Angen am welliant a hyblygrwydd mewn darpariaeth prentisiaethau

Male learner at computer wearing yellow tshirt.jpg

Mae ColegauCymru yn falch o weld bod llawer o'n pryderon ynghylch gweithrediad presennol prentisiaethau gradd yn cael sylw yn Adroddiad Gradd-brentisiaethau Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau Senedd Cymru heddiw. 

Mae'r adroddiad yn edrych ar gynnydd cynllun peilot gradd-brentisiaethau Llywodraeth Cymru, gan archwilio ei botensial ar gyfer y dyfodol ac rydym yn cytuno'n gryf â nifer o'r pwyntiau a'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor. 

Dim sefyllfa gydradd i ddyfarnu contractau darparwr 
Mae ein prif bryder yn ymwneud ag ymagwedd amrywiol Llywodraeth Cymru tuag at gystadleuaeth. Amlygwyd y gorgyffwrdd rhwng Prentisiaethau Uwch a Gradd-brentisiaethau a'r potensial ar gyfer cystadlu gyda ColegauCymru gan nodi bod “rhai sefydliadau Addysg Bellach yn nodi eu bod eisoes yn gweld cystadleuaeth fympwyol rhwng y rhwydwaith o ddarparwyr Gradd-brentisiaethau (Sefydliadau Addysg Uwch) a rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith lle mae risg y bydd cynnydd Gradd-brentisiaethau yn dyblygu a chystadlu â rhaglenni prentisiaeth Uwch presennol, yn dod i'r amlwg.” 

Nododd tystiolaeth ColegauCymru i'r ymchwiliad y diffyg chwarae teg i ddarparwyr prentisiaethau, yn benodol y gwahaniaeth rhwng defnyddio modelau cyllido ar gyfer gradd-brentisiaethau, defnydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) o'i broses gymeradwyo ei hun ar gyfer darparwyr a'r broses gaffael gystadleuol a ddefnyddir i ddyfarnu contractau i ddarparwyr prentisiaethau nad ydynt yn arwain at radd. 

Rydym yn honni nad oes “esboniad boddhaol” am y gwahaniaeth. Mae ColegauCymru yn falch bod Argymhelliad 6 o adroddiad y Pwyllgor yn nodi “Dylai Llywodraeth Cymru gyfiawnhau cadw dau fodel cyllido gwahanol, a rhoi rhesymau dros barhau â’r model caffael ar gyfer dyfarnu contractau i ddarparwyr prentisiaethau; nodi sut mae hyn yn gydnaws â chael llwybrau dysgu cydlynol o Lefel 2 i Lefel 6 a sut y bydd caffael y ddarpariaeth brentisiaethau newydd yn mynd i’r afael â hyn”. 

Rydym yn edrych ymlaen at ymateb Llywodraeth Cymru i hyn wrth i ni geisio annog mwy o ddysgwyr i weld prentisiaethau fel llwybr i ystod eang o yrfaoedd gwerth chweil. 

Diffyg amrywiaeth 
Mae Argymhelliad 9 yn dadlau “Rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu neu gomisiynu strategaeth ar gyfer ehangu mynediad at radd-brentisiaethau ar gyfer grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol”. Amlygodd tystiolaeth ColegauCymru y diffyg sylw a roddir i amrywiaeth o fewn y peilotiaid, ac mae adroddiad y Pwyllgor yn nodi mai un o’r beirniadaethau cyson o radd-brentisiaethau fel y maent ar hyn o bryd yw bod “rhagfarn strwythurol tuag at greu anghydbwysedd rhwng y rhywiau”. Tynnodd tystiolaeth ColegauCymru sylw nad oedd yn glir pa fentrau penodol, os o gwbl, a gymerwyd i geisio sicrhau unrhyw elfen o gydbwysedd rhwng y rhywiau, ac “os ymgymerwyd â mentrau o'r fath, nad oeddynt wedi gweithio'n dda." 

Rydym hefyd yn pryderu am dan-gynrychiolaeth gradd-brentisiaid anabl a phobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn ogystal â'r angen i wella cyfleoedd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog fel yr ymdrinnir â hwy yn Argymhelliad 10. 

Dywedodd Arweinydd Grŵp Dysgu Seiliedig ar Waith Strategol ColegauCymru Barry Walters,

“Mae rhaglenni prentisiaeth yn darparu ystod eang o fuddion i ddysgwyr, cymunedau a'r economi ehangach. Er ein bod yn croesawu nifer o'r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad, mae'n rhaid i ni nawr sicrhau mwy o hyblygrwydd yn yr ystod o raglenni sydd ar gael fel y gall dysgwyr weld nid yn unig bod prentisiaethau yn llwybr i yrfa werth chweil ond hefyd yn llwybr i wneud cyfraniad gwerthfawr i gymdeithas.” 

Gwybodaeth Bellach

Senedd Cymru
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Gradd-brentisiaethau
Tachwedd 2020

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.