Ymchwil a datblygiad

pexels-fauxels-3183150.jpg

Ymateb Ymgynghori

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: 15 Tachwedd 2023

Mae Strategaeth Arloesi i Gymru yn amlygu rôl hollbwysig colegau wrth greu amgylchedd lle gall dysgwyr ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gymryd rhan mewn ymchwil, datblygu ac arloesi, a chefnogi cyfleoedd arloesi yn awr ac yn y dyfodol. Mae'r hyfforddiant y gall addysg bellach ei gynnig galluogi datblygu sgiliau sy'n dod i'r amlwg a fydd yn ei dro yn galluogi cwmnïau i wneud y defnydd gorau o dechnolegau newydd. Mae addysg bellach hefyd yn cefnogi cwmnïau, yn enwedig busnesau bach a chanolig, i gyflwyno technoleg, prosesau neu gynhyrchion newydd. Fel sefydliadau angori, mae colegau mewn sefyllfa dda i gynnig cyngor a chymorth iddynt i arloesi, i wella eu cynhyrchiant, ac i dyfu.

Mae colegau yng Nghymru yn cefnogi’r blaenoriaethau hyn, yn benodol:

• Gwarant i Bobl Ifanc: rhoi’r cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb dan 25 oed.

• Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd: gweithio i wella canlyniadau'r farchnad lafur ar gyfer grwpiau penodol.

• Hyrwyddo Gwaith Teg: annog cyflogwyr i wneud gwaith yn well, yn decach ac yn fwy diogel.

• Codi lefelau sgiliau a chymwysterau, a symudedd y gweithlu.

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch â Swyddog Polisi ColegauCymru, Amy Evans, gydag unrhyw gwestiynau.
Amy.Evans@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.