Cyhoeddi ymddeoliad Pennaeth a Phrif Weithredwr Guy Lacey yn nodi diwedd cyfnod ar gyfer Coleg Gwent

pexels-pixabay-289737.jpg

Ar ôl dau ddegawd o wasanaeth ymroddedig yn Coleg Gwent, ac ar ôl treulio'r wyth mlynedd diwethaf fel Pennaeth a Phrif Weithredwr, mae Guy Lacey wedi cyhoeddi ei fwriad i ymddeol ar ddiwedd blwyddyn academaidd 2023/24.  

Mae'r cyhoeddiad yn dynodi pennod newydd i'r coleg wrth iddo baratoi i ddechrau chwilio am Bennaeth newydd i arwain a pharhau â'i etifeddiaeth.

Mae Guy, fel arweinydd gweledigaethol, wedi llywyddu dros gyfnod o dwf a thrawsnewid rhyfeddol yn ystod ei ddaliadaeth. O dan ei ofal, mae Coleg Gwent wedi codi i amlygrwydd fel un o'r colegau sy'n perfformio orau yng Nghymru, gan gynnig ystod eang ac ysbrydoledig o gyfleoedd addysgol i gymunedau De-ddwyrain Cymru.

Yn ystod ei gyfnod, llwyddodd Guy i lywio'r coleg trwy drafodaethau canolog gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a wnaeth arwain at sefydlu dau barth dysgu modern yng Nglyn Ebwy a Chwmbrân.  

Yn fwy diweddar, mae wedi arwain ymglymiad y coleg â Chyngor Dinas Casnewydd yn natblygiad Ardal Wybodaeth Casnewydd – prosiect adfywio sy’n bwysig i'r ddinas.  

Mae hefyd wedi helpu i sicrhau'r campws peirianneg arloesol sef yr "Hive" yng Nglyn Ebwy yn ddiweddar, gan gyfrannu at ddatblygiad addysgol ac economaidd y rhanbarth.

Mae effaith Guy hefyd yn ymestyn y tu hwnt i’r Coleg Yn ei rôl fel Cadeirydd Colegau Cymru – llais Addysg Bellach yng Nghymru – mae wedi chwarae rhan ganolog mewn llunio dyfodol y sector Addysg Bellach. Mae ei gyfraniad wedi sicrhau bod buddiannau colegau ledled Cymru bob amser yn cael eu cynrychioli, gan gynnwys, yn fwyaf diweddar, sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd.  

Mae hefyd wedi bod yn aelod hirsefydlog o’r Bartneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ddylanwadol, yn ogystal ag eistedd ar Bartneriaeth Twf Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan sicrhau llais cryf dros addysg bellach yn y rhanbarth.  

Roedd taith Guy Lacey i arweinyddiaeth yn cynnwys sawl blwyddyn gyda Banc Lloyds ar raglen datblygu rheolaeth fewnol, ac ar ôl hynny dilynodd addysg uwch, gan ennill gradd mewn Hanes a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Oxford Brookes. Mi wnaeth ei ymrwymiad i addysg ei arwain at gwblhau Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwchradd o Brifysgol Caerfaddon, a oedd yn sylfaen ar gyfer gyrfa addysgu lwyddiannus. Dros y blynyddoedd, arweiniodd ei angerdd dros addysg a datblygu meddyliau ifanc at wasanaethu fel arholwr TGAU ar gyfer Cynghrair Arholiadau Prifysgol Caergrawnt ac yn ddiweddarach fel Arolygydd cymheiriaid gydag Estyn. Yn fwyaf diweddar roedd yn aelod o'r grŵp llywio a gynhyrchodd yr Adolygiad o Gymwysterau Galwedigaethol yng Nghymru ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Ar ôl clywed y newyddion am ymddeoliad Guy, mynegodd Cadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr, Mark Langshaw MBE, ei deimladau, gan ddweud,  

"Roedd yn foment chwerwfelys i ddysgu am fwriad Guy i ymddeol. Dylai Guy fod yn falch iawn o'i holl gyflawniadau dros yrfa hir a nodedig, ac mae'n gadael y Coleg mewn cyflwr cryfach nag y canfyddodd ef, mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol. Mae'r Bwrdd yn ddiolchgar iawn am arweinyddiaeth gref ac ymroddiad Guy i’r Coleg a'r sector Addysg Bellach ehangach yng Nghymru."

Ychwanegodd,  

"Byddwn nawr yn dechrau chwilio am ei olynydd gyda phrofiad o'r sector Addysg Bellach yng Nghymru, sy'n rhannu gwerthoedd a gweledigaeth debyg ar gyfer y dyfodol, er mwyn adeiladu ar y sylfeini cryfach y mae Guy wedi'u hadeiladu. Rydym am ddymuno ymddeoliad hir a haeddiannol iddo."

Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk, ymhellach:

“Mae gweledigaeth ac ymroddiad Guy i’r sector Addysg Bellach yng Nghymru wedi sicrhau dyfodol disglair i ddysgwyr lu.

Mae ei ddull deinamig wedi dod â nid yn unig arbenigedd, ond angerdd i’w rolau, yng Ngholeg Gwent ac fel Cadeirydd ColegauCymru. Mae wedi gweithio’n ddiflino i gefnogi dysgwyr, staff a’r sector ehangach, a phob amser gyda llygad craff i sicrhau bod Addysg Bellach yn cael ei gydnabod fel cyfrannwr hanfodol i’n cymunedau ac economi Cymru.

Dymunwn y gorau i Guy ar ei ymddeoliad yn ddiweddarach eleni a diolch yn gynnes iddo am ei ymrwymiad, ei waith caled a’r marc annileadwy y mae’n ei adael ar addysg yng Nghymru.”

Wrth i’r Coleg baratoi i drosglwyddo i arweinyddiaeth newydd, heb os, bydd y sefydliad yn dathlu ymroddiad ac arweinyddiaeth Guy ac yn parhau i adeiladu ar y sylfaen gref y mae wedi'i gosod.  

Bydd chwilio am Bennaeth newydd yn dechrau’r flwyddyn nesaf - mae'r Coleg yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu addysg o'r safon uchaf i fyfyrwyr De-ddwyrain Cymru.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.