Y sector addysg bellach yn dathlu Diwrnod Hawliau’r Iaith Gymraeg

Mae’r sector addysg bellach heddiw yn dathlu Diwrnod Hawliau’r Iaith Gymraeg, cyfle i sefydliadau cyhoeddus ledled Cymru hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg ac i siaradwyr Cymraeg gael eu hatgoffa o’r gwasanaethau a’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r sector yn falch o wreiddio’r Gymraeg ym mhopeth a wnawn ac wedi ymrwymo i hyrwyddo gwerth byw, gweithio a dysgu’n ddwyieithog.

Cymraeg Gwaith Mae ColegauCymru yn cydlynu prosiect addysg bellach Cymraeg Gwaith ar gyfer y sector addysg bellach gyda chyllid gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Nod y prosiect, sydd wedi bod ar waith ers 2017, yw datblygu sgiliau Cymraeg darlithwyr a staff cymorth busnes mewn colegau. Mae hwn yn ffocws allweddol i ni wrth i ni weithio i ddarparu cyfleoedd addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-16.

Cymraeg Gwaith+ Eleni rydym yn treialu cwrs newydd sydd wedi’i gynllunio i gynyddu hyder y rhai a hoffai ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Ynghyd â chwrs ‘Codi Hyder’ y Ganolfan, rhaglen benodol i sector o siaradwyr gwadd a sesiwn un-i-un gyda thiwtor, mae’r cwrs 35 awr hwn a gynhelir dros gyfnod o 10 wythnos yn ddatblygiad newydd a chyffrous.

Mae colegau addysg bellach yng Nghymru yn falch o gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac fel sefydliadau unigol, mae pob un ohonynt yn ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg gyda rhwymedigaeth i ddarparu gwasanaeth Cymraeg i ddysgwyr a staff. Mae rhwydwaith cynyddol o staff dwyieithog yn cefnogi datblygiad darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar draws y colegau. Mae’r rhain yn cynnwys staff a benodwyd yn wreiddiol fel rhan o gynllun hyrwyddwyr dwyieithrwydd Llywodraeth Cymru, swyddogion datblygu a ariennir gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a swyddi addysgu a darlithio a gefnogir gan y SABau a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae'r swyddi’n amrywiol ond yn canolbwyntio'n bennaf ar sicrhau bod dysgwyr sy'n dechrau yn y coleg yn cynnal eu sgiliau Cymraeg, tra hefyd yn annog dysgwyr i adeiladu ar y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eu dewis gwrs. Mae'r staff hyn yn hyrwyddo nid yn unig yr iaith Gymraeg, ond hefyd y gymuned Gymraeg gan gynnwys yr Urdd a chyfleoedd gwirfoddoli.

Nid yn unig cynnig cyfle i astudio a chyflwyno gwaith yn Gymraeg neu’n ddwyieithog a geir yn y colegau, mae yna hefyd ffocws pwrpasol ar hyrwyddo’r opsiynau yma. Nododd Anna Davies, Rheolwr Dwyieithrwydd Coleg Gwyr Abertawe bod cynnydd amlwg wedi bod yn y niferoedd sydd eisiau astudio a chyflwyno gwaith yn Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf. Cymrwch gipolwg ar y fideo yma sy’n rhoi blas ar ‘Ddiwrnod Croeso Cymraeg’ coleg Gwyr Abertawe: Diwrnod Croeso Cymraeg - Welsh Welcome Day - 2022:

Hyrwyddo'r Gymraeg yn ColegauCymru

Mae ColegauCymru yn sefydliad balch dwyieithog. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn ein gwaith o ddydd i ddydd. Dyma rai o'r ffyrdd yr ydym yn cyflawni hyn.

Gwaith Polisi Mae ColegauCymru yn sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth allweddol yn ein holl waith polisi ac ymatebion ymgynghori.

Cyfarfodydd Coffi a Chlonc Cyfle wythnosol i gydweithwyr ddod at ei gilydd i sgwrsio’n anffurfiol yn Gymraeg, beth bynnag fo lefel eu hiaith. 

Logo Iaith Gwaith Rydym yn cynnwys y logo Iaith Gwaith a logo’r dysgwr ar wefan y sefydliad, llofnodion e-bost ac ar ohebiaeth fel bod ein cysylltiadau yn medru cyfathrebu gyda ni trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Hyfforddiant Staff Rydym yn darparu hyfforddiant staff blynyddol i sicrhau bod cydweithwyr yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau unigol i gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg.

Gwybodaeth Bellach

Nia Brodrick, Rheolwr Prosiect Cymraeg Gwaith
Nia.Brodrick@ColegauCymru.ac.uk

Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.