Swansea Bay Regional Equality Council, nominated by GCS Training from Gower College Swansea; and Lorna Wilcox-Jones, Cartrefi Cymru, Bangor, nominated by Grŵp Llandrillo Menai’s Denbigh campus.

VQ Employer of the Year finalists: Arthur J. Gallagher, Llantrisant, nominated by Acorn Learning Solutions; and Wales Community Rehabilitation Company, Cardiff, nominated by VQ Assessment Services.

Now in their ninth year, the awards are held on the eve of VQ Day on June 8, a celebration of the benefits and value of high quality technical, practical and vocational learning to individuals and to the economy.

Learning providers across Wales are being encouraged to organise regional events to celebrate VQ Day and engage with learners of all ages. Vocational qualifications have never been more important to the economy and the individual, as they deliver the trained, talented employees that businesses are crying out for and ensure young people have the skills needed to succeed in education and work.


Colegau a’r Mentrau Iaith: Cydweithio Dros y Gymraeg

Ar faes Eisteddfod yr Urdd, Sir y Fflint ddydd Llun 30 Mai am 12.30yp ar stondin Coleg Cambria, fe fydd ColegauCymru a Mentrau Iaith Cymru yn lansio Memorandwm Cydweithio sy’n amlinellu dymuniadau a bwriad y ddau fudiad i gydweithio yn agos er mwyn annog y defnydd o’r Gymraeg.

Mae ColegauCymru a Mentrau Iaith Cymru yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth i ddatblygu a chynyddu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i bobl Cymru. Gyda’i gilydd byddant yn hyrwyddo manteision dwy iaith i bobl ifanc Cymru drwy bwysleisio'r Gymraeg fel sgil cyflogadwyedd. Yn ogystal, mi fydd ColegauCymru a Mentrau Iaith Cymru yn cefnogi arweiniad strategol a gweithgareddau cyfrwng Cymraeg/dwyieithog y colegau addysg bellach.

Mae’r ddau sefydliad yn awyddus i adeiladu ar eu llwyddiannau unigol, i gydweithio ar lefel strategol er mwyn cefnogi cynnydd mewn cyfleoedd Cymraeg a dwyieithog ar gyfer pobl yng Nghymru. Drwy weithio’n effeithiol gyda'i gilydd bydd modd ehangu’r gynulleidfa fydd yn cymryd rhan yng ngweithgareddau'r ddau bartner.

Dywedodd Claire Roberts, Cyfarwyddwr Ymgysylltu ColegauCymru, “Drwy gydweithio rydyn ni’n fwy tebygol o fedru sicrhau cyfleon allgyrsiol yn lleol yn enwedig yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog. Heb os, bydd gwasanaethau’r Mentrau o allu trefnu a chynnal gweithgareddau allgyrsiol cyfrwng Cymraeg yn help mawr i’r colegau wrth iddynt fynd ati i ymestyn cyfleon dwyieithog i fyfyrwyr.

“Gyda dwy ran o dair o fyfyrwyr oed 16-19 yn derbyn addysg a hyfforddiant drwy’r colegau addysg bellach, mae gennym gynulleidfa fawr fydd yn gallu elwa o’r cydweithio hwn. Edrychaf ymlaen yn fawr at weld y bartneriaeth genedlaethol hon yn dwyn ffrwyth.”

Dywedodd Emily Cole, Cydlynydd Cenedlaethol Mentrau Iaith Cymru:

“Mae’r Mentrau Iaith hyd a lled Cymru yn cydnabod a sylweddoli pwysigrwydd a chyfraniad colegau addysg bellach i ddarparieth hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i bobl o bob oed, ond yn enwedig i bobl ifanc sydd ar fin, neu newydd adael yr ysgol. Mae sicrhau cyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol i bobl sydd mewn cyswllt â’u Colegau i ddefnyddio’r Gymraeg yn holl bwysig ac rydyn ni’n bwriadu adeiladu ar y cydweithio a phartneriaethau da sydd eisoes wedi ffurfio rhwng y Mentrau a’r colegau drwy weithredu’r memorandwm.”

Ymateb y sector i Lywodraeth newydd Cymru

Gan ymateb i gyhoeddiad Cabinet a Gweinidogion newydd Llywodraeth Cymru ar 19 Mai 2016, dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, Iestyn Davies:

"Wrth benodi dau Ysgrifenydd a dau Weinidog Cabinet i fod yn gyfrifol am addysg a sgiliau ôl-16, ymddengys bod y Prif Weinidog yn cydnabod yr angen am ffocws ar y lefel uchaf er mwyn hybu'r economi trwy ddatblygu a buddsoddi mewn cyfalaf dynol Cymru. Mae addysg, yr economi, dysgu gydol oes a sgiliau yn feysydd datblygu allweddol. Croesëwn y pedair swydd Cabinet ar wahân, mond mai’r canlyniad fydd rhaglen Lywodraeth gydlynus, cyd-gysylltiedig ac effeithiol."

"Gyda Ken Skates a Julie James, y ddau yn gyn Ddirprwy Weinidogion dros Sgiliau yn awr yn dîm - y naill yn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r llall yn Weinidog dros Sgiliau - gallent fod yn bâr effeithiol i yrru'r economi.

"Croesawaf hefyd benodiad Gweinidog newydd dros Ddysgu Gydol Oes, o ystyried bod angen brys i fynd i'r afael â'r toriadau dwfn a wnaed i ddysgu oedolion yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Ond rhyfedd yw gwahanu Dysgu Gydol Oes oddi wrth Sgiliau. Mae’n gwbl angenrheidiol bod strategaethau ar brentisiaethau, dysgu seiliedig ar waith, a dysgu oedolion rhan amser yn gydgysylltiedig. Rydym yn aros am eglurhad ar sut y bydd y swyddi Gweinidogol yn gweithio gyda'i gilydd. Bydd hefyd yn bwysig, gyda Kirsty Williams o’r Democratiad Rhyddfrydol wedi ei phenodi yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn y Llywodraeth, ond heb gytundeb o glymblaid, bod y Llywodraeth yn gweithredu fel un. "


Ceir manylion y cabinet a’r gweinidogion yma:

http://gov.wales/newsroom/firstminister/2016/takin...

Galwad y colegau i atal arbenigedd addysgol Cymru rhag pylu

O ymateb i gyhoeddiad yr ystadegau swyddogol sy’n dangos cwymp sylweddol yn nifer y staff a gyflogir gan sefydliadau addysg bellach, mae’r elusen sgiliau ac addysg ôl-16, ColegauCymru, wedi rhybuddio bod y dihysbyddiad mewn arbenigedd addysgol yn peryglu cystadleugarwch Cymru.

Mae’r ffigurau newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru’n dangos bod cyfanswm nifer y staff cyfwerth ag amser llawn a gyflogir gan golegau a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru wedi cwympo 7.3% rhwng 2013/14 a 2014/15. Collwyd 665 o staff cyfwerth ag amser llawn yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf yn unig. Mae nifer y staff a gyflogir bellach yn is nag y bu yn ystod y deng mlynedd flaenorol.

Dywedodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru: “Mae cyflogi llai o staff yn y colegau’n arwain at lai o gyfleoedd dysgu. Mae hyn yn peryglu dyfodol cynifer o bobl ifanc ac yn difetha cyfleoedd unigolion sy’n edrych i ailsgilio neu newid gyrfa.”

Mae cannoedd o staff wedi gadael y sector wrth i golegau uno ac ad-drefnu er mwyn rheoli’r toriadau diwahân mewn cyllid. Heriodd cyn Weinidogion Llywodraeth Cymru y sector i wneud arbedion mewn ‘dyletswyddau ystafell gefn’ er mwyn diogelu ‘gwasanaethau’r rheng flaen’. Mae hyn wedi’i wneud. Mae’r ystadegau’n dangos bod cyfran y staff sydd ynghlwm mewn addysgu a dysgu wedi parhau’n sefydlog, ar tua 71% o gyfanswm y staff. Ar y llaw arall, mae staffio mewn gweinyddiaeth a gwasanaethau canolog wedi gostwng o 14% o’r cyfanswm yn 2013/14 i 12% yn 2014/15.

Fodd bynnag, mae graddfa’r her a osodwyd gan gyfres o setliadau cyllid anodd wedi golygu bod lefelau staffio ar draws holl feysydd darpariaeth y colegau wedi’u torri, gan gynnwys mewn addysgu a dysgu.

Ychwanegodd Iestyn Davies: “Mae colegau addysg bellach yn allweddol i sbarduno’r economi. Maen nhw’n cefnogi pobl ifanc ac oedolion fel ei gilydd i godi eu lefelau sgiliau a’u paratoi ar gyfer addysg uwch, cyflogaeth, dyrchafiad ac entrepreneuriaeth.

“Beth bynnag yw eu swyddi penodol, mae’r holl staff mewn colegau addysg bellach yn cyfrannu at gyflawni sgiliau hanfodol yn ogystal â chymwysterau academaidd, galwedigaethol a phroffesiynol. Maen nhw’n cefnogi, yn hyfforddi ac yn mentora prentisiaid a dysgwyr llwyddiannus i safon fyd-eang. Maent yn helpu adeiladu cymdeithas fwy gwydn ac yn helpu datblygu gallu busnesau i wella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd.

“Er mwyn gallu ymroi eu harbenigedd i’w rôl allweddol o addysgu a dysgu, mae angen iddynt gael eu cefnogi gan wasanaethau canolog effeithlon a phroffesiynol. Mae’r colegau wedi tynhau’u gwregysau, wedi arbed ar wasanaethau’r ystafell gefn ac wedi dod yn fwy effeithlon. Ond mae colli cynifer o staff mewn un flwyddyn academaidd yn golygu bod Cymru’n dlotach o’r herwydd.

“Gan fod llai o staff ar gael i gyflwyno dysgu i boblogaeth sy’n tyfu mewn gwlad y mae angen datblygu ei heconomi’n ddybryd, ni allwn fforddio unrhyw wanhau pellach ar gyfalaf dynol y colegau.

“Cyn cyhoeddi’r rhaglen i’r Llywodraeth, mae angen i Gymru sefydlu model cymdeithasol gyfiawn ar frys ar gyfer addysg ôl-16, hyfforddiant sgiliau a dysgu gydol oes.”

Yn ei faniffesto cyn yr etholiadau diweddar, galwodd ColegauCymru ar Lywodraeth nesaf Cymru i gytuno gweledigaeth strategol a dod â chydlyniad i’r sector addysg a hyfforddiant ôl-16 cyfan. Dywed mai ‘nid peth braf’ yw cael addysg bellach ac addysg i oedolion ond rhywbeth hanfodol. Mae wedi galw ar Weinidogion i sicrhau bod cyfleoedd addysg a hyfforddiant yn cael yr adnoddau cywir gyda staff proffesiynol i gyflawni Cymru gymdeithasol gyfiawn a ffyniannus.

Wrth gloi, dywedodd Iestyn Davies: “Mae’r colegau’n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth nesaf Cymru ac aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol i gyflawni newid. Rhaid i’r newid hwnnw atal y cyfalaf dynol proffesiynol rhag pylu o’n model colegau dielw.


Cyhoeddwyd yr ystadegau, Staff at further education institutions in Wales, 2014/15 (SDR 56/2016) ar 10 Mai 2016 ac maen nhw ar gael yn
http://gov.wales/statistics-and-research/staff-fur...

Galw i Sefydlu Fframwaith i Ddatblygu Technegwyr Arbenigol i fod yn Gymhellwyr Busnes

Mae ColegauCymru, yr hyrwyddwr addysg a hyfforddiant ôl-16, yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i sefydlu fframwaith newydd i ddatblygu technegwyr arbenigol i fod yn gymhellwyr busnes. Dywed y bydd y fath symudiad yn helpu lleoli Cymru fel arweinydd byd mewn diwydiannau dwys o ran sgiliau.

Mae nifer o gymwysterau ar lefel addysg uwch, megis NVQs, HNCs, HNDs a Graddau Sylfaen, eisoes yn datblygu sgiliau galwedigaethol berthnasol i lefel uwch. Ond nid oes fframwaith cydnabyddedig sy’n dwyn ynghyd y sgiliau technegol lefel uchel hyn ochr yn ochr â’r sgiliau rheoli, entrepreneuraidd ac addysgol angenrheidiol i ddatblygu busnes a’i weithlu.

Hwyrach na all busnesau bach a micro fusnesau fwynhau’r moethusrwydd o allu penodi rheolwr hyfforddi, cyfarwyddwr cyllid, rheolwr datblygu busnes ac arbenigwr technegol. Hwyrach y bydd angen ar y busnesau maint canolig sy’n edrych i ehangu eu technegwyr hynod fedrus ac arbenigol er mwyn ehangu eu portffolio arbenigedd i reoli adnoddau dynol ac ariannol.

Yn dilyn trafodaethau cynnar a chadarnhaol gydag amrywiaeth o randdeiliaid, mae ColegauCymru bellach yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i sefydlu dynodiad fframwaith newydd a fydd yn datblygu ac yn cydnabod ystod ehangach o sgiliau y mae ei angen ar Grefft-feistr neu Dechnegydd Arbenigol er mwyn datblygu busnes. Byddai’n dilyn yn agos gymhwyster Meister cydnabyddedig ac sydd wedi ennill ei blwyf yn yr Almaen ac mae’r dynodiad Prif Grefftwyr eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn 12 gwlad ledled Ewrop.

Gan ganolbwyntio ar y sector peirianneg yn y lle cyntaf, byddai’n gweithio ar ymestyn y dynodiad i sectorau blaenoriaeth eraill gan gynnwys gofal cymdeithasol, lletygarwch a thwristiaeth. Dylai’r fframwaith cyffredin weithio tuag at gytuno, atgyfnerthu a chydnabod portffolio cymeradwy o gymwysterau gyda sicrwydd ansawdd.

Dywedodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru: “Rydym am weld Cymru’n dangos yr un penderfyniad wrth gydnabod arbenigedd lefel uchel a datblygu busnesau â’n partneriaid a’n cystadleuwyr yn Ewrop.

Byddai sefydlu dynodiad Crefft-Feistr neu Dechnegydd Arbenigol yn arwydd o gynnig sgiliau arweiniol yn y byd i fuddsoddwyr rhyngwladol. A gallai roi hwb aruthrol i gynhyrchiant busnesau brodorol.”

Mae’r CBI ac UKCES ill dau wedi adrodd bod galw’r cyflogwyr am sgiliau lefel uwch ar draws y DU yn cynyddu. Fodd bynnag, mae Cymru’n llusgo ar ôl cyfartaledd y DU, gyda’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod canran is o oedolion yn gymwys i lefel addysg uwch (Lefel 4 ac uwch).

Aeth Iestyn Davies yn ei flaen: “Gallai dynodiad y Crefft-Feistr fod yn gynnig deniadol ar gyfer busnesau sydd angen unigolion a all arddangos lefelau gwybodaeth uwch ond sydd hefyd yn gallu seilio’u gwybodaeth a’u sgiliau yn y gweithle.

“Mae pob plaid sy’n mynd i etholiadau’r Cynulliad yn falch o ddweud wrth yr etholaeth eu bod yn gwerthfawrogi cymwysterau galwedigaethol yn fawr iawn a’u bod yn dymuno gweld gwerth y sgiliau perthnasol i’r diwydiant yn cael ei gydnabod yn well. Dyma gynnig cyfle ar blât i Lywodraeth nesaf Cymru ffurfio a datblygu teitl newydd sy’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi technegwyr arbenigol a all reoli a chymell busnesau Cymru.


Nodiadau:

1. Am fwy o wybodaeth ar gyd-destun Ewropeaidd y teitl Master Craftsperson ewch at ein blog: https://colegaucymru.wordpress.com/2016/01/07/mast...

2. Dywedodd yr Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn 2012, y "gall fod lle i gryfhau’r cysondeb rhwng ein system ni a system yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Ewrop".

3. Adroddiad CBI: Inspiring Growth: CBI/Pearson Education and Skills Survey 2015

4. Adroddiad UKCES: Working Futures 2014 –2024

5. Ystadegau diweddaraf Cymru a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru 20 Ebrill 2016: Levels of Highest Qualification held by Working Age Adults, 2015

New opportunity to work and learn with European neighbours to improve the lot of Wales

Alongside ambitions to foster strategic level change to Wales’ education and training sector, the post-16 skills and education charity ColegauCymru / CollegesWales is set to provide more work placements across Europe for Wales’ learners and apprentices than ever before, having just secured over €500,000 of European funding for two ambitious projects.

The longstanding ColegauCymru programme that facilitates work placements across Europe has again been successful in attracting significant funding from Erasmus+. Over the next two years, the new project will support work placements in eight European countries for 215 vocational learners and apprentices from nine colleges and two work-based settings covering 13 industry areas from aerospace engineering to travel & tourism.

The placements will challenge learners to develop a whole range of skills, including cross-cultural communication, team working and self management in addition to expanding their vocational skills. On their return to Wales, the learners will make presentations to their peers as well as their employers, college staff and leaders, with the aim of spreading the benefits of the experience more widely.

Chair of ColegauCymru / CollegesWales, Judith Evans, said: “For a young adult, the experience of working for a short period in a new country can be life changing, opening up new work opportunities, broadening horizons and raising aspirations.

“We in the further education sector want to make sure that such experiences are not just the preserve of the well-connected or the well-off. Working with post-16 skills providers and employers, we want to provide young people of all backgrounds and work interests with a springboard to success. A work placement abroad may well be the launch of a new dream which may be realised close to home, in the next valley, in Europe or further afield.”

In addition to facilitating work placements for vocational learners, ColegauCymru is also looking to gather evidence to support strategic-level improvements to Wales’ vocational education and training structures. Following success in a separate bid for Erasmus+ funds, ColegauCymru will lead a delegation of managers from the post-16 skills and higher education sectors as well as statutory bodies to Catalonia next year. The purpose of the visit will be to explore post-14 bilingual vocational education and training structures, the supply and demand for bilingual skills in the workplace, and the added value or potential economic benefits of bilingualism or multilingualism.

Judith Evans continued: “There is a lot of good practice in Wales, but there is also a great deal we can learn from other nations. The visit to Catalonia will provide an opportunity to reflect on strategic level structures and policies with partners and stakeholders from the Welsh Government, the Welsh Language Commissioner, and senior representatives from further and higher education.

“Ultimately, our aim is to stimulate joined-up policy-making in education and training, and better economic opportunities for Wales and its people.”


Notes:

1. ColegauCymru has supported a number of colleges and training providers in bidding for funds from the European Commission’s education and lifelong learning funding streams for a number of years (now called Erasmus+ and previously Leonardo).

2. The 2016-18 learner mobility consortium led by ColegauCymru will see work placements organised in in the following eight countries: Spain, France, Norway, Sweden, Italy, Germany, Finland and the Netherlands. The 13 industry areas are: aerospace engineering, business administration, childcare, creative arts, hair & beauty, health and care, hospitality & catering, leadership and management, mechanical engineering, outdoor education, sport, sports therapy, and travel & tourism. The learners will be drawn from Bridgend College, Cardiff and Vale College, Coleg Cambria, Coleg Gwent, Coleg Sir Gâr, Coleg y Cymoedd, Grŵp Llandrillo Menai, NPTC Group, Pembrokeshire College, ISA Training and TATA Steel (subject to confirmation, following recent news on TATA’s future in Wales).

3. The delegation for the study visit to Catalonia will include representatives from ColegauCymru, Coleg Cambria, Coleg Gwent, Coleg Sir Gâr, Coleg y Cymoedd, Grŵp Llandrillo Menai, Pembrokeshire College, Gower College Swansea, the National Training Federation for Wales, the Welsh Language Commissioner, and the Welsh Government.

4. In addition to the collaborative bids for funding submitted to the European Commission by ColegauCymru, further education colleges may make college-specific bids. The total amount received by Wales’ further education sector in 2016 from Erasmus+ is not yet available. In 2015, the further education sector was allocated a total of 1,270,291 Euros for work and study placements. The figure for 2014 was 820,569 Euros. This is in addition to the 2.2 million Euros for European work placements in 2011-13.

5. ColegauCymru has not offered a view on the EU Referendum.

Merched Cymru yn Gwneud Hanes yng Nghampau Chwaraeon Colegau’r DU

Cyrhaeddodd myfyrwyr colegau addysg bellach Cymru uchelfannau newydd gan dorri recordiau chwaraeon tîm merched ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Chwaraeon yr AoC dros y penwythnos diwethaf yn Newcastle.

Enillodd tri o dimau merched Colegau Cymru, a fu’n cystadlu yn erbyn 11 o sgwadiau rhanbarthol a chenedlaethol o bob cwr o'r DU, safle ar y podiwm yng nghystadlaethau rhuban glas rygbi, pêl-rwyd a hoci.

Tîm rygbi y merched roddodd ddechrau ar y llwyddiant ddydd Sadwrn trwy gadw eu teitl am yr 8fed flwyddyn yn olynol er gwaethaf cystadleuaeth gref yn enwedig gan dîm de ddwyrain Lloegr. Arweiniwyd y perfformiad ysbrydoledig gan yr hyfforddwr Jenny Davies (Coleg Menai), cyn chwaraewr rhyngwladol Cymru, a Daryl Morgan (URC / Scarlets Merched), gyda thîm oedd yn cynnwys chwaraewyr o bum coleg: Coleg Sir Gâr, Coleg a Cymoedd, Coleg Penybont, Coleg Sir Benfro a Grŵp o Golegau NPTC.

Dywedodd yr Hyfforddwr Jenny Davies: "Mae Daryl ac innau yn hynod o falch o'r merched. Bu iddynt ddangos rygbi gwych a pherfformio ar safon uchel gan gadw’n gadarnhaol drwy gydol y dydd. Pleser oedd eu hyfforddi.

"Mae safon y rygbi yn gwella. Dangosodd y timoedd i gyd hunanfeddiant, gan sgorio ceisiau cyffrous. Roedd yn fraint i fod yn rhan o’r grŵp o unigolion talentog yma ac rwy'n sicr y bydd rhai ohonynt yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru. Mae datblygiad rygbi Cymru yn edrych yn addawol."

Yn y cystadlaethau pêl-rwyd a hoci, timoedd o Goleg Gŵyr Abertawe fu’n cynrychioli Colegau Cymru, a bu iddynt arwain yn gryf o’r cychwyn. Ddydd Sul, adeiladodd tîm pêl-rwyd Coleg Gŵyr Abertawe ar eu rhediad diguro o ddydd Sadwrn drwy ennill gemau hynod gystadleuol yn erbyn ffefrynnau poeth y gystadleuaeth, Coleg Hartpury a Choleg Exeter. Dyma'r tro cyntaf i dîm o Gymru ennill y gystadleuaeth pêl-rwyd yn y pencampwriaethau cenedlaethol, gyda'r merched yn dangos cryn dipyn o sgil, hunanfeddiant a gwaith tîm i ymgodymu teitl oddi wrth eu cymheiriaid o Loegr.

Dywedodd Hyfforddwr Academi Pêl-rwyd Coleg Gŵyr Abertawe Sarah Lewis: "Chwaraeodd y merched yn anhygoel o dda gyda'i gilydd, gan ddangos yr ymddiriedaeth, gwaith caled a chydlyniad tîm. Dyma oedd y foment mwyaf balch yn fy ngyrfa hyfforddi, ac yn benwythnos ni fyddaf byth yn anghofio. Bu i’r merched gynrychiolir eu coleg a’u gwlad yn y ffordd orau posib, gan ddychwelyd adref gyda medal aur ac yn Bencampwyr AoC. "

Yn olaf, gyda hanes cryf yn y pencampwriaethau, ni siomodd academi hoci Coleg Gŵyr Abertawe, gan ddod adref â thrydedd medal i dîm Cymru yn y pencampwriaethau. Ar ôl dechreuad cadarn ddydd Sadwrn, gorffennodd y tîm hoci yn gryf, gan ennill medal arian yn un arall o brif gystadlaethau chwaraeon merched.

Dywedodd Cydlynydd Chwaraeon Colegau Cymru, Rob Baynham: “Dyma gyflawniadau gwych i Gymru, gyda'r merched yn arwain y ffordd mewn tri o'r digwyddiadau mwyaf cystadleuol yn y pencampwriaethau. Yn dilyn cystadlu yn erbyn rhai o academïau chwaraeon uchaf colegau Lloegr, a ddewiswyd o ranbarthau gyda dwbl y nifer o golegau yng Nghymru, mae'r merched wedi gosod meincnod newydd ar gyfer chwaraeon coleg yng Nghymru.

“Rhaid bellach i ni fwrw ymlaen gyda’r nod o adeiladu ar y cyflawniad hwn ar draws Chwaraeon Colegau Cymraeg, ac i ddefnyddio’r canlyniadau o Newcastle i ysbrydoli merched sy’n cymryd rhan yn chwaraeon yn y sector addysg bellach.”

Meddai Cyfarwyddwr Chwaraeon Elît Chwaraeon Cymru, Brian Davies: "Os ydym am barhau i gynhyrchu talent o'r radd flaenaf yng Nghymru, mae angen arnom athletwyr talentog i gymryd rhan mewn cystadlaethau cryf. Mae'r rhain yn gyflawniadau ardderchog sy'n dangos bod ein pobl ifanc yn gallu disgleirio a pherfformio yn erbyn y gorau yn y DU."


Nodiadau:

1. Chwaraeon Colegau Cymru yw'r corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer chwaraeon mewn addysg bellach. Mae'n cael ei gydlynu gan GolegauCymru gyda chefnogaeth Chwaraeon Cymru. Ewch at www.welshcollegessport.wales neu www.chwaraeoncolegau.cymru am ragor o wybodaeth.

2. Pencampwriaeth Chwaraeon yr AoC yw’r digwyddiad chwaraeon blynyddol mwyaf i fyfyrwyr ledled Prydain, gan ddenu mwy na 2,000 o fyfyrwyr a staff bob blwyddyn. Cafodd y 38ain Pencampwriaeth ei chynnal yn Newcastle rhwng 15 ac 17 Ebrill 2016. Ceir gwybodaeth ar y pencampwriaethau ar: http://www.aocsportchamps.org/

Rheoleiddio a Goruchwylio Addysg a Hyfforddiant Ôl Orfodol: ymateb gan y sector addysg bellach

Mae ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn croesawu nifer o argymhellion a wnaed mewn adroddiad newydd ar reoleiddio a goruchwylio addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru. Mae'r adroddiad, sy'n canolbwyntio ar yr angen i gyflwyno ffurfiau newydd o ddysgu ac addysgu 16+, yn argymell creu corff annibynnol newydd i gydlynu ac arloesi ar bob lefel o addysg ôl-orfodol ar draws Cymru.

Mae’r adroddiad, Tuag at 2030: Fframwaith ar gyfer datblygu system addysg ôl-orfodol o’r radd flaenaf i Gymru, a ysgrifennwyd gan yr Athro Ellen Hazelkorn ac a gyhoeddwyd ar 10 Mawrth 2016, yn galw am strwythurau a systemau gwell ar lefel genedlaethol sy'n gallu mynd i'r afael â diffyg hyblygrwydd y system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol gyfredol yng Nghymru. Ychwanega at y nifer gynyddol o adroddiadau a datganiadau sy’n galw am fwy o gyfleoedd am sgiliau lefel uwch yng Nghymru.

Mewn sefyllfa sy'n adleisio Maniffesto ColegauCymru, Sgiliau ar gyfer Cenedl Lewyrchus, ac adroddiad NTfW, Gwerth Prentisiaethau yng Nghymru, mae’r Athro Hazelkorn yn cydnabod yr angen i Lywodraeth nesaf Cymru i weithio i gyflwyno gweledigaeth gyflawn ar gyfer y system ôl-orfodol. Gan hynny, mae'r ddau sefydliad yn cymeradwyo’r adroddiad yn y ffordd y mae’n rhoi ar gychwyn modd i sicrhau bod gan Gymru systemau a strwythurau yn eu lle i alinio anghenion cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd y genedl ac i ddarparu sgiliau cynaliadwy yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, yn awr ac ymhell i'r dyfodol.

Dywedodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru: "Mae’r Llywodraeth bresennol wedi gweithio gyda ColegauCymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a phartneriaid eraill i wella mynediad i lwybrau dysgu galwedigaethol, adnabod gwerth opsiynau dysgu galwedigaethol ôl-16 ar lefel genedlaethol, a chefnogi tyfiant prentisiaethau. Ond mae strwythurau wedi dal Cymru yn ôl rhag medru bod yn ddigon ystwyth i fedru darparu system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol di-dor sy'n gweithio i ddysgwyr, cyflogwyr ac entrepreneuriaid ar bob lefel.

"Fel y mae'r adroddiad yn nodi, mae angen mynd i'r afael â nifer o faterion ar lefel strategol er mwyn symud at system sy’n fwy effeithlon, effeithiol ac, yn fwy na dim, sy’n gynaliadwy. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi cyfle cynnar yn nhymor cyntaf y Cynulliad nesaf fynd i'r afael â'r gwendid strwythurol cynhenid sydd yn y systemau cynllunio ac ariannu cyfredol.

"Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Llywodraeth a’r Cynulliad newydd yn gynnar yn y tymor newydd wrth archwilio'r materion a'r argymhellion a godwyd yn yr adroddiad ac, yn arbennig, ar y modd y gall y swyddogaethau statudol a strategol sy’n freiniedig ar hyn o bryd yn y Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a chyrff eraill gael eu cyflawni ochr yn ochr â rôl strategol gliriach."

Dywedodd Peter Rees, Cadeirydd Gweithredol NTfW: "Mae NTfW eisioes wedi galw am adolygiad o'r system addysg ôl-orfodol ac rydym yn falch o weld bod adroddiad yr Athro Hazelkorn yn edrych ar osod y system addysg ar drywydd sy’n fwy ymatebol. Mae ar ein economi angen system addysg sy'n cydnabod bod dysgu rhan amser a dysgu yn y gweithle yn gallu bod yr un mor heriol yn addysgol â dysgu pynciau academaidd mewn ystafell ddosbarth. Mae dysgu yn y gwaith yn llawn mor addas i ddysgwyr mwy abl a thalentog.

"Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Llywodraeth a’r Cynulliad newydd i archwilio'r materion a godwyd a'r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad."

Gwahodd Gwledydd Tramor i Gymru Edrych ar Sut i Wella Addysg

Yn y gynhadledd ryngwladol gyntaf yng Nghymru ar gyfer y sector addysg gyfan, daeth arweinwyr ac ymarferwyr arbenigol o bum gwlad a dynnwyd o bedwar cyfandir â'u datblygiadau arloesol ac arferion da i Gymru ar 29 Chwefror, 2016.

Bu uwch gynrychiolwyr o ysgolion, colegau a phrifysgolion o'r Ffindir, Canada, Gwlad y Basg, Namibia, Bangladesh, UDA a Gwlad Thai yn rhannu enghreifftiau o fentrau llwyddiannus ochr yn ochr â'u partneriaid Cymreig, gan roi sylw ar lythrennedd a rhifedd, darparu ar gyfer diwydiant, torri'r cysylltiad rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad addysgol, normaleiddio dwyieithrwydd, a defnydd creadigol o TG mewn dysgu.

Cwestiwn allweddol i lunwyr polisi Cymru ystyried yn sgîl y gynhadledd yw: Beth all sector addysg Cymru ddysgu oddi wrth systemau addysg eraill sy’n perfformio’n uchel ac sy'n agosach at gyflogwyr, ond nad oes ganddynt systemau sicrhau ansawdd cenedlaethol megis arolygiaeth genedlaethol a chyrff arholi galwedigaethol?

Meddai Cadeirydd ColegauCymru, Judith Evans: "Mae llawer o arferion da yng Nghymru, ond mae yna hefyd lawer y gallwn ei ddysgu oddi wrth wledydd eraill. Nid yn unig o ran sut i ymgorffori llythrennedd, rhifedd, dwyieithrwydd a thechnoleg mewn dysgu, ond hefyd wrth i ni feddwl am wneud newidiadau y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Mae pob sefydliad addysgol yn rhan o gymuned ehangach ac yn cael effaith ar lawer mwy o unigolion na nifer y dysgwyr cofrestredig. Mae angen i ni yng Nghymru ddod o hyd i ffyrdd o gyfateb y cwricwlwm a gwasanaethau addysgol i anghenion cyflogwyr o bob maint, ac i gefnogi anghenion penodol cymunedau difreintiedig.

"Mae gofyn i ni edrych yn fwy eang na hynny, hefyd, ar y fframwaith strategol. Mae gweld sut mae gwledydd eraill yn strwythuro eu gwasanaethau addysg ar lefel genedlaethol yn agor syniadau newydd. Diolch i gefnogaeth Cyngor Prydeinig Cymru a’n galluogodd ni i ddod ag uwch gynrychiolwyr o bum cenedl a phrofiadau ddwy genedl ychwanegol i'r gynhadledd, cawsom gyfle go iawn i gymharu a chyferbynnu, ac i feddwl yn feirniadol am y ffordd yr ydym yn strwythuro addysg yng Nghymru.

"Yn enwedig ar adeg pan mae arian cyhoeddus yn gyfyngedig iawn, mae angen i ni edrych y tu allan i gael safbwynt newydd, i ystyried beth mae gwleddydd sy'n perfformio'n uchel yn blaenoriaethu o ran buddsoddi mewn addysg a hyfforddiant, a'r hyn y maent yn penderfynu ildio.

"Roedd y gynhadledd dysgu ac addysgu rhyngwladol yn gyfle i gael syniadau newydd o'r lefel strategol i'r lefel ystafell ddosbarth. Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru weid cefnogi’r gynhadledd, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'n gilydd i brocio'r meddwl ac archwilio rhai o'r syniadau a strwythurau a gawsom ddigon ffodus i glywed amdanynt yr wythnos hon."

ColegauCymru a NTfW yn cyhoeddi trefniadau cydweithio

Mae ColegauCymru / CollegesWales a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) wedi cyhoeddi trefniadau cydweithio ar faterion cyhoeddus, ac maen nhw’n trafod y manteision posibl o ddod at ei gilydd fel un corff cynrychioliadol ar gyfer y sector addysg, hyfforddiant a sgiliau ôl-16 yng Nghymru.

Mae’r ddau sefydliad wrthi’n trafod ymarferoldeb sefydlu un sefydliad. Mae disgwyl iddynt wneud penderfyniad, trwy ymgynghori’n llawn gydag aelodau priodol y ddau sefydliad yn yr haf 2016. Sefydlwyd Bwrdd Prosiect i archwilio’r materion a’r prosesau sydd ynghlwm â dod â’r ddau sefydliad dan yr un enw.

Yn y cyfamser, mae’r ddau sefydliad wedi cytuno cydweithio i ddylanwadu ar y polisi strategol ar addysg a hyfforddiant ôl-16, a byddant yn cyd-gynrychioli’r sector addysg a hyfforddiant ôl-16 yng nghynadleddau gwanwyn y pleidiau gwleidyddol.

Dywedodd Judith Evans, Cadeirydd ColegauCymru: “Ein nod, y flwyddyn nesaf, yw y bydd un sefydliad yn darparu llais cryf a chydlynol i’r sector addysg, hyfforddiant a sgiliau ôl-16 yng Nghymru. Y sefydliad hwn fydd y man cyswllt cyntaf i Lywodraeth Cymru ac i asiantaethau eraill ar ddatblygu a gweithredu polisïau.

Dywedodd Peter Rees, Cadeirydd Bwrdd Rheoli NTfW: “Mae’r ddau sefydliad yn ceisio sefydlu corff pwerus a chynaliadwy a fydd yn effeithlon ac yn effeithiol wrth ddylanwadu ar y fframwaith strategol, gan hyrwyddo arfer da a mentrau, a chyflwyno sector addysg a hyfforddiant ôl-16 cryfach i Gymru yn y pen draw”.

Colegau i fwrw ymlaen gyda chyllideb ddiogel

Bydd colegau addysg bellach yn bwrw ymlaen â’u gwaith o gyflwyno cyrsiau i gyflogwyr a’r gymuned ehangach o ddysgwyr, yn dilyn cadarnhad ddoe gan Weinidog Cyllid Llywodraeth Cymru y bydd y gyllideb addysg bellach yn cael ei diogelu yn 2016/17.

Nododd ColegauCymru, yr elusen addysgol sy’n cynrychioli pob un o golegau Cymru, fod Llywodraeth Cymru wedi ymroi i ddiogelu’r gyllideb addysg bellach yn 2016/17 ac wedi gwneud ymrwymiad o’r newydd i addysg uwch a phrentisiaethau rhan-amser.

Dywedodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru: “Yn dilyn cyfres o gyllidebau heriol, gan gynnwys toriadau dwfn i addysg ran-amser i oedolion, gofynnon ni i Lywodraeth Cymru weithredu er mwyn mynd i’r afael ag anghenion cyffredinol addysg ôl-16 yn ei chyllideb ar gyfer 2016/17. Ei hymateb oedd darparu rhywfaint o sefydlogrwydd mewn cyllid addysg bellach, ynghyd â chydnabyddiaeth o werth addysg uwch a phrentisiaethau rhan-amser i economi Cymru.

“Cyflwyna golegau addysg bellach ystod eang o gymwysterau academaidd, galwedigaethol a phroffesiynol ac maen nhw’n rhan hanfodol o wead economi a chymunedau Cymru. Bydd y Colegau nawr yn edrych ymlaen at wthio ymlaen â’r agenda o ddiwallu anghenion economi a chymdeithas Cymru, a gweithio’n galed i ddarparu pob cyfle posibl i unigolion gyrraedd eu potensial.”

Cod Llywodraethu newydd i feithrin ffydd mewn colegau ar gyfer oes newydd o annibyniaeth

Cyhoeddwyd Cod newydd ar gyfer colegau addysg bellach i feithrin ffydd yn eu llywodraethu wrth iddynt symud i oes newydd o annibyniaeth yn dilyn deddfwriaeth a basiwyd llynedd.

Mae’r Cod, a gydlynwyd ar ran y sector gan yr elusen addysgol ColegauCymru, yn gosod gwerthoedd a disgwyliadau ar y cyd am lywodraethu da gan y colegau dan eu statws cyfreithiol newydd fel sefydliadau dielw sy’n bodoli i wasanaethu’r cyhoedd.

Mae colegau Cymru’n cael arian cyhoeddus ac yn gyfrifol am fuddsoddi’r arian hwnnw’n ddoeth; maen nhw’n ymateb i flaenoriaethau’r llywodraeth, ond nid yw’r llywodraeth yn berchen arnynt nac yn eu rheoli. Cyflwynant wasanaeth cyhoeddus, ond nid yw’r llywodraeth ganolog na lleol yn berchen arnynt.

Mae’r colegau’n chwarae rôl ganolog mewn cefnogi pobl ifanc ac oedolion i gyrraedd eu nodau, gan eu paratoi i gymryd rôl weithgar yn yr economi a’r gymdeithas trwy ddatblygiad sgiliau parhaus. Maen nhw hefyd yn helpu ffurfio cymunedau democrataidd, cynaliadwy a chynhwysol. Mae’r dibenion wedi’u diffinio’n dda hyn yn galluogi llywodraethwyr ac ymddiriedolwyr, trwy her adeiladol a chefnogaeth effeithiol, i ddangos y budd y mae eu gwaith yn ei gael ar y cyhoedd.

Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru, Judith Evans: “Llywodraethwyr yw asgwrn cefn atebolrwydd y colegau a nhw yw ceidwaid ffyddlon arian cyhoeddus. Gweithiant yn galed i sicrhau buddiannau’r dysgwyr, a thrwy’r Cod hwn, dymunant ddangos ymhellach fod y ffydd hwn mewn lle da.

“Mae colegau’n falch o’u llwyddiant ac wedi gweithio’n galed i barhau i gyflwyno addysgu a dysgu ansawdd uchel o fewn cyd-destun newid cyson ar raddfa uchel. Bydd rhagoriaeth mewn llywodraethu’n parhau i fod o’r pwysigrwydd uchaf wrth i’r colegau fynd yn fwyfwy arloesol ac entrepreneuraidd wrth fodloni anghenion addysg a sgiliau Cymru ac ymateb i agendâu economaidd a chymdeithasol allweddol.

“Trwy fabwysiadu a gweithredu’r Cod, bydd cyrff llywodraethu’n dangos yn gyhoeddus eu harweinyddiaeth a’u stiwardiaeth o’u coleg fel sefydliadau lleol di-elw. Wrth wneud hynny, byddant yn cynnal ac yn datblygu’r ffydd sy’n allweddol i weithio mewn partneriaeth â dysgwyr, a busnesau bach a mawr.

“Yn ogystal, mae’r Cod newydd yn rhoi cyfle i ailfeddwl ac adnewyddu dulliau wrth i’r sector ymdrechu i fod ar y rheng flaen o ran arfer gorau mewn llywodraethu. Mae’n arwydd o barodrwydd i droedio i oes newydd gyda’r egni a’r ymrwymiad i sicrhau’r safonau uchaf un i’n rhanddeiliaid.”

Dywedodd Julie James Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Llywodraeth Cymru: “Mae’r sector addysg bellach yng Nghymru wedi ymateb yn gadarnhaol i’n hagenda i drawsnewid addysg a hyfforddiant ôl-16. Yn 2001, roedd 26 coleg addysg bellach; erbyn hyn mae 14 ohonynt. Mae’r nifer wedi gostwng, ond ffrwyth hyn yw colegau mwy gwydn a strategol.

“Mae’n bleser gennyf weld colegau’n parhau i weithio’n effeithiol. Mae ganddynt bellach fwy o ryddid ond wynebant nifer o heriau hefyd. Cynigia cyhoeddiad y Cod hwn gyfle i atgyfnerthu gwerthoedd ar y cyd y colegau a meithrin ffydd yn eu trefn lywodraethu.

“Mae’r Cod yn nodi’r arferion y mae angen i golegau eu mabwysiadu i ddangos eu bod yn cynnal eu busnes er lles myfyrwyr a phartneriaid. Ond ni ddylai mabwysiadu’r Cod gyfyngu ar arloesedd na mygu natur ddeinamig y colegau.

“Edrychaf ymlaen at weld cyrff llywodraethu colegau ledled Cymru’n mabwysiadu’r
Cod.”

Diwedd

Meithrin Addysg Bellach Galwedigaethol Ansawdd Uchel: Ymateb ColegauCymru

Mae ColegauCymru / CollegesWales yn croesawu nifer o argymhellion a wnaed mewn adroddiad newydd ar feithrin addysg bellach galwedigaethol ansawdd uchel yng Nghymru, sy’n nodi’r angen am newidiadau saernïol ar lefel genedlaethol.

Mae’r adroddiad, Fostering High Quality Vocational Further Education in Wales, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru ar 13 Ionawr 2016, yn galw am well strwythurau a systemau cenedlaethol a all nodi a mynd i’r afael ag anghenion datblygiad proffesiynol parhaus y staff sy’n cyflwyno dysgu galwedigaethol.

Mewn sefyllfa sy’n adleisio Maniffesto ColegauCymru, Sgiliau ar gyfer Cenedl Lewyrchus, mae’n galw hefyd ar Lywodraeth Cymru i weithio i leihau dyblygu darpariaeth alwedigaethol mewn ardaloedd lleol.

Yn ogystal, mae’r elusen sy’n hyrwyddo hyfforddiant galwedigaethol, sgiliau a dysgu gydol oes yn cydnabod hefyd y gwaith cyfyngedig sydd wedi’i wneud yng Nghymru i asesu anghenion hyfforddiant a chefnogaeth y sector.

Dywedodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru / CollegesWales: “Ychydig iawn o ymchwil academaidd sydd wedi’i gwneud ar y sector addysg a hyfforddiant galwedigaethol yng Nghymru. Yn wir, mae’n arwyddocaol fod yr unig ddarn o ymchwil hydredol sydd gan yr ymchwilwyr yn eu meddiant yn canolbwyntio ar Loegr a chyhoeddwyd hwnnw ddeng mlynedd yn ôl. Ychydig ymchwil academaidd sylfaenol sydd ar gael sy’n cipio’r datblygiadau addysgeg sy’n cyflym ddatblygu mewn addysg bellach yng Nghymru neu’r rhyngwyneb rhwng colegau ac ysgolion uwchradd a chyflogwyr.

“Rydw i’n hynod falch felly fod Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Huw Lewis, wedi cymryd diddordeb brwd yn y sector ac wedi comisiynu ymchwil gychwynnol y gellir ei defnyddio i lywio polisi Llywodraeth Cymru.”

Aeth Iestyn Davies yn ei flaen: “Mae colegau’n buddsoddi mewn datblygu gweithlu addysgu a dysgu proffesiynol ac yn gweithio ar y cyd i rannu a gwella arfer yn barhaus. Yn wir, mae Estyn, yr arolygiaeth addysg yng Nghymru, yn cadarnhau bod yr addysgu a’r dysgu yn y colegau’n dda ar y cyfan.

“Mae Llywodraeth bresennol Cymru wedi cefnogi nifer o ddatblygiadau addysgu a dysgu dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r datblygiadau hyn wedi dangos y ffordd i rannau eraill o’r Deyrnas Unedig o ran y manteision o weithio ar y cyd ar ddatblygiadau addysgeg.”

“Ond mae nifer o faterion y mae angen mynd i’r afael â nhw ar lefel fwy strategol er mwyn symud i system fwy effeithlon ac effeithiol.

“Yr hyn sydd ar goll ar hyn o bryd yw: proses sy’n sicrhau bod y cymwysterau addysgu i athrawon galwedigaethol yng Nghymru’n cael eu diweddaru; strwythur cenedlaethol i fentora athrawon newydd gymhwyso mewn addysg bellach; a chyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus a gydnabyddir yn genedlaethol i athrawon galwedigaethol, gan gynnwys cyfleoedd wedi’u saernïo i athrawon ddychwelyd i ddiwydiant yn gyfnodol, fel ‘gweithwyr proffesiynol deuol’.

“Edrychwn ymlaen at weithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg newydd ei sefydlu yn ogystal â Llywodraeth Cymru wrth symud y materion hyn yn eu blaen.”

Diwedd