Anti-racist Wales

together.webp

Ymateb Ymgynghori

Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Dyddiad Cyflwyno: 06 Hydref 2023

Mae’r sector AB yng Nghymru yn dangos arweiniad ar ei daith tuag at wrth-hiliaeth, ac mae gennym gyfle i gael effaith wirioneddol, gan adeiladu ar ffocws cryf Llywodraeth Cymru ar greu Cymru wrth-hiliol. Fodd bynnag, o ystyried y cyfnod economaidd heriol sydd ar y gorwel, mae’n hollbwysig ein bod yn nodi pecyn cymorth cynaliadwy i alluogi colegau i barhau â’u taith, gan gyfrannu at Gymru wrth-hiliol.

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn arwain ar ddatblygu adnoddau gwrth-hiliaeth ac yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu deunyddiau cwricwlwm ar gyfer y sector AB. Wrth wneud hynny, maent yn rhannu arfer gorau i gefnogi AB i fabwysiadu dull hollgynhwysol o reoli a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y sector.

Rydym yn croesawu’r gydnabyddiaeth nad yw aelodaeth bwrdd newydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) yn gynrychioliadol ac y bydd proses recriwtio bellach yn cael ei chynnal maes o law. Roedd cyfansoddiad cychwynnol bwrdd CTER yn gyfle a gollwyd i sicrhau bod arweinyddiaeth strategol y sefydliad newydd yn adlewyrchu’n well y cymunedau y bydd yn eu gwasanaethu. O ystyried ymrwymiad datganedig Llywodraeth Cymru i sicrhau mwy o amrywiaeth o ran cynrychiolaeth penodiadau cyhoeddus, rydym yn gobeithio y bydd y Pwyllgor yn craffu ar y camau pellach sydd wedi’u haddo.

Byddai ColegauCymru yn croesawu ystyriaeth bellach o sut mae camau gweithredu tuag at wrth-hiliaeth yn cael eu gwreiddio mewn meysydd eraill o ddatblygiad polisi.

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch â Swyddog Polisi ColegauCymru, Amy Evans, gydag unrhyw gwestiynau.
Amy.Evans@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.