Y Gweinidog Addysg yn addo cefnogaeth barhaus i addysg bellach

Faceless young female writing.png

Heddiw, cyfarfu Fforwm Penaethiaid Colegau Cymru â’r Gweinidog Addysg Jeremy Miles AS mewn cyfarfod cynhyrchiol i drafod dyfodol addysg bellach yng Nghymru. 
  
Croesawodd Cadeirydd ColegauCymru, Guy Lacey, y Gweinidog yn ffurfiol i'w rôl newydd a chydnabu'r flwyddyn heriol sydd wedi wynebu'r sector. Diolchodd hefyd i gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth a'u harweiniad parhaus. 
  
Prif ffocws y cyfarfod oedd y diwygiadau arfaethedig i Addysg a Hyfforddiant ôl-orfodol (AHO) a'r pryderon sy'n wynebu sefydliadau addysg bellach. Ailadroddodd y Fforwm ei gefnogaeth i'r syniad o Fil Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY) mewn egwyddor ond gofynnwyd am eglurhad a manylion pellach mewn sawl maes. Croesawodd y Gweinidog y cyfle i drafod pryderon a galwodd am ymgysylltiad pellach parhaus â materion allweddol dros y misoedd nesaf. Atgyfnerthodd y Gweinidog hefyd ei ymrwymiad i ddysgu gydol oes fel rhan o'r Bil drafft, a groesawyd hyn gan y Fforwm. 
  
Dywedodd Prif Weithredwr ColeguCymru, Iestyn Davies,

“Rydym yn ddiolchgar i’r Gweinidog am ei amser heddiw ac am ei werthfawrogiad clir o werth addysg bellach, nid yn unig i ddysgwyr, ond hefyd i gymunedau lleol a’r economi ehangach. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio'n agos gydag ef a chydweithwyr Llywodraeth Cymru yn ein nodau cyffredin o ddarparu'r cyfleoedd gorau posibl i bob dysgwr ôl-16 yng Nghymru."

Daeth y cyfarfod i ben gyda Guy Lacey yn ailadrodd nodau'r sector addysg bellach - gyda dyheadau i adeiladu'n ôl yn gryfach o effeithiau niweidiol Brexit a Phandemig Covid19 ac i ddarparu cyfle teg i bob dysgwr ôl-16 yng Nghymru sy'n caniatáu iddynt gyflawni eu potensial.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.