Arweinwyr Addysg Bellach yn ymweld â’r Ffindir i archwilio a dysgu o ymagwedd y wlad tuag at addysg a hyfforddiant galwedigaethol

Helsinki.jpg

Ym mis Ebrill 2024, arweiniodd ColegauCymru ddirprwyaeth o Benaethiaid addysg bellach a swyddogion Llywodraeth Cymru ar ymweliad â Helsinki, fel rhan o brosiect a ariannwyd gan Taith. Diben yr ymweliad oedd adolygu diwygio a gweithredu cymwysterau galwedigaethol yn y Ffindir, gyda'r bwriad o lywio syniadau yn y dyfodol ar addysg a hyfforddiant galwedigaethol (VET) yng Nghymru. 

Archwiliodd y cynadleddwyr sut mae VET yn cael ei reoleiddio a’i ansawdd yn cael ei sicrhau yn y Ffindir, ac edrych ar y dysgu posibl ar gyfer diwygio cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru. Mae ColegauCymru wedi galw ers tro am strategaeth VET i Gymru, a ddylai gyd-fynd yn agos â strategaeth economaidd ehangach, ac wrth i Lywodraeth Cymru a’r sector ymateb i argymhellion yr Adolygiad o gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru, mae’r dysgu o’r ymweliad hwn yn sylweddol. 

Trefnwyd y rhaglen o gyflwyniadau, cyfarfodydd a thrafodaethau gyda chefnogaeth ein partner yn y Ffindir,  Finnish Association for the Development of Vocational Education and Training (AMKE), sy’n cynrychioli buddiannau eu 87 aelod, yn amrywio o ddarparwyr VET, colegau galwedigaethol , sefydliadau arbenigol a darparwyr hyfforddiant galwedigaethol parhaus, trwy ddylanwadu ar ddeddfwriaeth a chanllawiau polisi. 

Ymwelodd y grŵp â nifer o sefydliadau allweddol gan gynnwys Skills Finland, Finnish National Agency for Education (EDUFI), Omnia Vocational Training Institution a Luovi Vocational College a mynychodd ginio rhwydweithio gydag aelodau AMKE, Cyfarwyddwr coleg galwedigaethol yn y Ffindir, a’r Pennaeth Diwygio VET yn y Weinyddiaeth Addysg yn Estonia. 

Gwelodd system VET y Ffindir ddiwygiad mawr yn 2018 i greu system fwy effeithlon yn seiliedig ar gymhwysedd. Ers hynny, mae'r diwygio hwnnw wedi cael ei hadolygu a'i ddatblygu'n gyson. Mae VET yn y Ffindir, yn cefnogi dysgu gydol oes a datblygiad dysgwyr fel bodau dynol ac aelodau o gymdeithas, gan eu harfogi â'r sgiliau, y wybodaeth, a'r galluoedd ar gyfer cyflogaeth a datblygiad proffesiynol. 

Canfu’r grŵp fod VET yn y Ffindir yn cael ei arwain gan set glir o egwyddorion: 

  • Mae VET a Dysgu seiliedig ar waith yn cael ei hariannu'n gyhoeddus ac yn rhad ac am ddim
  • Mae pwyslais ar nodi a chydnabod dysgu blaenorol, gan symud ffocws addysg a hyfforddiant i gaffael cymwyseddau coll; 
  • Mae gan bob dysgwr cynllun datblygu cymhwysedd personol (PCDP) ei hun, sy’n amlinellu cymhwysedd a enillwyd yn flaenorol ac yn manylu ar ba gymwyseddau sydd eu hangen ar y dysgwr, a sut y cânt eu caffael mewn gwahanol amgylcheddau dysgu; 
  • Cyflwyno cymwysterau modiwlaidd hyblyg sy’n fwy effeithlon ac ymatebol i anghenion sgiliau a gofynion y farchnad lafur, wrth i dechnoleg a busnesau newid mor gyflym fel na all cymwysterau barhau; 
  • Mae dysgwyr yn elwa ar gyflwyno llwybrau ‘deniadol’ clir ac arweiniad a chymorth gyrfa gydol oes; 
  • Ymddiriedaeth ac ymreolaeth mewn darparwyr VET sy'n gyfrifol am ansawdd eu gweithrediadau eu hunain. 

Yn dilyn yr ymweliad, myfyrdodau cychwynnol y grŵp yw bod llawer i’w ddysgu yn enwedig ynghylch sut: 

  • gellir datblygu polisi VET yn gyfannol ac ar y cyd; 
  • gall system VET, sydd wedi’i dylunio o amgylch llwybrau unigol ac sy’n gysylltiedig â data dibynadwy ar anghenion sgiliau’r dyfodol, weithio;  
  • gall defnyddio cymwyseddau VET a RPL gwella effeithlonrwydd; a 
  • gall gynnig ymddiriedaeth a chyfrifoldeb i ddarparwyr VET ac athrawon gefnogi ansawdd. 

Camau nesaf 

Yn dilyn yr ymweliad, mae ColegauCymru wrthi’n paratoi adroddiad, a bydd ei hargymhellion yn llywio ein hymateb i adolygiad Llywodraeth Cymru o gymwysterau galwedigaethol – yn bennaf oll, sut y dylai strategaeth VET i Gymru edrych, yn ogystal â chadarnhau’r blaenoriaethau y dylid y Comisiwn Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) ei hystyried. Mae disgwyl i’r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi yn Hydref 2024. 

Gwybodaeth Bellach 

Adroddiad Llywodraeth Cymru 
Adolygiad o gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru 
Sharon Lusher, Medi 2023 

Jamie Adair, Cynorthwyydd Polisi a Materion Cyhoeddus 
Jamie.Adair@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.