Dros 60 o gyflogwyr yn lleisio pryder ynghylch toriadau posibl i brentisiaethau

studentapprentices.jpeg

Mae dros 60 o gyflogwyr o bob rhan o Gymru wedi dod ynghyd i alw am ddiogelu cyllid ar gyfer rhaglen brentisiaethau blaenllaw Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau ffyniant economaidd Cymru.

Mewn llythyr agored, mae cyflogwyr yn dweud y bydd toriadau i’r rhaglen brentisiaethau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 19 Rhagfyr 2023 yn cael effaith ddinistriol ar brentisiaid, cyflogwyr, a chymunedau, gan nodi cyfnod heriol iawn o’n blaenau i’r sectorau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith. Gallai olygu y bydd 10,000 yn llai o brentisiaid yn gallu dechrau’r flwyddyn nesaf, gyda’r gostyngiadau’n drhaisgyn yn anghymesur ar bobl ifanc, a’r rheini yn y grwpiau economaidd-gymdeithasol isaf.

Llythyr Agored gan Gyflogwyr

Mae ColegauCymru wedi tynnu sylw at bryder yn y gorffennol ynghylch effaith cyllidebau llai posibl ar draws prentisiaethau a’r cynnig addysg bellach ehangach.

Wrth ymateb i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,

“Wrth i Gymru ymdopi â chyfnodau economaidd cythryblus, colegau yw’r injan sgiliau sydd eu hangen i ysgogi ein hadferiad economaidd, ac mae’n hollbwysig nad yw mewnfuddsoddiad yn y dyfodol yn cael ei niweidio. Mae’r gyllideb ddrafft yn gambl enfawr i economi a chymunedau Cymru. Rhaid i Lywodraeth Cymru feddwl eto a gwrthdroi’r penderfyniad trychinebus i dorri’r rhaglen brentisiaeth.”

Mae colegau addysg bellach yn sylfaenol i Gymru decach, wyrddach a chryfach, ond mae angen cyllid cynaliadwy arnynt i allu cefnogi dysgwyr a chyflawni ar gyfer cyflogwyr. Mae’r cyfuniad o’r toriadau i’r gyllideb prentisiaethau a gostyngiadau mewn cyllid mewn mannau eraill yn golygu bod storm berffaith yn wynebu’r sector o ganlyniad i’r cynigion yn y gyllideb ddrafft.

Gwybodaeth Bellach

Llythyr Agored gan Gyflogwyr

Rachel Cable, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus 
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.