Cyfres podlediad cyffrous newydd yn darparu awgrymiadau addysgu a dysgu ymarferol ar gyfer ymarferwyr addysg bellach

PolicyPod artwork wide-04.png

Mae #PodAddysgu yn gyfres newydd o bodlediadau sydd wedi'u cynllunio i ddarparu cefnogaeth addysgu a dysgu ymarferol i'r sector addysg bellach. Wedi'i gwneud yn bosibl gan gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru a gyda chyfraniadau gan ymarferwyr addysg bellach o bob rhan o Gymru, cafodd y gyfres ei hysbrydoli gan Rwydwaith Addysgu a Dysgu Ôl-16 ColegauCymru.

Mae #PodAddysgu yn cynnig awgrymiadau addysgu a dysgu byr y gellir eu rhoi ar waith ar unwaith. Mae'r sesiynau 10 munud hyn yn rhoi cyfleoedd dysgu proffesiynol ac enghreifftiau o arfer gorau i ddarlithwyr addysg bellach ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith (WBL). Mae pob podlediad yn ymdrin ag un o bum prif thema:

  • Cefnogi gwytnwch dysgwyr
  • Defnyddio cymhorthion addysgu digidol
  • Defnydd effeithiol o wahaniaethu
  • Cefnogi Addysgeg Safon Uwch
  • Gwerth a rôl dwyieithrwydd mewn addysgu a dysgu addysg bellach

Dywedodd Amanda Daniels, Cadeirydd Rhwydwaith Addysgu a Dysgu Ôl-16 ColegauCymru,

“Mae gan y Rhwydwaith gysylltiadau strategol â'r Grŵp Cwricwlwm ac Ansawdd ac mae'n darparu atebion addysgu a dysgu ymarferol ar gyfer ymarferwyr addysg bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith. Rydyn ni wrth ein bodd y bydd y gyfres podlediad hon yn helpu ymarferwyr addysg bellach i ddysgu sgiliau newydd y gallant eu rhoi ar waith ar unwaith”.

Ychwanegodd Cadeirydd Rhwydwaith Cwricwlwm ac Ansawdd ColegauCymru, Kay Martin,

“Mae aelodau a chydweithwyr ein Rhwydwaith wedi dod ynghyd i greu cynnwys defnyddiol ac ymarferol a fydd yn cynorthwyo arferion addysgu a dysgu. Bydd y rhain yn eu tro o fudd uniongyrchol i'r dysgwyr. Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth a'r buddsoddiad parhaus gan Lywodraeth Cymru sy'n cydnabod yr angen am adnoddau ychwanegol yn y maes hwn.”

Bydd y podlediadau yn cael eu rhyddhau dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf a gellir eu cyrchu trwy'r darparwr podlediad o'ch dewis: Apple Podcast, Spotify, Amazon Music, a Stitcher. Mae’r recordiadau hefyd ar gael i Hwb.

 

Darganfyddwch Fwy

 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.