Ein cenhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru.
“Gamwn, ŵy a sglodion mewn tafarn nos ar ôl nos”- Adroddiad Sgiliau yn Niwydiannau Manwerthu, Twristiaeth a Lletygarwch (MTLl)
Arddangos Gwerth Economaidd Colegau AB yng Nghymru - Awst 2017
Cynrychiola ColegauCymru golegau i’r rheiny sy’n gwneud penderfyniadau a’u dylanwadwyr ar faterion polisi sy’n effeithio ar addysg a hyfforddiant ôl-16, gan gynnwys y cysylltiadau rhwng addysg a’r economi, iechyd a lles. Bwriedwn fod yn adeiladol yn ein syniadau, gan gynnig atebion lle mae hynny'n bosib, a thrwy fod yn agor i newid sy'n arwain at welliant.
Ar y cyfan, mae materion addysg wedi eu datganoli. Gan hynny, mae'r rhan fwyaf o'n gwaith sy'n gysylltiedig â pholisi ac erioli yn canolbwyntio Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yn ogystal â chyfarfod â Gweinidogion y Llywodraeth a'u swyddogion yn rheolaidd, mae ColegauCymru hefyd yn cyfarfod ac yn briffio siaradwyr y pleidiau ac aelodau pwyllgorau allweddol y Cynulliad.
Rydym yn datblygu ac yn hyrwyddo ymatebion polisi i faterion allweddol, yn cyhoeddi datganiadau polisi, yn cymryd rôl weithgar yng ngalwadau pwyllgorau craffu’r Cynulliad am dystiolaeth ac ymgynghoriadau gan ystod o sefydliadau, ac yn cynrychioli’r sector ar bwyllgorau allweddol, grwpiau gorchwyl a gorffen a grwpiau ymgynghorol.
Mae ein ymchwil gyfredol yn cynnwys gwaith ar effaith economaidd colegau; cysidro dichonolrwydd dynodiad Meistr Crefft ar gyfer rheolwyr mewn diwydiant sydd yn arbenigwyr galwedigaethol; defnydd sgiliau BBAChau yn y sectorau twristiaeth, lletygarwch ac adwerthu; datblygu awgrymiadau ar gyfer cyfundrefn asesu ansawdd gwell ar gyfer addysg uwch mewn colegau; ac ystyried effaith y tri chynllun sgiliau rhanbarthol ar dlodi, twf economaidd a gwydnwch.
26 Medi 2017
30 Ionawr 2017
Mae ColegauCymru yn llywio a/neu yn cymryd rhan weithgar yn y gwaith o gefnogi mentrau sy’n hyrwyddo ac yn dangos gwerth sgiliau galwedigaethol, gan gynnwys Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, WorldSkills UK a Diwrnod VQ – ar y cyd â chyrff eraill.
Digwyddiadau achlysurol eraill
Bu i GolegauCymru hefyd arwain a/neu gymryd rhan flaenllaw mewn ymgyrchoedd eraill dros y blynyddoedd, gan gynnwys:
Mae ColegauCymru yn darparu ystod o wasanaethau proffesiynol i'w aelodau. Mae hefyd wedi agor nifer o'i wasanaethau i fudiadau yn y sector addysg a hyfforddiant ôl-16 na sy'n aelodau.
Yn benodol, yr ydym yn:
Rhwng 2003-2016, bu i GolegauCymru ddarparu nifer o gyfleoedd datblygu proffesiynol ar gyfer staff colegau, gan gynnwys y rhaglen Gradd Meistr boblogaidd mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth (AB), a Thystysgrif Ôl-Raddedig mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Nid yw'r rhaglenni hyn yn derbyn ymrestriadau newydd, ond caiff myfyrwyr cyfredol eu cefnogi hyd nes iddynt gwblhau eu cymhwyster.
Gradd Meistr mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth (AB)
Rhwng 2003 a 2016, cynigodd Prifysgol De Cymru, mewn partneriaeth â CholegauCymru, raglen ddatblygu ar lefel ôl-raddedig wedi ei anelu at reolwyr canolig ac uwch o fewn y sectorau AB ac Addysg Uwch yn ogystal â’r sector dysgu a sgiliau ehangach. Seiliwyd y rhaglen ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol LLUK.
Tystysgrif Ôl-Raddedig mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Cychwynnodd y cwrs Lefel 7 hwn ym mis Medi 2010, gan ddod i ben yn 2016. Fe'i darperwyd gan GolegauCymru ar y cyd gyda Phrifysgol De Cymru. Datblygwyd y cwrs er mwyn gwella perfformaid rheolwyr llinell gyntaf ac arweinwyr timau.
Trefna a chefnoga ColegauCymru gyfleoedd i staff mewn colegau ymgymryd ag ymweliadau astudio tramor sy’n canolbwyntio ar wella ansawdd ac arloesi, cysgodi swyddi gyda chymheiriaid rhyngwladol, a datblygu partneriaethau strategol gyda phartneriaid rhyngwladol.
Rydyn ni hefyd yn helpu myfyrwyr coleg a phrentisiaid i ehangu eu gorwelion trwy gydlynu rhaglen lleoliadau gwaith tramor a chyfnewidiadau diwylliannol.
Yn ogystal, ColegauCymru yw prif gyswllt Cymru ar gyfer cydlynu ac/neu gyflwyno ystod o raglenni cymwysterau Ewropeaidd yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru.
Sgiliau i Ewrop: ein gwefan sy'n dangos sut yr adwaenir sgiliau a chymwysterau ar draws Ewrop.
ColegauCymru yw'r corff sy'n arwain ar chwaraeon mewn colegau addysg bellach yng Nghymru, mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru. Gweithia i godi proffil chwaraeon, gweithgarwch corfforol a gwirfoddoli drwy brosiectau coleg a hyrwyddo chwaraeon ar lefel elit yn y colegau.
Blaenoriaethau datblygu allweddol:
Ar ran Llywodraeth Cymru, ColegauCymru yw pwynt cyswllt cenedlaethol Cymru o ran cydlynu ystod o raglenni Ewropeaidd sy'n helpu dysgwyr, gweithwyr, cyflogwyr, colegau, prifysgolion ac ymgynghorwyr gyrfa ddeall sut mae sgiliau a chymwysterau yn cael eu cydnabod ledled Ewrop.
Gyda'i gilydd, mae'r mentrau hyn yn:
Wrth ymbaratoi ar gyfer cymwysterau newydd Cymru, bu i Lywodraeth Cymru gytundebu ColegauCymru i:
Rhaglen Llythrennedd Digidol ColegauCymru (ar Moodle ColegauCymru)
Cymwysterau ol-16: Rhaglen DPP ar gyfer TGAU (ar Moodle ColegauCymru)
Yn ogystal, bu i GolegauCymru:
Cyfeiriadur Rhaglenni Ôl-16 Llywodraeth Cymru
Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru
Cynhadledd Ymgynghori 2012 ar yr Adolygiad o Gymwysterau Cymru:
Adolygiad o Gymwysterau 14-19 (gwefan Llywodraeth Cymru)
Ar ôl diwygio’r Canllawiau ar Gymunedau Dysgu Diogel a’r Pecyn Cymorth Hunanasesu gydag Estyn a phartneriaid AB, aeth ColegauCymru yn ei flaen i weithio gyda Chydlynydd Prevent Addysg Uwch a Phellach y Swyddfa Gartref ar gyfer Cymru er mwyn cyflwyno hyfforddiant i staff allweddol ar y ‘Prevent Duty’ (a gyflwynwyd yn Neddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015) er mwyn helpu atal pobl mewn sefydliadau addysg bellach a darparwyr hyfforddiant annibynnol rhag cael eu tynnu i mewn i derfysgaeth.
ColegauCymru oedd rheolwr Arian am Oes yng Nghymru – sef menter ledled y Deyrnas Unedig gan Grŵp Bancio Lloyds (2012-2015) a hyfforddodd ymgynghorwyr, mentoriaid a thiwtoriaid pobl ifanc ar faterion cynhwysiant ariannol ac a gydlynodd gystadleuaeth rheoli arian blynyddol ledled y Deyrnas Unedig proffil uchel i bobl ifanc 16-25 oed. Mae'r rhaglen wedi dod i ben ond dengys ei werth parhaus mewn sawl cymuned lleol lle gwelir rhai o'r prosiectau yn dal yn fyw.
Caiff ColegauCymru ei arwain gan ei aelodau - colegau AB ledled Cymru.