Digwyddiad Aml-chwaraeon cynhwysol yn dychwelyd am y bedwaredd flwyddyn i hybu dysgwyr addysg bellach i fod yn actif!

IMG_0638.jpg

Mae ColegauCymru yn falch o gadarnhau y bydd ein Digwyddiad Aml-Chwaraeon Addysg Bellach cynhwysol yn dychwelyd am y bedwaredd flwyddyn. 

Cynhelir y Duathlon hwn ym Mharc Gwledig Pen-bre ddydd Mercher 15 Mai 2024, ac mae’n cynnig cyfle i ddysgwr a staff addysg bellach gymryd rhan yn eu digwyddiad aml-chwaraeon cyntaf ar amrywiaeth o lefelau. Mae ein digwyddiadau blaenorol wedi croesawu cyfranogwyr o ddysgwyr Sgiliau Dysgu Annibynnol (SBA) yn mwynhau her gweithgaredd grŵp am y tro cyntaf hyd at ddysgwyr a staff yn cystadlu ar lefel elitaidd. Gyda dros 40% o gyfranogwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, mae'r Duathlon yn darparu agwedd gwbl gynhwysol at chwaraeon addysg bellach. 

Meddai Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Chwaraeon a Lles Actif ColegauCymru, 

“Gyda thros 400 o gystadleuwyr o golegau ledled Cymru yn disgwyl cymryd rhan, mae digwyddiad Aml-Chwaraeon Addysg Bellach yn cynrychioli cyfeiriad newydd ar gyfer chwaraeon cystadleuol a digwyddiadau yn y sector. Mae’r fformat yn darparu un o’r ychydig gyfleoedd lle gall dysgwyr a staff gystadlu ochr yn ochr â’i gilydd, o ddechreuwyr hyd at lefel gystadleuol.” 

Ychwanegodd Pennaeth Datblygu Triathlon Cymru, Amy Jenner, 

“Pwrpas Triathlon Cymru yw datblygu cymuned triathlon sy’n gwella lles cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yng Nghymru, ac rydym yn falch iawn o gefnogi’r digwyddiad hwn unwaith eto. Mae’r Duathlon yn cynnig fformat i bawb ac mae’n enghraifft wych o sut gall dysgwyr a staff elwa o fod yn actif.” 

Mae ColegauCymru yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus ein partneriaid Triathlon Cymru, Beicio Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru, AoC Sport, Coleg Sir Gâr, Cyngor Sir Gâr a Pharc Gwledig Pen-bre. 

Gwybodaeth Bellach 

Strategaeth Lles Actif ColegauCymru 

 Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Chwaraeon a Lles Actif ColegauCymru 
Robert.Baynham@ColegauCymru.ac.uk 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.