#PodAddysgu - Cyfres Podlediad i Gefnogi Addysgu a Dysgu yn y Sector Addysg Bellach

Gyda chyfraniadau gan weithwyr proffesiynol o bob rhan o Gymru a gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae ColegauCymru yn cyflwyno cyfres podlediad newydd #PodAddysgu. Mae’r gyfres yn cynnwys awgrymiadau byr addysgu a dysgu y gellir eu rhoi ar waith ar unwaith.  

Mae'r sesiynau 10 munud hyn yn cynnig awgrymiadau addysgu a dysgu ymarferol ar gyfer darlithwyr addysg bellach ac addysgwyr dysgu seiliedig ar waith, cyfleoedd dysgu proffesiynol ac enghreifftiau o arfer gorau.

Mae'r podlediadau i gyd am ddim ac ar gael ar YouTube a byddant ar gael yn fuan ar Hwb trwy chwilio 'PodAddysgu'

Peidiwch ag anghofio tanysgrifio i #PodAddysgu fel nad ydych chi'n colli allan ar y bodlediad nesaf! Mae pob podlediad yn cynnwys un o bum prif thema. Byddwn yn ychwanegu dolenni at bob podlediad wrth iddynt gael eu rhyddhau. Dyma'r penodau y byddwn ni'n eu rhyddhau dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf:

Gwydnwch

Digidol  

Gwahaniaethu  

Addysgeg Safon Uwch

Dwyieithrwydd

 

Gwybodaeth Bellach

Gobeithio y cewch chi a'ch cydweithwyr werth yn y gyfres podlediad hon. Rydym yn croesawu cwestiynau ac adborth.
Os hoffech chi gysylltu, ebostiwch Lucy Hopkins neu Macsen Jones.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.