ColegauCymru yn croesawu Datganiad o Flaenoriaethau ar gyfer CADY

Male hands with pen and paper.png

Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei ‘Ddatganiad o Flaenoriaethau’ ar gyfer y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Mae ColegauCymru yn croesawu’n fawr yr ymrwymiad i roi dysgwyr wrth galon y system. Dywedodd Prif Weithredwr, David Hagendyk, 

“Mae heddiw yn gam sylweddol tuag at sefydlu’r Comisiwn yn ffurfiol yn ddiweddarach eleni ac rydym yn croesawu’n fawr y ffocws cryf ar ddysgwyr. Bydd rhoi dysgwyr wrth wraidd y system yn wirioneddol yn helpu i ysgogi momentwm tuag at y newidiadau strwythurol hirdymor hwyriol sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol. 

Mae ymrwymiad i’w groesawu i gryfhau ymhellach y parch cydradd rhwng llwybrau galwedigaethol ac academaidd a’r ffocws ar lwybrau cliriach i ddysgwyr o bob oed, gan gynnwys dysgwyr sy’n oedolion a phrentisiaid. 

Er bod llawer i’w groesawu, mae’n hollbwysig bod y Comisiwn yn deall gwir faint yr her a’r angen am ddiwygiad. Yn benodol, mae'n rhaid i'r Comisiwn weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Llwybr Dysgu a Phontio 14-19 clir ar gyfer pobl ifanc sy'n cymryd eu camau cyntaf i addysg ôl-16. Mae cyflwyno’r Comisiwn yn un o’r diwygiadau mwyaf arwyddocaol i’n system addysg ers datganoli. Gyda chyllid cyhoeddus dan bwysau sylweddol, mae’n bryd bod yn uchelgeisiol wrth fynd i’r afael â’r heriau hirsefydlog sy’n ein hwynebu ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Comisiwn wrth iddynt ddatblygu eu hymateb i’r blaenoriaethau hyn. 

Gwybodaeth Bellach

Rachel Cable, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus 
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.