Colegau'n cynnig llongyfarchiadau ac yn addo cefnogaeth i ymadawyr ysgol

Screenshot 2020-08-20 at 10.28.57 am.png

Heddiw mae colegau addysg bellach ledled Cymru yn llongyfarch dysgwyr ar gyflawni TGAU a chymwysterau eraill mewn blwyddyn sydd wedi bod yn ddigynsail a heriol. 

Maent hefyd yn addo eu sicrwydd o le coleg i bob ymadawr ysgol sy'n derbyn canlyniadau heddiw. Yng ngoleuni penderfyniad diweddar y llywodraeth ar ddyfarnu graddau arholiad yn seiliedig ar Raddau Asesu Canolfannau, mae colegau'n edrych ymlaen at gefnogi a thywys dysgwyr i gymryd eu camau nesaf mewn addysg. 

Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod colegau'n hyblyg ac yn deg yn eu proses dderbyn, gan gynnig gwell cofrestriad ac asesiad cychwynnol. Bydd y newyddion a ddaeth prynhawn ddoe o’r oedi cyn cyhoeddi cymwysterau BTEC gan y sefydliad dyfarnu Pearson hefyd yn cael ei ystyried. Bydd hyn yn sicrhau bod pob myfyriwr yn cael ei roi ar y cwrs mwyaf addas, ac yn un sy'n ystyried eu dewisiadau cyn belled ag y bo modd. 

Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru, Dafydd Evans,

“Rydym yn llongyfarch dysgwyr yn frwd heddiw wrth iddynt dderbyn eu canlyniadau, yn dilyn cyfnod hynod bryderus. Rydym hefyd yn diolch i'w teuluoedd a'n staff addysgu am y gefnogaeth a roddwyd i ddysgwyr sydd wedi eu galluogi i gyrraedd y pwynt hwn." 

“Mae ein timau Gwasanaethau Dysgwyr a Derbyniadau wrth law i ddarparu cyngor a chefnogaeth ar y cam nesaf o ddysgu hyd yn oed i'r myfyrwyr BTEC hynny nad ydynt wedi derbyn eu canlyniadau heddiw. Rydym yn annog myfyrwyr i gysylltu â'u coleg lleol i ddarganfod mwy am yr opsiynau sydd ar gael iddynt." 

Gyda chynnig eang, mae colegau addysg bellach mewn sefyllfa ddelfrydol i ddiwallu ystod eang o anghenion, gan ganiatáu iddynt gefnogi pob math o ddysgwr i gyflawni ei potensial. Bydd colegau yn defnyddio'r holl wybodaeth y mae pobl ifanc yn dod gyda nhw am eu dysgu blaenorol i helpu i lywio'r gweithdrefnau derbyn. Waeth bynnag y canlyniadau TGAU, bydd colegau addysg bellach yn rhoi'r lefel briodol o gefnogaeth i bob dysgwr i'w cynorthwyo i astudio ar gyfer cymwysterau academaidd neu alwedigaethol. 

Mae colegau hefyd wedi treulio'r haf yn paratoi i gwrdd â'r newidiadau sydd eu hangen o ganlyniad i Covid-19 i sicrhau bod dysgwyr a staff yn ddiogel, yn derbyn cefnogaeth, ac yn barod ar gyfer eu camau nesaf. Am fanylion cofrestru, cysylltwch â cholegau penodol a fydd yn hapus i pob dysgwr i ddod o hyd i'r llwybr cywir. 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.